Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'cusan' neu 'sws'
Dim ond cusan a phanad
a swyn yr hwyr - noson rad!
Gruffudd Owen8 1/2 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'cusan' neu 'sws'
Ei hoesol, iasol gusan
yw tyner lif ton ar lan.
Dafydd Emyr8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - 'Mae Prifwyl yr Urdd yn fy mlino'
Roedd y plant lond yr adlen 'di clwydo
A'r delyn yn saff yn y Volvo.
Medd Mam, "Dyma'n cyfle!",
Medd Dad, wrth droi'r gole,
"Mae Prifwyl yr Urdd yn fy mlino."
Gwennan Evans8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - 'Mae Prifwyl yr Urdd yn fy mlino'
Mae Prifwyl yr Urdd yn fy mlino
Ro'n i'n angel yn lleisio a lliwio,
Cant a hanner y cant
Roish i'r unawd cerdd dant,
Y trefniant oedd mam yn ei feio!
Dafydd Emyr8 pwynt
Trydargerdd - Camsyniad
Cam-syniad
@Rebekah- tria bicio
yma draw, ryw ben, am dro.
LOL - oddi wrth Dave, dy lo.
Llŷr Gwyn Lewis8 1/2 pwynt
Trydargerdd - Camsyniad
Mae cretins democrataidd
moyn, drwy'r wasg, myned i wraidd
rhyw hen gildwrn, gwag, eildwym;
ni ŵyr rhain mai nhw sy'n rhwym.
Aneirin Karadog9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Yn cychwyn gyda'r ymadrodd 'Fesul un...'
Tabernacl Llanfyllin
Fesul un, i gymuno,
er y twll sy'n pydru'r to,
daw'r addolwyr drwy ddilyw'n
eu hôl o hyd i dŷ Duw'n
denau iawn, a dwyn yn ôl
oes o bethau Sabothol.
Rhoi gweddi, er y gwyddan'
nhw'r gwir; dal i godi'r gân
am dyrfâu y dyddiau da,
am henfyd eu cymanfa,
a'u hemynau nhw'n mynnu
nad yw Duw 'di mynd o'i dŷ.
Llŷr Gwyn Lewis9 1/2 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Yn cychwyn gyda'r ymadrodd 'Fesul un...'
(Fe dyngais lw i fy hunan fy mod am siarad Llydaweg â fy merch)
Fesul un fe sylwa hi
ar fy rhodd ddirfawr iddi,
rhodd enbyd ei bywyd bach
yw holl enwau ei llinach
a'i chur yw'r baich o eiriau
sydd arni hi yn trymhau.
Ond i'w thad bendith ydyw,
air wrth air, nid melltith yw
fod chwedl fy nghenedl o 'ngheg
yn diwan ei Llydaweg.
Am emynau, am heniaith,
Ni ŵyr hon am farw'i hiaith
*Diwan: 'Egino' yw ystyr diwan, dyma hefyd yr enw ar y mudiad ysgolion Llydaweg.
Aneirin Karadog9 pwynt
Pennill Ymson (mewn mydr ac odl) - Mewn pabell
Mae'r glaw yn pitran patran -
dwi angen mynd am drip,
ond O! fy Nuw! Y broblem yw
mod i methu ffeindio'r sip.
Llŷr Gwyn Lewis8 1/2 pwynt
Pennill Ymson (mewn mydr ac odl) - Mewn pabell
Dwi rywle'n Steddfod Barri ynghanol gwinoedd gwych
ac mae 'na dân yn agos - ma' raid 'i bod hi'n sych!
Ma' Geraint Lovgreen yma a'i enw da yn gân
a Stevens yn ei lesmair da merch o'r ffatri wlân.
Fe welaf Gwawr ac Awen yn ifanc brydferth braf
a Dafydd, Dic a Hywel yn chwil ar fedd yr haf.
Mae heno'n un perffeithrwydd, wrth inni gadw Gwyl,
cyfeddach het a photel a Iw Bang* yn ei hwyl.
(Iw Bang*- Y Prifardd Iwan Llwyd)
Ynyr Williams9 pwynt
Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):
Ffatri
Annwyl Syr, rwy'n ymgeisio am swydd yn eich ffatri
i gael fy mara menyn am wneud caws Caerffili.
Os gafr i y swydd, gwnaf fy ngorau caws glas
a feta'i chewch chi neb mor gouda fi'n was!
N-edam fy mod moyn yr holl barch a brie
yr wyf i mor cheddâr moyn swydd wrthych chi...
Does dim mozzarella daf i emmentâl-
ma stilton o resyme bach eraill i gal
pam soya-m gael run swydd arall, yn wir
does dim rheswm parmesan wy di aros mor hir!
Ynghlwm, mae na lun- fe ddwedes i 'cheese'
Ond wyf fi'n camembert- cyflogwch fi- plîs!
Fe deithiwn i'r gwaith mewn mascarpone bach
O'm bwthyn llwm heb ffwdan na strach.
Yn fy hen swydd ges i guark-ie llawn
am wneud mwy na'm ricotta o waith bob prynhawn.
Ac a-chosyn fod gen i dairylea o sgilie
does dim wy'n Caerffili ei wneud yn y gweithle.
Fe fyddech yn crackers i beidio'm cyflogi
Gan y byddwn yn grêt am weithio'n eich ffatri.
Gwennan Evans9 pwynt
Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):
Ffatri
Ar benblwydd hapus ei sixteen roedd rhieni Wendy'n ddiawl o flin,
oherwydd, drapia, ganwyd twins, a rheini'n hyll, fel bagia bins.
Mewn blwyddyn wedyn, ar y llawr, roedd clamp o frych-dau-fabi mawr
a fel na tase hynny'n sioc, fe gydiodd Wendy eto...toc,
ac ymhen blwyddyn dyma rech - a phar bach arall......dyna chwech;
pob tro yr ai i'r lloft yn pnawn, fe ddeuai Wendy lawr yn llawn,
a Phen yr Englyn ar fy ngwir, yn llenwi holl ysgolion sir.
Fe gafodd ddeg o blant i gyd, (hen anystywallt bethau'r byd),
a hitha fatha octopws yn bwydo'r treib heb fawr ddim ffws.
Ni ddwedodd Wendy erioed 'Paid', a magu plant fel tase raid
heb feddwl am yr ymdrech roed i ddod a'r byd 'ma at ei goed;
rhoi corff ac enaid at y gwaith o gynnal bywyd ffatri iaith.
Ynyr Williams8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Mor hoff yw ein camerâu
O fywyd llawn o feiau.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Mor hoff yw ein camerâu
i anadlu hen chwedlau
0 pwynt
Englyn - Tŵr
Tŵr oeraidd uwch Tryweryn- sy'n aros
yn arwydd di-derfyn
fod gwŷr tawel Cwm Celyn
yn eu lle dan ddŵr y llyn.
Gruffudd Owen9 pwynt
Englyn - Tŵr
(Twr yr Eryr, Castell Caernarfon)
Er treialon, ac er treulio'r meini,
er mynych storm arno,
saif balchder ei uchder o
yn ddi-hid heddiw eto.
Ynyr Williams9 pwynt
Telyneg neu Soned - Gwên
Ar ôl i ti adael roeddet ti yno
yn fwy nag erioed.
Wrth droed y gwely, gwelwn y ffrae honno
ar ei hanner, y geiriau olaf yn gwrlid mud.
Ac yng ngwydr y ffenest uchel ar y landing,
lle arferai'r byd sbecian i mewn arnom ni,
roeddet ti yn fan'no hefyd.
Dy lygaid wedi toddi rhwng y gronynnau tywod,
eu glas yn gymysg â'r golau
a lifai'r waliau'n wyn.
Llenwodd fy llwnc â'r llwch a gododd
wrth i ti gau'r drws
ac yn y llyfr, y llefrith, y gadair freichiau a'r gitâr
fe glywn dy wên, dy wên.
Casia Wiliam9 1/2 pwynt
Telyneg neu Soned - Gwên
(Breivik a phrotest gerddorol pobl Norwy)
Trwy brism o atgasedd
fe dybi
fod codi dwrn fel baril gwn
yn saethu'th neges eto
i'n hawyr glir.
Bod gweld dy wyneb yn crechwenu
o bob teledu
yn ein stelcian, fel bwgan,
rhwng brigau'r coed -
a'th gyffres ddi-dosturi
yn boer arall o fwledi
yn ein wynebau llwyd.
Ond unwn yn unllais heno
â'n hwiangerdd yn atseinio
uwch dy ben.
Yn suo ein doe i gysgu
a'n lapio ein gobeithion
mewn harmoni tynn.
Un genedl yn gôr o gadernid
- yn urddasol, fyddarol.
A'r felodi'n cyfansoddi yfory
fel enfys
trwy gawod o gyrff.
Ynys yn unig wyt
dan wybren las.
Mari Stevens
9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd - Amser ychwanegol
(Diwedd perthynas)
A'th gar yn hwylio'n araf - i'r düwch
o'r diwedd; gofynnaf
yn y gwyll, heno a gaf
eilwaith ein munud olaf?
Gruffudd Owen8 1/2 pwynt
CYFANSWM - 80 PWYNT
Englyn ar y pryd - Amser ychwanegol
Yn nhŷ annedd cyfeddach y Gymraeg
ym mar hwyr cyfeillach,
Meddwi ar boteli bach
yw'n haros am awr hwyrach.
9 pwynt
CYFANSWM - 79 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

