Y Talwrn- Ffostrasol v Y Gler

Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'cwrs'

Egina cwrs y Gwanwyn
A'r Wlad Gwsg dan gwrlid gwyn.

Jim James8 1/2 pwynt

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair 'cwrs'

I ginio gydag Annes
Pedwar cwrs heb sgwrs a ges!

Iwan Rhys8 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell - 'Na fentrwch lan mynydd Llanllwni'

Na fentrwch lan Mynydd Llanllwni.
Heb ddigon amdanoch medd Beti
Rhowch gorden reit rownd
A'i chlymu yn sownd
Neu'r gwynt aiff a phoeth sy da chi.

Jim James8 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell - 'Na fentrwch lan mynydd Llanllwni'

Na fentrwch lan Mynydd Llanllwni
Rhag ofn troi yn fardd neu yn lŵni ...
Daeth holl dîm Ffostrasol
I lawr yn wahanol -
Pa gyflwr yn hollol, ys gwn i?!.

Eurig Salisbury8 pwynt

Trydargerdd- Canlyniad

Nid yw hi yn becso dam- ac ar ôl
Noson grêt'da Abram
Yn gwneud lot o wirota
Mae Lleucu yn prynu pram.

Dai Rees Davies8 1/2 pwynt

Trydargerdd 'canlyniad'

I'r gamblwr

Y gêm yw live ods y gŵr - risgio byw
Ar Sky Bet yw'r cynnwr',
Am fod cred y dyledwr
Yn synnwyr siawns yn rhy siŵr.

Eurig Salisbury9 1/2 pwynt

Cywydd- Canu'n iach.

Mam a Nhad..

Rwy'n ymadael. Mae, ymhell, le gwell ar
gael i un sy'n digalonni ac yn glaf. Ni fynnaf
I ail-fyw'r eiliad ofnadwy. Nid mewn byd
mae 'mywyd mwy. Ni ddaeth drwy'r fagddu
eithaf un bore wawr na haul braf, i nos oer
fy hanes i. A nawr â'r gwaed yn oeri, rwy'n cau.

Cysuron y co'ddaw atoch

Cawn gwrdd eto.

Dai Rees Davies9 1/2 pwynt

Cywydd- Canu'n iach.

Deuai ym mhob rhyw dywydd
i barhau â'i defod brudd
yn ei ffedog ddiffwdan,
camu o'r tŷ o wres tân
i godi llaw, ysgwyd llwch
o ddwylo ei heiddilwch.

Troi at yr iet â rhyw wên
a waedai dan ei haden
i ffarwelio eto'r oedd,
a dweud â'i defod ydoedd.

Hywel Grifftiths9 pwynt

Pennill Ymson- Mewn arholiad.

Ar ôl y frawddeg gynta
Mae'r cyfan oll ar stop,
A'r unig beth sy'n gywir
Yw f'enw ar y top. .

Emyr Davies8 1/2 pwynt

Pennill Ymson- Mewn arholiad.

A oes raid wrth esboniadau
Geiriau marw'r diffiniadau
Pan fo'r blagur gwyn ei hunan
Ar y pren yn dweud y cyfan?.

Hywel Griffiths9 pwynt

Cân Ysgafn - Achub y blaen.

Uchelgais mawr fy mywyd, bod yn gynghorwr sir,
'Roedd gen i'r cymwysterau i gyd a dweud y gwir,
Sef mod i'n eithaf dioglyd, a mod i'n brin o sens,
A chadw mas o drwbwl trwy eistedd ar y ffens.
'Roedd angen nawr canfasio, fe fyddai'n lot o straen,
Cyn gynted a oedd bosib; cael achub ar y blaen.
Cyhoeddais faniffesto yn addo yr holl fyd,
Er nad oedd gennyf fwriad i'w gadw yr un pryd.
A llun mewn lliw o'r teulu yn ôl cyn oes Tadcu,
A'u canmol i'r cymylau, er bod sawl Dafad ddu.
Cyn bod y lleill yn galw a rhag i neb gael cam
Fe ddysgaig siarad Saesneg, mewn acen Birmingham.
Rôl prynu siwt cynghorwr, R'un lliw a lliw y car,
Ac yna yn y Leion, rhoi siec tu ôl i'r bar.
Ymwelais a'r etholwyr o fore tan yr hwyr,
Er byddwn ar ôl llwyddo'n eu hanwybyddu'n llwyr.
'Rwyf nawr yn gwbwl ffyddiog pan ddaw hi'n ddydd y pôl
Mae ar y blaen y byddaf, a'r lleill i gyud ar ôl.
Ac os daw ambell feuryn a chais am godi Tŷ,
Bydd Marc bach ychwangeol, yn gymorth coeliwch fi.

Emyr Davies9 1/2 pwynt

Cân Ysgafn - Achub y blaen.

Rwy'n fardd ar ôl fy amser, rwy'n credu hynny'n llwyr.
Rwy'n gallu creu barddoniaeth wych, ond gan amlaf braidd yn hwyr

Y broblem yw bod beirdd eraill o hyd yn achub y bla'n
Ac yn llunio'r union linellau, weithiau flynyddoedd o 'mla'n.

Dechreuodd hyn oll wrth im weithio ar fy awdl gyntaf un,
Pan feddwn dalent plentyn i weld llais a chlywed llun.

Fe weithiais i soned i'r cadno a welais naw deg metr o'r grib.
Profiad parlysol. Digwyddodd, darfu, megis seren wib.

Rwy'n cofio ystyried hen bethau anghofiedig dynol ryw
Tra'n 'mestyn am dâp John ac Alun oedd yn sownd dan y sgiw.

A lluniais awdl Gwaddol ryw awr ginio yn nwy fil a thair,
Cyn clywed bod rhywun eisoes 'di sgwennu fy awdl, i'r gair!

Ar lunio cerddi heb gael clod, rwy'n dechrau digalonni:
Myfi'n bugeilio'r gwenith gwyn ac arall yn ei fedi!

Daeth tasgau'r Talwrn eto ac es ati i ddechrau cân
Ond sut ydw i i fod i wybod a luniwyd y gân 'ma o'r bla'n?

A dyma benderfynu rhoi'r ffidil yn y to
A pheidio ceisio llunio unrhyw farddoniaeth byth 'to.

Ond wedyn daw Awen o rywle i lunio cân newydd sbon,
Duw a'm gwaredo, Feuryn, ni allaf ddianc rhag hon!

Iwan Rhys10 pwynt

Ateb llinell ar y prydNi wnawn ni hyn ond un waith
Holwn efallai ond eilwaith

0 pwynt

Ateb llinell ar y prydNi wnawn ni hyn ond un waith
A'i gofio gydag afiaith

1/2 pwynt

Englyn- Cenfigen.

Dwy das yng nghae asyn- Nadu un
Sy'n dannod pob sopyn
O'r saig i'w bartneres syn.
Ni fwyta chwaith, rynfytyn!

Gareth Ioan8 pwynt

Englyn- Cenfigen.

Mae eu hangen eleni mor llafar,
mae'r llif eto'n cronni
eu hyder nhw, a'n dŵr ni
i'w gweniaith yn digoni.

Osian Rhys Jones8 pwynt

Telyneg/Soned- Cwrdd.

Dau Iddew syn ymlwybrant tua thre',
Gan lusgo'u traed a'u llygaid tua'r llawr;
Ac anodd ganddynt gredu clonc y dre
Am hynt eu proffwyd yn yr Wythnos Fawr.
Dieithryn a gyderddodd gyda'r ddau
Gan ail esbonio'r Torah ar eu taith.
Wrth dorri bara gyda'r nos yn cau
Fe wawriodd arnynt fod eu ffydd yn ffaith.
A ninnau ar ein llwybrau man bob dydd,
Prysurwn ar ein ffordd o fan i fan
Heb godi'n golwg o'r petheuach sydd
Yn llenwi'n llygaid pwl mewn ffair a llan.
Gwyn fyd y rhai mewn gŵyl a gwaith a chwrdd,
Wêl wenau Crist mewn wyneb wrth y bwrdd.

Gareth Ioan9 pwynt

Telyneg/Soned- Cwrdd

Yn yr ardd wag lle loetrai'n harddegau,
yn rhegi'r moelni ac yn gwatwar y muriau,

yr oedd adwy y buom yn borthorion arni;
yn ddau ŵr bachgennaidd yn drachtio poteli

cyn chwalu'r gwydyr, sychu'r geg â'r llawes,
chwerthin yn deilchion a chwydu â chyffes.

A phwy, fel fi, a feiddiai ofyn pam,
pan neidiaist ti'r mur â rhyw gyffur yn dy gam?

A bellach, wrth fesur amser mewn erwau
a chyfri dieithrwch gyda hen wynebau,

mae ynof yr un adwy fel 'tae'n 'gored o hyd,
a'r cyfan yn aros, a ddoe yn ddim byd.

Osian Rhys Jones9 pwynt

Englyn ar y pryd

Cwffio Cawell

Â'r twrw fel rhu taran,- dau geiliog,
Dau galed sy'n cecran;
llabystiau ar goesau gwan,
Dieffaith strabs San steffan

9 pwynt

CYFANSWM -78 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd

Cwffio Cawell

I hen dalwrn dau elyn-daw'r adar
I waedu am grystyn,
Yno daw'r ystadau hyn
I wado'n llafar wedyn

9 pwynt

CYFANSWM-80 pwynt

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.