Y Talwrn - Caernarfon v Manion o'r Mynydd

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'cais'

Mae i hwntw sawl mantais
dros y gòg wrth drosi'i gais.

Llion Jones8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'cais'

Mae 'na sawl cais a'i gleisiau
yn y briw dyfalbarhau.

Tudur Puw8 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell - 'Rôl mynd nôl i Flaenau Ffestiniog'

Rôl mynd nôl i Flaenau Ffestiniog
Mae Glyn yn greadur cynddeiriog:
Nid am fod neb o fanno
Yn casau'i steil cyflwyno -
Ond am na ŵyr neb fod o'n enwog.

Emlyn Gomer8 1/2 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell - 'Rôl mynd nôl i Flaenau Ffestiniog'

Mi welais i ddyn bach esgyrnog
'Rôl mynd nôl i Flaenau Ffestiniog
A'i wraig ar ei gefn,
Dros twenti stôn sefn,
Ond, diolch i'r drefn, ddim yn feichiog.

Edgar Parri Williams9 pwynt

Trydargerdd - Rysait

@rysait Rhowch wleidydd i ymguddio yn y bae gyda'i byrcs, rhowch iddo westy drud a'i hel am dro - rysait am greisis eto.

Llion Jones9 pwynt

Trydargerdd - Rysait

Crempog 2 ŵy mewn basn, a'u curo, 2 bt o laeth, ac ato
2 lb o flawd; cymysgwch hwy
cyn rhoi llond llwy i'w ffrio.

Nia Powell8 1/2 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Dianc

Hyfryd oedd estyn lifrai
glan-y-môr at Galan Mai -
rhaw blastig a'r bêl, estyn
tyweli ac eli gwyn
a rhoi'r ddwy'n y car i ddod
i droi dwyawr o dywod.

Troi Dolbadarn cadarnach
i waered o fwced fach,
chwarae dad a chario dŵr
at y gaer. Atgyweiriwr
oeddwn, yn troi rhyfeddod
yn Fai fel y dylai fod.

Ifan Prys9 1/2 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dianc

Mae i'r meirw eu muriau,
hen wal i'w cynnal a'u cau.
Ond i neb sy'n adnabod,
marw i fyw mae'r meirw i fod,
rhoi angerdd i'r ieuengoed,
hyn yw trefn natur erioed.

 rhew â'i glo ar lawr gwlad
o rywle fe ddaw'r alwad
i rwygo arch eira gwyn
a rhoi rhyddid i wreiddyn
sugno'r gwres a gwin o'r gro
i natur gynnau eto.

Tudur Puw9 pwynt

Pennill Ymson (mewn mydr ac odl).

Mewn Cawell.

'Den ni yma'n y gawell ers oriau,
yn farw, bron iawn, ar ein traed,
yn cwffio a chrafu a chicio a brathu
a'r dyrfa yn udo am waed;
Ond er nad oes dim byd mwy truenus
nag ymladdfa rhwng dau ddyn obîs,
wrth gicio a brathu mae cariad yn magu -
'den ni'n pr'odi cyn diwedd y mis.

Geraint Løvgreen8 1/2 pwynt

Pennill Ymson (mewn mydr ac odl).

Mewn Cawell

Fyddai Darwin mor grediniol
Fod esblygiaid mewn hil ddynol
pe gwelai y cwffio,
a'r dyrfa'n bytheirio,
i ffyliaid ein ffilmio?

Tudur Puw8 pwynt

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):

Pawb a'i fys lle bo'i ddolur

Ro'n i'n arfar caru 'nghyd-ddyn bron yn fwy na mi fy hun,
Fel rhyw groes rhwng Mam Teresa, Mr Urdd, a Christ ei hun:
Roedd fy mryd ar greu gwell byd, ond sylweddolais 'mod i'n ffŵl
'Rôl i Magi Thatcher ddeud fod hunanoldeb yn beth cŵl.

Ac fel Saul ar ffordd Damascus, ces f'ail-eni yn y fan:
Gwelais pa mor ofer ydoedd estyn llaw i helpu'r gwan.
Addunedais yn ddi-oed i droi fy nghefn ar fod yn bleb,
Ac anelu am y copa 'fath a'm harwr Guto Bebb

Pawb a'i fys lle bo'i ddolur,
Waeth 'chi heb ag ymladd natur,
Cyn dychwelyd nôl i'r pridd, dim ond un athroniaeth sydd;
Pawb a'i fys lle bo'i ddolur, 'blaw ei fod yn ddolur rhydd.

Welai'm pam fod rhaid i wleidydd gadw'i air 'rôl tyngu llw,
Na deud "bancar" yn fwy rŵd na'r gair sy'n dechrau efo "w":
Trechaf treisied, gwannaf gwaedded - mae y system yn ddi-feth,
A gwell fyth - mae'r cyfoethoca' rwan yn talu llai o dreth!

Ac ar derfyn oes hunanol, caf ymlacio yn fy arch,
Wedi dysgu dim ond mai trwy ennill pres mae ennill parch.
A phan gwrddaf â'm creawdwr, 'nai'm cowtowio iddo Ef:
Erbyn hynny bydd fy nghrônis wedi preifateiddio'r nef.

Emlyn Gomer8 1/2 pwynt

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):

Pawb a'i fys lle bo'i ddolur

Mae Wil Nymbar wan yn Dori
Ac yn fotio o'u plaid yn ddi-feth,
Mae'n flin fod y tacsus yn codi
Ond thalodd o 'rioed geiniog o dreth.

Lib Dem ydi'r boi drws nesa'
Mewn sandals mae am newid y byd
Ond mae'n brysio bob dydd i'r archfarchnad
"Tydi petha'r Fair Trade ma mor ddrud?"

Mae Smith nymbar thri yn blaid Lafur
Yn trydar o hyd am gael cam
A'i bensiwn gwas sifil yn gwegian
Ni wel o'r ferch ifanc a'i phram.

Rhif pedwar sy'n deulu o Bleidwyr
Yn Gymry i'r carn, dim bwys be'
Ond Leanne sydd yn arwain y frwydr,
"O mor bell ydi cymoedd y De".

Mae Llais* am roi Pyblic Confiniyns
Ar gornel ein stryd - jest i mi,
A nhw gaiff fy mhleidlais ar unwaith
Clywch, mae'n bwysig i ddyn o'm hoed i!

Cynan Jones8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yn y lle hwn yr oedd llys
A genod reit ddrygionus

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yn y lle hwn yr oedd llys
Yn ôl daeth oriau melys

Englyn: Llawysgrifen

Yn nhywyllwch llinellau, yn yr awch
sydd yn nhro'r cynffonnau,
gwyro dan faich y geiriau
'n ara' deg mae stori dau.

Llion Jones9 pwynt

Englyn: Llawysgrifen

Dalen wen, ond daw o hyd - i'w dwyno
Holl staeniau ein bywyd,
Inc poen yn marcio penyd,
Llofnod yw o'n byw'n y byd.

Nia Powell8 1/2 pwynt

Telyneg: Camp

'mond gwenu wnaeth hi,
yn Drizabone-drwsiadus
wrth dywys ei merlyn drwy'r giât.

Roedd hi'n fore teg o Fai
a'r blagur yn ffrwydro
a minnau'n coedio mynd
â sicrwydd Ordnance Survey
yn fy llaw.

Canu ar fy nhafod
wnâi litani'r murddunnod
'na fedrai ond un iaith eu codi'
am y gwyddwn
fod y caeau'n cyd-anadlu â ni,
fod y coed yn erfyn
inni gynudo danynt;
am 'bod hi'n fore teg o Fai.

A dyma'r ferch yn troi i'w thyddyn
a'i merlyn yn ei chanlyn
a minnau'n ei chyfarch â 'Sut mae'i?'.

'mond gwenu wnaeth hi,
rhwng swildod ac anneall....

ac yn yr eiliad anghyfiaith honno
dyma finnau'n stondio
am fod cannoedd a miloedd
o wenau tebyg
yn cerdded yn dawel
dan wyneb ein diwylliant,

yn sychbydru beunydd,

yn uno fel peilons
yn dal cwinten ar draws ein tir....

ac eto.

'mond gwenu wnaeth hi....

Ifor ap Glyn.

9 1/2 pwynt

Telyneg neu Soned: Camp neu Campau

Camp (Carneddog)

Yn wargam, gyda chymar oes,
'Rwyt eto'n chwilio gwawr y bryniau pell,
A thybed , a freuddwydiaist ti
Drwy stormydd byd a'u braw am fywyd gwell?

Am ysgol a phrifysgol fawr
A'i choridorau megis llwybrau'r sêr;
Am hen lyfrgelloedd dysg a'u bri
A thithau'n gwyro dros dy gannwyll wer?

Ai bodlon ydwyt ar y graig,
Er nad oes ar dy wyneb graith o wen,
Am iti trwy dy lafur drud
Roi gwreichion dy athrylith yn ein llên?

Cynan Jones9 pwynt

Englyn ar y pryd.

Ymwelydd yn fy mhowlen, - a lliw haint
hyd fy llwy yn gacen,
gwrid stici dros fy stecen
a'm cerydd i'r gweinydd? Gwên.

9 pwynt

CYFANSWM - 80 PWYNT.

Englyn ar y pryd-Cwyn.

Hufen tyner yr erwain-ehedydd
Yn trydar mor bersain
Haul ha' mewn awyr liain
Eto fyth, mae'r gwynt reit fain.

9 1/2 pwynt

CYFANSWM - 77 1/2 PWYNT.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.