Y Talwrn- Glannau Menai V Criw'r Ship
Ceri Wyn Jones yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd cyntaf o'r Talwrn
Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd 'cur pen'
"Sori! Cur pen..", medd Gwenno
a'i droi'n farwydos, dros dro.
Annes Glynn8 1/2 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd 'cur pen'
Cur heb hoe yw pob cur pen
a fegir gan genfigen.
Gari Wyn8 pwynt
Trydargerdd - Cyhoeddiad
Wel!
Mae @caielis a minnau
am unwaith
yn gytûn.
Am un
mi awn i'r dre
ar drywydd defod BRIODAS!
Ein dau. O'r diwedd!
Ar ôl hyn dewch i'r wledd.
Annes Glynn8 1/2 pwynt
Trydargerdd - Cyhoeddiad
Does neb i'w weld yn gwybod yn union lle mae beddi
y milwyr o Drawsfynydd na allent gynganeddu.
Arwel Roberts 9 pwynt
Cywydd-Golchi
Er sgrwbio, rhwbio pob crych
o'i hanes, heb ei chwennych
trodd 'seren' yn brif bennawd,
a'i dawn goeth yn destun gwawd.
I'r golwg, daeth dirgelion
staen hen drais dan wynder hon.
Bellach mae'r Wasg yn gwasgu
diferion o fanion fu
a'i bri'n ddim ond siffrwd brau
hyd lein y tudalennau;
hi'n garpiau llwyd, arswydus
â baw oes dan ewin bys.
Annes Glynn9 pwynt
Cywydd-Golchi
'Leni rwyf fi'n 'stîm clinar'
hesb a hen heb nerth yn sbâr.
Fy 'motor' sydd ar dorri
a rhy wan yw 'moiler i.
Rwy'n ochain ac rwy'n wachul;
Dros fy mos gweithiais fel mul
yn llnau cerbydau budur!
Bob rhan!hydnoed dan eu dur!
Gyrfa lân fy ngwasanaeth
yn ddi ddwfr i'w therfyn ddaeth.
O'r byd ceir rwy'n riteirio,
af yn glaf i'r sied dan glo.
Gari Wyn9 pwynt
Englyn ysgafn yn ymwneud â darlledu
Dwi'n lyfio'r radio rhwydwaith - yn Cymru,
I Cymro, his heniaith
Dim chwys, mutations dim chwaith
Fi'n bright, fi'n cŵl 'fo'n bratiaith.
Llyr Gruffydd8 pwynt
Englyn ysgafn yn ymwneud â darlledu
'Ninnau'n newid delwedd 'leni, a hyn
dan faner 'Cool Ceri',
A oes siawns i'r BBC
roi'r Talwrn ar y teli?
Gari Wyn8 pwynt
Cân ysgafn [heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned]: - Colli Cyfle
Llenwais y papur Lotto yn rhwydd
â chwech o rifolion pen fy mlwydd.
Y ddau rif cyntaf oedd un a dau -
y deuddegfed oedd dydd fy nechrau.
Agos oeddwn at dorri'r garreg
Roedd pob rhif ond un yn cydredeg
Gan na fu'r peiriant yn berffaith deg,
y ddwy bêl gyntaf wnai driarddeg!.
Capten llong oedd 'nhad yn y Nefi
a'i leave oedd yn ddrych o feichiogi
ei blantos sef Hefin a Dewi,
Finnau a Mai, Carol a Medi.
Pe bai'r tren naw a'i cludodd adref
o Blymouth bell i orsaf y dref
heb landio ar ei amser nos Lun
A chyraedd yn hwyr bore wedyn
'falle y byddwn i heddiw, wir,
y gŵr mwyaf cefnog drwy'r holl sir.
Llyr Gruffydd8 1/2 pwynt
Cân ysgafn [heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned]: - Colli Cyfle
(i ddweud wrth Feuryn be oeddwn i wir yn feddwl ohono fo)
Gwynt teg ar ôl y Gerallt,
y dyn nad ydoedd yn dallt.
Clywai lais a gwelai lun.
Sychodd ei dalent wedyn.
Wali, wali o Feuryn.
Wali mwy na'r Meuryn hyn.
Uwch ei ben yn uchel aeth
gwir fawredd fy marddoniaeth .
Diwyro oedd yn ei gred
na all swn ennill soned.
Lled-englyn, naw a hanner
A naw am gywydd pur flêr.
Wir Dduw! A'm cân, haeddai ddeg,
Yn cael chwech a dim chwaneg.
Arwel Roberts9 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell- "Wrth gerdded yn ôl o'r siop sglodion"
Wrth gerdded yn ôl o'r siop sglodion
Fe lithrodd ar balmant o doddion,
"Sai'marw" medd Siôn,
Ond gwahanol fu'r sôn,
Cadd ei tsips ar lôn yr angylion.
Meirion Jones8 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell- "Wrth gerdded yn ôl o'r siop sglodion"
Wrth gerdded yn ôl o'r siop sglodion
Aeth fy meddwl i geisio atebion
I gwestiwn go od:
Be 'di mwy nag un cod?
Ai codau, codeuon ta codion?
Arwel Roberts9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Am galon i farddoni
I far o hyd yr af i
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
I far o hyd yr i af i
A'r Talwrn ar y teli
1/2 pwynt
Englyn: Tro Pedol
("The lady's not for turning!")
Os hyderus, diwyro ei haeriad,
ystyriwn a chofio,
ar benrhyn anghytuno,
nad trai yw cymod bob tro.
Annes Glynn8 1/2 pwynt
Englyn: Tro Pedol
Derfydd bob ffraeo dirfawr a derfydd
twrw'r dyrfa rwysgfawr
yn unfarn...Mewn storm enfawr
cam o les yw camu' lawr.
Gari Wyn8 1/2 pwynt
Telyneg neu Soned: - Pont neu Pontydd
Y Bont
Llwyd yw'r dydd ar y llwybr hwn
Sy'n fwa rhwng dwylan, dros Annwn
Lle daeth lleng, yn griw o gant
I achub iaith rhag difodiant.
Uwch yr afon, yn ddiog ddolennu,
 phob bloedd, sŵn cerrig yn crynu,
A'r seiliau'n cael eu hollti
Rhag i'n geiriau ddianc i'r lli.
Yn y co' mae'r bont yn bentan
A'i lond o holl drysorau'r 'stwyrian.
Ysbail bob cyflafan
Yn drugareddau dyddiau'r tân.
Posteri a lluniau yn dal i dystio,
Ac angerdd llythyron hen yn breuo.
Ar aelwyd mae 'na un yn synhwyro
Fod y wawr yn hen, a'r fflamau'n blino.
 hithau'n eistedd, a'r marwor yn pylu,
Yn dawel, yn daer, mae'n gofyn inni
'Er lludded a thraul, a oes at 'fory
Wŷr o'r newydd yn barod i godi'?
Elinor Gwynn9 pwynt
Telyneg neu Soned: - Pont neu Pontydd
PONT
I Dalwrn - cartref fy niweddar Nain a Taid)
Ynys unig heno
yw'r lôn,
a ffyrdd cul
hen daith
yn donnau
anghyfarwydd.
Pob bwa'n taflu'i gysgod,
a chadwyni fy nghreu
yno'n hongian.
Croesi
i dir neb,
a phaned o gwpan dieithr.
Nia Mon10 pwynt
Englyn ar y pryd- Bwled.
Un eiliad, oes o alar-un fwled
Yn falais dialgar
a hafan yn drais anwar
ias oer drwy gymdeithas wâr.
9 pwynt
Cyfanswm - 77 pwynt.
Englyn ar y pryd- Bwled.
Hawliwn arfau dialedd anwaraidd
a phoerwn ein chwerwedd,
Ond gwn hyn, daw gynnau hedd
I rannu'r un gwirionedd.
9 pwynt
Cyfanswm- 80 1/2 pwynt.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

