Crannog V Tan-y-groes
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn.
Crannog

Tan-y-groes

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Calan'
Onid yw adduned wan
Yn cilio wedi'r Calan?
Hywel Rees.
8 1/2 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'Calan'
Mae Calan yn faban fydd
Yn oedrannus nos drennydd.
Wynford Jones
8 pwynt
TRYDARGERDD - Neges
(I'r arch-drydarwr Raymond Verheijen)
Rhy gynnar fu'r trydaru
Am swydd Rheolwr Cymru,
Ac mae'n rhy hwyr i ddweud ar goedd
Pwy ydoedd dewis Gary.
Idris Reynolds
8 1/2 pwynt
TRYDARGERDD - Neges
At 'Hyglyw', at 'Cyw', at 'Cwyn',
At 'Y Gân', at 'Y Gwanwyn':
Pryd i ddweud ein dweud ydyw
drwy droi'r Aifft yn drydar dryw,
ac aria a dry'n gorawl
â'r gân grac dan hashtag 'Hawl'.
Philipa Gibson
8 1/2 pwynt
CYWYDD - Troi dalen
(Wrth droi tudalennau llyfr Dic, 'Yr un hwyl a'r un wylo')
Fesul dalen dadlennwyd
Y filltir sgwâr lachar, lwyd
Lle ceir Arberth a chwerthin,
Ydlan gras a deilen grin,
Aroglau mwg a'r glaw mân,
Hytir trist a'r tro trwstan.
Un yw'r gilwen a'r galar,
Cynghanedd y bedd a'r bar,
Y dod a'r myned wedyn -
Barddoniaeth deuoliaeth dyn
Yn iro'n brint, a'r hen bren
Yn deilio fesul dalen.
Idris Reynolds
9 1/2 pwynt
CYWYDD - Troi dalen
Dihalog yw tudalen
y bore, lle i greu llên
fy nyfodol heb ôl bys
ddoe, hwyrach. Heddiw erys
i'w lenwi, a'i ddalennau
yn fawr eu her ... i'm llwfrhau.
Mae'r un fi'n creu'r un llinell
ddiogel heb hel un well
ei hawen. Fe'i 'sgrifennaf
'to ac yn inc heno caf
ddoe a'i ôl ar y ddalen
a 'fory 'nawr yw'r wawr wen.
Philipa Gibson
9 pwynt
Englyn yn enwi tegan
Er yn alltud o'r neilltu, - er na fu'n
Anwylyn y teulu,
Mae Hanes yn anwesu,
O'r newydd, y Ddolly ddu.
Dai Jones
9 pwynt
Englyn yn enwi tegan
Beunydd mae'r cof yn gofyn - "Pa le aeth
Y plant fu'n amddiffyn
Yn wych â phledren mochyn
Yn Ellan' Road Parc Glanrynn?".
Emyr Jones
9 pwynt
Cân - Drama'r Geni
Newidiwyd cwrs hanes yn yr ysgol eleni
Ym mherfformiad Wan Si o Ddrama y Geni.
Dim ond dau ŵr doeth ddaeth yno fel criw -
R'odd y llall yn ei wely yn diodde' o'r ffliw,
Felly cariwyd yr anrhegion o aur, thys a myrr
Mewn troli o Tesco o'dd a whilen yn fyr.
R'odd y syniad i ddechre yn swnio'n un sownd
Ond 'na gyd 'nath y troli o'dd mynd rownd a rownd
A fyny fry fe ddisgleirie y Seren,
Bylb deuddeg amp yn hongian ar weiren,
Er yn bictiwr bach hyfryd, ni ragwelwyd y ffrae
Pan ddaeth angel ar raff mewn a gweiddi 'Shwmae'
Ond ynghlwm yn y bylb aeth yr angel bach ffôl
A cha'l dau gant o volts i fyny'i ben ôl.
A lawr ar y llwyfan 'ro'dd saer coed mas o'i go'
A'i wraig - mam y baban - yn ei alw fe'n Jo.
Ac fe holodd yn daer wrth berchennog y tŷ
'A o's lle i un asyn a'n teulu bach ni?'
A'r tafarnwr - pŵr dab - erbyn hyn wedi drysu
Yn ateb 'Dewch mewn. Oes, mae lle yn y llety.'
Dewi Pws
9 pwynt
Cân - Drama'r Geni
Dim pip fe gawd o ddoethion, na seren lan fan draw,
Ond nyrs ar hen feic menyw yn pedlo yn y glaw.
Dim gwely gwellt fe welodd, yn lle roedd Bessi'n byw,
Ond Slumberland o fatras HP o B&Q.
Siomedig y bu Bessi yn ffaelu deall shwt
'Rôl gweu rhyw binc ddillatach, yn gwaeddu, 'Blydi crwt!'
Yn dala'r golau, Ifan, ei bachgen pedair oed,
Na welodd fath olygfa'n ei fywyd bach erioed.
Y baban yn dod allan, a slap rowd ar ei din,
A berodd hwnnw'i sgrechian fel clywyd llawer un.
'Wel, selfo'n leit', medd Ifan, 'fe wnest yn ddigon da.
Pwy fusnes o'dd 'da'r bygel bach i saco llan ffol 'na.'
Nawr, Wiliam a ddaeth adre, cyrhaeddodd jyst mewn pryd
I weled baban arall yn awr yn dod i'r byd.
Pa un oedd fod i gadw, yr oedd y cwestiwn mawr,
Pan trydydd ddaeth i'r golwg - roedd rhaid gwneud rhywbeth nawr!
Diffododd Wil y gannwyll a mynd i chwilio'r sach:
Medd, 'Tynnu am y golau, rwy'n siŵr, mae'r bygers bach.'
Arwel Jones
9 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell- 'Swydd hawdd, medden' nhw, yw meuryna'
Swydd hawdd, medde'n nhw yw meurynna
Os chwim yw dy ddoniau englynna,
Bu Gerallt Lloyd Owen
Yn feistr yr awen
Sai'n siwr am y boi sy draw fynna.
Dewi Pws.
9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell- 'Swydd hawdd, medden' nhw, yw meuryna'
Swydd hawdd, medden' nhw, yw meuryna,
Dim ond y goreuon â ffor' 'na.
Fel Tîm Tanygroes
Pob un â Rolls Royce -
Dim Crannog a'u beic gwelwn yma.
Arwel Jones
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Af i, ar mhen fy hun
Yn hwyr i brynu'r Meuryn.
Ateb llinell ar y pryd
Af i ar mhen fy hun
Ni welaf neb yn dilyn
1/2 pwynt
ENGLYN - Iet
Er i draul rydu'r hoelion, - er i'r pryf
Ddifa'r pren yn yfflon,
Mae 'na le ym mhen y lôn
I'w rhoi'n ôl ar hen olion.
Dai Jones
9 1/2 pwynt
ENGLYN - Iet
Dôi llaw rhwd y llawer haf - â'r gwendid
Mor gyndyn o araf,
Ond cau i'm gwanwynau wnaf
Ac i hiraeth agoraf.
Ann Richards
9 pwynt
Telyneg - Plu
Fe'i gwelodd droeon hyd y strydoedd cul
Yn sgwario'n dalog draw i sgwâr y dre,
Gan stampio'i falchder mewn esgidiau sglein
I fartsh y bîb a'r drwm - chwith de, chwith de.
A gwaedd y rhingyll eto ddaeth i'w chlyw.
Yn cyfarth siars teyrngarwch lleng i'r llyw.
Tynerach oedd y llw a wnaed un hwyr
Pan ddawnsiodd dau i felodïau'r nos,
Gan dyngu eu ffyddlondeb, gâr wrth gâr,
Heb feddwl unwaith am na ffin na ffos.
Ond trannoeth, crymai'n swp ar balmant tar,
A ffedog y gwaradwydd dros ei gwar.
Hywel Rees
9 pwynt
Telyneg - Plu
O, robin bach, fe ddaethost
Fel arfer at fy nrws;
Wel, dyma i ti damaid
O friwsion, dderyn tlws.
Ond heddiw ar fy nhrothwy
Ces dusw gwaed a phlu,
Cans daeth yr heliwr heibio
Â'i anrheg fach i mi.
Ann Richards
9 pwynt
Englyn ar y pryd- Tlodi Plant
Unwaith fe gaent eu synnu-a'u hudo
Gan y byd oddeutu
I fyw y rhamant a fu
Heddiw ni chânt ryfeddu
Owen James
9 pwynt
Cyfanswm - 81 pwynt
Englyn ar y pryd- Tlodi Plant
Yn ddi-stŵr yn eu sbwriel, arhosant
Yng nghreisis y rhyfel
Yn eu heisiau'n benisel,
Blant bach hên a'u bolien'n bêl.
Emyr Jones
9 pwynt
Cyfanswm - 80 1/2 pwynt
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

