Y Talwrn - Beirdd Myrddin v Y Rhelyw

Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn

Beirdd Myrddin

Beirdd Myrddin

Y Rhelyw

Y Rhelyw

Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd - 'mis bach'

Daeth mis bach yn iach â'i wawr
I ddenu diwedd Ionawr.

Catrin Gwyn8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd - 'mis bach'

Un dydd, ond sawl dyweddi:
baich o aur fy mis bach i!

Karen Owen 8 pwynt

Trydargerdd - Ymddiheuriad

Yn awr rhoi ymddiheuriad yr ydwyf
am drydar yn wastad.
Yn oes y we dwi mor sad,
Dwi'n sori nad wy'n siarad.

Aled Evans8 1/2 pwynt

Trydargerdd - Ymddiheuriad

@rethreg yr wythdegau. Dichon y bu bradychu i gau lawr pyllau glo y Cymry a rhoi taw ar lawr y Tŷ - ond Dennis sy'n dweud hynny.

Geraint Roberts 8 pwynt

Cywydd (dim mwy na 12 llinell): Gafael

(y gêm olaf ar Barc y Strade)

Fe glywaf yr haf o hyd
yn eglur trwy'r dorf gryglyd
a gafael hen atgofion
yn nhwrw yr erw hon.
Clywed Dad ac Wncwl Dan -
dau wythwr glew am doethan;
a'u sgwrsio ddaw eildro im
yn dyner fel lliw denim.
Ond o'i lawes daw Louie*
â'i gerdyn melyn i mi,
i'm hel yn dawel ar daith
o'r fan lle bu'r haf unwaith.

Aled Evans9 pwynt

*Louie oedd un o gefnogwyr chwedlonol y Scarlets a arferai grwydro o amgylch ymyl y cae yn tynnu ar y dorf ac yn herio ambell un trwy ddangos cerdyn coch neu felyn. Megis Wali Tomos, un annwyl ond gwirion oedd.

Cywydd (dim mwy na 12 llinell): Gafael

A dyn, o raid, ar ei daith
un oes, fe dyrr, ryw noswaith,
ei grib ar ochor dibyn
a chyrraedd ei waedd ei hun.

Morol am wyrth ymwared
ar graig ysgrythur ei gred,
a chael, ar ôl y chwilio,
bader i'w betruster o.

Fe fydd, i'w arbed wedyn,
yn dal wrth y gleiniau'n dynn
o'i fodd, er nas gŵyr ei fyw
ai edau ai rhaff ydyw.

Mari Lisa 8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys term mathemategol

Cais yr ifanc i'r henoed

Dewch â chân eich doeau chi - ar y daith
sydd ar dân eleni,
dewch i adfywio'r stori
a rhannu iaith ein nawr ni

Catrin Gwyn8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys term mathemategol

Mewn undod mae nerth

Rhown un at un i wneud dau - yna'u trin
a'u troi yn ugeiniau;
â mil o lu'n amlhau
lluosi a wna'r lleisiau.

Geraint Roberts 9 1/2 pwynt

Cân ysgafn (dim mwy na 20 llinell): Y Dosbarth Cynghanedd

Rhyw noson 'sha 'nôl' o ran tywydd, os ydwyf yn cofio yn iawn
oedd y noson yr es i i'r dosbarth, i weld a oedd gen i ryw ddawn!

Es yno a'm mreichiau yn llwythog, geiriadur, a llyfr gan ryw foi
yn sôn am 'Anghenion Cynghanedd' - rwyf yn credu mewn paratoi!

Pren mesur i danllinellu, a chopi o eiriadur mawr Bruce,
i brofi holl eirfa'r athrawon, er mwyn gweld a ŷnt o ryw iws!

Un naddwr, Tippex, a dau bensil, un beiro, a phapur gwyn glân,
odliadur heb eto ei agor, eisteddais, a'r pentwr o'm mlân.

Wrth setlo yn rhes ffrynt y dosbarth, (dau brifardd cadeiriol a fi),
estynnwyd i bawb air o groeso, a chroeso arbennig i mi!

Fe gerddodd rhyw gyffro reit drwof, dechreuais 'sgrifennu'n ddi-oed,
tan i'r Prifeirdd ddechrau dweud pethau mewn geiriau na chlywais erioed!

Daeth sôn am glywed yr acen, a minnau yn gweiddi 'ym mhle?'
i mi nid oedd drwm nac yn ysgafn, ac yn gwrthod a setlo'n un lle!

Rhwng y 'Llusg' a'r 'Groes a'r Draws Fantach a phwy yn y byd , medde chi
feddyliodd am 'Groes-o-gyswllt?' Mae'n swnio'n beth poenus i mi!

Symudodd y wers yn go gyflym, o'r cwpled, i'r cywydd mewn tro,
tra mod i 'n dal i gwrso'r hen acen, oedd yn mynnu chwarae bî-bo!

Ar noson aeafol o Dachwedd, mewn dosbarth na fues o'r bla'n,
roedd y tywydd a minnau'n reit debyg - yn mynd mwy 'sha nôl' na 'sha mlân'!

Beti Wyn James8 1/2 pwynt

Cân ysgafn (dim mwy na 20 llinell): Y Dosbarth Cynghanedd

Pan anwyd Ceiriog Tegenglyn Huws
fe wyddai ei fam nad oedd hi ddim iws
ei anfon i UNRHYW ysgol gyffredin
ac yntau yn hanu o deulu Taliesin:
a mynnai ei fam-gu, gyda balchder a gwên,
mai hen-daid ei hen-daid ydoedd Llywarch Hen.

O'i dyddiau cynnar 'roedd hi'n amlwg a rhyfedd
fod gan yr un bach holl ddoniau'r gynghanedd.
Darllennodd Cerdd Dafod Syr John Morris Jones
cyn ei dynnu o'i gewyn a'i ddodi mewn trôns;
symudwyd fel teulu'n un swydd o Gaeredin
i'r crwt ymaelodi'n Ysgol Farddol Caerfyrddin:

A bu disgwyl eiddgar i farnu ei ddoniau
yn llunio englynion a rhaffu cywyddau...
Ond syndod fu darllen ei englyn PUM llinell
a'i gywydd DEG sillaf o rhyw gyfrin ffynhonnell!
Fe ddysgodd y geiriau. Ond ni ddysgodd gyfri'.
Mae defnyddio y degbys yn ddawn i'w meistroli.

Dafydd Williams8 1/2 pwynt Dafydd Williams

Limrig yn cynnwys - Mae rhai'n bwrw bai ar hyfforddwyr

Mae rhai'n bwrw bai ar hyfforddwyr,
ar feirdd a chantorion a garddwyr,
ar dywydd tu fas,
a'r angen am ras,
Peth diflas yw gwrando ar gwynwyr.

Beti-Wyn James 8 1/2 pwynt

Limrig yn cynnwys - Mae rhai'n bwrw bai ar hyfforddwyr

Beirdd Myrddin fu'n ofer lafurio
i'r Talwrn cyn gorfod ffarwelio;
mae rhai'n bwrw bai
ar hyfforddwyr, a llai
ar y rhai fu'n cystadlu... fel heno.

Harri Williams 9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Nid oes i weld ond y sêr
A'u dwyn a wnaf yn dyner

0 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Heno, gwanach yw Gwener
Nid oes i'w weld ond y sêr

1/2 pwynt

Englyn - Swyddfa

"Swyddfa'r" Amaethwr
Mae hon yn noeth o foethus, yn mesur
y misoedd yn drefnus;
cadw crefft mewn poced crys
a'i ydlan yn bencadlys.

Meirion Jones9 pwynt

Englyn - Swyddfa

Y ffôn Blackberry

Mae gair a llais yma gerllaw'n - ddi-oed
yn ddesg ar ddeheulaw,
yn estyn ffeiliau'n ddistaw
a minnau'n llwyr mewn un llaw.

Geraint Roberts 9 pwynt

Telyneg neu Soned - Cymwynas neu Cymwynasau

Cymwynas

Amhosib rhoi medd y baban
Ormod o sylw i un bychan,
Paid ag ofni treulio'r p'nawn
Yn syllu syllu ar wyneb llawn.

Amhosib rhoi medd y plentyn
Yr hyn na chefais byth mo'i dderbyn,
Paid â'm gadael yn amddifad
O 'mynedd pur a llond côl o gariad.

Non Vaughan Williams8 pwynt

Telyneg neu Soned - Cymwynas neu Cymwynasau

Cymwynasau

Mae ambell enaid sydd ddim yn dallt
y curo bron a'r rhwygo gwallt,
y rhegi mwyn a'r holi hallt:
mae ambell un sydd ddim yn dallt

mai'r hyn a wnawn ni am oesau hir
ydi cynnal seiat efo'r gwir
a cheisio smwddio'r nos yn glir:
a dyna wnawn ni am oesau hir

yn lle bodloni ar fynd a dod
rhwng nef ac uffern sydd ddim yn bod
dim ond am mai dyna fuo'r nod:
dim ond bodloni ar fynd a dod...

oherwydd y mae yna rai sy'n dallt
yn cynnal seiat efo'r gwir
yn lle bodloni ar fynd a dod.

Karen Owen9 pwynt

Englyn ar y pryd- Rhaglen Taro'r post

O law i law fe gawn glywed un si
neges wan ddiniwed
O law i law aiff ar led
Yn air i daro'r pared

Heddwyn Jones8 1/2 pwynt

CYFANSWM - 76 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd- Rhaglen Taro'r post

Pwy arall ond y pared,- i'n hoes ni
a'i sŵn hurt, sy'n clywed?
Y cyfan wrth Dylan dwêd
a rhoi'r waedd yn dy drwydded

Mari Lisa 8 1/2 pwynt

CYFANSWM - 78 1/2 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.