Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'gwydr' neu 'gwydyr'
Dros Gymru gyrru wna gwŷr
I'r gad, 'rôl gwagio'r gwydyr.
Hywel Griffiths9 1/2 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'gwydr' neu 'gwydyr'
Er rhinwedd sypiau'r grawnwin,
Dreigiau ŷnt mewn gwydyr gwin.
Gareth Williams9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'Rhyw syniad go od gafodd Iolo'
Rhyw syniad go od gafodd Iolo
Fyddai'n atal ei wallt e rhag britho:
Cyn gwir sylweddoli
Bod ffugio barddoni
Yn ei foeli e'n fwy na'i fendithio.
Osian Rhys Jones8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell 'Rhyw syniad go od gafodd Iolo'
Rhyw syniad go od gafodd Iolo
Efallai fod Meinir yn actio
Er mwyn bod yn sicr
Nad smalio oedd Meinir
Fe fagiodd o drosti hi'r eildro
Gareth Jones9 pwynt
Trydargerdd - Cyfarwyddyd neu Cyfarwyddiadau
Eu hangen: acen; heniaith; odlau; bag sillafau (7).
1. Tro'r ddalen.
2. Cytsh mewn pen.
3. Paid â swnian.
4. Cym' gytseiniaid a'u gosod.
5. Diweddglo da.
(cywydd: ¥ Ikea)
Eurig Salisbury9 1/2 pwynt
Trydargerdd - Cyfarwyddyd neu Cyfarwyddiadau
Yn garcus, gosodwch yr hwrdd
Ar wastad ei gefn ar y bwrdd
Cyn stwffio'r torpido
O'r golwg i'w dîn o
A rhedwch yn bell bell i ffwrdd
Gareth Jones9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Camp
Â'r ddaear mewn harmoni,
Athletwr, ni thâl iti
Godi twrw na swnian,
Gwena'n driw a gwna dy ran
Yn y gobaith maith mai hon
Yw dy awr, gwena'n dirion
A phaid, wir, paid o'r podiwm
Gwyro, wir, dy war yn grwm
Na dal dy faner dy hun
Os cei di hi'n wisg wedyn.
Ni thâl iti, athletwr,
Galon dân fel un Glyndŵr.
Eurig Salisbury9 1/2 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Camp
Brigdonnwr yn Aberdaron
'Dim iddi ond naid,' meddai,
'Hynny a lwc, fwy neu lai -
amneidio 'mhen, dyma hi
y don, a mynd amdani.'
Ond trwy wydr y gwesty traeth,
y rhai 'wylia'i reolaeth
ar ewinfedd diwedd dydd
a wêl linell storm lonydd
y gleidiwr, ei sigliadau
yn ddirgel, ac a wêl gau
ar gynffon y brigdonnwr,
gyrlen rhedynen y dŵr.
Myrddin ap Dafydd9 1/2 pwynt
Pennill Ymson - Stiward
Mae'n ŵyl lle chwaraem ni, y tir wast
Dan ein traed yn gloywi,
A'r East End yn troi'n trendi ...
Be' ddwedai nain, ys gwn i?
Hywel Griffiths8 1/2 pwynt
Pennill Ymson - Stiward
Heddiw pan rowliodd y nionyn anferthol
gan anafu dau a lladd tri o bobol,
mi o'n i'n gneud asesiad risg o'r sioe,
ella basa'n well 'swn i 'di neud o ddoe.
Huw Erith9 pwynt
Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell) - Araith y Llywydd
Diolch i chi am y gwahoddiad i gael bod yn Llywydd y Dydd.
Ie, fi yw Lord Cwmboncyn - yr un lwyddodd i fynd yn rhydd.
Ydy, mae'n nice cael bod yma, yng Nghwmboncyn, unwaith 'to,
I weld yr hen wynebe - yr un hen wynebe bob tro.
Mae'n dda 'mod i'n gallu dod nôl 'ma i gefnogi'r steddfod fach.
Mae'n siŵr bod fy enw ar y poster yn cadw'r ticket sales yn iach.
Mae'n syndod i mi bod Eisteddfod Cwmboncyn yma o hyd;
Rwy'n cofio dod yma yn grwtyn, a dysgu pethe pwysig y byd.
Tra oedd y plant eraill yn canu ac adrodd a gwneud rhyw gleme,
Ro'n i'n astudio'r Financial Times, wedi'i guddio mewn llyfr emyne!
Do, fe wnes i lwyddo. Llwyddo'n arbennig iawn.
I greu miliynau di-ben-draw mae'n wir bod gen i ddawn.
Ac wrth ddod nôl i Gwmboncyn, rwy' am rannu'n hael ofnadwy -
Na, nid fy nghyfoeth helaeth, ond cyngor amhrisiadwy.
Dyma fy neges i blant y cwm, ac i'w plant, ac i blant eu plant:
Mae pethau pwysicach yn y byd nag adrodd a chanu cerdd dant.
Ac na phoener am galon hapus, calon onest, calon lân;
Mynnwch gael bywyd moethus, aur y byd, a'i berlau mân.
Ac fel hyn rwy'n cynnig gobaith i bob croten fach a chrwtyn.
Gadewch y cwm, ac fe allwch chi fod yn rhywun, fel Lord Cwmboncyn.
Iwan Rhys9 1/2 pwynt
Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Araith y Llywydd
Y Llywydd oedd wrthi'n areithio a'r dorf wedi'w hoelio yn llwyr
Pan syrthiodd o'i wely wth fowio, Go dam! roedd o deir-awr yn hwyr!
Cychwynodd â thân yn ei berfedd, anelodd y car lawr y stryd
Gan gydio'n y llyw efo'i ddannedd tra'n gwisgo ei drowsus r'un pryd
Fe saethodd fel roced o'r pentra' tra'n shefio'i flew bach yn y drych
Doedd ond wedi gwneud dan ei glustia pan redodd y cerbyd yn sych
Fe fodiodd o'r car yn ei slipas. Dychwelodd yn laddar o chwys
A streips coch a gwyrdd ei byjamas i'w gweled yn blaen dan ei grys
Fe'i 'restiwyd tu draw i Lanelwedd gan heddwas ger fymryn o dro
Am yrru tra'n brwsio ei ddannedd ac i ffwrdd am y stesion â fo
Y Chief sychodd ddagrau y Llywydd. Roedd yntau yn Saer ac yn Rhydd
A'n wir, yr oedd ganddo hofrennydd i fynd a fo'i lawr i Gaerdydd
Y bwriad oedd hofran fel 'hedydd r'ôl cyrraedd y stadiwm yn saff
A gollwng y Llywydd yn gelfydd i lawr ar y llwyfan ar raff
R'ol siwrne ddychrynllyd o sydyn i lawr am y maes daeth y ddau
Bu raid iddynt godi n'ôl wedyn r'ôl gweld fod y to wedi'w gau
Roedd y dyrfa'n petruso'n aflonydd a'u llygaid i gyd ar y meic
Ond yna daeth si fod y Llywydd 'di cyrraedd o Rhws ar gefn beic
Fe ruthrodd o'r diwedd i'r llwyfan. Y dorf oedd yn gecrwth a syn
A'i jiamas a'i dafod o allan dechreuodd, yn fyglyd, fel hyn...............
Gareth Jones9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Gwn o hyd fod well gen i
Heniaith nag aur eleni
Ateb llinell ar y pryd
Gwn o hyd fod well gen i
Eiriau mwyn mewn har-moni
1/2 pwynt
Englyn - Dawns
(wrth fagu Lleucu)
Os yn wyllt, noson o haf, y dawnsia
I diwns nas deallaf,
Am un nos ailgamu wnaf
I oes aur ein waltz araf.
Hywel Griffiths9 1/2 pwynt
Englyn - Dawns
(Lledodd Dawns Ysbrydion fel diwygiad drwy lwythau brodorol America yn 1890 cyn y lladdfa olaf yn Wounded Knee)
Curent, bob mam a phlentyn, - ar ddaear
Arwyr ddoe'n un llinyn
I roi'n nos yr esgyrn hyn
Enaid mor goch â'r croenwyn.
Gareth Williams9 pwynt
Telyneg - Galw Heibio
Nid am fod yn angof ddagrau'r bachgen
na'r pen-glin ji-bach fu'n benthyg ei hwyl;
nid am fod stori sydd heb ei gorffen
ar erchwyn gwely y mae cadw gŵyl
mor chwithig. Ac os dof i docio'r chwyn
neu i ailglymu'r tusw sy'n grïau'n
y gwynt, ni chaf ond carreg oer fan hyn
yn dal pen rheswm â'm mebyd innau.
Ond am ei bod yn aros wrth fy nghefn,
a minnau'n synhwyro o le i le
bod angel, pan fo'r nos yn dweud y drefn,
yn codi'r niwl rhwng y gogledd a'r de;
a'n bod eto yn rhannu'r lôn a'i chraith,
a mi a Mam yn dilyn yr un daith.
Osian Rhys Jones10 pwynt
CYFANSWM - 74 1/2 PWYNT
Telyneg - Galw Heibio
Gyda'r llanw i'r cei bach, ar ôl i'r tawch
blinedig blygu'r faner rownd y polyn,
lle'r oedd myllni'r pnawn heb fawr o awch
i yrru pwysau'r don i flaen yr ewyn,
dyna pryd, a gwylanod gwawd yn gry
a rhwyd y smwclaw rhwng y gweld a'r gorwel,
pan ddôi'r nos dan fol y cwmwl du
yn nes, a phan oedd chwerthin plant yn dawel,
y cododd enfys, pont o'r môr i'r tir -
bwa o'r bae'n cribinio'r llwyd o'r llygad
ac o tani, ffenest o liwiau clir
a thrwyn pob cwch yn troi at ffrwd y lleuad;
pwll trai o olau, hyd yn oed pan aeth,
yn dal i chwyddo ar gadach gwlyb y traeth.
Myrddin ap Dafydd10 pwynt
CYFANSWM - 74 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

