Y Talwrn - Tanygroes v Aberhafren
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'grant'
Iesu Grist, mae eisiau grant
Arnaf i ffermio'r Oernant.
Emyr Jones9 1/2 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'grant'
A oes grant all warantu
ernesau ein dyddiau du?
Llion Pryderi Roberts9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - 'Sdim ffermwyr yn byw yng Nghaerffili'
Sdim ffermwyr yn byw yng Nghaerffili
Ond eu caws sydd yn enwog, serch hynny.
Medd y mab wrth ei dad,
'Fe brynwn yn rhad
Y llaeth o gefn gwlad Aberteifi.'
Emyr Jones9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell - 'Sdim ffermwyr yn byw yng Nghaerffili'
O amgylch y castell yn cronni
mae rhywbeth sy'n smelo fel slyri,
mae tarddiad y sawr
yn benbleth go fawr;
sdim ffermwyr yn byw yng Nghaerffili.
Aron Pritchard8 1/2 pwynt
Trydargerdd - Ymbiliad
(Ymbiliad mewn nyth)
A'r hogiau'n ceisio rhagor ohono,
nid estynnaf groeso'r
llais teg dros rannu'r holl stôr
ond gwddw diegwyddor.
Philipa Gibson9 pwynt
Trydargerdd - Ymbiliad
Rôl torri, torri, Tori
mae ein byd 'di mynd i'r diawl,
ond byddem ni'n ddiolchgar
tasech chithau'n rhan o'r cawl.
Llion Pryderi Roberts9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Ffolineb
"Mae chwerthin yn ffolineb
gwirion, hurt!" - cosb 'Gu i'r neb
a ddôi â chabledd o wên.
Geiriau rhad tad i'w groten
oeddent, mor hen â phenyd.
Deuent o fynwent hen fyd
i fyw yn iach ar fin iau
eilwaith.
Ond 'nawr daw pyliau
pan gaiff 'Gu'i chwalu. Â'i cho'
yn degan, a'i diwygio
yn grechwen o groten grin
a'i phyliau'n wyrthiau chwerthin.
Philipa Gibson9 1/2 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Ffolineb
Rhois fy nghledr yn lledr ei llaw:
hi o ddifri mor ddifraw'n
rhannu'i barn am droeon byd,
am amheuon fy mywyd.
D'wedai'i bod yn gweld y bedd,
gweld Duw yn galw diwedd.
Dal i chwerthin wnawn innau
yn ddi-hid wrth iddi wau
cabledd drwy'i bysedd, nes bod
annog hon yn jôc hynod.
Eto, oddi yno'r es,
a'm gwên yn wên anghynnes.
Rhys Iorwerth9 1/2 pwynt
Pennill Ymson (mewn mydr ac odl) - Mewn llys barn
Er llaw a roes ar Feibil du
'Does yna neb a'm credaf i -
Gwirionedd wedi troi ei liw
'Does neb yn coelio fi a Duw.
Arwel Jones8 pwynt
Pennill Ymson (mewn mydr ac odl) - Mewn llys barn
Dwi'n crynu wrth barablu
yn siwt ail-law fy mrawd,
i bledio diniweidrwydd
ac aros am fy ffawd;
ond 'tydyn nhw'm ar unrhyw frys
wrth ddadansoddi'r dafnau chwys.
Owain Rhys8 1/2 pwynt
Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):
Hir pob aros
Hir aros bûm yn ifanc i gwrdd â meinwen hardd,
'Rôl priodi i wneud ymchwil fel Adda yn yr ardd.
Gael gweld beth sy'n wahanol rhwng hithau a myfi -
Dangosaf i yn gyntaf, a wedyn fe gei di.
Mewn gardd bu Efa'n disgwyl gael gweld beth oedd tu ôl
Rhyw ddeilen o ffigysbren 'da Adda tan ei gôl.
Daeth golau i'r dirgelwch pan chwythiad ddaeth drwy'r iet
A deilen y ffigysbren a blygodd nôl yn blet.
'Does eisiau dim esbonio'r canlyniad yn y man:
Llwyn Golden y Delicious sy' yn cofnodi'r fan.
Fel henwr nawr, rwy'n aros am y gyfrinach fawr
Ai esgyn gwnaf i'r nefoedd, neu crasu'n is i lawr?
O flaen y tân mae 'nghalon fel ar brynhawnau gwlyb
Wrth gofio'r amser dedwydd a pheint yn smocio pib.
Ac os daw Moses hebio'n ddibensen ar ei dro,
Ei enw rown ar lechen, ac fe gaiff dalu 'to.
Os daw tîm darts o'r nefoedd, Zacheus bydd refferî,
Caiff gadw sgôr ar goeden a'i lyfr cownts lan fry.
Hir aros rwy'n y gwely a weithiau bron tw lêt
I'r wraig i fynd i'r toiled i gael gwresogi'r sêt.
Arwel Jones9 1/2 pwynt
Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):
Hir pob aros
Fe gwrddais â Shirl o Gaerffili,
fore trannoeth, rhyw ofyn a wnes i
yn nerfa i gyd, 'Cariad bach, mae'n hen bryd'
i ti a mi feddwl am briodi.
Fe drefnwyd y brecwast a'r ddefod
a'm calon yn llawn o'r cyfamod,
a'r awr yn nesáu i'n huno ni'n dau
mewn iwtopia o wynfyd annatod.
Cyrhaeddais yr eglwys yn fore
i jecio bod digon o ole,
fe gyfrais ffenestri, y drysau, paneli
a holl hoelion sanctaidd y fangre.
Fe drodd y munudau yn oriau,
a'r oriau eu hunain yn ddyddiau,
trois innau yn welw, dechreuodd hi fwrw,
a'r gwynt 'di hen fynd o'r balwnau.
Ces wybod y gwir ymhen tipyn
am sgandal yr hen night yng Nghribyn,
daeth hync Aberteifi a chipio fy Shirley,
mi ga'i air efo'r Meuryn 'na wedyn!
Ifan Pleming9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Yn heulwen haf hawliwn ni
Lonydd i gael goleuni
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Yn heulwen haf hawliwn ni
Eiriau ffôl yng Nghaerffili
1/2 pwynt
Englyn - Grym
Yn ddierth i lif perthyn, ni wyddwn
am rym boddi'r deigryn.
Yn y loes, plymiaf drwy lyn
Annwfn dwfn mewn un defnyn.
Philipa Gibson9 pwynt
Englyn - Grym
Down adref i'w diniweidrwydd, i'w cân
a'u cynnwrf cyfarwydd,
i'r awr hir o chwarae rhwydd,
i dwrw, cyn distawrwydd.
Owain Rhys9 1/2 pwynt
Telyneg neu Soned - Anadl
Bu'r aer ei hun yn mygu dan holl drwch
Y pryder a'm hanwesai wedi'r clais
Gan ymgartrefu drosof nes hel llwch
A ffurfio cwrlid a roes daw i'm llais.
Ni welwn eisiau llais yng nghrombil caer
A drws a ffenestr wedi'u cloi rhag braw,
A'm cân yn drwm ei chwsg dan fyllni'r aer
Heb ddisgwyl clywed chwa yn galw draw.
Ond daethost ti a gwrthod fy osgoi
Na sylwi bod pob ffenest dan ei llen
Gan guro wrth fy nrws nes im ddatgloi
A disgwyl im ei agor led y pen,
A gwn yn iawn mai gyda thithau bydd
Fy nghân yn bêr gan gael anadlu'n rhydd
Philipa Gibson9 1/2 pwynt
Telyneg neu Soned - Anadl
Bu'r gwacter
yn dy ddisgwyl.
Gweld
siâp dy wyneb
ym mhob siarad.
A daeth
dy sgrech gyntaf . . .
mor gyfarwydd
â ddoe,
a ninnau
yn dy 'nabod.
Ac fe gipiaist ti rywbeth . . .
. . . rhywbeth
na wyddem ei fod gennym
o'r blaen.
Mari George10 pwynt
Englyn ar y pryd - Cyfieithu
Trysor gan William Morgan - a erys
Er ein gwerin wantan,
Heno'n ddarn a addurna'n
Tai hardd ar y silff pentân
9 1/2 pwynt
CYFANSWM - 82 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd - Cyfieithu
Ni yw'r anwar o uniaith - sy'n gwario
ar sŵn geiriau'r eilwaith.
Ar fantolen yr heniaith,
gwario ffôl i ail-greu ffaith.
9 1/2 pwynt
CYFANSWM - 83 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

