Y Talwrn- Tir Mawr v Aberhafren

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'llai'.

Gorau'n beirdd â'u geiriau'n bêr
Yw y llai sy'n dweud llawer.

Gareth Williams8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'llai'.

Un yn llai yn haf ein llun
ddaw â hirlwm i ddarlun.

Llion Pryderi Roberts9 pwynt

Limrig- Wrth farnu'r da tew yn Llanelwedd.

Wrth farnu'r da tew yn Llanelwedd
Disgynnodd set isaf fy nannedd
I'r tail ar y ddôl;
Mi'u rhois i nhw'n ôl
'Chos dyna'r hen drefn yn y Gogledd.

Gareth Jones9 pwynt

Limrig- Wrth farnu'r da tew yn Llanelwedd.

Wrth farnu'r da tew yn Llanelwedd
â'r maes dan y dŵr mwyaf mochedd,
o'r niwl daeth fflotila
Huw Erith drwy'r caca
yn gleidio'i ffordd adra i'r gogledd.

Ifan Plemming8 1/2 pwynt

Trydargerdd: Ateb cwestiwn.

Mewn gwyddonol arholiad - 'Wedi dod
 dŵr o dan gaead
A rhoi odano drydaniad - pwy 'ŵyr
Beth yw pwynt y berwad?'
- Er mwyn gwneud panad.

Myrddin ap Dafydd9 pwynt

Trydargerdd: Ateb cwestiwn.

Cofiaf, fy nhad - y lleuad a'r llyn,
a chwarae ar gae dan gwrlid gwyn;
cofiaf yr afon a'i hymson hi,
cof sydd yn angof ddaeth rhyngom ni.
Owain Rhys

9 pwynt

Cywydd : Dewis.

Mi adawodd tri brawd chwareli Stiniog yn Awst 1913 i weithio ym Mhwll yr Universal. Lladdwyd y tri yn y danchwa ymhen deufis

Yn Stiniog, eu cyflogaeth
lli a chŷn yn llwch a aeth -
bara gwyn eu bargeinion
yn grimp dan esgeiriau hon
a holl aur dewr pyllau'r De
annieflig yn gyfle.
Berw'r traed ar lwybrau'r tri,
gwŷr â chân yn gwreichioni
ar fin yr Hydref hwnnw,
yn dwyn y wawr gyda nhw
i siafftau di-olau dydd
angau'i hun yn Senghennydd.

Myrddin ap Dafydd10 pwynt

Cywydd : Dewis.

(yr ysgwyd llaw yng ngogledd Iwerddon).

Mae cefnlen y gorffennol
yn dir neb mor ddi-droi'n ôl:
y lonydd a'r murluniau
yn dweud eu dweud bod rhwng dau
ynnau'n chwys rhwng bys a bawd,
yn waddol digyfaddawd.

Ond er gweld ar dir y gad
waed o hyd mewn cadoediad,
er y galar, yn araf
drwy'r niwlen daeth heulwen haf:
gair byr lle bu agor bedd
a dwylaw'n lle dialedd.

Aron Pritchard
9 pwynt

Pennill ymson, mewn tacsi.

Can milltir yr awr! O fy Nuw!
Amddiffyn fi rwan rhag Huw
Mae hi'n andros o daith
O Dre Gŵyr i Dresaith
Ac mi dala'i dair gwaith os ca'i fyw.

Gareth Jones8 1/2 pwynt

Pennill ymson, mewn tacsi.

Wrth faglu mas o'r dafarn
'di meddwi'n afreolus,
'na lwc oedd ffeindio un black-cab
â'r cefen mor gyfforddus,
mewn dim mi es i gysgu
wrth hwylio adre'n ara',
ond nawr mi rydw i'n chwysu peints
'rôl deffro mewn amlosgfa.

Llion Pryderi Roberts8 1/2 pwynt

Can- Diwedd Tymor.

Yr oedd Wil yn heliwr pybyr,prin y gwelir mwy o'i fath, a lofruddiai unrhyw greadur,boed o'n geffyl, ci neu gath.
Fe ddechreuodd fwrdro'n ddygn pan yn blentyn medda nhw Aeth ar drip i Sŵ Bae Colwyn ac fe saethodd bedwar Gnŵ.

Ar un diwrnod bythgofiadwy cafodd wybod gan ei chwaer fod 'na fwnci prin ofnadwy wedi dianc o Sŵ Gaer. 'Stynodd Wil ei ddillad hela,(ei blys ffôrs a'i helmed pyth) gan fwriadu gwneud yr epa fymryn bach yn brinach fyth.

Ffwrdd a fo wedi'w arfogi fel 'tai'n cychwyn am Irac efo fan yn llawn Cnau Mwnci a thrap llewod ar y rac. Fe gyrraeddodd stad Cae Gwenith wedi'w weindio dd'wedwn i a bu bron a lladd dyn llefrith oedd mewn llwyn yn gwneud pî pî.

Ar ol llwytho'r gwn â chetrys a phendroni dros y map dyma daenu'r cnau'n ofalus rhwng crafangau oer y trap.

Mewn Ffawydden yn ymlacio yr oedd Coco'r epa mwyn yn byseddu drwy 'Y Cymro' ac yn bwyta baw ei drwyn.

Daeth yr ergyd gyntaf heibio, aeth ei law yn syth i'w ben ac mewn dychryn sylwodd Coco y fod ganddo acen wen. Yn yr eiliad wedi'r tanio, Wil a welai, gyda gwg, ddau foch tîn sylweddol Coco yn diflanu drwy y mŵg.

Saethodd salvo gan ddinoethi yr holl lannerch ar ei hyd gan obeithio taro'r mwnci fwy drwy ddamwain na ddim byd. Ond d'oedd Coco ddim yn wirion.Hollol groes i chi gael d'allt.Yr oedd hwn 'di datrus profion fyddai'n llethu Wil Tanrallt.

Wrth osgoi yr holl ergydion a chwrliai drwy y stad yr hen Goco gafodd ddigon: "Dyna fo !, Dim mwy! I'r Gâd !". (Ni ddywedodd hyny rîli,doedd o ddim yn ysgolhaig. Ei iaith gyntaf oedd Swahili, wedyn Ffrangeg, (dim Cymraeg).

Ar ol tanio'n wyllt i'r briga' hwnt ac yma yn ddi-hîd erbyn naw o'r gloch y bora roedd yr haels 'di mynd i gyd. Swingiodd Coco drwy'r canghenau a rhoi swadan iawn i'r tsiap ac mewn dryswch camodd yntau yn ddiofal mewn i'w drap.

A chan gloncian fe ymlusgodd am y fan i fofyn haels.Buan iawn y sylweddolodd nad oedd fan na haels i'w cael. Heb amheuaeth yr oedd Coco wedi cael ei hyd a'i led ac o'r gwyrddni uwch ei ben o ymddangosodd hangranêd.

Wele Wil, yn friwiau drosto,yn y mwsog' ar ei gefn ac o'i flaen fe safai Coco efo AK-47 ! Dyma Wil yn adrodd gweddi ac ar ddiwedd yr "Amen" fe ddaeth tymor hela 'leni yn arswydus iawn i ben.

Gareth Jones9 1/2 pwynt

Cân ysgafn- Diwedd Tymor.

Mae'n ben-tymor, ond sori, ni fu fyth
haf o'r fath. Eleni
cywirach seilio, Ceri,
y teitl ar realitî.

Haf o aros yw, Feuryn, er i rai'n
llawn brad weld ei derfyn!
Un gwachul sydd heb gychwyn
ydi hwn yn neno dyn.

Fuaist ti'n Nhoremolinos mewn haul
yn mwynhau bob wythnos?
Neu'n hedeg i Farbados
o'r niwl wedi'th Dalwrn nos.

Ninnau'n ôl yn yr hen Walia'n dyheu
am un dydd o hindda.
Neu, er mwyn parchu Noa,
yn erfyn am destun da.

Mae'r tymhorau i ti, 'Meuryn', trwy raid
yma'n troi'n rhy sydyn.
Fe welaf i haul fy hun.
yna dilyw yn dilyn! .

Rhys Iorwerth9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Ni dandwn ein Prydeindod
Ein harwyr ni,aur yw'r nod.

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Aur yw'r nod i'n harwyr ni
Llawer gwell i rai golli

0 pwynt

Englyn- Emyn.

Trwy gafod o ddiodydd - yn y bar,
Daw can ber ehedydd,
Alaw ryw dôn 'slawer dydd
A'i amen yn Uwchmynydd.

Huw Erith8 1/2 pwynt

Englyn- Emyn.

Mae cân y pren drwy'r amenio'n alaw
sy'n dal i fy ledio
i daro cur nodau'r co',
nodau hoelion mewn dwylo.

Llion Pryderi Roberts9 pwynt

Soned-Y Filltir Sgwâr.

Mae'r lili wen yn codi yn y clawdd
ar fore'r Chwefror, briallu'n nrws
y murddun ym mis Mawrth ac mae'n hawdd
dal llygad Ebrill yn y bore tlws.
Mae clychau Mai yn darth ar lôn y Felin,
Patsyn Sipsi eto'n gry' gan graf
a'r banadl fel baneri aur ar gomin,
sgawen afon Erch yn bersawr haf.
Amser yn ei le yw hyn - nid traed
yn mesur eu tiriogaeth a phennu ffin,
ond pridd yn galendr o'r gwanwynau a gaed,
basged y ffrwythau hynny a droes yn win;
lle wedi'i farcio gan y misoedd hael,
lle nad oes angen chwilio er mwyn cael.

Myrddin ap Dafydd10 pwynt

Telyneg neu Soned-Y Filltir Sgwâr.

Rhwng y dre a'r aber
camaf
drwy wair sy'n grwm
gan law ffatrïoedd.

Anelaf am haf gwell
lle nad yw'r wawr yn cuddio
yn rhegfeydd poteli gwag,
yn nyrnau plant
neu dan bontydd mud
lle mae cyplau'n caru.

Ond
os gall eog
hollti'r cerrynt,
ac os daw'r adar
adre
yn erbyn y gwynt . . . .

. . . yna rhaid i finne ddod yn ôl
a gweld y gwres?
yn y gweiriach hir.

Mari George10 pwynt

Englyn ar y pryd- Stâd.

Hel trysor wnaeth y goron- a denu
Ati denant ffyddlon
Dros dro, cyn ailhawlio hon
Yn dyweirch i'w choed duon

Gareth Williams9 pwynt

CYFANSWM-82 pwynt

Englyn ar y pryd- Stâd.

Stŵr yr ieuanc, a straeon am y byd
lle mae byw'n ddigalon
o ddi-hid,a'u breuddwydion
anwel hwy yn llenwi'r lôn.

Rhys Iorwerth9 1/2 pwynt

CYFANSWM-81 1/2 pwynt

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.