Y Talwrn - Tir Iarll v Y Cnape.

Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn

Cwpled Caeth yn cynwys y gair 'Pwy'

(I Sisial Maela Karadog a hithau yn newydd anedig.)

Pwy yw hon sydd heb heno
na rhychau oes ar ei cho?

Aneirin Karadog9 1/2 pwynt

Cwpled Caeth yn cynwys y gair 'Pwy'

Pwy a roes einioes i'n hiaith?
Onid y meistri uniaith?

John Emyr9 1/2 pwynt

Trydargerdd: Rant

O burdeb y bocs sebon mi gwffia i â Megaffôn: Trydar ac NID Trydaru! Twîto rwyf yn rantiwr hy o derfyn y trydarfyd ond twit ydy twit o hyd!

Aneirin Karadog8 pwynt

Trydargerdd: Rant

Yn gryf dy farn lladd arno
Wnei o hyd a'i feiau o
Ydy'r haint yn dy rantio.

Gwir pob gair dy fytheirio
Yna daw o'i enaid o
Hen air i ymddiheuro.

John Emyr8 pwynt

Cywydd: Trosedd

(Earth-Hour yw'r ymgyrch dorfol flynyddol sy'n digwydd am 8 o'r gloch ar Fawrth 31ain eleni lle diffoddir holl drydan y cartref am awr.)

Maddau'r datblygiadau gwâr,
maddeued, O Fam Ddaear.
Fel anifail a anafwyd
a rhy wan i ffoi o'n rhwyd,
nid dy ddifa, dy ddofi
a thwgyd dy ysbryd di
fu'n tacteg dechnolegol;
llusgo'r gwyllt yn llesg i'r gôl
a'n llygru'n gwaedu o'th geg.
Ond o oleuni'r delyneg
a thrydan ein gweithredu,
dy ryddhad yw yr awr ddu.

Aneirin Karadog8 1/2 pwynt

Cywydd: Trosedd

Hyd y wlad dan leuad wlithd
daw lladron hud-a-lledrith
yn ofalus o filain,
sydd am hel, â'u bysedd main-
Barrug-gwyn, holl asbri'r cof
a dwyn fy myd ohonof

'a fi mewn stad' ofnadwy,
digalon on fel plismon plwy'
heb weld 'rôl trwmgwsg boldew
ond ôl rhaib y dwylo rhew,
gwirionedd hallt y gwallt gwyn
a'r breuder bore-wedyn.

Emyr Lewis10 pwynt

Englyn ysgafn: Bwyd Tsieniaidd

I dec-awe'r 'Sunshine' yng Nghaerdydd

O f'archwaeth, fe'th gyfarchaf - arwr oes!
Daw'r 'fried rice' rhagoraf
a 'Chow Mein' (fel heulwen haf)
o dy woc odidocaf!

Ynyr Williams9 pwynt

Englyn ysgafn: Bwyd Tsieniaidd

Oes hen drawiad mewn hwyaden - odli
Mewn nwdl neu grispen,
Yn sŵn wok oes sain acen,
'Stir ffrio' yn llywio'n llên?

Ann Rosser10 pwynt

Cân Ysgafn: Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod

Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod
a Thesco Metro ddim yn bod
mewn byd i siopau bach.

Rwy'n gweld o bell o Lanfairpwll
fod Bangor City dal yn dwll
a'r Fenai dal mewn strach!.

Rwy'n gweld o bell 'fo sbectol glir
fod Leanne Wood di ennill tir
dan draed 'rhen Dafydd El,
a gwelaf hefyd yn rhif 10
fod dau mewn cur yn rhannu rheg
yng ngwlad y llaeth a'r mel.

Ac o bob cwr fe welaf i
o Great Orme's Head i Fae Swansea,
mae'r wlad yr un mor dlawd,
a phen y bryniau yn tristhau
wrth weld eu haul yn hen bellhau,
wrth redeg tua'i rawd.

Ynyr Williams9 pwynt.

Cân Ysgafn: Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod

Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod
Bydd pawb ohonom is y rhod,
Medd Orwell yn ein clust,
Yn byw yng nghysgod y Brawd Mawr
A'i ormes dros holl blant y llawr
Nes ofni sibrwd ust.

O Wicilîcs rwy' nawr yn ffan
A chaf chwilmentan yn y man
Mewn clecs sy'n fodd i fyw.
Mi glywais fod ein PM hoff
Lawr yn Ffos Las a'i geffyl cloff,
A Murdoch wrth y llyw.

Mae tomen eto yn fy mhen
Helyntion lu cyn dweud Amen,
Ond och, daeth tro ar fyd.
Gwahadden gudd sy' 'boiti'r lle
Fel hen bry cop yn nyddu gwe,
I'm baglu ar fy hyd.
Ni chaf am dipyn weld y dydd pan gaiff y bychan ddweud yn rhydd,
A'r mawr yn crynu'n gaeth.

Geraint Morgan8 1/2 pwynt

Limrig: 'Roedd bachgen o ardal y Barri'.

Roedd bachgen o ardal y Barri
I won't lie to you, moyn dysgu barddoni
Hei what's occurin'?
Ma cynghanedd yn crackin'
A talwrna'n well lush. Dyna tidy.

Mari Stevens8 pwynt

Limrig: 'Roedd bachgen o ardal y Barri'.

Roedd bachgen o ardal y Barri
'Di cwympo mewn cariad 'da Stacey,
Ond yna yn sydyn
O rywle daeth cwrcyn
Y diawl bach 'na Gavin y Cockney.

Griff Williams8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

O oes yr un â serena
Ni saif yn hir safon A.

Ateb llinell ar y pryd.

Ni saif yn hir safon A.
O'u gollwng, a ddaw gwella.

1/2 pwynt

Englyn: Bro.

Er crino eto, Gatwg, - er gwywo'r
Gaeaf, daw i'r golwg
Egin Dysg; gwanwyn a'n dwg.
Mae'r geni ym Morgannwg.

Dafydd Emyr9 pwynt

Englyn: Bro.

Y fro agos ni fawrygi - miragl
Ei mawredd ni weli;
Hyfrytach na'th fro iti
Yw'r fro bell sy'n well na hi.

John Emyr9 pwynt

Telyneg neu Soned: Addewid neu Addewidion.

Addewid.

(mae gan ferch yn Ne Affrica fwy o siawns o gael ei threisio nag o ddysgu darllen.).

Yma mae'n nhw'n agor coesau
yn lle agor meddyliau.
Yn rhwygo dy obeithion
led y pen
a'th fyseddu'n farus frwnt,
gan dywallt haint o inc coch
ar dy bapur glân.
Gan esgor dy ddiwedd cyn dy ddechrau
ac erthylu dy yfory
cyn ei droi.
Ac yna dy gau'n glep
a'th roi yn dy le ar y silff.

Yn stori ddistaw ddiorffen:
yn un ysgrif arall
heb neb i'w darllen
mewn llyfrgell o gyfrolau mud.
Miloedd ohonynt.
Yn llwydo yn ein dwylo
a'u corneli'n cyrlio'n ddiog
yn ein côl.
Heb neb i godi'r clawr.
Chwythu'r mythau.
Na dod i'th arwain ar hyd trywydd o eiriau
at ddiweddglo gwell..

Mari Stevens9 pwynt

Telyneg neu Soned: Addewid neu Addewidion.

Ni ddychwel yr addewid
I gyfoethogi'r fro,
O dan lawogydd Pilckem
Rhoed gallu yn y gro.
Hiraethus oedd y tyddyn
Heb 'tifedd mwy i'r tir,
Na bugail ar y mynydd
Yn nos y cysgod hir.
Ond cadwyd yr addewid,
Gorfoledd sy'n ein cân.
Diogel nawr yw aelwyd
Y Gadair ger y tân.
Geraint Morgan.

Geraint Morgan8 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd- Tanwydd.

Yn 1963, fe dywalltodd mynach o Vietnam betrol drosto'i hun a'i danio fel protest yn erbyn y rhyfel. Fe'i llosgwyd o flaen camerau'r byd.

Yn nistaw ei brotestio-anwyledd
Yr hylif eneinio
Yn alargan, cyn tanio
Ei weddi fer ofer o.

9 1/2 pwynt.

CYFANSWM 79 1/2 PWYNT.

Englyn ar y pryd- Tanwydd.

Ni ddaw lles o wahardd llanc mewn mini
y mae'n mynnu dianc;
Anufydd yw'r dyn ifanc;
Gyrru'to, a gwagio'r tanc.

9 pwynt.

CYFANSWM 79 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.