Y Talwrn- Hogia'r Ynys V Tir Mawr
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn
Hogia'r Ynys

Tir Mawr

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Tîm'
Fe ddaw mwynhad bob adeg
I dîm a all chwarae'n dêg.
Robin Huws9 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Tîm'
Gall tim ceiniog a dima'
Ar ei dydd roi cweir i'r da.
Huw Erith8 1/2 pwynt
Trydargerdd- Broliant.
Cawr o ŵr
Yw Ceri Wyn,
Un o fawredd
yn feuryn,
A'r Sir hon
Ers Goronwy,
Yn ei maes
Ni wêl un mwy
Ac yntau
Yn fawr gantor;
Dyn mewn cwrdd
A dyn mewn côr.
Eurfon Griffiths7 1/2 pwynt
Trydargerdd- Broliant.
Bu bron im rŵan ddwedyd pethau
Hael, rhy hael, cyn cael fy marciau,
Da im gofio'r wers anorfod,
Yn rhy hwyr atelir tafod.
Gareth Williams8 pwynt
Cywydd- Croesi.
O oes i oes bu croesi
Fel gwyddys i'n hynys ni;
Hen lwythau Neolithig
Yn eu tro wnaeth yma'u trig,
A rhyfyg y canrifoedd
Yn drueni inni oedd;
 Môn a'i thrigolion mad
Yn angau'i darostyngiad;
O fewn dim o Rufain daeth
Y neges o Gristnogaeth-
Tad a Brawd a Chreawdwr
O'i hir daith yn croesi'r dŵr.
Machraeth8 1/2 pwynt
Cywydd- Croesi.
 phwyll, nid carlam, Salmond,
a dwrn sur y Deyrnas hon
dan dy ên - mae last-stand oer
a fynn glwyfo'n ei glafoer.
Mae'r un wnaed mor unedig
mor ffiwdal pan yw'n dal dig.
Hi yw'r uchaf ei gwrychyn
a'i sêl daer dros hawliau dyn
nes i fules o wlad fach
geisio grymoedd agosach.
Salmond - gofal wrth symud
yn y cylch fu'n goch cyhyd.
Myrddin ap Dafydd9 1/2 pwynt
Englyn Ysgafn- yn cynnwys yr enw 'Doctor Who'.
Dic Tŷ'r Waen gad Doctor Who - o'i dardis
'Rôl dwrdio yn arw;
Nan ei gymar bron marw,
Am chwe awr ar lawr y lŵ.
Robin Huws8 pwynt
Englyn Ysgafn- yn cynnwys yr enw 'Doctor Who'.
Actor hyll o Doctor Who - aeth, unwaith,
ag arth wen i'w iglw,
ei gweld hi'n gymar garw
a dweud y lein: 'Twdyl-lw!'.
Myrddin ap Dafydd8 1/2 pwynt
Cân Ysgafn- Symud Tŷ.
'Rôl hanner can mlynedd o weinidogaethu
Y Parch Rolant Williams a wnaeth ymresymu,
Gan ddweud wrtho'i hunan "rhaid imi ymddeol
A phrynu tŷ hwylus mewn mangre cysgodol."
A phrynodd dŷ newydd heb neb dan ei unto
Roedd 'na le yn y cefn i'r wraig ddysgu garddio;
"Bydd fan hyn" medd ef, "yn nef am flynyddoedd
Mor ddistaw a'r bedd ac o olwg y cyhoedd."
A chodai yn fore i weled y wawrddydd
A gwrando yr adar yn pyncio o'r coedydd,
Roedd sŵn yr afonig yn llifo i'r ceunant
Ac yntau'n ymgolli'n y gân yn llawn moliant.
Ond wele un bore daeth teulu i drigo
A'u ci gwallgo'n cyfarth y drws nesaf iddo;
Y gŵr oedd gyhyrog a styds yn ei glustiau
A'i wraig a'i saith plentyn a thatŵs are eu boliau.
Pan gododdd Rol Williams i agor y llenni
Bu bron a llewygu o'u clywed yn rhegi;
Ac meddai ei wraig" Wel Rolant, byth eto
Y prynwn ni dŷ, a thŷ gwag dan ei unto.
Eurfon Griffiths8 1/2 pwynt
Cân Ysgafn- Symud Tŷ.
Es i 'ngwely mewn côt wlanan a fy nhedi efo fi
Toc fe ddeffrais yn San Ffagan ym mil wyth naw deg a thri.
Ar ôl d'allt r'oedd Anti Elin wedi addo Tan y Ddôl
I ryw Amgueddfa Werin, ac r'oedd rheiny wedi'w nol
D'wn i'm sut na wnes i ddeffro, ond rwyf bellach bron yn siwr
Fod y tacla wedi 'ngasio neu roi Valium yn y dŵr
Fe symudo' nhw fo ymaith, pob un cainc a gwe pry copa
A'i ail-godi'n union berffaith rhwng y Ffermdy Pinc a'r Siop
Fore trannoeth roeddwn inna yn fy nrhons yn mofyn dŵr
I'm cyfarfod daeth aeloda'r W.I. ar Guided Tour
Roedd y cwynion mor niferus daeth y 'Culture Corps' dan straen
A 'mhen wythnos roedd y bosus am fy ngweld yn symud 'mlaen
Draw i Dan y Ddôl fe ddaethant i fy ngwadd i fynd ar frys
Gan fy mod i'n sitting tenant rhaid oedd mynd a'r peth i'r llys
Deuai'r barnwr o Foduan. Cofiai'r haf yn Nhan y Ddôl
A dywedodd wrth San Ffagan "Ewch a'r blydi lle yn ôl"
Ar ôl deuddydd o fargeinio, mynd yn ôl i Lŷn a wnes
Ac yn fan'no rydw i heno yn fy 'yacht' yn cyfri 'mrhes
Gareth Jones9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell "Rhaid newid eich enw yn gyson"
Rhaid newid eich enw yn gyson
Medd dyn oedd a'i enw yn Shimshon,
'Roedd Dalila yn dallt,
A thorrodd ei wallt
A galw'r gŵr cwcwallt yn Samson.
Bryner Jones8 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell "Rhaid newid eich enw yn gyson"
Os ydych am briodi Rhiannon
A charu yn Rhyl a Thregaron
Tra'n mocha 'fo Janw
A phedair gwraig weddw
Rhaid newid eich enw yn gyson
Gareth Jones9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y mae mwy i Ynys Môn
Na sisial yng nghlust Saeson
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y mae mwy i Ynys Môn
Na niwsans gan Fonhwysion
Englyn i Unrhyw Ddiwydiant
Tros Fôn mae y peilonau - yn nodi
Cornwydydd ein dyddiau,
Mae o fewn yr atomfau
Haint ingoedd hwnt i angau.
Robin Huws
8 1/2 pwynt
Englyn i Unrhyw Ddiwydiant
Fe wn, er nad wyf innau yn ennill
Fy ngheiniog o'u herwau,
I ludded 'rhen weirgloddiau
Af yn ôl, ac ysgafnhau.
Gareth Williams
9 pwynt
Telyneg - Ffrwyth neu Ffrwythau.
Fe fûm ar deithiau ym mhelteroedd byd
Yng ngwlad Brasil lle mae y Goedwig Law,
Ac yno gwelais rai ym mröydd hud
Yn chwilio am gynhaliaeth yn eu braw,
Ac edrych wnês â chryndod yn fy mêr
Ar odidowgrwydd duw a Chroes y De,
A'i anweledig law yn llywio'r sêr
Roedd ffrwythau ei weithredoedd ym mhob lle
Ac yno sylweddolias fod i'm hoes
Rhyw ddisgwyliadau uwchlaw deall dyn,
Drwt fod rhyw ystyr i greulondeb Croes
A fu'n ddirgelwch i Fab Duw ei hun;
Nes dysgodd efo drwy wewyr Calfari,
Mai wrth ein ffrwythau yr adwaenir ni.
Machraeth8 1/2 pwynt
Telyneg - Ffrwythau .
('Anwylo ddoe, addurno heddiw, creu yfory' oedd un o ddywediadau Clough Williams-Ellis, Portmeirion).
Cei flas ar olewydd liw mwsog y ffawydd
Ta waeth am y tywydd sy'n cau am y lle,
Cei frathiad orennau liw'r machlud ar waliau
A min y lemonau ar awel o'r de.
Cei gwlwm o rawnwin wrth dy benelin
A gwrid ei gynefin yn wres yn dy law,
Cei ddyrnaid o fricyll dim ond iti sefyll
A gorffwys dy esgyll ar garreg sa-draw.
Cei eirin a gellyg dan enfys yr helyg
A chnau digon tebyg i'r rhai gei di'n Llyˆn,
Cei euron a ffigys o'r Aifft ac o Fflandrys
A mwyar bach melys o'r penrhyn ei hun.
Oherwydd mae Eden yn fyw ar afallen
A'r berllan yn llawen a'r fasged yn llawn,
Oherwydd mae'r hedyn sydd eto i ddisgyn
Am fwrw ei wreiddyn, mi wn i yn iawn.
Myrddin ap Dafydd9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd- George North.
Môn y Fam yn ddiamau- a yrrodd
Ei harwr dros donnau
I sgorio y cais gorau
Tros ei dîm oedd bron tristhau.
Eurfon Griffiths8 1/2 pwynt
CYFANSWM -75 1/2 PWYNT.
Englyn ar y pryd- George North.
Ei wenolwib yn Nulyn a rwygodd
Trwy graig yr amddiffyn;
Aeth â'r wal a'i thri ar un
I lwyddiant cynta'r flwyddyn.
Gareth Williams8 pwynt
CYFANSWM- - 79 PWYNT.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

