Y Talwrn - Y Glêr v Glannau Teifi

Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn

Cwpled caeth yn cynnwys y gair App neu Ap

Y gŵr a gâr seguryd
A ganfu app, gwyn ei fyd.

Eurig Salisbury9 1/2 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair App neu Ap

Ap Gwilym O! pa gelwydd
Am ffwdan a swnian sydd?

Geraint Volk8 1/2 pwynt

Trydargerdd - Cwestiwn

Pam edrych, edrych o hyd
a mynnu dal am ennyd
yn y sgan sy'n ias i gyd?
Oherwydd, yno erys
y byd bach rhwng bawd a bys
ar ei echel frawychus.

Hywel Griffiths9 1/2 pwynt

Trydargerdd - Cwestiwn

@ rhai sydd yn fy ngharu:
Pam ydych yn trydaru
A'ch holl "newyddion" bob rhyw awr ? -
Gwell galw lawr i ngweld i.

Carol Byrne Jones9 pwynt

Cywydd

Ar Grwydr (wrth ddarllen am hen enwau tafarnau ym Mhwllheli)

Yn ôl trwy'r niwlen heli
ar fad hen siarad ddois i
i rannu myrdd o straeon môr
o efengyl fy angor.

Ond pwy sy'n morio mwyach
rownd y byd i'r Brandy Bach
neu'n dod i glyw Llofft y Gloch?
Heno, oes un ohonoch?

O Ben Cob, i un ceiban,
enwau mawr mewn genau mân
ydi rhai fy hen dre i,
yn ôl trwy'r niwlen heli.

Osian Rhys Jones9 pwynt

Cywydd- Ar Grwydr

Ataf yn yr ysbyty
Y daeth, fel y dôi bob dy',
Fy Mam i droi fy nghamau
I gyd o feddyliau gau
I hwyl fel dydd o haf
Yn dihuno amdanaf.
Ond ynof roedd y cofio
Yn mynnu trwblu bob tro
I hanes y gorffennol -
Ffei! Ffei! fy meddyliau ffôl
Eisioes mae'n nhriniaeth drosodd
Heb gri, a mi wrth fy modd.

Gwen Jones8 pwynt

Englyn ysgafn - 'Oh my God!' ddwedodd mam-gu

'Oh my God!' ddwedodd mam-gu - 'Oh Dduw mawr!'
Ddwedodd mam, gan grynu,
Sibrydodd Gles 'Oh Iesu
Ein Tad' ... pan ddaeth Ceri i'r tŷ.

Hywel Griffiths8 pwynt

Englyn ysgafn - 'Oh my God!' ddwedodd mam-gu

"Hannah ! rwy't yn fy synnu, - fy wyres
Rwy't ti fory'n twenty
A twt! Wy'n tynnu at eighty -
Oh my God!" ddwedodd Mamgu.

Gwen Jones8 pwynt

Cân ysgafn- Y Rali

Ry'n ni wedi ymgasglu, gyfeillion, er mwyn cael dangos, yn wir, ein bod ni yn cefnogi pob gwrthwynebiad yn glir. Does dim pwynt gwamalu bellach - mae'n glir fel hoel ar bost:
rhaid cynyddu pob buddsoddiad ynghyd â lleihau pob cost.

Rhaid defnyddio ein dychymyg i weld y realiti:
bod y galw mawr am gynnydd yn llai na'r capasiti.

A rhaid inni sicrhau tegwch i'n pobl hŷn a'n plant
a phobl yn eu hugeiniau, a rhwng tri-deg a hanner cant.

Ry'n ni galw am ddyfodol lliwgar, yn glir mewn du a gwyn,
ac mae'n bryd i ni wthio ymhellach, tra'n cadw pethau'n dynn.

Rhaid adeiladu, faen wrth faen, wal gadarn fel y dur,
a heb oedi eiliad wedyn, rhaid chwalu pob un mur.

Ac felly i grynhoi, gyfeillion, dyma fyrdwn ein rali fawr:
Beth ry'n ni'n moyn? Tegwch! Pryd ry'n ni'n moyn e? Rhywbryd cyn diwedd y flwyddyn
ariannol nesaf os yw hynny'n ymarferol bosibl.

Iwan Rhys9 pwynt

Cân ysgafn- Y Rali

Mae na hwm yn y cwm fel sŵn cachgi-bwm
Yn hedfan drwy frigau'r coed;
Cân crib a phapur sy'n nesáu yn brysur-
Dyma'r band mwya swnllyd erioed.

Yn ogystal a hwmian mae llawer o duchan
A sgrech erchyll teiars yn troi
Cornel go sydyn, cyn gorfod disgyn
Lawr hewl gul ar bwys cwtsh y lloi.

Goleuadau yn fflachio, fe ruthra'r haid heibio
Mae'n rhyfedd bod neb yn cael lo's!
Mistêc gan un gyrrwr ac yna mae pentwr
O geir ar hyd y clôs!!.

Sdim gobaith cysgu , rhaid mynd ma's i ddysgu
Shwt ma' pobol yn gweld hwn yn sbri
Mae'r awyr yn drewi ac er iddi dewi
O'r diwedd, gwynt diesel sy'n gry.

Mae'r cwm nawr yn dawel draw ar yr awel
Clywaf leisiau yn codi o'r ddôl:
Mae'r Rali Fawr drosto am y flwyddyn 'ma eto ....................
O na! Mae na rhyw rhai ar ôl.............. .

Carol Byrne-Jones8 1/2 pwynt

Limrig - Ni ddwedodd y meddyg ddim byd.

Ni ddwedodd y meddyg ddim byd.
Mae fy meddyg yn fyddar a mud.
A phan welaf y llall,
mae honno'n ddall;
dwi'n dod allan yn holliach o hyd.

Osian Rhys8 1/2 pwynt

Limrig - Ni ddwedodd y meddyg ddim byd.

Wy'n "seventy" ers 'dwn i ddim pryd
A finne ar lawr ar fy hyd
Bron myned i lewyg -
Cael babi, mae'n debyg
Ni ddwedodd y meddyg ddim byd.

Gwen Jones8 1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Un noson o farddoniaeth?
Ni wn i am ddim sy'n waeth.

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Ni wn i am ddim sy'n waeth
Na byd sydd heb gwybdoaeth.

0 pwynt

Englyn - Neuadd

(mewn gwasanaeth ysgol)

Mae'n gêm, wrth i minnau gau - dwy lygad,
Eu hailagor hwythau
Yn iawn i ddal un neu ddau'n
Ciledrych rhwng eu cledrau.

Eurig Salisbury>8 1/2 pwynt

Englyn - Neuadd

Awel yw cystadleuaeth - hen awel
A ddaw o farddoniaeth;
A holl eiriau ffrindiau ffraeth
Yn neuadd i gwmniaeth.

Terwyn Tomos8 1/2 pwynt

Telyneg neu soned- Rhwyg

Arhosa dy arogl ar groen fy llaw
wedi i'n lleisiau ni si-hei-suo'r nos
i wely plu. Baglu rhwng cariad a braw
gan wybod y dôi ein trannoeth a'r 'dos'
gan gasglu'r dillad a rwygwyd i'r llawr,
teilchion maddeuant na eill eu cuddio,
a'r cariad newydd yn gelain cyn gwawr.

Heddiw bûm filwaith â thi'n noswylio.

Sawru o chwithdod a melyster pell
mae chwŷs y dydd sy'n trwytho'r gwythiennau;
mwg Caerdydd yn tagu'r corff a phob cell,
a'r pnawn yn ddiarth eto'n fy ffroenau.

Diflannodd dy ôl na wnes ei wadu
ym mhrudd-der y dydd, a hwnnw'n t'wynnu.

Osian Rhys Jones8 1/2 pwynt

Telyneg neu soned- Rhwyg

Nid yw ond murddun bwthyn yn y cwm,
Hen feini chwâl a llwyth o sbwriel ddoe
Yn casglu cen, a brigau nythod llwm
Yn bentwr yn y grât. Mae'r ardd yn sioe
O ddrysi, ac o chwyn, ac ambell lwyn
O ffrwythau gwyllt; a'r llwybr tua'r clos
O'r golwg nawr. Mae arwydd "Nantymwyn"
Yn yfflon ar y llawr, fel deilach nos.
Bu yma falchder teulu'n twtio'r lle,
Bu yma leisiau plant, bu yma drefn;
Bu hau, a medi, trefnu trip i'r dre,
Nid bwriad neb oedd tyfu a throi cefn.
'Dyw byn'glo bach ar heol gefn y stad
Ond cysgod im - mae nghartref yn y wlad.

Terwyn Tomos8 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd- Y Groes Goch

Ni loriwn yn filwrol, y ceiri
Â'r cerrynt bygythiol,
Yn don o hedd dawn yn ôl
I guro yn ddyngarol

9 1/2 pwynt

CYFANSWM - 80 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd- Y Groes Goch

Y Mudiad

Rhy gyngor i'w drysori,- ô'i geisio
Ei gysur sy'n cyfri,
 gras fe fynna groesi
Ffiniau brau,trahaus eu bri

9 pwynt

76 1/2 pwynt

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.