Y Talwrn - Y Gler v Ffoaduriaid
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'lyfo' neu 'lyfio'.
Y tric i'r heniaith bob tro
Yw cael ifanc i'w lyfio.
Eurig Salisbury9 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'lyfo' neu 'lyfio'.
Gin Nel ben-ôl ‟tha jeli-
Nel fach dew, dw i‟n lyfio chdi!
Gruffudd Owen8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'Mae rhai yn arafach na'i gilydd' (neu 'gily' neu 'gili').
Mae rhai yn arafach na'i gilydd,
A'r lleill yn gyflymach o'r herwydd,
Drwy drafod a thraethu
Rhesymeg fel hynny
Y 'nillais fy ngradd fel athronydd.
Hywel Griffiths8 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'Mae rhai yn arafach na'i gilydd' (neu 'gily' neu 'gili').
Mae rhai yn arafach na'i gili-
yr iâr yn arafach na'r milgi,
ond rhedeg ar wib
mae pawb sydd â'r bîb,
yn feuryn, yn fardd neu'n fawrhydi.
Gwennan Evans8 1/2 pwynt
Trydargerdd: Llythyr Cais.
Does gen i ddim profiad blaenorol,
Heb amheuaeth, rwy'n llwyr anghyfrifol,
Fi, felly, yn rhwydd,
A ddylai gael swydd
Rheolwr eich sefydliad ariannol.
Hywel Griffiths8 pwynt
Trydargerdd: Llythyr Cais.
Llythyr cais ar fore Nadolig
Annwyl syr, yn ôl y sôn - mae gennych
amgenach anrhegion
na hyn; ewch ar eich union
yn ôl i'ch sach. Diolch Siôn!.
Gruffudd Owen8 1/2 pwynt
Cywydd: Sioe.
('Had letter in post today with Mr Shane Williams MBE on it! Looks strange!' @ShaneWilliams11).
Ydi, mae'n od, mi wn i,
LOL hyd nes wyli,
Nes chwerthin ar dy liniau,
Chwerthin nes prin cael parhau,
Mae'n od am i ni o hyd
Yn griw dof gredu hefyd,
Gwir gredu fel Cymry call
Yn daer na châi gwlad arall
Dy reoli mor drylwyr
Ac ennill, ennill mor llwyr.
Mae'n od, Shane, am nad Sioni
Llwfwr oedd ein harwr ni.
Eurig Salisbury9 1/2 pwynt
Cywydd: Sioe.
Ar ei lwyfan, fe lanwodd
rith ein byd; roedd wrth ein bodd,
ac mor rhwydd oedd rigmarôl
y gŵr addfwyn, ffŵl greddfol
yn dilladu‟i dwyll wedyn
â sŵn dawns y sioe un dyn.
Ond yn ail act ei wacter,
roedd coluro‟r heno‟n her
nes syrthiodd y llen denau
a dwrn cas trap-dôr yn cau,
neb oll wedi dallt y bu
dan y mwgwd yn mygu.
Llŷr Gwyn Lewis9 pwynt
Pennill ymson mewn swyddfa
Bûm i, ym myd busnes, o hyd ar y blaen,
Er nad ydw i'n brysio nac yn teimlo'r straen,
Ac mae'r byd, o'm hôl, yn ymestyn rhagor,
Yn sownd mewn ciw ar gwt fy nhractor.
Osian Rhys Jones8 1/2 pwynt
Pennill ymson mewn swyddfa
Dwi'n cyrraedd y cyfarfod yn dra phrydlon
yn dewis sedd, yn derbyn te â gwên,
dwi'n sdydio yr agenda a'r cofnodion,
i ffwrdd â ni gan drafod yn llawn stêm.
Gruffydd Owen9 pwynt
Cân ysgafn: Diarhebion
Pobol o gyffelyb fryd
Sy'n gwneuthur chippins bach o hyd.
Fel y dwed fy modryb o Fasaleg,
'Adar o'r unlliw ... a dyr y garreg.'
Er mwyn cael lot o fwydydd melys
Rhaid i rywun eu gwneud yn garcus.
Fel y dwed fy modryb o Lansannan,
'Gormod o bwdin ... ni ddaw ei hunan.'
Os mai hir yw dy amserlen
Paid â phoeni, 'stedda lawr i ddarllen.
Fel y dwed fy modryb o Wlad yr Ha',
'Deuparth gwaith ... yw llyfr da.'
Os oes cŵn yn dy boeni, frawd,
Cer yn fore i wneud dy flawd.
Fel y dwed fy modryb o Lan-y-bri,
'Y cyntaf i'r felin ... dagiff gi.'
Mae diarhebion fy modrybedd
At ei gilydd braidd yn rhyfedd,
Heblaw am fy modryb o Frycheiniog
A ddwed mai 'Diwedd 'Y Gân' yw'r geiniog!'
Iwan Rhys9 1/2 pwynt
Cân ysgafn: Diarhebion
Dw i a phump o ferched, yn rhannu‟r un swyddfa ers tro.
Mae pob un wan jac yn reit annwyl, ac eto dwi jyst mynd o nhgo.
Dwi wedi dysgu llawer. Llawer gormod a deud y gwir
am ddirgel ffyrdd y merched, ar b‟nawniau poenus o hir.
Dwi‟n arbenigwr ar bethau na ddylai‟r un dyn byth mo‟u dallt
fel y gwahaniaeth rhwng lip gloss, a lipstic - a‟r ffordd orau o liwio fy ngwallt.
Dwi‟n gwybod maint eu bronnau, (neu o leiaf, maint eu bra).
Mae un efo ffetish bananas, ac un arall yn alyrjic i ffa.
Mae cariadon bob un „nôl bob tebyg, yn ddiog a‟n dda i ddim byd
ac mae‟n rhaid i mi lywaeth gytuno, ma felly mae dynion i gyd.
Mae un yn magu mân esgyrn - dwi‟n hapus iawn drosti, reit siŵr
ond dwi di cael mwy o fanylion na‟r geinocolegydd a‟i gŵr.
. Dwi‟n meddwl y gwnai ymddiswyddo, a chychwyn fy musnes fy hun,
Cewch gyngor materion benywaidd, a hynny gin hogyn o Lŷn.
Gruffudd Owen9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Mae rhai yn iau, y mae rhai yn hyn
Mae eraill fel y meuryn
.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Mae rhai yn iau, y mae rhai yn hyn
A hyn yw'r Glêr na ninnau.
0 pwynt
Englyn - Cadair
'Gwell ichi eistedd' meddai'r ymwelydd
Wrth ymhel â'i ragair,
Ond âi'n uwch ac uwch bob gair
Fy nghodwm yn fy nghadair.
Eurig Salisbury9 pwynt
Englyn - Cadair
Cadair drydan
Ni all ‟run jolt o‟i foltedd- na gwefrau
deialau‟i dialedd
na cherrynt ei holl chwerwedd
hawlio‟r byw yn ôl o‟r bedd.
Llŷr Gwyn Lewis9 pwynt
Telyneg neu Soned: Gwair
Pigai'r hadau bychain am ddiwrnodau
Gan wrthod dod o waelod 'sgidie gwaith,
Er imi eu hysgwyd roedd fy sanau'n
F'atgoffa bod yr haf a'r erwau'n faith.
Ar groen rhy feddal lle bu'r gwellt yn gras
Roedd briwiau'n llosgi'n goch, ôl haul a llwch
Yn gwrthod golchi ymaith, awyr las
Dros dir yn do a'r chwerthin arno'n drwch.
Heddiw clywaf sŵn y cynaeafau,
Dychmygu'r bois o bell yn troi i'r tes,
Golchwyd o fy nwylo ôl y creithiau,
Ond gwn, wrth droi i'r cysgod rhag y gwres
A chlywed grŵn peiriannau yn yr hwyr,
Na allaf fyth waredu'r hadau'n llwyr.
Hywel Griffiths9 1/2 pwynt
Telyneg neu Soned: Gwair
Fe ddois â radio fach a‟r papur bro
a llyfrau at fy nhad i‟r parlwr llaith,
chwaraeais bob un emyn ar fy ngho„
mewn ymgais i fyrhau ei aeaf maith.
Fe ddown o‟r parlwr godro‟n gynt a chynt
er mwyn cael ei ddiddanu gyda‟r nos,
ond nid âi dim â‟i fryd ond clywed hynt
a helynt fy ngweithgarwch ar y clos.
Ond pan ddaeth Mai, deffrôdd fy nhad â‟i des
a daeth rhyw lesni nôl i‟w lygaid llwyd.
Fe wrandai ar dractorau yn y gwres
a gwenu gan fod torf o gylch bwrdd bwyd,
a gwyddwn er na thorrai yr un gair
mai allan oedd fy lle, yn lladd y gwair.
Gwennan Evans9 pwynt
Englyn ar y pryd- Crys (Clwb Peldroed Caerdydd)
Rhai glas, was, a'u boliau'n wyn....?Do fe fyd?
Fe fu ar ein patshyn,
Fe wn i'n iawn, yn fan hyn
Adar coch, taid, o'r cychwyn.
8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 80 PWYNT.
Englyn ar y pryd- Crys (Arwyddo crysau ar ddiwrnod olaf ysgol
Cynnwrf a'r gloch yn canu-ond daw braw
O draed brain ein sgwennu;
er mai criw un lliw yw'r llu
unwn er mwyn gwahanu
9 pwynt
CYFANSWM- 79 1/2 PWYNT.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

