Y Talwrn - Hiraethog V Ysgol Dyffryn Conwy

Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn.

Hiraethog

Hiraethog

Cwpled Caeth yn cynnwys enw'r tîm arall

Heno, cân Dyffryn Conwy,
o dan ein hud, fydd mud mwy.

Ffion Gwen
8 pwynt

Cwpled Caeth yn cynnwys enw'r tîm arall

Hiraethog a fu'r 'Athen
I'r beirdd, bellach mae ar ben.

Rhodri Sion 8 1/2 pwynt

Trydargerdd Anogaeth i Dîm Rygbi

@timrygbicymru
Rwy'n trydar fel tryda'r aderyn
Am mod i'n eich dilyn o bell:
Rhaid cofio, cystadlu sy'n bwysig
Ac eto, mae ennill yn well.

Gwenno Davies8 1/2 pwynt

Trydargerdd - Anogaeth i Dîm Rygbi

Wych hogiau, ewch amdani,
Wynebu'r gelyn a'ch gwaed yn berwi;
Cosbi'n llym a'ch min 'di hogi
Dros eich gwlad, a'r galon yn llosgi.

Delyth Gray8 pwynt

Cywydd: Talu'r Pwyth

Mae 'mywyn dyn reddf sy'n dal
i ddewis troi at ddial
am ddoe; ni rydd maddeuant
iawn am ddoe fel dant am ddant:
ond pan yw sail ei eiliad
o fynnu iawn yn fwynhad;
pan yw'n hwyl creu poen, a her
wyneb loes iddo'n bleser;
ei ddig yn erledigaeth,
pob taro'n niweidio'n waeth;
mi ddaw na fydd maddeuant
am ddoe, dim ond dant am ddant.

Rhys Dafis9 1/2 pwynt

Cywydd: Talu'r Pwyth

Trwy reddf a deddf y myn dyn
Ei ddialedd i'w elyn,
Hwn yw'r ias i oroesi
Ac mi wn nad gêm yw hi,
Er brwydrau'r oesau, parha
Y gelyn yn nhir Gwalia.
Nid geiriau a gwyd y goron
Rhaid i'r myrdd frwydro am hon.
Fe fydd(ddaw) amser i herio
A'u taro hwy, fe ddaw'n tro,
Nid rhithyn yw'r dymuniad,
Daw fe ddaw i ni foddhad.

Dafydd Emrys8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys enw rhaglen deledu i blant

Y Duw Gerallt a garwn - hen foi iawn
hael ei farc a'i bardwn;
Ai rhyw hync yw'r Ceri hwn,
ai sgolor, ai Rapsgaliwn? .

John Glyn Jones9 pwynt

Englyn yn cynnwys enw rhaglen deledu i blant

Ni elli mynd ymhellach; - i einioes
Mae 'na ffiniau mwyach.
Cynefin yw'r gyfrinach,
Troi byd yn un 'Pentre Bach'.

Andrea Parry8 1/2 pwynt

Cân Ysgafn: Y Ciw

Deg o'm mlaen yn ciwio, yn Swyddfa Bost y dre.
Ac wedi peth sefyllian, aeth deg yn naw, hwrê.

Naw dieithryn distaw sydd yn y rhes 'ma nawr,
A'r naw'n dal yno'n aros ar ôl tri chwarter awr.

Wyth o hyd o'm mlaen i, y ciw arafaf yw.
Pam wnes i ddewis cownter postfeistres drwm ei chlyw?.

Saith yn segur sefyll o flaen un digon blin:
Y coesau'n dechrau cyffio a chramp yn fy mhen-glin.

Chwech o bobl chwerw o'm mlaen i erbyn hyn:
Rwy'n wan ac yn newynog, a 'ngwallt i'n troi yn wyn.

Pump rhwng stamp a minnau, pump piwis ar y naw
A gwe pry cop yn cuddio'r hen lythyr yn fy llaw.

Pedwar cwsmer bellach; fe fydd yn glamp o gamp
I gyrraedd at y cownter cyn codi pris y stamp.

Tri i fynd, a minnau yn awr yn eithaf siŵr
. Mai cynt 'sa gyrru'r llythyr mewn potel ar y dŵr.

Dau ar ôl i'w serfio. 'Rôl ciwio ers cyhyd,
Efallai y caf dynnu fy mhensiwn yr un pryd?.

Mae'r un o'm mlaen i'n gadael, fi nesa' yn ddïau,
A'r geiriau sy'n fy nghyfarch? "Mae'r safle nawr ar gau".

Gwenno Davies9 pwynt

Cân Ysgafn: Y Ciw

Rhyw foi mawr tew oedd o 'mlaen i
A dynas reit smeli tu ôl,
Finna'n y canol bron mygu
Ac ugain o bobol ar f'ôl.

Dega' o bobol yn stretsio
Fel neidr o'm golwg ymhell,
Dau Rasta, chwe Pakistani,
A ledi 'fo llais fel cyllell.

Roedd styrbans wrth y fynedfa
A phobol yn gweiddi yn groch,
Un dyn wedi gwylltio yn gacwn
A'I wyneb fel brest Robin Goch.

"Cool down, blydi hel" meddyliwn,
Da 'ni gyd yn yr un blydi twll,
Amynedd a phwyll sydd ei angen,
Myn diawl mae pobol yn fwll.

'Ro'n I bron at y fynedfa,
A ffati a'I droed yn drws,
Pan gaeodd yn glepsan o'n blaena'
"These toilets are now out of use!".

Glyn Huws Roberts8 pwynt

Limrig : yn cynnwys y llinell "'Does dim byd o werth ar y teli."

'Does dim byd o werth ar y teli -
Dwi'n amal am roi fy nhroed drwyddi,
Ond mae'i gafael mor dynn
A dwi'n ista'n fan hyn
... Fel adyn yn methu byw hebddi.

Gwenan Prysor8 pwynt

Limrig : yn cynnwys y llinell "'Does dim byd o werth ar y teli."

Does dim byd o werth ar y teli'
Medd Wili yn sobor wrth Neli
"Fe awn ni am dro"
Medd Nel wrtho fo
Medd yntau 'Tyrd, awn ni i'r gwely'.

Lowri Llwyd8 1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yn y nos, mae'n gwell geni i
Y Talwrn na gweld Teli

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yn y nos mae'n well gen i O Cariad, 'tyd'laen Ceri

0 pwynt

Englyn: Eiddo

Yn Salem fel yn Seilo - hanner rhes
o'r un rhai sydd yno,
a her hen ei eiriau O
yn y waliau'n dadfeilio.

John Glyn Jones9 1/2 pwynt

Englyn: Eiddo

Y mae im' drysor a mwy - yn y cwm
Pan fo cân y drudwy
A hirlwm gaea'n arlwy
O'm blaen, er na feddaf hwy.

Dafydd Emrys8 1/2 PWYNT

Telyneg neu Soned : Addurn neu Addurniadau

(ar ôl cyfnod mewn ysbyty cyn y Nadolig)

Mae'r tinsel coch yn crynu ar y bach
wrth deimlo nyrs yn rhuthro'n ôl a blaen
i ddiffodd blîpio'r 'drip' a gwagio'r sach...
cyn oedi i gysuro mam dan straen.
Mae'r goeden ffug yn wincio arni'i hun
gan nad oes neb yn gweld canhwyllau gau
bugeiliaid, pan fo'r nos yn nos ddi-hun
o boen sy'n cadw'r llygaid pŵl ynghau.
Anrhegion baw a biswail sydd ynghudd
dan gynfas gw'lâu yn drewi'r oriau mân,
a'r doethion dryslyd wedi crwydro'n rhydd...
cyn dilyn seren 'nôl at wely glân.
Pan byla'r tinsel a'r canhwyllau i gyd,
bydd golau yr angylion yno o hyd.

Eifion Lloyd Jones9 1/2 pwynt

Telyneg neu Soned : Addurn neu Addurniadau

Tap..
Ac maen nhw yno,
'Ffrindiau' croesawgar
Yn ymddangos o'm blaen,
Yn chŵd o luniau ac yn lwmp o hwyl.
Mor hawdd ym merw bywyd
Clicio bys a chreu ffrind.
Degau'n troi'n gannoedd
Fel cadwyni papur yn dal dwylo,
Dolen yn cymell eraill,
A phawb yn hoffi hyn
ac yn y rhuthr a'r bwrlwm
Mae'r byd i gyd ar flaen fy mysedd.

Ond,
Yn nhrymder nos,
Wedi diosg gwisg saff y criw,
Mae 'hafan' y sgrîn yn brysur o wag
A'r lle'n llawn neb.
'Diweddaru statws' i 'unig'
A dim ond bysedd y cloc, sy'n tindroi yn eu hunfan,
Sy'n dyst i'r weithred.
Cadwyni papur brau yn datgymalu,
Dadrith y dal dwylo yn ddim.
A'r unig gwmni yw
Tap..
Y glaw yn bwrw'i ddagrau ,
A'r byd tu allan mor bell o fewn fy nghyrraedd.

Lowri Llwyd9 pwynt

Englyn ar y pryd- Cofrodd (Ymbarêl).

Dim ond dy godi di, a daw i gof
Ein gwefr; dau yn ddistaw
Rannu eiliad' run alaw
Anwesu'n glôs yn y glaw).

Rhys Dafis10 pwynt

CYFANSWM-80 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd- Cofrodd (Ymbarêl).

Naw mis o boen rôl stŵr Maes B- bechod
mae'r bychan heb dadi
Ni wyr a'i Dic neu Harri
A'i Tom yw Tad ei hâd hi.

Lowri Llwyd 9 1/2 pwynt

CYFANSWM-77 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.