Penllyn V Tegeingl

Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn.

Penllyn

Penllyn

Tegeingl

Tegeingl

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Dwynwen'

O Ddwynwen, a ddoi heno
Ar Ionawr oer o'r hen ro?

William Jones Williams
8 pwynt

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Dwynwen'

Ei thrwyn yw gwendid Dwynwen
-Heb ei roi i ffitio'i phen.

Moi Parry
8 pwynt.

Trydargerdd- Rhybudd

Cyfarchion i ti#Ceri
Ar ddilyn un o'r cewri,
Ond cofia di mai llai yw'r fraint
Na maint y bwlch i'w lenwi#rhybudd.

Beryl Griffiths
9 pwynt

Trydargerdd- Rhybudd

Na phoener am fydr,
Na phoener am odl,
Dim ond i chi gyfri
Mae trydargerdd yn "dodl".

Marc Lloyd Jones
8 pwynt

CYWYDD: PARTI

(DYLAN)

A'r wlad dan oleuadau
A swyn y pres yn parhau,
Daw hedd llwyr y dyddiau llon
A Gwyl i g'nesu'r galon.

Ar y stryd yn rhwystredig
Mae yn dod yn gwmni dig,
Byw y 'Dolig heb deulu
Yng nghrafangau'r dognau du.

Darn o bren fel gobenydd
Nes daw rhyddhad toriad dydd,
A throeon helbulon byd
Yn un hunllef newynllyd.

Dylan Davies
8 1/2 pwynt

CYWYDD: PARTI

(Nadolig 1914, ar y "ffrynt" gorllewinol)

A synau hen gasineb
Yn oeri'r nos yn nhir neb.
O ganol tarth marwolaeth
Yn ddi-arf, gelynion ddaeth
I newid lle, ysgwyd llaw,
Eistedd a gwenu'n ddistaw.

Canu'n braf yn llawn afiaith
Un emyn dôn mewn dwy iaith.
A naws Gŵyl ar faes y gad
Oedant, yn hedd cadoediad.
Yna'n dawel dychwelyd
Yn ŵyn bach i ryfel byd.

Marc Lloyd Jones
9 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell "Yn Llansannan fe synnes"

Yn Llansannan fe synnes - fod 'na feirdd
Fod 'na fwy drwy hanes,
A'r rhain ar golofn yn rhes
O ddynion, heb un ddynes !

William Jones Williams
8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell "Yn Llansannan fe synnes"

Yn Llansannan fe synnais - o weld dim,
Na chlywed un adlais
O'r heniaith bêr a gerais,
Ond sŵn dienaid y Sais.

Pedr Wyn
7 1/2 pwynt

Cân ysgafn- Y Llywodraethwyr.

Os oes amser ar eich dwylo
Ac am swydd sy fawr ei bri,
Ewch yn llywodraethwyr, bobl
Swydd a statws iddi hi.

Chi fydd wedyn yn gyfrifol
Medde nhw am blant y fro,
Chi fydd hefyd yn ymlafnio
I gael 'thrawon wnaiff y tro.

Bydd rhaid trafod diogelwch,
Asesiad risg, a phethe mawr
Fel pa faner fry i'w chwifio
A pha bryd i'w thynnu i lawr.

Ond cyn ichi neidio'n eiddgar
At swydd bwysig a wnaiff les
Cofiwch, peidiwch disgwyl gormod
Y mae'r grym gan fois y pres.

Beryl Griffiths
8 pwynt

Cân ysgafn- Y Llywodraethwyr.

Mewn rhyw dŷ cyffredin anferth
Mae dau gogydd wrth y llyw,
A'u bwriadau tra gwahanol
Yn creu prydau at ein byw.

Ond mae prinder y cynhwysion
Yn rhoi i rai blateidiau bach
Tra bo cafiâr a gwinoedd
Ar y bwrdd o flaen y crach.

Y pencogydd sy'n coginio
Efo'i lyfr ryseitiau drud,
Dim ond rhoi y sos a'r halen
Wna ei ddirprwy bach o hyd.

Beth a ddaw o'r gegin swnllyd
Lle mae'r ddau yn mynnu'u hawl?
Ninnau'n gwybod bod y ddeuddyn
Yr un mor dda am wneud y cawl.

Moi Parry
9 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell- 'Pan oedd Robbie Burns yn talyrna'

Pan oedd Robbie Burns yn Talyrna
I dafarn y werin ai ynta
I ganol y genod
Y bardd oedd yn gwybod
Y câi mysg y rhosod ei wala.

William Jones Williams
8 1/2 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell- 'Pan oedd Robbie Burns yn talyrna'

Pan oedd Robbie Burns yn talyrna,
A Shakespear yn ceisio meuryna,
Roedd Bala pryd hynny
Yn dîm ar i fyny,
Dwi'n synnu bod rhai yn dal yma.

John Gruffydd Jones
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Pa werth sydd mewn cicio pêl
Jiw Jiw hwn yw fy Jiwel.

0 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Aayne yn gam ei anel
Pa werth sydd mewn cicio pêl.

Englyn- Band

Mi chwythwn gornet eto - boed arian,
Boed aur, am gael martsio
Gam wrth gam, i Stryd y Go'
Wybod fy nyfod heibio.

Iwan Bryn Williams
9 pwynt .

Englyn- Band

Rho iddo gyfarwyddyd - a'r wialen
Ar eiliad disyfyd.
A chwifia dy fraich hefyd
A'r band fydd yn deffro'r byd.

Pedr Wyn
Pedr Wyn
8 pwynt

Telyneg - HEOL

Yn sinema y côf fe'i gwelaf eto'n glir,
Stryd Dwr, y llwybr paradwysaidd rhwng dau glawdd.
Yno y byddwn i yn ffoi, rhwng brigau ir,
Pan fyddai'r byd yn boen, fan hyn roedd hi yn hawdd
Ymgolli. A'r haul yn chwarae mig rhwng y dail
Fe lithrai'r nant yn llyfn o bwll i bwll, yn frith
O berlau amhrisiadwy na welais i eu hail .
Ond pylu wnaeth y ffin rhwng ffaith a rhith,
A daeth rhyw reidrwydd i ddychwelyd eto i'r Stryd.
Ond nid yr un yw'r ffordd sy'n fy wynebu i
Nid oes ond baw a llaid a difrod ar ei hyd.
Aeth y baradwys gynt yn yfflon gyda'r lli.
Ac yma yn fy siom, rhaid im wynebu'r ffaith
Na thal hi i chwennych ddoe, na'i droi yn ddelfryd chwaith.

Beryl Griffiths
8 1/2 pwynt

Telyneg - HEOL

Prin bod Paradise Street
Yn gweddu fel enw
I'r rhes o dai unffurf
A linynai
O gylch gwaelodion y Cwm.
Codai eu mwg fel gweddi
I ddistiau metel y gwaith dur,
A hidlo'n araf
I lwydni'r dydd.

Ond
Roedd sglein ar garreg
Pob drws di-glo,
A thincian yr esgidiau hoelion
Yn croesawu'r bore.

Heno
Mae enw 'Rhes y Cwm'
Mewn Cymraeg sglein ar y mur,
Y gwaith yn sgerbwd mud,
Pob drws ar glo,
A minnau yn adnabod neb.

John Gruffydd Jones
9 pwynt

Englyn ar y pryd- Capten

Wrth y llyw yn ffraeth a llawen-'roedd ddoe
Yn rhyw Dduw o gapten
Yn agor eto i griw clên
I'w hargau mor ddiangen.

9 pwynt

CYFANSWM 76 PWYNT

Englyn ar y pryd- Capten

Yn griw hen mewn llawenydd- y tynnwn
Drwy'r tonnau bob tywydd;
Heriwn ffawd a rhannu ein ffydd
Dan Owen Capten newydd

8 1/2 pwynt

CYFANSWM 76 1/2 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.