Y Talwrn- Beca v Y Ffoaduriaid
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn
Beca

Y Ffoaduriaid

Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd 'rownd a rownd'
Troi rownd a rownd heb wrando
Yw tric y gwleidydd bob tro.
Cerwyn Davies8 1/2 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd 'rownd a rownd'
Rownd a rownd a rownd yr af
yn sydyn, wedyn chwydaf!
Gruffydd Owen8 1/2 pwynt
Limrig yn cychwyn gyda'r geiriau: "Mae'r hen bethau ifanc 'ma'n ..."
Mae'r hen bethau ifanc ma'n llwyddo
Er gwario pob noson yn clybio
Ac yfed fel ych
Pob tafarn yn sych
A throi mas fel Prifardd neu athro.
Rachel James8 pwynt
Limrig yn cychwyn gyda'r geiriau: "Mae'r hen bethau ifanc 'ma'n ..."
'Mae'r hen bethe ifanc 'ma'n anwar
Yn chwarae hen fiwsig aflafar.
Gwell gwrando ar lais
Dai Jones, Ar eich Cais,'
Teipiodd Nain, yn ei phais, ar ei thrydar.
Gwennan Evans8 1/2 pwynt
Trydargerdd - Ymosodiad.
Y gwaed
ar balmant oer ;
a staen y llygredd
yn gwenwyno'r tir.
Dim ond angerdd mam
allasai droi
gwewyr y dorch
yn llafn o olau.
Eifion Daniels8 pwynt
Trydargerdd - Ymosodiad.
Cei huodledd allweddell- i roi'r gân
ar goedd o dy gawell
y bôls i daro o bell
a'r gallu i droi'r gyllell.
Llyr Gwyn Lewis8 1/2 pwynt
Cywydd : Yr Oriau Mân.
Oriau o synfyfyrio
Ar farddoniaeth caeth y co';
Tawelwch rhag 'llwch y llawr'
I drydaru drwy deirawr
Ar wefan o gynghanedd,
A'r byd mor dawel â'r bedd.
Anwesu'r croes o gyswllt
A'i sain yn loyw fel swllt;
Holl rychwant y draws fantach
Yng ngole y bore bach.
Wedi hedd oriau diddig,
Yn nhŷ'r brain mae'n oriau brig.
Cerwyn Davies8 pwynt
Cywydd : Yr Oriau Mân.
Cywydd: Yr Oriau Mân
Fe drodd y gwin yn finag
tu ôl i wên potel wag,
a rhai mud yw'n horiau mân;
Diweddodd pob gair diddan
awr neu ddwy, neu hwy, yn ôl.
Ninnau guddiwn ein gwaddol
mewn corff am gorff yn ymgáu,
chwerwedd mewn dillad chwarae
yng nghoflaid llygaid llugoer,
a chau safn ar ein chwys oer.
Eto, fe ddaliwn ati
am mai hyn oll ydym ni.
Llŷr Gwyn Lewis9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell 'Yr wyt mor grêt, Mari Grug'
Mae dy wyneb, mae'n debyg - yn swyno
Ein sianel, rwyt hyblyg
A siriol, byth yn sarrug
Yr wyt mor grêt, Mari Grug.
Terry Reynolds9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell 'Yr wyt mor grêt, Mari Grug'
Er argoeli rhwygo helyg - o'u gwraidd,
ac er rhu'r gwynt sarrug
Siberiaidd dros y barrug,
yr wyt mor grêt, Mari Grug.
Llŷr Gwyn Lewis9 pwynt
Cân ysgafn 'Diwrnod y Gêm
Y cynllun oedd ca'l brecwast yng nghaffi Sami Gresh
Ac wedyn lawr i'r dafarn i ddechre ar y sesh,
Ond erbyn daeth bws Madway yn brydlon ar yr awr
We Twm a Dai 'di dal hi a'r brecwast ar y llawr.
Fe setlodd pawb i'w seddau, pob un yn rhannu crêt
Yn edrych mla'n i'r dwarnod a phawb mewn hwyliau grêt.
Dechreuodd Wil i ganu y 'Yellow Submarine',
Ond sacodd Twm genhinen bob cam i mewn i'w .... geg.
Bu angen sawl brêc cymffyrt â phledren pawb yn llawn
A golchwyd top y bws i gyd gan rhai oedd gyda'r ddawn.
Dechreuodd Jac neud mwni a'r gyrrwr aeth ar streic,
Wrth baso medd hen fenyw, "Lle da i barco beic"
Y rest o'r dydd, dwy'n cofio dim ond bo ni wedi joio
Ond bydde'r joio'n llawer mwy 'se'r gêm heb ga'l i chanslo.
Terry Reynolds9 pwynt
Cân ysgafn 'Diwrnod y Gêm
Dw i am rannu cyfrinach, a datgelu'r gwir
Am broblem bersonol a gelais mor hir.
Bydd yn dipyn o sgandal ar draws y gymdogaeth
Ond rhaid i chi dderbyn, mae'n rhan o'm cynhysgaeth.
Mae'n gas gen i rygbi, am ryddhad bobol bach
Nawr cewch fy alltudio neu fy moddi fel gwrach!
Ar ddiwrnod y gêm, dw i'n llawn esgusodion
Fy nhrwyn i mor hir wrth osgoi'r hen bêl hirgron.
Ond alla i ddim dioddef y ddinas a'i ffws
Y strydoedd ar gau a s'dim gobaith dal bws.
Byddai bywyd yn haws o wirioni run fath
Ond rwy'n cuddio'n y tŷ ac yn chwarae da'r gath.
Ond mae pws nawr yn pwdu. Wyf i'n anystyriol?
Ydy gweld y gêm yn un o'i hawliau dynol?
Rwy'n ildio i'w mewian, yn agor y ddôr
Ac mae'n llamu drws nesaf i weld beth yw'r sgôr.
Rwy'n unig a'm cyfaill bach olaf 'di mynd
Alla i ddim tanio'r teli na chwaith ffonio ffrind.
Os y'ch 'mysg lleiafrif, sy'n dioddef, fel fi
Cewch loches, a chroeso p'nawn gêm yn tŷ ni!.
Gwennan Evans8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Yn gall. os gwnawn ni golli
Newidiwn ein henw ni.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Newidiwn ein henw ni
Yr her yw plesio Ceri.
0 pwynt
Englyn 'Siom'.
Drwy'r hen reddf o drin yr iaith - y lluniaf
Waith llên sy'n orchestwaith,
Yna fe gwympa'r gampwaith
Heb un sail, a derbyn saith.
Eifion Daniels8 pwynt
Englyn 'Siom'.
Dim ond hen het a chetyn- yn gorwedd
yn y gwair, a phlentyn
yn clirio'r llanast claerwyn
enbyd o oer, lle bu dyn.
Gruffydd Owen8 1/2 pwynt
Soned : Y Waun.
Mi wn fod enwau perci er cyn co'
Yn destun dadlau a thrafodaeth frwd,
A rhywrai weithiau'n canfod hanes bro
Rhwng cloddiau Parc y Blaidd neu Barc y Ffrwd.
Ac yn y clytwaith enwau yn ddi-ffael
Bydd waun neu ddwy a'u brwyn yn pesgi'n braf:
Yr erwau coll gyfrifwyd yn rhy wael
I'w trin a chodi cnwd ar ddiwedd haf.
Ond ar y gweundir llwm mae'r perlau brau
Yn colli'r dydd dan bwysau'r gwarchae hir:
Y nwyf yng nghân yr hedydd yn prinhau,
Yr ias yng nghri'r chwibanwr yn cloi'r tir.
A diolch wnaf fod Weun ym Mharc y Blawd
I gyfoethogi llên fy Nghymru dlawd.
Rachel James9 pwynt
Soned : Y Waun
Waun Uwch y waun mae'r barrug distaw
yn gweu ei ffordd at fodiau 'nhraed;
daw pyst haul Rhagfyr yn dyrau, i dorri
ffin rhwng eiliad ac eiliad, a'r tir tawel
fel pe bai rhywun wedi dweud y drefn
am iddo feiddio bod mor hy trwy'r haf.
Gwn nawr fod hyder ein dyddiau lliwgar
ninnau hefyd wedi hen fynd yn hesb,
a'r newid mawr wedi naddu ei ffordd
heb smic i'r rhwyg rhwng dau.
Ond er mor dynn yw gafael gaeaf
mae pob asgwrn yn cofio'r gwres
a phob gwreiddyn hefyd yn gwybod
y daw o rywle awyr las, a'i frwsh
yn borffor ac aur hyd gaeau'n byd.
Casia Wiliam9 pwynt
Englyn ar y pryd- Bonws
Harry Redknapp
I'r unben 'anllythrennog'- y mae awch
 min am y geiniog,
Ond daeth trai a llai yw'r llog-
'own goal' yw cân ei geiliog
9 pwynt
CYFANSWM -77 PWYNT
Englyn ar y pryd- Bonws
Y dyn drwg, hwn yw'r bwgan-yn achwyn
ac awchu am arian
Y gwir, ar ddiwedd y gân;
Ynof y mae'r un arian
9 pwynt
CYFANSWM 78 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

