Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'crwn'

Ystyr sy'nghlwm â chwestiwn
Yng ngwead y cread crwn.

Huw Erith8 1/2 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'crwn'

Ni ŵyr Bob mai crwn yw'r byd,
ond gŵyr am gnydio gweryd.

John Glyn Jones9 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell - 'Pe bawn i'n sylwebydd chwaraeon'

Pe bawn i'n ohebydd chwaraeon
Be wnawn i, a'r bocsio'n ddigalon?
Ailddangos y frwydr
Ym mar cefn 'Plas Tudur'
Rhwng mam Dafydd Arthur a'r Plismon

Gareth Jones8 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell - 'Pe bawn i'n sylwebydd chwaraeon'

Mae sgwrsio â'r cariad bob noson
Fel siarad â'r wal 'ma yn union;
Dwi'n sicr y cawn
Ei sylw o'n llawn
Pe bawn i'n sylwebydd chwaraeon.

Gwenno Davies8 1/2 pwynt

Trydargerdd - Slogan

Y gŵr sy'n cuddio'r gorwel - a mynwes
Fel tomenni chwarel
A than ei wasg mae tarth yn hel - ond hyn
Ar grys-T XXL:
'Mae bach yn ddel'.

Myrddin ap Dafydd9 pwynt

Trydargerdd - Slogan

Ar gyfer eich holl anghenion anniwall...
e-bay'r ewch chi i siopa i unlle arall?

Gwenan Prysor8 1/2 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Torri'r Arfer

Byw ei wŷl efo'i fêts bach
mae o'r ieuenga' mwyach;
minnau'n waglaw a llawen,
araf fy ngham, braf fy ngwên
heb i'r un, di-ddallt am bres,
fy llywio wrth fy llawes
i'r ffair, at drelar fferins
neu i'r ciw sy'n nhwrw Queens.
Ac er nad yw'r gaer neidio
i dadau rhydd, af ar dro
i wylio o bell, sbeliau byr,
y rhai sy'n nwylo'r awyr.

Myrddin ap Dafydd9 1/2 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - Torri'r Arfer

Rhag aflwydd pair ei gyflwr,
gwyddai na ddylai'n ei ddŵr;
gwyddai y doi'r tragwyddol
ysu, ysu yn ei ôl -
tan heddiw wrth i rywun
yn y parti gynnig un;
'mond ei flas am ennyd flêr,
gafael gafael, ac ofer
fu llef ei iau â'i holl fod
yn gwrando ar ei gryndod;
'mond un diferyn a fu
i greu afon o grefu.

Rhys Dafis9 pwynt

Pennill Ymson mewn côr meibion

Am arweinydd ydy Jo
Mynd rhy gyflym, mynd rhy slo
Fe ddangosaf ar ôl hon
Ble y dyliai gadw'i ffon

Gareth Jones8 1/2 pwynt

Pennill Ymson mewn côr meibion

Mae ias tu hwnt i'r miwsig
A gwefr na ddaw o'r gân
O diwn sy'n fythol donig
Ymysg y nodau mân;
Nid rhannu hud 'run nodau
Ond hwyl rhwng bois cytûn,
Hen harmoni cwmnïaeth
Sy'n 'n hasio ni yn un.

Rhys Dafis9 pwynt

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):

Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain

Yn oer, ar Nos Galan, fe herciodd lygodan i mewn i fy hafan o'r glaw
Pen dim roedd 'Hen Sgubor' yn edrych fel gogor a thyllau fan hyn a fan draw.

Gwnes bopeth a fedrwn i warchod y bacwn ond gwyddwn nad oeddwn i'm haws
Cyn hir roedd fy mhantri heb dreiffl a sheri a rheiny'n y wal efo'r caws

Fe guddiais yr hamper a'r 'Ferrero Rocher' a gefais i gan Santa Clôs
Ond cerdded wnaeth rheiny 'fo coesau y twrci i mewn i'r twneli dros nos

Y Jadan faleisus stribedodd fy nrhowsus a'm gadael mewn creisus go fawr
Fy sanna!, fy nhronsia!, y cwbl yn garpia!, m'ond un o bob un s'gen i'n awr

A dyma fynd ati o ddifri i'w dal hi, defnyddiais bob dim yn ei dro:
Sylweddau gwenwynig a thrapiau mileinig di'w gosod o'r lloriau i'r tô

Ond Och! Ni chawn orffwys.Roedd hon yn un gyfrwys.Fe daniodd pob trap fesul un
A phopeth 'di methu dechreuais simsanu. Es allan i grogi fy hun.

Wrth swingio meddyliais am record a glywais flynyddoedd yn ôl gan fy mam
Rhyw gân ydoedd hi gan Huw Jos Es Ffor Si am y bobl di nod yn cael cam.

Y rhaff ddaru dorri (roedd HI wedi'w chnoi hi) a glaniais fel mwnci ar lawr
Cyn mynd, yn llawn cyffro i'r gad 'di adfywio.Roedd gennyf i gynllun yn awr

Heb oedi es ati ar frys i'w hymbesgi, fe wagiais i Aldi mewn p'nawn,
Nol sbannar o Argos, i 'ngwely, ac aros tan oedd y graduras yn llawn

Dros nos aeth y g'nawas cyn gymaint a llewas, ni welais 'rioed bladras mor fawr
A'i thraed am i fyny, yn methu a chwythu ar wastad ei chefn ar y llawr

R'ol lab efo'r sbannar fe'i llusgais i drelar a gyrru i'r dref fel y gwynt
I'w gwerthu fel heffar i Dafydd Jos Bwtshar am dri chant a phedwar deg punt

Yn ogystal a byddar 'di Dafydd Jos Bwtshar yn gweld fawr o ddim, diolch i Dduw
A dwina heb glywed na chwaith wedi gweled r'un dim yn y pared. Diolch Huw!

Gareth Jones9 1/2 pwynt

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):

Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain

Roedd saith o ddynion bychain, saith corrach prudd dros ben,
Yn byw un dydd i'r nesa' yng nghysgod Eira Wen;
Arferent fod yn fodlon, ond trodd eu byd yn ddu
Ar ôl darganfod dichell y 'sgwotwraig' yn eu tŷ.

Er gwaetha'r croeso cynnes a gafodd ganddynt hwy,
Mi werthodd hi ei stori - i Disney... ac i fwy!
Y hi bob tro'n serennu, yn llywio pob un sgwrs,
A rhannau y corachod yn rhannau bach, wrth gwrs.

Mae'r saith yn bur anfodlon â'r modd y bu'n eu trin,
A nawr nid Grympi'n unig sydd efo wyneb tîn:
Mae hyd'n'oed Hapi heddiw i lawr i hanner gwên,
A hynny er y Prozac ga'th gan yr hen Doc clên.

Mae Sleepy mor gynddeiriog, 'dyw o heb gysgu winc,
A Bashful yn ei chwerwder yn gwrthod troi yn binc;
R'ôl deall, llefodd Dôpi yn uchel "Bw hw hw",
A felly, hefyd, Sneezy - rhwng pob "a-a-a-tshw!".

Saith bach yn byw mewn gobaith y daw 'na dro ar fyd
A diwrnod lle cânt hwythau y mawredd oll i gyd;
Bydd balchder coll y bychain yn codi fry i'r nen
Os galwch chi y stori'n "Saith Dyn... ac Eira Wen."

Gwenno Davies9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Yn y wlad - plethu blode
Nid yr un yw plant y dre

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Y wlad oedd bro fy nhade
Nid yr un yw plant y dre

0 pwynt

Englyn - Siop Lyfrau

(Llên Llŷn)

Ei mân dwf yma'n dafod i roi hwb
I'r iaith, ac er gwybod
Na ddaw byth i gyrraedd bod
Yn aur, mae'n fwy na Harrod'.

Gareth Williams8 1/2 pwynt

Englyn - Siop Lyfrau

Lle rhithiol ei chyfrolau - ar ein stryd
ry'r byd rhwng ein bodiau:
ei gwe am ein bro yn gwau,
ac o hon daw'r gwir 'gynnau'.

Ffion Gwen Williams8 pwynt

Telyneg neu Soned - Cadw Oed

Yn Llanfihangel yng Ngwynfa
Mae'r llwybr, o'i gerdded o hyd
Cyn goched a'r wawrddydd tros Ddolwar,
I'r rhai sy'n ymdeimlo â'th fyd.

Ond llwybr seiat Pontrobert
Sy'n las erbyn hyn tros y waun,
A serth ambell dro, o'i gymharu
A'th duth hyd ei wyneb di-raen.

Os profaist ar gefnen Dolwar,
Er gobaith, fel heulwen ar ael,
Sawl cwmwl ddwyshai yr amheuon,
Yr oeddet mor chwannog i'w gael.

Myrddin ap Dafydd9 pwynt

Telyneg neu Soned - Cadw Oed

Bedydd Llŷr

(fis yma, yn Rhosmeirch, capel cynta' Annibynwyr Môn - lle priodwyd ei nain, Leah, a finnau, - a rhieni Leah. Bob Chwefror, ar benblwydd ei phriodas, bydd mam Leah, sy'n 92, yn sefyll ar risiau'r capel... o flaen y fynwent.)

Dyma grud y gwir i werin
gwanwyn Annibyniaeth Môn
heddiw'n ardd o haf i feithrin
y blaguryn bach o fôn
cyff lle'r unwyd llu o'i wreiddiau
yn hydrefau ffrwythlon, tynn
a lle dygwyd ei gyn-deidiau
i'w gaeafau yn y glyn.

Daw ei hen nain yma i ddefod
gyda'i phriod ym mhob hin
er mwyn adfer hen gyfamod
gwarchod un o'r gwreiddau crin;
heddiw'r wên, ar ôl yr wylo
a fu'n dyfrio'r ddaear wyw,
huda'r hedyn i flodeuo
geirio ddoe yn gariad byw.

Eifion Lloyd Jones9 pwynt

Englyn ar y pryd - Parc Chwarae

Y deifwyr ar longddrylliadau Llŷn

Fe'n gyrrwyd i safnau geirwon Nelog
Gyda'n hwyliau'n yfflon;
Ni welant hwy'n siglen ton
Ond gêm rhwng coed a gwymon.

Gareth Williams9 pwynt

Englyn ar y pryd - Parc Chwarae

Daw'r wyrion am dro i herio - y llithren
a llethrau'r wal ddringo;
Daw atynt daid sy'n dotio
ag ofn yn siglen ei go'.

9 1/2 pwynt

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.