Y Talwrn- Manion o'r Mynydd V Talybont

Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Dewi'

Mewn brwydr, collasom ein bri;
Yn dawel, llwyddodd Dewi.

Nia Powell9 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Dewi'

Un hwyr, aeth Dewi drwy'r drain;
Bachwyd ei bethau bychain!

Gwenallt Llwyd Ifan9 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell 'Mae rhai byth a beunydd yn cwyno'

Mae rhai byth a beunydd yn cwyno
Mor dda ydi Ceri am sgwrsio,
Ond gwell fyddai beirniad
Mwy cynnil ei siarad,
A llawer mwy afrad wrth farcio.

Edgar Parry Williams

8 1/2 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell 'Mae rhai byth a beunydd yn cwyno'

Mae rhai byth a beunydd yn cwyno,
Ac eraill trwy'u bywyd yn danto,
Yn ddyddiol mae carfan
Yn achwyn a chonan,
Yn bersonol rwy'n tueddu i fecso.

Phil Davies8 1/2 pwynt

Trydargerdd - Hysbyseb

Hysbyseb ar gyfer fferm sy'n agored i ymwelwyr

Profwch hwyl y llwch a'r llaid
A baw, sy'n dod yn ddi-baid
O foliau'r anifeiliaid.

Nia Powell7 1/2 pwynt

Trydargerdd - Hysbyseb

Yn eisau, Arweinydd â golwg glir,
sydd yn ddieithriad yn dweud y gwir,
a chroen fel eliffant maes o law
wrth i'w gyfeillion ei sathru yn y baw.

Phil Davies7 1/2 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cam Gwag

Y mae ein hoes yn mwynhau
Chwilio baw a chael beiau,
Un gwall, a dyna golli
Am y rhawg weddill fy mri,
Un staen nad oes ei dynnu
O edau wen, blotyn du
Un eiliad o gywilydd
Sy'n estyn i derfyn dydd,
Ni ddaw 'run maddeuant
O law cenhedlaeth fy mhlant
Deillion, sy'n dystion distaw
Mewn byd sydd yn mynnu baw.

Nia Powell9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cam Gwag

(o glywed y newyddion bod Prins Wiliam yn cael ei anfon i'r Falklands a hithau'n union 30 mlynedd ers y rhyfel yno)

Dros gomin ein gwerin gaeth
hogwn arfau'n perchnogaeth,
a gyrru draw gŵr o dras -
Wil o Fôn i'r Malfinas.
Ei ddewr griw sydd ar grwsâd
i ymliw dros ein mamwlad
iddo gael, etifedd gwâr
yn atgof ynys wlatgar.
Ein hanian sy'n ei linach
lawn gwrhydri'r bwli bach,
i roi 'nôl ar ryw dir neb
o weundir, Jac yr Undeb.

Anwen Pierce9 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell 'Yn y Bala bu holi.

Yn y Bala yn 1873 y cynhaliwyd y treialon cŵn defaid cyntaf yng ngwledydd Prydain. Ac yn y Bala yn 2002 y cynhaliwyd treialon cwn defaid cyntaf y Byd.

Yn y Bala bu holi, pwy yw'r un
â'r praidd all feistioli
y nôl, hel a'r didoli?
Dyna gamp y dyn a'i gi.

Tudur Puw8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys y llinell 'Yn y Bala bu holi.

Yn y Bala bu holi - y Manion
O'r Mynydd am Ceri.
"Dyn anwar, fel bob cardi!"
Maen nhw'n neis iawn mynnais i.

Phil Thomas8 1/2 pwynt

Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned): Blwyddyn Naid.

'Does dim yn arbennig am flwyddyn naid
Dim byd sbeshal, dim byd o raid.
Tydi'n ddim ond mistêc gofodol blêr
Pan roedd Duw wedi blino wrth drefnu'r sêr.
 fynta'n edrych 'mlaen am benwythnos rydd
'Roedd y pwysau 'mlaen amser te'r chweched dydd.
'Run pryd fe gawliodd bethau sawl gwaith
Fel creu gwybed, a rhoi i'r Saeson eu hiaith.
A rhoi cyfle i fenyw i rwydo ei gŵr -
Camgymeriad mawr oedd hynny'n siŵr.

Ond bu un digwyddiad pwysig iawn , coeliwch fi
Ym mlwyddyn naid 1956 fe'm ganed i.

Cynan Jones8 pwynt

Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned): Blwyddyn Naid.

Mae rhai yn derbyn cacen wrth ddathlu eu pen-blwydd,
ac eraill yn cael pancws a jeli, sydd yn rhwydd
ar stumog wan i'w llyncu'n gloi,
ond profiad arall gafodd Roy.

Yn anrheg gan ei deulu fe awd ag ef am dro,
i andros o barc antur, ymhell o'i annwyl fro,
ag yntau'n dathlu'i hanner cant,
fe'i dwyllwyd i gael diwrnod bant.

Ac yno yn ei ddisgwyl roedd teulu rhif y gwlith,
Ewythrod a chefnderwyr, pob modryb, brawd a nith,
Am ddiwrnod, wedi dod ynghyd
I ddathlu gyda Roy Tŷ Clyd.

Dechreuodd bawb ymgynnull yn ymyl ceunant cul
A dyna pryd wnaeth Royston styfnigo megis mul,
Wrth weld y cortyn lastig blêr,
Yn cael ei glymu rownd ei ffêr.

Gan nad oedd modd cachgïo, fe neidiodd Roy o'r top,
A'r bynji wnaeth ei arbed rhag taro blaen ei glop.
Ac er bod Royston nawr yn daid
Wnaiff gofio am byth ei flwyddyn naid.

Phil Davies8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Y mae'n wir fod rhai'n mwynhau
Y gwir o'i roi mewn geiriau

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Y mae'n wir fod rhain mwynhau
ein gwaelod yn y golau

0 pwynt

Englyn: Ffeil (Bywyd)

Naddu talent y plentyn, - yn ei le
Rhyw lanc o ddieithryn
Naddu hwn, ac wele ddyn,
Naddu nes gweld hen wreiddyn.

Phylis Evans8 1/2 pwynt

Englyn: Ffeil

Ffeil - Neges e-bost i'r Meuryn

Llediais drwy fy mand llydan - y feirws
farwol i bob cuddfan
yn dy beiriant bach gwantan;
mud fydd dy sgrin yn y man.

Gwyn Jenkins8 pwynt

Telyneg neu Soned: Sibrwd / Sibrydion.

"Sibrydion".

"Clywch clywch",
y gân yn hepian
dan gwrlid cynnes
y dail mawr gwyrdd.
Nodau'n impio ym mhlethiadau'r egin
a strymio'r diwn.

Yn asiad y brigau
clywch siffrwd yr alawon yn "Mynd a Dod",-
yn sibrwd eu harmoniau
yn symffoni ysgafn.

Hyd nes i furmur y geiriau tawel
"Ddiasbedain"
Yn fonllef o rwysg
drwy'r gwifrau.
A'r gân yn gerdd.

Nia Powell8 pwynt

Telyneg neu Soned: Sibrwd / Sibrydion.

"Sibrydion y wasg".

Rhed nant y cyfrwng drosom
a'n trochi â delweddau.
Data'n rhaeadru drwy'r strydoedd
gan wlychu'r palentydd â phrint.
Byddarwyd ni gan sibrydion
fesul
diferyn.
Ac yno, fel dail ar don
llywiwyd ein meddyliau gan y llif.

Ac eto, oddi tanom,
Mae 'na ambell i eog
yn llamu rhwng abwyd a rhwyd.
Yn brwydro yn erbyn y llif
a dychwelyd,
i lonyddwch y rhyd.

Phil Thomas8 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd- Bws.

Hir yw'r lôm trwy'r ffenestr Iaith-af fy hun
Eto fyth ar gylchdaith
A dim ond cydymaith
Yn dod am ryw ddarn o'r daith.

Nia Powell
9 pwynt

CYFANSWM- 77 PWYNT.

Englyn ar y pryd- Bws.

Traws Cambria.

Y lôn hir ar lan Iwerydd- a gwyll,
yn y gân aflonydd
ar y daith i dref Caerdydd
'gwyd hiraeth am gitarydd.

Gwenallt Llwyd Ifan9 1/2 pwynt

CYFANSWM- 76 1/2 PWYNT.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.