Y Talwrn - Aberhafren v Tanau Tawe
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Pasg'.
Ein Pasg sy'n anghofio pwy
yw'r Duwdod anghredadwy.
Mari George9 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Pasg'.
Y Pasg, a'r dasg yw disgwyl
Y rhodd gan Arglwydd yr Ŵyl.
Iorwerth Mort8 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - 'Mae miloedd ar filoedd yn gwybod'.
Mae miloedd ar filoedd yn gwybod
bod Dylan ar gael i bob steddfod,
ond draw yng Nghwmderi
y cash aeth i Ceri
i gadeirio pob math o ddihirod!
Ifan Pleming8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - 'Mae miloedd ar filoedd yn gwybod'.
Mae filoedd ar miloedd yn wybod
Bod teithi'r Cymraeg yn rhy gormod,
Ond wfft i'r threigladau,
A rhedeg y ferfau,
Yr iaith gaiff barhau heb atalnod!
John Evans 8 1/2 pwynt
Trydargerdd 'Cyngor'.
Ar ddiwedd yr awr dduaf,
nid yw'r geiriau gorau 'gaf
yn eiriau a gymeraf.
Aron Prichard8 pwynt
Trydargerdd 'Cyngor'.
Gwyddost am y ffordd dragwyddol,- ein Deddf
A'n Duw sy'n ddigonol,
Yn nawdd i ni'n feunyddiol,
Ond deil myrdd ar ffyrdd y ffôl.
Iorwerth Mort8 pwynt
Cywydd: 'Gweithredu'.
(Mae'n debyg fod bron i 5,000 o dafarndai wedi cau yng Nghymru dros y degawd diwethaf).
Tu ôl i'r bar mae'n aros
am gwsmer tan hanner nos,
yn prysur wylio'r oriau
ond ni ddaw ond un neu ddau
o leisiau o'r byrddau bach
a'r hen eco'n troi'n wacach.
Hyd yr hwyr, a'r llenni'n drwch
yn heneiddio'r llonyddwch,
fesul noswaith gobeithio
mae'n ddistaw y daw'r hen do
i alw yn eu holau,
nes i'r cur droi'n amser cau.
Rhys Iorwerth9 pwynt
Cywydd: 'Gweithredu'.
Aethost i orymdeithio'n
broffwyd o freuddwyd y Fro
Gymraeg. Yn dy gamre roedd
cân ryfel y canrifoedd;
ymgyrchaist, sôn am garchar
dros gaer dy hen filltir sgwâr ;
cwffiaist dros iaith y cyffyrdd,
adyn oet, a'th fyd yn wyrdd.
Gwyrthiol fu datganoli!
Prifddinas fras, swydd o fri ;
Ond clyw lef dy gynefin
Wrth fyw'n haws ar gaws a gwin.
Angharad Davies9 pwynt
Englyn ysgafn yn ymwneud â bwyd indiaidd.
Wiff o reis a jalffresi, yna gwynt
fel hen gig tandwri,
a jiawl, rhyw chwa o jili,
hyn a mwy yw Nan i mi.
Owain Rhys 8 1/2 pwynt
Englyn ysgafn yn ymwneud â bwyd indiaidd.
Golwyth o bechingalw - a gormod
O gorma, a 'nacw ;
Ein boliau'n gyrbib ulw
Yn y lein i vindilw.
Angharad Davies8 pwynt
. Cân ysgafn: 'Tri chynnig i Gymro/Gymraes'.
Ces gwymp cyn yr olympics draw yn Athen, wir i chi.
Ar ôl anafu 'nhendons, tynnu'n ôl fu'n rhaid i mi
rhag cynrychioli'n hynys yn y syncronedig swim -
bu'n siom go fawr i Brydain ac yn ergyd enbyd im.
Wyth mlynedd 'nôl oedd hynny ond rhoi 'mryd ar ŵyl Beijing
a wnes a dechrau trênio'n wâr fel wreslar yn y ring.
Cyn hir mi ges fy newis yn eu tîm o Saeson mawr
a wnai ddim byd ond rowlio a chofleidio ar y llawr.
O blith athletwyr daear, y mae rhai ar hyd eu hoes
a'u hanffawd fydd dioddef dim ond gwewyr, poen a loes.
Un nos wrth sgwennu englyn cefais gramp yn fy llaw dde,
a'm breuddwyd i gael wreslo yn Beijing aeth dros y lle.
Fe chwerwais ac fe wylais. Arnaf fi aeth pethau'n fain:
ni chawn fod yn Olympiad mor fyd-enwog â fy nain.
Eleni yn lle hynny gwirfoddoli'n enw'r Cwîn
a wnes i gludo'r ffagl fflam pan ddaw hi dros y ffin.
Ei chludo ar fy union i Ffestiniog yn y glaw,
ac yna i Gaernarfon, a'r gwylanod yno ddaw
i ollwng pethau gwlypion nes drwy wyrth ei diffodd hi,
a dyna fyddai'n llwyddiant mawr i Gymro bach fel fi.
Rhys Iorwerth8 1/2 pwynt
. Cân ysgafn: 'Tri chynnig i Gymro/Gymraes'.
Pan oeddwn i'n ferch ifanc,
Fe geisiais fachu bardd
A fyddai yn fy nghanmol
A honni 'mod i'n hardd.
Ond lodes arall aeth â'i gwên
'Da'r bardd tu ôl i'r Babell Lên.
Rhois gynnig ar Almaenwr,
Er mwyn perffeithio'r iaith,
Ystwytho'r is-gymalau
A dysgu'r eirfa faith.
Ond Fräulein arall aeth 'da'r Herr
I'r Goedwig Ddu am wac fach fer.
Ond llwyddais yn y diwedd
'Da'r athro gorau 'rioed,
Un hynod ymarferol:
Gwaith metel, a gwaith coed.
Sy'n profi, wrth im lacio'r staes,
Fod 'na dri chynnig i Gymraes.
Elin Meek8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Gwariwn ffortiwn ar y ffôn
Yn seiat negesuon.
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Gwariwn ffortiwn ar y ffôn
Ar rwydwaith ein cariadon.
1/2 pwynt
Englyn: 'Olwyn'
Er dy golur digywilydd, - ffoi yr wyt
o'r ffair ha', a chelwydd
dy ffrâm ddigalon, lonydd
yn hel dwst yng ngolau dydd.
Aron Pritchard9 pwynt
Englyn: 'Olwyn'
(Olwyn pwll glo sy'n gofeb i drychineb Senghenydd)
Yr olwyn na fedr halio - na throelli'n
Ei thrallod, ond gwylio
Uwch gwely oer llwch y glo ;
Hunodd Senghenydd yno.
Angharad Davies10 pwynt
Telyneg neu soned: 'Goleuadau'
Uwch y môr
a rhwng y sêr
yn hwyr un p'nawn
gwelais
liwiau o gyfrinachau
a rhedais adre
yn llawn o'r hud
sydd tu hwnt
i lygad camera.
Ac yn niwl tyfu'n hŷn,
cysgu'n dawel
o wybod
falle fod rhywun,
rhywle,
yn fy ngwylio i
o ffenest bell.
Y dyddiau pwysig hyn,
pesychwn ein ffordd
â'n traed digywilydd
hyd stryd gul
gwybodaeth,
sŵn amser yn ein clustiau
a gwaith yn ein dyrnau
heb weld dim ond
machlud blêr,
ac nad ydym
ond poer gwreichionen
yn y nos.
Mari George9 1/2 pwynt
Telyneg neu soned: 'Goleuadau'
Mae'r llanw yn goferu dros y bae,
A winc goleudy'r Mwmbwls ar y lli
Fel rhyw lythrennau côd o neges strae
A ddaw, er na fydd ateb iddi hi.
Mae'r llong i Gorc yn goelcerth lysg ar hyd
Hen lwybr Celtaidd ein cyndadau gynt,
A'r lleuad lawn yn gollwng perlau drud
Ar ddrych y bae rydd gysgod rhag y gwynt.
Er hardded yr olygfa sydd o'm blaen,
O ward ysbyty rwy'n ei gweled hi,
A holl dywyllwch taith mor llawn o straen
Sydd heno'n gwrlid tyn amdanaf i.
Ond hwyrach daw i minnau gysgod bae
Ac ateb rydd oleuni, yn lle gwae.
Elin Meek9 pwynt
Englyn ar y pryd- Pwyllgor Apêl
O gae i gae drwy'r gaeaf- at y tân
rhaid hel y coed lleiaf
dal i hel hyd deilio haf,
a hel tan ein hawst olaf
9 1/2 pwynt
CYFANSWM- 80 PWYNT
Englyn ar y pryd- Pwyllgor Apêl
Glofa Gleision
Gyda hyn, cronni ein punnoedd- a wnawn
Trwy haelioni'r cymoedd
Un fwy fyth o gronfa oedd
Casgliad afrad y dyfroedd
9 1/2 pwynt
CYFANSWM- 79 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

