Y Talwrn- Crannog v Aberhafren
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'aur'.
Tegan drud, ond golud gau
Yw llo aur ein hallorau.
Hywel Rees8 1/2 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'aur'.
Haul a gwyd o blygiadau'r
amlen wen â'r cudyn aur.
Owain Rhys9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'Os nad yw e'n ormod o ffwdan'.
'Os nad yw e'n ormod o ffwdan'
Ebe'r cheff yn slei bach wrth y lleian
'Roi di gyfle i mi
Brofi nefoedd 'da ti?'
'Dim siawns' medde hi 'Dos i gwcan.'
Owen James9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'Os nad yw e'n ormod o ffwdan'.
Mi waeddwn, a d'wedyd, a datgan
mai'r Gymraeg ydy iaith Cymru gyfan,
ac y dylia, yng Nghymru,
fod pawb yn ei medru . . .
os nad yw e'n ormod o ffwdan.
Mari George 8 1/2 pwynt
Trydargerdd 'Rhestr siopa'.
Cyrri twym o Gastell Newy',
Dau bwys o briwns a ffigs 'di rhewi,
Deg tun o bîns i'm cadw'n iach
A phump rôl ar ugain o bapur tŷ bach.
Dewi Pws9 pwynt
Trydargerdd 'Rhestr siopa'.
Gwres dy wên a fflach dy lygaid,
'chydig bach o'th natur danbaid,
yna'r gusan sy'n creu gwreichion,
am hyn oll cei dân fy nghalon.
Owain Rhys8 1/2 pwynt
Cywydd - Cloddio
(I archaeolegwyr Castell Aberteifi)
Ewch at neuadd a gladdwyd
Dan dirwedd sawl llynedd llwyd,
Heibio'r ardd, heibio o raid
I oes hirsyth y Siorsiaid,
Heibio i styllen fu'n nenfwd,
Heibio i rants Barbara Wood,
Yn ôl i ganol y gân
A'r dygwyl yng Nghaerdwgan.
Wrth i'r cof fynnu gofyn
Yn lle'r oedd y lloriau hyn,
Ewch yn ôl a dygwch ni,
Faen wrth faen, i'r sylfeini.
Idris Reynolds9 1/2 pwynt
Cywydd - Cloddio
I gafn oer lôn gefn o hyd
yn ddistaw, fe ddaw'n ddiwyd
i'w gynefin o finiau,
hyd y stryd ar lwybyr strae.
Mynd drwy'r domen, drwy damaid
o hyn a'r llall, a thrwy'r llaid
gan wneud defod o godi
arlwy nos o'n sbwriel ni.
Ac ar y stryd fud, fe all
synhwyro noson arall
yn dod, o weld golau dydd
yn ei hela drwy'r hewlydd.
Aron Prichard9 1/2 pwynt
PENNILL YMSON - Ball boy yn Wimbledon
Yn chwys drabŵd â'u tuchan
Mae'r mynwod mor ddi-fanners,
A beth yw'r pwynt, cyn taro'r bêl
I'w stwffio lan eu nicers?
Dai Jones8 pwynt
PENNILL YMSON - Ball boy neu ball girl yn Wimbledon
Mae gan hon sydd o fy mlaen i
bâr o goesau eithaf pert,
yn wir, mi allwn dyngu
mai prin fodfedd yw ei sgert;
wrth gyfarch y chwaraewyr
mor hyfryd gweld y Cwîn
mewn bŵts ac owtffit sgimpi'n
dangos bochau crwn ei thin.
Rhys Iorwerth8 1/2 pwynt
CÂN YSGAFN - Slawer Dydd.
Ers talwm own i ddim yn ffindo'n hun
Ar y grisiau mewn penbleth mawr
Yn ceisio dyfalu os taw lan own i'n mynd
Neu yn hytrach yn dod yn ôl lawr.
Own i'n fachan eitha golygus a ffit
A llond pen o wallt, ond yn awr
Mae popeth amdana' i'n naill ai'n cw'mpo mas
Neu yn pwynto yn drist tua'r llawr.
Own i'n sefyll lan i fenywod
Ar y bws, - gŵr bonheddig o fri,
Ond erbyn hyn, pan wy'n dangos fy mhass
Ma'r jawled yn codi i fi.
Fi o'dd carwr y pentre sbel nôl
- A'r bois eraill i gyd yn flin
- Gwaith caled - o'dd rhaid imi ymarfer lot
Bob nos yn y tŷ wrth fy hun.
A, jawch, erbyn hyn rwy'n teimlo'n gryf
Y dylen i gael fy mharchu
Felly pan ddaw'r dydd i ymadael â'r byd
Sgwennwch rwbeth neis ar y'n arch i.
Dewi Pws9 pwynt
CÂN YSGAFN - Slawer Dydd.
Flynyddoedd yn ôl, tua un naw dau tri
daeth moto beic khaki i'n pentref bach ni,
roedd pawb 'di gwirioni ac eisiau cael go
a'r gwŷr am y gorau i fynd arno fo.
Roedd Jac Ifas siop yno'n ysu i drio
y peiriant mawr hardd, fel stalwyn yn sgleinio;
troi'r allwedd i'w ddeffro ac yna dau glic
a llamodd y stalwyn â chythraul o gic.
Ond Ifas y siop a oedd bell o fod barod
a dyma oedd dechrau ei drafferth a'i drallod,
rhoes naid ar y beic gan regi a gweiddi
'hei, aros y diawl dwi i fod ar dy gefn di!'
Ar ei ôl mi adawodd sawl cwmwl mawr gwyn
a'r pentrefwyr mewn sioc yn syllu yn syn,
rhu nerthol yr injan yn mynd yn dawelach
a sŵn Jac yn myned yn bellach a phellach.
Ni chlywyd dim wedyn tan un naw naw tri
pan ddaeth y beic adref i'n pentref bach ni,
â Jac arno'n tuchan a chwysu'n ddiferol
yn gant ac wyth oed, ac allan o betrol.
Ifan Pleming9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Hanner y gamp yw rhoi gwên
Hyfryd, at Aberhafren.
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Pan na ddaw i ni'r awen
Hanner y gamp yw rhoi gwên
1/2 pwynt
ENGLYN - Sgript
Nid ei fam, nid yr Aman, - roes eiriau'r
Oes Aur i'r un bychan,
Nid y rhai fu'n dweud eu rhan,
Ond ei enaid ei hunan.
Dai Jones9 pwynt
ENGLYN - Sgript
Er mai fy stori fi fy hun yw hon,
mi wn fod ei therfyn
a'i thynged, bob gair, wedyn
ar bapur rhyw Awdur hŷn.
Rhys Iorwerth9 1/2 pwynt
TELYNEG - Ffotograff
Edrychais mewn i'r golau
Yn filain o ddi-wên,
A daliwyd gwep yr eiliad
O'm corun lawr i'm gên.
A barnodd gŵr y tollau
Trwy nodio mai yr un
Own i, ar ben naw mlynedd,
Â'r wyneb yn y llun.
Idris Reynolds9 pwynt
TELYNEG - Ffotograff
Fe'm twyllwyd
gan yr haul
fod hyn am byth . . .
Daliwyd y gwrid
ar ein bochau,
y môr yn gorweddian,
petalau'n boeth ar fysedd
a hen wenyn
yn stond gan haf.
Af yn ôl
a gweld yr un gwenyn
yn brysur â'u persawr,
yr un blodau'n chwilio am awel,
yr un môr yn troi yn ei unfan . . . .
. . . a'r un haul
yn ein melynu.
Mari George9 pwynt
Englyn ar y pryd- Cadw Sgôr
(Gwlad Pwyl v Rwsia)
Drwy iet y frwydr eto- mi welir
Y milwyr yn martsio
At y cae, a chawnt y co'
Yn arswyd dros sgwâr
9 pwynt
Cyfanswm-80 pwynt
Englyn ar y pryd- Cadw Sgôr
Bu'n herwau'n chwifio baneri hwyliog
o dan haul mawrhydi,
ac afraid haf o gyfri;
â gwên wan, ein dreigiau ni
8 1/2 pwynt
Cyfanswm-80 1/2 pwynt
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

