Y Talwrn - Bro Alaw v Hiraethog
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair "pwys"
Heddiw mae diwinyddion
Y ffydd, bawb ar bwys ei ffon.
Geraint Jones8 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair "pwys"
Ai'r unwerth o'u cloriannu
pwys o blwm fel pwys o blu?
John Glyn Jones9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - "'Rôl pwyso a mesur am oriau"
'Rôl pwyso a mesur am oriau
Cridenshals pob nyrs ar y wardiau,
Rhoddodd Doctor Abdwla
Ei nodwydd yn rwla
Na ddyla - a chafodd ei gardiau!
Ioan Roberts8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - "'Rôl pwyso a mesur am oriau"
Rôl pwyso a mesur am oriau
Wrth odli a chyfri sillafau,
'Tae rhywun yn gofyn,
Fe floeddiwn heb flewyn
Fod englyn yn haws na limrigau
Gwenan Prysor8 pwynt
Trydargerdd - Dyfarniad
Bu peth trydaru yn dilyn sylwadau Lawrence Dallaglio ar ôl y fuddugo liaeth yn Nhwickenham 26 Chwefror 2012. Dyma un arall at y casgliad.
Dallaglio, gad dy gwyno,
'Dyw'r teli ddim yn twyllo,
Di-duedd yw'r Dyfarnwr Bocs -
Fe gawsoch socsan eto!.
John Wyn Jones8 pwynt
Trydargerdd - Dyfarniad
Gofyn technoleg gyfoes!
Ble mae ffin dros y llinell?
Dawn yw bod yn iawn o bell.
Osgoi gwae yw dysgu gwers
A safio rhag Specsavers.
Gwenan Prysor8 1/2 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):yn cychwyn gyda'r ymadrodd 'Heb siw na miw ..'
Heb siw na miw'n nechrau Mai
A doldir yn llawn deildai,
Llithra'r gog o'r glog i'r glyn,
Eilwaith, a'i thwyll i'w dilyn,
Ag yno yn nhawch gwanwyn
Daw o hyd i nyth i'w dwyn;
Hawlio'i thŷ yn hy wna hon
Heb 'restru mewn bro estron,
Cyn cyfyd ei chan hudol
Ddydd wedi dydd uwchlaw dol;
Ninnau'n ddwl ac yno'n ddall,
Rhagor, i'w ochor arall.
Richard Parry Jones9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell):yn cychwyn gyda'r ymadrodd 'Heb siw na miw ..'
Tylluan
Heb siw na miw, y mae hi
o ben coeden yn codi
i lygoden lygadu
hyd y ddôl agored, ddu.
Nefoedd i fân anifail
ar ei dwf yw hela'r dail
am folied gwybed y gwyll -
hela dall heb weld ellyll.
Dirgel di awel ei dod;
un wib, a hebddo wybod
am gydio gwar di aros,
Heb 'run wich â'n brae i'r nos.
Rhys Dafis9 1/2 pwynt
Pennill Ymson [mewn mydr ac odl] - Mewn Twll.
Mae'r wrthblaid a'r papurau'i gyd
A'u bryd ar f'ymddiswyddiad,
Ac er fy mod i dan yr ordd
Mi wn am ffordd ymwarad -
Pan fydd 'posh boy' mewn twll go gas
Gall ddringo i'r lan ar sgwydda'r gwas.
John Wyn Jones8 1/2 pwynt
Pennill Ymson [mewn mydr ac odl] - Mewn Twll.
...dan grisia':
Glywch chi'r gwydrau gwin yn tincial?
'Mhunnoedd i sydd yn y grisial;
Ond mae'n sobor iawn yn fan'ma -
Wedi'i gŵr hi gyrraedd adra'! .
Eifion Lloyd Jones8 pwynt
Cân Ysgafn
(heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned): 'Chwarae â Thân'
Fe gafodd fy nghyfaill sawl rhybudd
Ond gwelai pob dynes fel her,
Bob nos bu yn gwthio y ffiniau
A dyna sut cafodd oes fer.
Gwraig dyn ar shiffd nos yn lle Chwcis ***
Oedd arddwraig fach hynod o glên,
Pan glywodd sŵn cliced fe neidiodd
O'r lloffd i'r tail ieir at ei ên.
Bu'n agos at wraig y Gweinidog
A'i merch, yn y gegin, dan bwrdd,
Fe'i codwyd a'i roi ar yr hot-plet
Pan ddaeth Gwas yr Arglwydd o'r cwrdd.
Un waith tra'n Maes B yn y Steddfod
Bu'n caru gwraig dinboeth o Went,
Gan ddeffro'n chwys laddar 'ny plygain -
Ei gŵr wedi llosgi y dent.
Fe'i daliwyd yn nhas wair drws nesa'
Ai'i freichiau'n llawn gwraig y dyn glo.
"Ti'n chwarae fo tân," meddai hwnnw -
Bu'r fflamau'n bwnc llosg yn y fro.
Geraint Jones9 pwynt
Cân Ysgafn
(heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned): 'Chwarae â Thân'
"Gan fod yr haul yn t'wynnu, mi gawn ni farbiciw,"
Medd Arthur wrth ei briod, "Mi wna' i'r cyfan cyw.
Jest picia di i siopa i nôl y bwyd 'ta Siân,
A bag o lo a 'leitar', i mi gael cynnau'r tân.
Cei ffonio rhai o'n ffrindiau i ddod â'u plant, a'u cŵn,
A'r ddau drws nesa hefyd, rhag ofn y bydd 'na sŵn.
Gofala di fod gen i grys gwyn a ffedog lân
Hylendid sy'n hollbwysig wrth chwysu wrth y tân.
Fe fyddai'n eitha' syniad cael tatws pob a reis,
Mi gei di gwcio'r rheini, ti'n gallu gwneud rhai neis.
A llenwa'r golchwr llestri, fel bod pob plât yn lân
Yn barod am y loddest fydd gen i ar y tân.
Os fyddai'n llowcio'r cwrw, tyrd draw â chaniau llawn.
Mae slafio uwch y selsig yn waith sychedig iawn.
A chofia gael canhwyllau i ddychryn piwiaid mân
I'n arbed i rhag cosi tra'n tendio ar y tân.
Gwell fyddai i ti gario'r cadeiriau oll o'r tŷ
A'r bwrdd o'r gegin hefyd, mi rwyt ti'n ddigon cry."
Byddarwyd o, a'r pentref gan sgrech rwystredig Siân.
S'dim angen glo na 'leitar' i chwarae hefo tân.
Gwenno Davies8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Rhan o gamp y werin gudd
Yw wylo gyda'i gilydd.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Rhan o gamp y werin gudd
Herio gwae yn dragywydd
Englyn: Trefn.
Neithiwr bu'r gwr a gurwyd - a'r wialen
Yn greulon dan gronglwyd
Tŷ ei nain, yntau'n ei nwyd
Yn hawlio trefn ar aelwyd.
.
Richard Parry Jones8 1/2 pwynt
Englyn: Trefn.
Gwarth y dec oedd gwerth dy docyn - ac ofn
Yn y gwyll dy gyd-ddyn;
Ond 'r un gwerth oedd y perthyn
Ar y siwrna ola' un.
Ffion Gwen9 pwynt
Carol Haf - heb fod dros 16 o linellau .
Rhosyn yr Iôr.
O galedi'r gaeaf, y llygedyn lleiaf,
A hedyn yr haf sy'n blaguro.
O, flodyn y flwyddyn, yn bigog berffeithyn -
Rho goron ar wreiddyn diguro.
Cydganwn i'th lewyrch a blaswn y mêl
A ddaw o'th adnabod: Ti, Rosyn ein sêl.
Diflino dy flodau sy'n llonni â'u lliwiau
A golchi â'u golau y galon.
Yn wridog dy wynfyd, yn ffion oes ffromllyd
Dŵr da sy'n diferyd o'th ffynnon.
Cydganwn i'th lewyrch, O, Rosyn ein sêl,
A thaenwn dy bersawr dros bob un â'th gwêl.
I flodyn y flwyddyn, cydganwn fel côr,
Yn berllan betalau i Rosyn yr Iôr.
Sian Owen10 pwynt
Carol Haf - heb fod dros 16 o linellau .
Rhwng porfa melynwyrdd y wawr ar y llethrau
Mae clytiau o borffor y grug hyd yr allt;
Pelydrau y bore sy'n gwenu'n ei gruddiau
A blodau drain gwynion yn wyllt yn ei gwallt.
Rhwng tywod hufennog a'r brwyn ar y twyni
Mae heli yr awel ar wefus yn hallt;
Pelydrau'r prynhawn sy'n cynhesu ei thresi
A lili'r dyffrynnoedd yn em yn ei gwallt.
Rhwng melfed pob tusw o fwsog' a'i anwes
Mae hances o las clychau'r gog ar yr allt;
Pelydrau y cyfnos sy'n fwyn ar ei mynwes
A ffwrnes yr eithin yn aur yn ei gwallt.
Eifion Lloyd Jones10 pwynt
Englyn ar y pryd- Gorchymyn.
Mae'n anorfod i'r holl dlodi-rwygo
Gwlad Groeg i'w sylfeiri
Haws un haf fu'i swyno hi
Anos yng ngaeaf cyni.
9 pwynt
CYFANSWM 79 PWYNT.
Englyn ar y pryd- Gorchymyn.
'Rôl gofyn, rol taer ddymuniad-mi ai
"Paid Mam, er ei chariad,
O'i gwthio yn fygythiad;
'Mond troi ata'i wnai fy nhad.
9 pwynt
CYFANSWM 79 1/2 PWYNT.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

