Y Talwrn- Ffair Rhos V Ffostrasol
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair ' Addysg'
Ein llef, beth bynnag ein lliw
Yw Addysg, Addysg heddiw
Emyr Jones 8 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair ' Addysg'
Doe - O! Mor heriol ein dysg.
Heddiw mor hawdd eu haddysg.
Gareth Ioan7 1/2 pwynt
Trydargerdd- Cywiriad.
Y stori sydd yn wallus,
Enllibus yr un pryd,
Y gwir, mai byw nid marw wyf -
Ac rwyf fi yma o hyd.
Raymond Osborne Jones8 pwynt
Trydargerdd- Cywiriad.
Mae gen i Gwrci melyn,
Fe'i enwais yn Llewelyn,
Ond daeth i'r tŷ a golwg iach
A thair cath fach i'w chanlyn.
Emyr Davies8 1/2 pwynt
Cywydd- Gorchwyl.
Heno mae'r blwch teganau
Ansad â'i gaead ar gau;
Yma mae dy gemau, Wii
Am unwaith o'u cymoni
Yn dechnoleg sy'n segur,
A dau fys ar gloc dy fur
Yn adio yr eiliadau
Wedi dod rhyngom ein dau.
Mynnaf ail-dwtio'th stafell
Fel defod o gyfnod gwell,
Leicio wnawn droi'r cloc yn ôl
I dasgau diwrnod ysgol.
Emyr Jones 9 pwynt
Cywydd- Gorchwyl.
Dihunodd draw yng nghloddiau
Yr ardd, y grym sy'n parhau
I alw hen wehelyth
Eto i saernïo nyth.
A'r dasg oedd cludo drwy'r dydd
I'r llwyn, eu holl lawenydd.
Un dydd fe welais drwy'r dail
Gawell ym mysg y gwiail,
A thelyneg o gegau
Anodd iawn i'w llwyr foddhau.
I gynllunydd dedwyddyd
Y dasg yw cludo o hyd.
Dai Rees Davies9 pwynt
Englyn ysgafn yn cynnwys y llinell - 'Yn Hermon bwytais ormod'
Yn Hermon bwytais ormod - a gwariais
Ar gwrw drwy'r diwrnod,
Yma'n awr y mae yn od
Fo' neb yn mo'yn fy nabod.
Emyr Jones8 pwynt
Englyn ysgafn yn cynnwys y llinell - 'Yn Hermon bwytais ormod'
Yn Hermon bwytais ormod,- ac wedyn
Fe gododd cymhlethdod,
Dyfal fu'r poenau'n dyfod,
A nawr, un dawel yw'r nod.
Dai Rees Davies8 1/2 pwynt
Cân Ysgafn - Traed Moch.
Rwy ar fy mis mêl am ryw wythnos yng Nghorris
Gyda chwaer fy ngwraig Gladys, sef Doris gwraig Morris
Tra bo Gladys yn gaeth yn y sbyty'n cael babi
Ie, hen dro anffodus i Gladys yw hynny.
Wi'n eich clywed chi'n gofyn yn awr: 'Pam anffodus?'
Dyma'r ateb yn blaen: Buodd Morris, gŵr Doris
Yn câl rhyw affêr 'da fy wraig Gladys tra bo fi bant ym Mharis
Am benwythnos gyda Doris, gwraig Morris - 'na ramantus -
Nid fi a Doris ym Mharis, ond Gladys a Morris mewn carafán ger Treharris.
Yn ôl fy ngwraig Gladys, fe gafodd hi a Morris, gŵr Doris
Dipyn o sbort. Ond ath pethe'n 'downhill' oherwydd anghofiodd hi Doris
 chymryd y 'pill', a dyna pam mae'r hen Forris
Yn y sbyty 'da Gladys yn lle bod yng Nghorris 'da'i wraig Doris.
Tase fe wedi mynd i Baris am benwythnos rhamantus
Gyda Doris ei wraig yn lle mynd gyda Gladys fy ngwraig i Dreharris
Y fi fydde 'da Gladys y wraig. Ond rwy'n reit hapus yng Nghorris
Ar fy mis mêl gyda Doris, gwraig Morris, gwell na bod gyda Gladys
Mewn mynydd o 'nappies' fel ma' fe yr hen Forris, gŵr Doris.
Hei, be' wedest ti nawr, Doris (nawr, hi yw gwraig Morris) Be', ti'n disgwyl babis
Ar ôl bod ym Mharis gyda fi yn lle Morris? Wel dyna anffodus, anffodus, anffodus.
Alun Jenkins9 pwynt
Cân Ysgafn - Traed Moch.
Mae gen i lun o Gerallt ar silff wrth ben y tân
O barch, gan fod e'n gwybod sut i feirniadu cân.
Mae lle i un arall, fe'i rhoddwn yn ddi-oed
Pe byddai'r Meuryn newydd yn dilyn ôl ei droed.
Af ati i farddoni a rhoi yn hael o'm dawn
Pan fydd yr awen wanaf, ar adeg lleuad llawn.
Daw ambell linell dywyll fel bola buwch lliw du
I ddrysu'r ysgolheigion mor glir a mwd i mi,
A phan gaf destun diflas heb iddo fawr o swmp,
Rwyn cofio fy edmygwyr o Montreal i Plwmp.
Af ati i ail dwymo rhyw gerdd sydd yn y drôr,
Am greigiau Aberaeron a thonnau gwyllt y môr.
Ac ymfalchio wedyn gan imi greu rhyw ias,
A phan af mewn i drwbwl mor bwysig yw dod mas.
Rwy'n cofio cefais gyngor 'da un o feirdd Ffair Rhos.
Os na yw'r geiriau'n llifo mae wedi mynd yn nos.
A man a man yw wedyn ei gadael tan y wawr
Mewn gobaith ar ôl Corn Flakes, Y daw Goleuni mawr.
Chwi Gymry diwilliedig yn awr lle bynnag boch,
Fel hyn mae gorffen campwaith cyn bod hi yn draed moch.
Emyr Davies9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - ' Roedd ffermwr yn byw ar ben mynydd'.
Roedd ffarmwr yn byw ar ben mynydd
A fe'n ôl y son ydoedd Llywydd
Y Gymdeithas Meurynod
A Chymdeithas yr Hyrddod -
Yr un peth yw'r ddwy fel mae'n digwydd.
Alun Jenkins9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - ' Roedd ffermwr yn byw ar ben mynydd'.
Roedd ffermwr yn byw ar ben mynydd
Yn sôn am y pethe we'n digwydd
O amgylch ei le
O'r Gogledd i'r De
A rhaffo celwydde, fel gwleidydd.
Jim James
8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Hawdd o hyd yw ufuddhau
Na heidio at wendidau
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Mae'n iaith yn galw weithiau
Hawdd o hyd yw ufuddhau
1/2 pwynt
Englyn- Cyfarfod
(Gig dathlu Hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
Ewch i hwyl, mae lle i chi - ym merw'r
Gig mawr mwya weli'
Yno gallu ymgolli'n
'Nrama oes ein doh ray mi.
Raymond Osborne Jones
7 1/2 pwynt
Englyn- Cyfarfod
Er cwffio dros dir cyffin- yn y llaid
Ac er lladd dwy werin,
Daw'r awr i atal y drin
A rhodio'r tir cyffredin.
Gareth Ioan8 pwynt
Telyneg neu soned
BLAGUR Gwersyll Y Fron-goch 1916
'... There's nothing but our own red blood Can make a right rose tree.'
W B Yeats
Un act ar lwyfan hanes fu ein drama,
Un wythnos bêr dan garpiog faner werdd,
Gan adael hwnt i'r llen hyll banorama
Murddunnod chwâl. Ond erys ambell gerdd
Sy'n son am ffyliaid fynnodd ganlyn delfryd
Ddrylliwyd a chwalwyd ar balmantau'n sarn,
Ond yma'n gaethion rhydd yng ngwlad ein cefndryd,
Cyfannwn y gweddillion ddarn wrth ddarn.
Fe'n taflwyd yma'i bydru'n ein trueni,
Ond dal i losgi'n fud wna tanchwa'r Pasg,
Ninnau, o'n hyrddio ynghyd i'r Pair Dadeni
Ail-godwn, ail-afaelwn yn ein tasg;
Awn adre ac ail-gydiwn yn ein gynnau,
Mae'r cyffro'n wyrdd ar frigau'r pren rhosynnau.
(Yng Ngwersyll y Fron-goch ger Y Bala y carcharwyd ymron ddwy fil o Weriniaethwyr Gwyddelig yn dilyn Gwrthryfel y Pasg. Enwyd y lle yn Brifysgol Rhyddid)
Lyn Ebenezer9 pwynt
Telyneg neu soned
Er syrthio y gwyrdd-ddail yn siwrwd
O Lannerch, Llwyn-bedw a Pherth;
Niwl Tachwedd yn mogu'r gymdogaeth
A'r bywyn yn colli ei nerth;
Er chwerwed yw gwyntoedd y dwyrain
A'u Rhagfyr yn reg drwy y fro;
Tyddynod yn ngharchar pibonwy
A chesyg yr eira ar ffo;
Er ffrydlif a drodd a raeadrau;
Er gaeaf yn glo am y glyn;
Er oered y cesair a'r croeswynt,
A'r amdo am Ionawr yn dynn;
Mae'n Chwefror yn neuadd yr ysgol
Ac er pob un storom a starch
Mae Tyler,Alicia a Sunshine
Yn canu am lili wen fach.
Gareth Ioan9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd
Heddiw rhown gwestiwn iddo- a luniwyd
Canlyniad y fotio?
A ddaeth dydd y trydydd tro
Ag ordor i flagardio
8 pwynt
CYFANSWM- 75 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Arlywydd
Arlywydd yr Unol Daleithiau
Yn y gorllewin dirinwedd- nid oes
Yr un darn o sylwedd
I'r sioe, na phrynwr y sedd
Mae arian yn creu mawredd
8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 77 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

