Y Talwrn - Tegeingl v Criw'r Ship
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn ail rownd y Talwrn.
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'mai'
Gŵyr y doeth, er drwg er da
Mai'r henoed sy'n meurynna.
Moi Parri8 1/2 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'mai'
Fy mai gydol fy mywyd?
Rhoi pwysau ar bethau'r byd.
Gari Wyn8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - 'Rwy'n amau a wnaf i hyn eto'
'Di marw ges i fy nghremetio,
A chwalu fy llwch yn Llandudno,
Mae peth ar Foel Fama
A 'chydig yn fama
Rwy'n ama a wnaf i hyn eto.
John Gruffydd Jones9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - 'Rwy'n amau a wnaf i hyn eto'
Un diwrnod, mi gerddais o Nebo
I'r Wyddgrug mewn sgidiau stiletto,
Bwb tiwb a sgert ra-ra -
Un fer, fyny'i famma.
Dwi'n ama' a wnaf i hyn eto.
Arwel Roberts8 1/2 pwynt
Trydargerdd- Troednodyn
Nodyn byr ar bapur
'Na'r holl adawodd hi,
Ond mae cusan ar y gwaelod
A honno yw 'ngobaith i.
John Gruffydd Jones8 pwynt
Trydargerdd- Troednodyn
Criw'r Ship ydi enw y tîm, efo P,
Nid, fel yr awgrymwyd sawl tro, efo T.
Arwel Roberts8 1/2 pwynt
Cywydd - Troi
(Troi peiriant bywyd i ffwrdd)
Rwy'n hen a 'nghorff llawn morffin,
Rhy hir yw fy amser prin;
Gwanhau drwy munudau'r nôs,
Araf yw'r boen o aros.
Yn nwndwr fy mudandod
Nid byw yw hyn, dim ond bod
Mewn cawell o bibellau,
Yn gell o obeithion gau.
Pob curiad, pob eiliad bach
I mi sy'n ormod mwyach.
Yn y marw hwn, O! am ras
Am un i wneud cymwynas.
Marc Lloyd Jones8 1/2 pwynt
Cywydd - Troi
Rhyw awel dawel sy'n dod
heibio o'r isymwybod,
a llenwi hwyliau llonydd
efo'r su annifyr sydd
yn troi echel y felin.
Rhuo gwyllt rhyw ddraig o hin
sy'n gyrru'n ddidrugarog,
yn gorfod canfod pob còg.
Ac yn ddigymell bellach
sacheidiau o bethau bach
dwl y meddwl sy'n ymhèl
mewn stormydd tywydd tawel.
Nici Beech9 pwynt
Pennill Ymson - Mewn siop Cigydd
Roedd y cig ges i yma tro dwytha'
Y peth sala ges i ers blynydda'
Os na chai flas ar y mymryn afu
Mi fydd gen innau asgwrn i'w grafu.
Dafydd Morris8 pwynt
Pennill Ymson- Mewn siop Cigydd
Ar ôl derbyn profion cholesterol
Dwi wedi cael cyngor meddygol.
Dim selsig, cig moch,
Cig gwyn na chig coch.
Oes ganddoch chi opsiwn llysieuol?
Arwel Roberts8 pwynt
Cân Ysgafn - Prawf
Rhyw bryd yn ystod llynedd ces air gan y BBC
Roedd mawrion y pencadlys am drafod efo fi.
Es ar y trên yn fore ar hirdaith i Gaerdydd
Heb wybod beth a fynnent ond 'mod i'n mynd mewn ffydd.
Ac yno ces y newydd tu ôl i ddrysau cau
Fod Gerallt yn ymddeol a'u bod isio rhywun iau.
Pe gwnawn i lenwi papur prawf mi gawn y gwaith yn siŵr
"A chroeso", meddwn i yn syth, "y fi'n ddi-os yw'r gŵr".
Ces fenthyg beiro liwgar a stafell dawel glyd
A phapur prawf A4 deg tudalen faith ei hyd.
Es ati ar fy union ond rhaid cyfadde wir
Na wyddwn beth oedd toddaid, proest na rhupunt hir.
A'r cwestiwn lle gofynwyd am chwe odl i'r gair 'bro'
Ni allwn gofio dim ond un - a hwnnw ydoedd 'llo'.
Heblaw y papur prawf 'na yn fan'cw f'aswn i
Yn rhoi rhyw bump neu bedwar i rai ohonoch chi.
Ond cofiwch, pan ddaeth marciau'r prawf o swyddfa'r BBC
Mai dim ond hanner marc ga'dd Ceri'n fwy na fi!
Moi Parri8 1/2 pwynt
Cân Ysgafn - Prawf
Mi fyddai'n gallach tewi
Ond mae'n rhaid i mi gael sôn
Am griw sy' mor wahanol -
Lot gwaeth na phobol Môn.
Dwi ddim yn sôn am ferched
Na Saeson mawr eu sŵn
Nac efengyls na ffans Man U,
Ond am bawb sy'n cadw cŵn.
Ro'n i lawr yn Ninas Dinlle
Yn beicio ar y prom
Pan welais ŵr a gwraig a chi
A phentwr mawr o ddom.
"Aros di fan'na, cariad,"
Meddai'r ddynas wrth y ci.
Fel tae hwnnw'n mynd i ddeall
Bob gair ddywedodd hi.
Ond aeth ymlaen, a dyma'r prawf
O'u gwahanolrwydd nhw.
"Aros di fan'na, cariad,
Tra mae dad yn nôl bag pw."
Arwel Roberts8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Anodd iawn yw bod yn ddaA henwr yn meurynna
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Fe gawn ni gam yn famaAnodd iawn yw bod yn dda
1/2 pwynt
Englyn - Penderfyniad
(Cymun mewn capel bach)
Nid oes ond hanner dwsin ohonom
Heno ar ein deulin.
Daethom â'n cred gyffredin
I fyw'r Gair â phrofi'r gwin.
Marc Lloyd Jones9 pwynt
Englyn - Penderfyniad
(Marwolaeth 32 aelod o'r Gwarchodlu Cymreig ar long Syr Galahad 30 mlynedd yn ôl)
Geirwir a hir fu'r siarad, arafu
wrth drafod bob bwriad,
ac yna un datganiad
droes yn loes i werin gwlad.
Gari Wyn8 pwynt
Telyneg/Soned - Arfer
Rhyw gerdded heibio'r fynwent
Fu fy hanes i bob tro,
Doedd neb o'r criw cynefin
Yno'n gorwedd yn ei gro.
Pa les rhoi blodau'r Gwanwyn
I addurno'r pentwr pridd?
Rhoi harddwch mewn caethiwed,
O'i ryddid yng ngwyrddni'r ffridd.
Ond heno rhaid i minnau
Droi yma a chadw'r oed,
Mae Gwanwyn teirblwydd meddal
Yma'n gorweddd dan hen goed.
John Gruffydd Jones9 pwynt
Telyneg/Soned - Arfer
(Ebrill 2012)
Rhwng haul a hindda,
tyfu mae'r dillad ar y lein
rhwng peg a pheg.
Smwddiaf grych perffaith
trwy ddagrau'r stêm,
plygu i drefn.
Rhwbio nghariad yn sglein
i flaen pob esgid.
Gwisgo;
dy ben melyn
yn gwthio drwy'r crys tynn
fel aileni.
A'th brifiant
yn logo balch dy deirblwydd.
Llun,
a'th wên yn lwmp yn fy ngwddf.
Taith fer i'r ysgol
a'r buarth yn gwahodd.
Dwi'n dal dy law yn dynn,
a thithau'n gollwng.
Nia Môn9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd
Teiliwr
Y gŵr fu'n pwytho geiriau a rhithio
Hoff frethyn ei ddyddiau
O'i dorri daeth storïau
A berw'i oes i barhau
Huw Alun Roberts8 1/2 pwynt
CYFANSWM - 77 pwynt
Englyn ar y pryd
Teiliwr
Datod rhigol dynoliaeth - yna trin
brethyn trwm magwraeth
a nyddu i'n llenyddiaeth
un wisg o sidan a wnaeth.
Nici Beech8 1/2 pwynt
CYFANSWM - 77 1/2 pwynt
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

