Y Talwrn- Tir Mawr v Y Cwps
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'cau'
Mae rhaffau gwan y glannau
Ar angor Cyngor y cau
Huw Erith8 1/2 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'cau'
Cau balog 'rôl cyboli
Wnes yn llwyr. Rhy hwyr oedd hi.
Huw Meirion Edwards9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'y fi oedd y gorau o ddigon'
I olwg y dorf camodd Sharon
I ddawnsio'n y nŵd efo'i Pheithon
A wedyn daeth Debra
O Riw, efo'i Chobra
Ond fi oedd y gora o ddigon
Gareth Jones8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'y fi oedd y gorau o ddigon'
Nid Arwel, nid Ger, nid Huw Meirion
A lwyddodd i'w plesio un noson -
Yn ôl Gladys a Ffi
Yn eu tent ym Maes B
Y FI oedd y gorau o ddigon.
Iwan Bryn James (Dafydd Morgan Lewis yn darllen) 8 1/2 pwynt
Trydargerdd- Adolygiad (darn o gelf)
Caead arch, nyth jac-y-do - yn ddelwedd
O eiddilwch y co,
Medda fo,
ffedog a phennog, a phiano - a phwt
O graffiti arno.
Wel, dw'mbo.
Myrddin ap Dafydd8 1/2 pwynt
Trydargerdd- Adolygiad
'Campwaith', medd dy adolygiad,
gan gymharu 'ngwaith â'r Iliad.
Gwerthiant mawr ac ail argraffiad
fuodd wedyn. Diolch, cariad.
Geraint Williams8 1/2 pwynt
Cywydd : Dathlu.
Cyfarfod ar hap â Billy McKinley, cydweithiwr gynt, yng nghyntedd Ysbyty Gwynedd, 30/04/12. Nid oeddem wedi gweld ein gilydd ers dros 30 mlynedd. Roedd wedi croesi drosodd o'r Iwerddon y diwrnod cynt.
O weld ei wên fel haul dydd
di-hid ugeiniau dedwydd
yn y dorf, nid oes ond un
McKinley; rhyngom canlyn
rhaff wynias i'r gorffennol,
doniau a gwynt Donegal!
Llid y gwaith yn dy wallt gwyn,
ond dy aeliau'n naws telyn.
Yn drech ar wawl dy rychau
deigryn un yn llawenhau,
ein dau o hyd wedi'n dal
â si oes yn ein sisial.
Gareth Williams9 1/2 pwynt
Cywydd : Dathlu.
Ar yr 17eg o Fai eleni agorir [agorwyd!] Llwybr Llên yng nghoedwig Llanfihangel Genau'r Glyn i ddathlu traddodiad barddol y plwy hyd heddiw.
Treiglai'r glêr trwy giliau'r Glyn
Un waith, troi'n ôl i nythu'n
Hedd y llan, haeddu eu lle
Ag arian bath eu geirie.
Lleibio'r gwlith mae llwybrau'r glêr
O hyd, mae blagur hyder
Yn glasu'r allt lle buont,
Yr allt wyllt o wâr lle dônt
Eto i'n mysg fel ton, a Mai
Yn deilio fel y dylai.
Ac yn eu clyw'n fyw fe fydd
Caneuon cywion newydd.
Huw Meirion Edwards9 1/2 pwynt
Pennill Ymson - Ar Gefn Ceffyl
Pendronais, r'ol mynd ar ei gefn o
"A'i din ydyw hwn ynteu'i ben o ?"
R'ol trotian am ddiwrnod
Dwi'n dal ddim yn gwybod.
Dio'n mynd yn ei flaen 'ta dio'n bagio?
Gareth Jones8 pwynt
Pennill Ymson - Ar Gefn Ceffyl
Ymson Pwyll
(ac eraill dwi'n siwr)
Rhyfeddais at dy wedd cyhyd
a'th hud yn denu, denu,
dilynais di o bellter byd
a'th hud yn tynnu, tynnu,
carlamaist drwy freuddwydion mud
a'th hud o hyd yn d'yrru
nes i'r freuddwyd ganfod llais
un gair o gais i'th raffu.
Arwel Jones8 1/2 pwynt
Cân Ysgafn - Y Llyfrgell
"Mae'r lle 'ma fel llyfrgell!" medd Meira, cyn llithro ar glawr 'Madam Wen'
A disgyn i'r silffoedd dal llyfra' a thynnu llond wal ar ei phen.
Ni welsoch eirioed y fath lyfra'. Roedd Wil 'di cofnodi wyth gant!,
Yn gomics ac hunan gofiannna', o'r Beibl i 'Lyfr Mawr y Plant'.
Dros ddeugain enseiclopidia, a phobun cyn dewad â hyn.
Rhai llyfra'n ddychrynllud o denna', fel 'Cerddi Gwerth Chweil Ceri Wyn'.
Ta' waeth, aeth i durio amdani. Fe'i cafodd,ymhen hanner awr
Dan gasgliad gan Agatha Christie,yn llonydd a'n llipa ar lawr.
Roedd Wil angen galw am ddoctor, wrth law r'oedd 'Mein Kampf','Atlas Môn'
'Caneuon Wil Tân', 'N'ol i Leifior'...Bob sothach heblaw am Lyfr Ffôn.
Be welodd, trwy gongl ei lygad ond 'Basic First Aid D.I.Y.'
R'ol dod i'w ben draw daeth i'r casgliad fod Meira 'di mynd...Mwy neu lai.
Yr un fu mor gegog a drengodd. Bu Wil mewn tawelwch drwy'r p'nawn
"Yn awr, Meira Fach" fe feddyliodd, "Mae'r lle 'ma fel llyfrgell go iawn".
Am dridiau bu'n cario'r dystiolaeth, pob 'Dandy',bob 'Lol' a llyfr jôcs
I diroedd yr Ymddiriedolaeth yn barod am Noson Gei Ffôcs.
Roedd palets, oel gwastraff ac eithin, a'r cwbl yn llosgi'n ddi-fai
Y poethfol oedd 'Tân ar y Comin', a Meira ei wraig oedd y guy.
Mewn llyfrgell eithriadol o glyfar mae William yn byw ac yn bod
Yn cadw'r holl lyfrau'n y carchar mewn trefn am flynyddoedd i ddod
Gareth Jones9 pwynt
Cân Ysgafn - Y Llyfrgell
(cronicl sydd yma o rhywbeth sydd ar fin digwydd yn y dyfodol agos).
Heb os un o binaclau harddaf gwareiddiad
Yw'r Llyfrgell Gen sy'n glamp o sefydliad.
Ond yn y gadarnle rhyw brofiad aflawen
Fu darganfod corff yn y Stafell Ddarllen.
Gyda thwll yn ei ben wnaed gan Odliadur Clawr Caled
Gorweddai ein Meuryn yn gelain di-weled.
Ac fe ddaethpwyd i'r casgliad heb rhyw lawer o feddwl
Fod gan y Talwrn rhyw ran yn y Trwbwl.
Cyn hir roedd Iwan Bryn mewn gefynnau,
(Bu'n cwyno erioed am y Meuryn a'i farciau).
Ond trwy lwc iddo fo, roedd Miss Marple yn Aber,
Ac fe lwyddodd hithau yn ôl ei harfer,
I ddatrys y cyfan, a hi wnaeth ddarganfod
Mai tîm y Tir Mawr oedd y gwir ddihirod;
A hynny am iddynt gael cam tybiedig
Mewn Talwrn diweddar gan y Meuryn trancedig.
A rŵan, o ddatrys y cyfan mor ebrwydd,
Edrychwn ymlaen at gael Meuryn newydd,
A chosbi'r Tir Mawr am eu gweithred anghynnes
Trwy eu gwahardd o'r Talwrn am o leiaf un gyfres.
Dafydd Morgan Lewis
8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Yn y Gell fe ganwn gân
a thyllu ein hiaith allan
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Yn y Gell fe ganwn gân
Un llachar yn llwch llechan
Englyn - Dadl
'Hen ddigon!' medd gwyddonwyr - ac atal
Sgota, 'er mwyn natur';
Ond daw bwlch yn eu rhwyd bur
O golli'r hen gawellwyr.
Gareth Williams9 pwynt
Englyn - Dadl
Dau a'u geiriau'n troi'n gerrig, - dau dafod
Bach deifiol o lithrig
Yn ofni dweud mor styfnig
Na ddylai dau fyth ddal dig.
Huw Meirion Edwards 9 pwynt
Telyneg- Bai
'Gwarchod gwychder ein gorffennol', hyn
oedd honiad taflen wrth fynedfa'r plas.
Wel, talu'r tâl a chrwydro at y llyn
drwy barc y ceirw; pasio'r lawntydd glas
a'r peli croce; nodi'r teilsiau clai
o Delft mewn cegin; tic i'r dodrefn cain;
gweld dyffryn bras ac aber ddofn o rai
ffenestri; rhythu ar aur a sidan main.
'A nawr, perl wen y casgliad,' meddent - dau
gaethwas du, cadwynog yn dal llwch
y mawrion a'u sigârs, a gâi fwynhau
eu mwg a'u masnach â phob fflic i'r blwch.
Trichant oed oedd rheiny, ond heddiw sydd
yn dal i'w promenadio 'ngolau dydd.
Myrddin ap Dafydd9 1/2 pwynt
Telyneg- Bai
Mae'r haul yn freuddwyd siwrwd hyd y dŵr
ger PD's Diner, ar y prom, a'r môr
digyffro'n dawel. Ond mae'r plant a'u stŵr,
y meddwyn, cŵn, gwylanod a'u hencore,
y rhain i gyd, yn chwarae, sŵn a ffrae,
yn fygwth ac yn gyffwrdd tirion clos;
a minnau uwch fy nghoffi ger y Bae
yn gweld y gwaethaf yn eu gwep, heb os.
A daw'r cariadon law yn llaw yn nes
â sŵn cymodi yn eu sgwrs, dônt draw
at giw y caffi, gyda'u tipyn prês
am eu tipyn cysur. Ond eto'r braw:
a'r machlud yn eu llygaid hwy a'r lleill
mae harddwch gwaedlyd arall ar y gweill.
Dafydd John Pritchard9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd - Awyr Las.
Heulwen a gwynt o'r heli,-draenen wen
Yn ewynnog drwyddi,
Deilen dan lygaid doli
Ond Mai oer yw'r byd i mi.
.
9 1/2 pwynt
CYFANSWM - 80 1/2 PWYNT.
Englyn ar y pryd - Awyr Las.
A haul heno'n y Blaenau'n wên i gyd
Tua'r Gell awn ninnau,
heibio i'r rhwd a'r llechi brau
heibio i'r ystradebau.
9 pwynt
CYFANSWM - 80 PWYNT.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

