Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'tŷ'

Y mae cân ein ffwdan ffôl
Ar wasgar gylch Tŷ'r Ysgol.

Llion Jones8 1/2 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'tŷ'

Rhagorach, tecach na'r tŷ
Aelwyd a noddfa teulu.

Gari Wyn8 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell - 'Pe bawn i'n gyflwynydd teledu'

Pa ots am y rhai fu'n gweithredu
Mor ddidwyll dros sianel i Gymru?
Trown fywyd yn jôc,
A boddwn mewn côc
Pe bawn i'n gyflwynydd teledu.

Emlyn Gomer8 1/2 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell - 'Pe bawn i'n gyflwynydd teledu'

Pe bawn i'n gyflwynydd teledu
Mi fyddai y sawl sy'n cynhyrchu
Y gyfres neu'r rhaglen
Yn chwilio'i Fwyaren
Am rif Rhodri Ogwen, a chrefu...

Arwel Roberts9 pwynt

Trydargerdd - Siant cefnogwyr unrhyw dîm

cmon sweden, pwyl, iwerddon, denmarc, eidal, ffrainc, croatia, sbaen, almaen, holand, portiwgal, iwcrain, siec, groeg a rwsia, #drosgymru!

Geraint Lovgreen9 pwynt

Trydargerdd - Siant cefnogwyr unrhyw dîm

Un Roberto, does dim ond un Paulo Sousa,
Un Brendan Rodgers, does dim ond un pwy 'di hwnna...

Arwel Roberts9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Canolfan

Y prynhawniau prin hynny,
Yn hwyl y criw, mewn haul cry',
A Thy'n Llan yn drofannol,
Awn yn syth dan barasol
Rhag grym haul ar gwrw melyn.
Yn floesg, wedi p'nawn fel hyn,
Ac angen tafarn arnaf
A chwrw oer, 'mond chwerwi'r haf
Wnaeth gweld rhyw horwth â gordd,
Un gŵr praff ar gwr priffordd
A wnâi'r ddiod mor ddiwerth
Yno'n rhoi Ty'n Llan ar werth.

Ifan Prys9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Canolfan

(Neuadd y Farchnad, Caernarfon)

Gwelais y lle mewn golau fin nos,
yn llawn o fwynhau Gŵyl Arall,
a galaru.

Fe aeth y defnydd a fu ohoni
a'r stondinau brith
fu'n cynnal edau brau
cymuned anweledig.

Ond wfft! Dwi ddim yn dal dig.
Gwelais bod ganddi galon
fel byd, ac o hyd bydd hon,
fel halen mewn ffair fenyn*,
ym mhotes hanes fan hyn.

*roedd yn arfer i gynnal ffair fenyn yn y neuadd

Nici Beech9 pwynt

Pennill Ymson mewn washeteria

Dwi'n noeth, 'blaw am drôns ac esgidia;
A gobeithio mai hynny geith sylw:
'Chos os 'drychith 'na gwsmar busneslyd tu hwnt,
Ma' 'nyfodol a 'ngyrfa'n racs ulw.
Ac wrth wylio dawns waedlyd y swigod
Drwy'r ffenast, mi 'dwi'n sylweddoli
'Bod hi'n hwyr glas i lofrudd mor brysur â mi
Fuddsoddi mewn peiriant i olchi.

Emlyn Gomer7 1/2 pwynt

Pennill Ymson mewn washeteria

Washeteria - lle dwi'n golchi.
Cafeteria - lle dwi'n porthi.
O ddilyn y rhesymeg yma
Magaf nadroedd mewn hysteria.

Arwel Roberts7 1/2 pwynt

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):

Noswyl Ifan

Wrth edrych ymlaen ac edrych yn ôl
does dim nos cyn fyrred â hon;
y nos pan fo'r caeau yn llawn tylwyth teg
yn dawnsio yn hoyw a llon.
Gan hen werin y wlad mae'r straeon yn llu
am y bobol bach bach llygaid oer
yn cynnal eu defod yn nüwch y nos
dan olau byrhoedlog y lloer.

Ar noson fel heno tu allan i'r Ship
mae stryd fawr y dre hithau'n llawn
o dylwyth teg eraill, rhai'n hoyw, rhai'n llon,
pob un methu cerdded yn iawn.
Ar ôl oriau diddiwedd ar stôl yn y Llong
y mae ar bob trwyn sbectol lysh,
a thylwyth teg wedyn 'di pawb yn y bar,
hyd'noed merched â thrwyn Ian Rush.

Diolch felly fod heno yn noson mor fer
ac mai buan y torrith y wawr,
pryd y gwelir yn glir holl ddiflastod y gwir,
a'r gwydrau yn deilchion ar lawr.
Ond rhowch i mi noson fel nos canol gaeaf
a'i thwyllwch cysurus a maith,
y nos y caf finnau ohirio yr awr
pryd y trechir y rhith gan y ffaith.

Geraint Lovgreen8 1/2 pwynt

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):

Noswyl Ifan

Dwi isio sgwennu athrylithwaith, drama gaiff ei chyfri'n gampwaith
Sydd yn digwydd oll yn gyfan o fewn cyfnod Noswyl Ifan
A'i lleoli dramor rwla - Fenis, Cairo, Athen falla.
Dwi am gael tair neu bedair stori: un am Ddug sydd yn priodi,
A dryswch mawr rhwng y gwesteion - rhai ohonyn nhw'n gariadon,
Rhai yn caru gwestai arall a'r gynulleidfa'i gyd yn deall.
Wedyn, stori am grefftwyr pethma yn dod ynghyd i actio drama
Yn y capel. Na, mewn coedwig. Mae hynny'n llawer mwy deinamig.
Drama neis i ddathlu'r uniad - un draddodiadol, stori gariad.
Mor ffres cael drama o fewn drama - fydd 'na neb yn disgwyl hynna.
Heb sôn am y greal, yr ecs ffactor, sef actor yn trio actio actor.
Yna, stori go wahanol, rwbath hollol afresymol.
Eliyns, falla. Na, ma'i gin i - tylwyth teg yn gwneud drygioni.
Dwi am alw'r fferi blaenllaw'n Puck achos drama ydi hi, a sna'm angan odl.
Tair stori - digon i greu lot o gymlethdodau yn y plot.
Ffisig hudol, rhemp a rhith a chamddeall rif y gwlith,
Gwehydd yn cael ei droi yn ful - nid drama i feddyliau cul,
Ond drama fydd yn gwthio'r ffiniau ymhell tu hwnt i'r hen rigolau.
Mae'n bosib iawn na wna i lwyddo, ond dyna ni, mae'n braf breuddwydio...

Arwel Roberts8 1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Rhwyfaf, cans mae'n pentrefi'n
Llai o hyd na grym y lli

0 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Llai o hyd yw grym y lli
na rhwyfau hen bentrefi

1/2 pwynt

Englyn: Rhestr

(Rhestr wirio newyddiadurwyr y BBC)

Taenwch eich bwletinau â bynting,
trwy bentwr o ffaglau
a jiwbilî o liwiau
daw GB i'r bur hoff bau.

Llion Jones9 1/2 pwynt

Englyn: Rhestr

(Rhestr cyhoeddi enillwyr a chollwyr)

Curais ar ddôr rhagoriaeth, a chwilias
a chael hen ddeuoliaeth:
'Rôl gorchwyl sawl disgwyl daeth
galar a buddugoliaeth.

Gari Wyn8 pwynt

Telyneg neu Soned: Esgus

Yma yn Majdanek,
yn uffern normal Majdanek,
lle mae'r cyrn wedi hen oeri,
a chwydfa'r mwg olaf yn atgof pell,
mae'r llwch yn dal i godi...

Yma yn y fflatiau cyfagos,
agorwn gyrtansia'r bore
ar uffern normal Majdanek,
y cytiau pren
lle roedd cadwyni o freuddwydion ffyrnig
yn uno'r Iddewon bob nos,

y filiwn o sgidiau gweddw
adawsant ar eu hôl,

a'r "Luftgrabe",
- "y bedd yn yr awyr" -
sy'n chwyrlïo o gwmpas y fflatiau hyn o hyd...

Yma yn nhywyllwch fy 'stafell,
dwi'n tystiolaethu unwaith eto;
mae blodau'r fynwent ar y dwylo
sy'n dirwyn y ffilm drwy ddannedd yr olwynion.

Ac mae'n 1939 drachefn;
tonnau mud ar draethau'r Baltig;
y môr lemonêd a'i swigod arian
yn byrstio yn yr haul olaf...

Mae'r gwynt yn troi dy wallt
yn llen am dy wyneb,
cyn i law ifanc drwsio dy wên ansicr...
a gweled yr wyf yr awr hon
trwy ddrych, mewn dameg...

Tu allan, lle mae'r trydan i'r tramiau
fel weiren bigog ar bob cydwybod,
mae lle i amau llygaid pawb
dros oed rhyw addewid,
a wyliodd gymaint heb weled dim,
ac mae'r esgus yn gansar
ymhob un ohonom ...

Daw'r ffilm i ben;
mae'r llun yn llosgi'n ddim
ac mae dy lwch
yn chwyrlïo-ddisgyn drwy'r goleuni...

Ifor ap Glyn9 pwynt

Telyneg neu Soned: Esgus

'Rôl fflamau Mai
mae'n haf yn un o faneri
a'r ffair yn parhau.
Trilliw'n deyrn,
a'r dorf yn chwifio'i pherthyn.
Strydoedd o foesymgrymu dros sosej rôls
a bynting blêr yn tagu o bob tafarn a thy.

Ond draw rhwng mynydd a môr
mae hafan hen frenhines*.
Grym ei chadernid
yn gysgod i'n parti chwil.
Palas o groeso'n y gwydd,
lle cawn godi trilliw arall
i chwifio'n croeso o do i do,
a fflamau'n hiaith
yn cyhwfan
yn y gwynt.

(*Eryri)

Nia Môn9 pwynt

Englyn ar y pryd - Cariad @ Iaith

Â'r Fforest yn ymestyn, awn trwy glwyd
Y treigliadau cyndyn
A dod mewn syndod wedyn
At fwy nag iaith, at fan gwyn.

Ifan Prys9 1/2 pwynt

CYFANSWM - 79 PWYNT

Englyn ar y pryd - Cariad @ Iaith

Wedi'r ffrwd o eiriau ffraeth - a hawlio
ei ail-enedigaeth,
ar y brig, o'r goedwig aeth
I hadu ei genhadaeth.

Nici Beech9 pwynt

CYFANSWM - 77 1/2 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.