Y Talwrn -Ysgol Y Berwyn v Y Cŵps.

Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Boring'

Awr neu ddwy 'rȏl Sion Corn ddod
boring yw'r byd yn barod.

Arwel Emlyn
9 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Boring'

Ger tomen o hufen ia
Boring yw pwdin bara

Iwan Bryn James9 pwynt

Trydargerdd- Cyfaddefiad

Nid wyf yn hoffi twitter
Mae trydar inni'n rong,
Ond rhaid i mi gyfaddef
rwy'n hoffi'r Birdie Song
dy ry dy ry dy ry dy

Delyth Humphreys8 1/2 pwynt

Trydargerdd- Cyfaddefiad

Pedwar munud wedi chwech: newydd lwyddo'i daro rhech. #wiryr

Arwel Jones 8 pwynt

Cywydd- Hel Llwch

Nid tŷ gwag ydwyt i gyd,
na dyddiau'n llawn dedwyddyd;
wyt ogof o atgofion
yr wyt ddoeau'r lluniau llon,
wyt eiliad llawn tawelwch,
wyt anghyflawn, yn llawn llwch,
wyt lais byd y tlysau bach,
wyt dŷ o garu geriach,
wyt ymadael hen aelwyd
wyt y llawr sy'n goncrit llwyd,
wyt gartref byth a hefyd,
ond tŷ gwag ydwyt i gyd.

Arwel Emlyn9 pwynt

Cywydd- Hel Llwch

Wrth chwilio am hen luniau o fy merch sydd newydd droi'n ddeunaw.

Dyna hi, a'i deunaw haf
Heb eto eu byw; ataf
O'r llun, o fflach un ennyd,
Treiddia'i gwên trwy'r ddoeau i gyd.
Yn wefr yng nghyfnos Chwefror,
Yn llechu draw'n llwch y drôr,
Daw ei sêr o lygaid syn
Yn llachar drwy bob llychyn,
Y fonet gyntaf honno
A'r wisg werdd a aeth dros go'.
Heddiw'n hŷn o ddeunaw haf
Daw eto'r wên - a dotiaf!.

Huw Meirion Edwards9 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell' Yn yr Eagles aroglaf'

Yn yr Eagles aroglaf - hen winoedd
yng nghanol y gaeaf,
a phan mae'r blas ddiflasaf
blasu'r rhain sy'n bleser haf.

Arwel Emlyn8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell' Yn yr Eagles aroglaf'

Er gwarchae oer y gaeaf - yn y Llan,
A'r lluwch sydd amdanaf,
Yn yr Eagles aroglaf
Win a haidd atgofion haf.

Iwan Bryn James8 1/2 pwynt

Cân Ysgafn - Yr Ystafell Athrawon

Y giwed sy'n llechu o fewn ei muriau
Yw'r rheswm yn wir am ein holl broblemau.

Problemau cymdeithas, problemau rhyngwladol
I gyd yn deillio o wendidau yr ysgol.

Mae'r economi'n gwegian, rhaid gwneud arbedion
A'r lle i gychwyn yw cyflog athrawon..

Ac i leddfu'r pwysa' ar gost ein gwas'naethau
Yr ateb syml yw lleihau eu pensiynau.

Effaith Tŷ Gwydr a'r ddaear yn c'nesu
Wel ceir athrawon yw'r rheswm am hynny.

Mae Assad yn Syria yn dal i ormesu
Yn fwli na fu i'w athro'i ddisgyblu.

A ma helynt gwlad Groeg a gwledydd yr Euro
Yn siwr wedi deillio o flerwch rhyw athro.

Ond cyn i chi bwyntio eich bys yn gyhuddgar
A chodi eich llais yn y cȏr aflafar.

Pan fyddwch yn prynu eich papurau boreol
Fydd unwaith eto'n lladd ar rhyw Ysgol.

Wrth ddarllen a deall yr hyn sy 'di sgwennu
Diolchwch i athro am fedru gwneud hynny. .

Huw Dylan Jones 8 pwynt

Cân Ysgafn - Yr Ystafell Athrawon

Y Staffrwm

Roedd staffrwm i'r merched a staffrwm i'r dynion
Yn llawn oglau coffi yn Ysgol y Dre,
Ac yna, er gwarchod moes a diweirdeb
Roedd pellter reit barchus rhwng y ddau le.

Ond un pnawn dydd Mercher yng nghanol Mis Tachwedd,
Roedd Miss Tomos, Celf, yn teimlo'n reit brudd,
Ac aeth ar hir siwrnai at staffrwm y dynion
(Pwy feiddiai farnu, gan fod ganddi wers rydd)?.

Ac yn y fan honno darganfu Huws Miwsig,
Roedd yntau fel hithau a'i fyd yn ddi-liw;
A'r ateb i'r ddau, gan nad oedd neb yn y stafell,
A hithau'n bnawn Mercher, oedd ymroi i gael rhyw.

Pwy ddeui i wybod? Pwy ond y Gofalwr?
Roedd hwnnw yn stelcian o gwmpas y lle;
Ac ar ffôn symudol cofnododd y cyfan
Cyn trosglwyddo'r lluniau a'u rhoi ar y we.

Bu sgandal ofnadwy, diswyddwyd dau athro,
Bu lot o foesoli'n y Daily Express
Ond yna pan aned Wolfgang Picasso
Ni faliai' rieni un iot am y mess.

Dafydd Morgan Lewis 8 1/2 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell 'Pan fyddaf yn gadael yr ysgol'

Pan fyddaf yn gadael yr ysgol
A'r llywodraeth yn marcio : absennol,
byddaf oedran reit deg,
o gant a thri deg
fe fydd hi yn adeg ymddeol.

Erin Prysor8 1/2 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell 'Pan fyddaf yn gadael yr ysgol'

Pan fyddaf yn gadael yr ysgol
Gwnaf hynny yng nghwmni Miss Hensall.
Yn ei char siang-di-fang
Fe awn bang-bang-bang
Cyn rhedith ei thanc mâs o betrol.

Geraint Williams 8 1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

A henaint yn fy hanes
Yn ôl i'r ysgol yr es

0 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yn fraw i bob athrawes
Yn ôl i'r ysgol yr es

1/2 pwynt

Englyn- Tacluso

Mae'r cyfan yn diflannu - yr hen waith,
rhannau hoff o Gymru,
a'r tân sy'n cynhesu'r tŷ,
rwyf innau'n clirio'i fyny.

Erin Prysor9 pwynt

Englyn- Tacluso

Bwyell yw'n hangen bellach - yn yr ardd,
Rhaid ymroi'n gadarnach
I annog dull amgenach
O adfer ein border bach

Iwan Bryn James 9 1/2 pwynt

Telyneg- Gwydr

 haul y bore'n deffro'r wawr
Yn llawn o asbri dysg a dawn,
Nid ydoedd byth yn hanner gwag
Yr oedd o hyd yn hanner llawn.

 haul y dydd a'i danbaid wres
Yn llethu'n flin holl waith y pnawn,
Yr oedd o hyd yn hanner gwag
Nid ydoedd byth yn hanner llawn.

 haul yr hwyr yn gwenu'n wan
A'r gorwel pell yn agos iawn,
Nid ydyw n'awr yn hanner gwag
Mae unwaith eto'n hanner llawn .

Delyth Humphreys8 1/2 pwynt

Telyneg-

Gwydrau (3000 yn llai o siaradwyr rhugl eu Cymraeg bob blwyddyn)

Ar fwrdd bach crwn yng nghornel eitha'r
dafarn fechan hon, mae olion y gyfeddach.

Mae'r gwydrau hanner llawn yn aros gyda'r
bagiau creision gwag a'r briwsion

yn eu pyllau cwrw, blêr. A minnau'n fud,
mae sgwrsio diarth - diarth? - gwyllt y lle

yn gylchau'n gryndod yn fy ngwydr peint,
yn fatiau cwrw llipa, da i ddim. Efallai, wedi'r cyfan,

a hithau bellach yn stop-tap, fy mod yn gweld
y gwydrau hyn yn hanner - hanner? - gwag.

Dafydd John Pritchard .

9 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd- Tocyn

Ai antur a minnau'n brentis- yw byw
am bêl sy'n werth crocbis
neu ai Duw biau'r dewis?
nid yw Duw yn chwarae dis

9 1/2 pwynt

CYFANSWM - 78 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd- Tocyn

Argraffwyd ein breuddwydion, yna'u dal
yn inc du'r manylion
yn iasau bach newydd sbon
ac yn boeth gan obeithion.

9 1/2 pwynt

CYFANSWM - 81 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.