Y Talwrn- Llanrug V Bro Alaw
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Clust'
Y glust a'r galon â glyw,
mam unig sy 'mhob menyw.
Richard Ll Jones8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Clust'
Fe wyddom mai clust fyddar
Yw'r to iau i'n geiriau gwâr.
Geraint Jones8 1/2 pwynt
Trydargerdd - Ymwadiad
(Tony Nicklinson i'w wraig)
I arch oer fe'm carcharwyd, - er yn fyw
rwy'n faich ar yr aelwyd.
Heb fraw, a'th law, agor glwyd
fy rhyddid, ni'm llofruddiwyd.
Richard Lloyd Jones8 1/2 pwynt
Trydargerdd - Ymwadiad
Os nad i chi mae'r neges
Dileer hi ar frys,
Mae'n gwbl gyfrinachol -
'Da chi isio landio'n llys?
Sian Owen8 pwynt
Cywydd- Dweud y drefn
A oes inni wir Senedd,
un a chlowt, a min i'w chledd,
yn daer, yn gaer nad yw'n gaeth
ym mrwydrau ymerodraeth?
Drwy y tir gweld codi'r tarth,
dod â'r swch dros dir Sycharth.
Rhoi trefn , llyfnhau'r tir ofnau,
had i bridd i'n gwlad barhau
mewn gwaith, ac iaith ac ethos,
dweud â ffydd sy'n gwarchod ffos.
Nid undeb fydd Prydeindod
dan drefn newydd ddydd ar ddod.
Richard Lloyd Jones8 1/2 pwynt
Cywydd- Dweud y drefn
Ffeinal Cwpan y Pencampwyr 2005
Ni bu waeth na Istanbwl
Na gêm a'n tîm dan gwmwl,
Ond o'r storm, y gwawd a'r stŵr,
Ar alwad y Rheolwr,
Daeth criw mud am funud fer
I'r ymson hanner amser
I'w llorio gan ŵr lloerig
A'u deffro drwy'i ddiawlio'n ddig.....
.....Tair i ddim a'r tîm llawn tân
Yn eu hyll yn troi allan
I'r ail hanner yn heriol
A throi y gêm â thair gôl!
Ioan Roberts8 1/2 pwynt
Englyn ysgafn - yn ymwneud â byd addysg.
Datganiad y Comisiynwyr.
Yr ydym â'n toriadau - yn ennill
miliynau i'r coffrau.
Llesâd yw'r arbediadau
i Fôn, a'u 'sgolion ar gau.
.
Dafydd Williams7 1/2 pwynt
Englyn ysgafn - yn ymwneud â byd addysg.
Mae llond llaw o athrawon - yn ddios
Sy'n ddiwyd genhadon,
A'r rhelyw, lledfyw a llon,
Yn ponsio nes daw'r pension.
.
Ioan Roberts8 1/2 pwynt
Cân Ysgafn - Rhwng Dau Olau.
Yn y ddawns â'r strôb yn fflachio
Gwelais ferch 'ro'n i'n ffansio;
Tra'n dwyn cusan yn y gwyll
Wnes i'm sylwi ei bod mor hyll - rhwng dau ola'.
Roedd yn gwisgo balaclafa,
'Do'n i'n gweld dim byd ond ll'gada;
Yn y nos y buo' ni'n caru;
Dan lamp stryd oedd wedi malu - rhwng dau ola'.
Priodi - gyda'r nos, mewn capal,
Gwisgai hithau het â chantal
Rhag i'r gw'nidog gael ei ddychryn;
Bron iawn i mi briodi'r forwyn - rhwng dau ola'.
Does dim plant, mae hynny'n fendith,
Ei genynnau fasa'n felltith;
Ddiwedd dydd rydw i 'di blino
Ar shift nos mae hi yn gweithio - rhwng dau ola'.
Tasa Gerallt yma heno
Yn ei gweld, gwn y rhoi o
Un shot ola'.
Dafydd Whiteside Thomas 8 1/2 pwynt
Cân Ysgafn - Rhwng Dau Olau.
Yr anifeiliaid ddim yn deall
Pa fodd collwyd draenog arall
Er mwyn tawelu eu pryderon
Cafwyd cwest a galwyd tystion.
Er fod canllawiau wedi eu gosod
Nid oedd rhain yn rhwystro'rtrallod
Cwningod, malwod ddaeth i dystio
Fod y draenog wedi gwrando.
Roedd pawb yn deall y rhybuddion
Am y priffyrdd a'u peryglon
Ac os oeddynt am oroesi
Pwyll oedd pia'i wrth eu croesi..
Pe deuai car a'i lampau'n olau
Leinio rhwng y ddau f'ai orau
A gorwedd lawr yn fflat a thawel
Ar y lôn a fyddai'n ddiogel.
Ac wedi gwrando'r holl dystiolaeth
A chael achos y farwolaeth
Er cadw pob un ddeddf o'r cychwyn
Methodd nabod car tair olwyn!
Geraint Jones9 pwynt
Limrig - 'Dyn dewr sydd yn mentro proffwydo'.
Pan ddaw hi yn adeg pleidleisio
Ai'r un sydd yn gall ac yn gwrando,
Neu'r dyn fwyaf treisiol
Yw'r un gaiff ei ethol?
Dyn dewr sydd yn mentro proffwydo.
Robin Cragg8 pwynt
Limrig - 'Dyn dewr sydd yn mentro proffwydo'.
Dyn dewr sydd yn mentro proffwydo'
Beth ddaw o helyntion yr hacio,
Ond mae si yn Llangefni
Mai achos trybini
Fydd Tyrbeini i'r Pwyllgor Cynllunio.
John Wyn Jones8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Dos i weld a oes y hyd
Enfys uwch byd o wynfyd
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Dos i weld a oes o hyd
Enfys ac eto wynfyd
1/2 pwynt
Englyn - Cyfrifoldeb
I fyd y Cantrefi hyn, - y mae'r môr
a'i rym mawr yn ddychryn.
Ac mae sicrhau'r dorau'n dyn
yn waith anodd , Seithenyn.
Dafydd Williams9 pwynt
Englyn - Cyfrifoldeb
O'i arddel rhaid dychwelyd, eto'n ôl,
At ein awch a'n delfryd
I greu o winllan grawnllyd
Tynged iaith, afiaith o hyd.
Richard Parry Jones8 pwynt
Telyneg/ Soned : Cysgod neu Cysgodion
Bob bore
gwasgaraf fy nhafell ddyngarol
i'r selogion
a ddaw yn eu gwendid
at lawnt eu cymun.
Yn betrusgar
daw'r 'deryn tô, a'r dryw
i bigo cynhaliaeth.
Er amrywio amser yr oedfa,
yn reddfol
o'u cuddfannau daw y brain
i hawlio'i cyfran
a thaflu cysgod
dros lawnt y cwrdd.
Maent hwy hefyd yn 'blant i dduw'.
Yn foreol,
danfonai'r byd eu tafellau
i Ethiopia a'r Sudan.
Yno hefyd deuai'r brain
i fynnu cyfran
o'r briwsion
a byw'n hael
uwch sgerbydau 'plant i dduw'.
Mae i ddynoliaeth
fel natur,
greaduriaid y cysgodion.
Richard Lloyd Jones9 pwynt
Telyneg/ Soned : Cysgod neu Cysgodion
Beth ydyw ar y pared
Sy'n edliw wrthai'n hy'
Am wendid, am rhyw broblem
Sy'n bygwth muriau'r tŷ?
Fin nos, yng ngwyll blinderau;
Ben bore, yno mae -
Rhyw arlliw yn y gornel
 siâp annelwig gwae.
Ond pam rwy'n mynnu sylwi
Ar rimyn llwyd fel hyn?
Brycheuyn bychan ydyw
A'r wal yn gynfas gwyn.
Sian Owen10 pwynt
Englyn ar y pryd- Cyllideb.
Dowch gyfoethogion llon yn llu - ar draul
lleihau'r dreth, i ddathlu.
Iechyd da! Mae George o'ch tu;
nain y tylwyth sy'n talu.
9 pwynt
CYFANSWM- 76 PWYNT
Englyn ar y pryd- Cyllideb.
Er addo rhoi cefn i'r eiddil-paham
rhoi pwn ar ein gwegil
a'n hannog i fyw'n gynnil
A'u mêts yn cael trigain mil.
8 pwynt
CYFANSWM- 77 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

