Y Talwrn- Y Tywysogion V Caernarfon
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn
Y Tywysogion

Caernarfon

Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw dywysog
Will you, will you, young William,
Lick creme eggs just like your Mum?
Ifor ap Glyn8 1/2 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw dywysog
Y byd. Fai'n well pe bai o,
Madog, heb feddwl mudo.
Ifan Prys8 1/2 pwynt
Trydargerdd: Ateb cyhuddiad
Bardd? Go brin.
Yw beirdd wrth ddesg 9-5?
Mae bardd wrthi'n galw am win a chig,
yn ymgiprys â'r gorwel am y lôn:
mae mwy i'r gwaith na geiriau.
Guto Dafydd9 pwynt
Trydargerdd: Ateb cyhuddiad
LUIS SUAREZ
Tra bo coch i leddfu'i wae,
Tra bo llwyd i ddrysu'r ffrae,
Syrthio ar fai ni thâl; am hyn
Deil i daeru du yn wyn.
Anwes dwy mewn oes sidêt fu heddiw yn fodd i greu racet, ar seiliau nid rhy solet, mam pob cam ga'th @DrKate.
Llion Jones8 1/2 pwynt
Cywydd - Cartref
Na, nid oes ond brain yn dod
i'r un hen dafarn hynod,
i slyrio'r un hen stori
a bwrw eu hofn dros ei bar hi;
y bar sy'n lletach na'u byd,
y bar chwil a brycheulyd.
Am joch, a chwymp anochel,
yr un criw heddiw sy'n hel
o dai unig, y dynion
sydd heb wawr i lawr y lôn.
Ond y mae aelwyd i mi
yn y tylwyth poteli.
Mei Mac8 pwynt
Cywydd - Cartref
(I Nyfain)
Fel adduned doredig
Y dest, â'th gwynfan bach dig
Teirawr oed yn torri'r hedd
Yn ddi-daw. Yr oedd diwedd
Misoedd maith dy daith dy hun
Yn y floedd ddechrau'r flwyddyn.
Dridiau di-bryder wedyn,
A thaith nad yw'n daith i un
Ar gychwyn - cychwyn mewn car
Â'r byd yn awr bedwar:
Y fi, dy fam, dy chwaer fawr
Yn rhan o gyffro Ionawr.
Ifan Prys
8 1/2 pwynt
Englyn ysgafn - Haws gwneud na dweud, onid e?
Llifo'n llyfn dros y llwyfan, lle wy'n wych
am wneud symudiade
symbolaidd, simsan bale.
Haws gwneud na dweud, onid e?
Guto Dafydd
9 1/2 pwynt
Englyn ysgafn - Haws gwneud na dweud, onid e?
Dychryn yw deuparth dechre - i rywun
Sy'n rhewi'i frawddege;
I ŵr ag atal geirie
Haws gwneud na dweud, onid e?
Ifor ap Glyn9 1/2 pwynt
Cân- Cymro neu'r Gymraeg Berffaith
Mae'n rhaid 'mi, i'r genedl, o'r diwedd gyfadda
mod i'n darllen "lonely hearts" yn nghefn papura.
Efo sbectol reit gry dwi'n pori trwy'r dynion
cyn cysylltu â rhai dwi'n hoffi'u manylion.
A dallt ar ôl dipyn fod 'na, ddim cweit celwydda,
ond dychymyg, ac awen, a lot rhwng llinella.
"Cerddwr mynyddoedd" - dychmygais goesau fel Iolo.
Aeth o i ben Cnicht unwaith, wel sôn am gwyno.
"Yn siriol, yn hapus, yn gwenu o hyd"
• ar rhyw gyffur neu'i gilydd, ddim cweit yn 'run byd.
"Meddwl agored, credu fod natur yn ddoeth"
• mae o'n crwydro hyd traethau Sir Fôn yn noeth.
"Sensitif, addfwyn, ddim rhyw lol macho"
• un gair croes, mae o am bythefnos yn crio..
A'r hyn mae nhw'n chwilio amdano sy'n dda,
Fel chwilio am belen eira yng nghanol 'rha.
Duwies ddomestig ar gyflog o tua
Deugain mil, ac sy'n gwenu yn bora.
Bob un isio rwbath sy'n fain efo bronna.
Wel, gen i niws i chi bois, mond Barbie sydd fel'na!.
Sian Northey7 1/2 pwynt
Cân Ysgafn - Y Cymro Perffaith neu Y Gymraes Perffaith
Mae ei gwallt fel tresi aur, a'i gwên yn werth saith;
mae Cymru yn ei chalon hi, ond ddim Sir Fôn chwaith,
a di'n malio dim am dreiglo a mân reolau'r iaith:
Dyma fy Nghymraes ... Perffaith.
Mae pob Cymro isio'i phriodi, ma'i 'di gwrthod sawl gwaith;
mae hi'n destun cerddi serch, yr hyfrytaf yn ein hiaith,
ac mae 'na sôn amdani draw ym Mhatagonia ar y paith:
Dyma fy Nghymraes ... Perffaith.
Dydi ddim fel Iances,
dydi ddim yn llances,
dydi ddim fel Ffrances
nac Almaenes chwaith:
mae hi'n hoffi seiclo
'n gwisgo sgidie day-glo
a di ddim yn treiglo:
Fy Nghymraes Per-ffaith.
Dwi'n ei charu yn fy mhen, ers blynyddoedd maith;
dwi di boddi yn ei llygaid gleision dyfnion llaith,
a hi fydd wrth fy ochor i pan ddof i ben y daith
Dyma fy Nghymraes ... Perffaith.
Geraint Lovgreen9 pwynt
Limrig - (y boi sy'n torri'r gwair yng Nghilmeri)
Fel ddudodd rhyw foi, wylit, wylit,
stwff coch, stici, cynnas pe gwelit
y gwaith 'ma sgen i
rownd dy ddiawl garrag di.
'Sa well i ti gofeb o goncrit.
Sian Northey7 1/2 pwynt
Limrig - Yn ymwneud â thorri porfa.
Hen golffar go siabi oedd Reg,
A gwyllt ar y naw efo'i wej:
Fe lwyddodd heb gymorth
I droi Clwb Golff Treborth
Yn enwog fel cae tyfu fej.
Emlyn Gomer8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Yr oedd, rai blynyddoedd'nol
Feuryn, oedd o'n anfarwol.
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Hawlio, hawlio'rwyt William
Loches ym mynwes ein Mam.
1/2 pwynt
Englyn-Trannoeth.
Deffro oer am bod y ffrae - yn y llofft
fel lluwch ar frawddegau;
niwl a rhew yn dew rhwng dau,
a siarad mewn croeseiriau.
Sian Northey9 pwynt
Englyn-Trannoeth.
Drwy'r mudandod defodol, yn y bwlch
lle bu'r geiriau ysol
yn duo'r hwyr a throi'r drol,
mae sori'n wawr amserol.
Llion Jones9 1/2 pwynt
Telyneg - Croen.
Ar ôl i'w mam a'i thad wahanu,
a'r cyffwrdd a'i creodd
ddod i ben am byth,
aeth,
yn arddegyn blin,
yn blentyn briw,
i ystafell
a gadael i'r nodwyddau inc
droi y boen yn ddau air,
yn Dad a Mam
a fydd ymhleth tra bydd
ar ddarn ohoni.
Sian Northey10 pwynt
Telyneg - Croen.
Pererinion anfoddog oeddym,
yn Rhosyr, mewn minibỳs ysgol;
a'i weipars yn marcio'r eiliadau hir,
a'r glaw wedi dwyn yr olygfa.
"Poni welwch chwi...?" meddai Syr;
a cheisio consurio storom ola'r tywysogion
a'u sêr yn syrthio;
a sut y daeth adar corff i flingo'r llys;
tynnu asennau'r to,
a chario'r cerrig i Gaernarfon.
Ac yna, meddai,
daeth y deri i ymdaro eilwaith
a'r môr yn merwino'r tir,
nes oedd twyni tywod wedi trwsio creithiau'r llys,
a'r hen friw yn llyfn, yn angof.
Ac felly bu, meddai Syr,
nes i ninnau gael ein geni;
a daeth stiwdants o rywle i rofio'r tywod,
plicio'r canrifoedd
yn llawfeddygol gysáct;
ac "edrychwch", meddai,
"poni welwch chwi...?".
Ac edrychasom (i'w blesio).
A gwelsom, drwy'r weipars a'r glaw,
fonion waliau
yn gwarchod gwacter;
gwelsom graffiti dau gariad
fu'n ceisio llonydd yma;
a gwelsom ein hunain, megis drwy wydr,
fel pobl a gollodd bwysau'n rhy sydyn,
yn teimlo eu hanes
yn llac amdanyn.
Ifor ap Glyn9 pwynt
Englyn ar y pryd - John Terry.
Perwr a gwenwr gwenwyn-a rhegwr
rhugul a'r gic sydyn
yr hen fwldog o hogyn
a'r sinach gwynnach na gwyn.
Meic Mac
9 pwynt
CYFANSWM - 79 PWYNT.
Englyn ar y pryd - John Terry.
"Mae'r dydd yn gelwydd i gyd, wyf euog
yn faw yn ôl dedfryd
y cyfiawn a'r wasg hefyd"
-oen di-fai,mor wyn dy fyd.
Geraint Lovgreen
8 1/2 pwynt
CYFANSWM - 80 PWYNT.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

