Ffeinal y Talwrn-Aberhafren V Taeogion

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd derfynol o'r Talwrn.

Cwpled caeth ar yr odl 'am'

O gŵys i gŵys, bob yn gam,
cae ŷd ddaw'n darmacadam.

Aron Pritchard9 1/2 pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'am'

Fel y bu tad gan Saddam,
fe fu gan Bin Ladin fam.

Ceri Wyn 9 pwynt

Pennill mawl / dychan 'Wimbledon'

Murray Mount neu Henman Hill,
colli wnaiff y Jawled, still.

Llion Pryderi Roberts9 pwynt

Pennill mawl / dychan 'Wimbledon'

Os yw Murray'n Brydeiniwr i bob un
tra bo yn fuddugwr,
pan gyll y mae'r tipyn gŵr
i bob un yn Albanwr.

Emyr Davies9 1/2 pwynt

Cywydd: yn dechrau a diweddu gydag enw un lle

Caernarfon

Caersaint sy'n creu ias o hyd,
a'r hen furiau'n y foryd
yn dal mil o chwedlau mân
hen fywydau yn fudan
dan y sment a'r palmentydd,
o dan lwybrau dechrau'n dydd.

Ac yn halen y Fenai,
cloi o'u hôl mae'r swnd a'r clai
yr hanesion di-sôn sydd
drwy'r mêr yn drwm oherwydd
pan awn o'r dre'n ein henaint,
aros o hyd fydd Caersaint.

Rhys Iorwerth10 pwynt

Cywydd: yn dechrau a diweddu gydag enw un lle

(Priododd fy hen hen hen daid a Nain ddau gan mlynedd yn ôl yn Eglwys Pennant Melangell)

Ym Mhennant yma unwaith
roedd dau ar heddiw o daith,
dau deulu yn eu dilyn,
a blodau'r fro'n gwisgo gwyn
hyd y ddôl un dydd o ha'
tyner fel afon Tanat.

Wyf waed ddwy ganrif wedyn,
a than haul haf, af fy hun
am eilad at eiliad iau'n
y wlad, gan fod sawr blodau
oesau'n ôl, a sŵn y nant,
yma heno ym Mhennant.

Tudur Dylan Jones9 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'Mi wn'

Amy Winehouse

Mi wn, yn dy ddrama unnos, i ti
gynnau tân wrth aros
i dy lais, fel coelcerth dlos
friwiedig, droi'n farwydos.

Aron Pritchard10 pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'Mi wn'

I Janet Street-Porter*

Er gwawd dy 'Whatever' i gyd, mi wn,
ac er mor bryfoclyd,
i mi a phob gwyliwr mud
'Whatever' wyt ti hefyd.

*Fe'i gwahoddwyd yn ddiweddar i gyflwyno gwobrau ar y rhaglen deledu Cariad@iaith. A'i hymateb i eiriau Cymraeg o groeso gan y cyflwynydd oedd "Whatever."

Ceri Wyn Jones 9 1/2 pwynt

Cân: Fy uchelgais

(Fy uchelgais pan oeddwn i'n 8 oed oedd profi a oedd Siôn Corn yn bod)

Bob diwrnod yn yr ysgol
roedd dadlau mawr a chwyrn
na allai ceirw hedfan
na dyn ddod i lawr trwy gyrn)

Ond er yr holl ddadleuon
fe wyddwn innau, siŵr
y byddai 'nhaid bob blwyddyn
yn sgwrsio â'r hen ŵr.

Yr oedd gan taid rif cyfrin
i ffonio yr hen Siôn,
a'm pennaf awydd innau
oedd canfod ei rif ffôn.

Fe fues i'n chwilio llyfrau
a phoced Taid sawl gwaith,
ond ni ddaeth rhif i'r golwg,
na phrawf fod Santa'n ffaith.

Ac ofnwn noswyl Dolig
na fyddai neb yn dod,
ond erbyn gwawr y bore
yr oedd o wedi bod.

Ifan Pleming9 pwynt

Cân: Fy uchelgais

F'uchelgais i fu llunio y gerdd berffeithiaf un
I ennill clod y meuryn, a'i gadw ar ddihun.

Defnyddiaf y gynghanedd, ond dim ond ambell dwtsh,
Cans os oes cyflythrennu, o raid nid ydyw'n rwtsh.

Rhof ddelwedd od annisgwyl i mewn i'r crochan llawn
A'i droi â llwy dychymyg, waeth beth fo'r testun iawn.

Ai 'newyn' fydd fy thema? Neu 'ryfel' yw hi i fod?
Mae'n dda cael trychinebau pan fydd y tasgau'n dod.

Caf fenthyg ambell linell gan brifeirdd mawr yr iaith,
Gan weled llais a chlywed y llun sydd yn fy ngwaith.

Mae paradocsau'n gweithio wrth guddio'r gwir ar goedd
A gwn bydd pawb yn clywed distawrwydd yn y floedd.

Gwnaf pob treigladau'n cywir (nid yw Cymraeg fi'n wan)
Fel JMJ a'r meuryn, fi'n cadw'r standards lan.

Fe geisiaf ei pherfformio fel mewn eisteddfod sir,
Gan oedi... yn ddramatig, a geirio'n berffaith glir.

Rhaid britho'r gerdd cyn gorffen a geiriau megis 'ias'
A gwybod pryd yn union i'w thorri yn ei ___ .

Emyr Davies9 1/2 pwynt

Limrig: 'Wrth i mi fynd adre o'r Steddfod'.

Wrth i mi fynd adre o'r Steddfod
fe'm cipiwyd gan gôr o fenywod,
'Dwi'n fardd', meddwn i,
'Sdim ots gennym ni,
mae'r Meuryn 'di bod yma'n barod.'

Ifan Pleming9 1/2 pwynt

Limrig: 'Wrth i mi fynd adre o'r Steddfod'.

Wrth imi fynd adre o'r 'steddfod,
Fe alwais 'da Charles Llwynywermod;
Yn Cairo fe'i siomwyd
Medd ef: camgymerwyd
Camila am un o'r camelod.

Emyr Davies9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

A hi'n cwympo o'n cwmpas
ein caer oll yw'r cae Ras.

0 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Gwnawn ein rhan, Gymry annwyl
Y Cae Râs yw caeau gwyl.

1 pwynt

Englyn Cywaith:Arwriaeth

(fy nhad-cu yn yr ysbyty pan oeddwn yn blentyn)

O'i fewn, roedd greddf i wenu'n gawr i gyd,
ac er gweld dynesu
ara' deg y gwacter du,
fe fynnaf gofio hynny.

Rhys Iorwerth10 pwynt

Englyn Cywaith:

Arwriaeth:

(Diwrnod rhyddhau Mandela)

Hwn, o'r gell, i'r haul mawr gwyn - 'ddoi â'i wên
yn ddawns, ac yn sydyn
ro'n i'n dal fy nagrau'n dynn
yn fy amrant...am fymryn.

Tudur Dylan Jones10 pwynt

Telyneg: 'Gwrthod'

Torrwyd dy enw'n ddu
ar bamffled.

Daeth sgidiau gorau
i wichian cydymdeimlad
dros garreg y drws,
y glaw i gydio'n dawel
yn llewys
yr arogleuon
a galar
i gerfio wynebau cyfarwydd
o'm cwmpas.

Er hyn...

...do'n i
ddim wir yna.

Dim ond wedyn
wrth i lafant sibrwd
rhwng bysedd,
wrth i fiwsig cryg fan hufen ia
arafu drwy'r glaw
ac wrth i adar
ddechrau nythu eto,

y gwelais dy eisiau

a'm gwadu'n
taro'r gwydr.

Dyna pryd es i nôl
drwy'r gwair tamp
i gapel o golled
a'm breichiau'n llawn.

Mari George10 pwynt

Telyneg: 'Gwrthod'

Yr oedd llinellau'n llifo
mor hawdd â neges ffôn,
a'th stori'n creu trosiadau
fel iasau ar fy nghrôn,
ond Millie fach, maddeua i mi,
rwy'n gwrthod gweithio cerdd i ti.

Ail-fodiais y papurau
a llyfu mysedd i
a blasu'r angerdd parod
yn ddiog ac yn ddu:
o Millie fach, maddeua i mi:
rwy' wedi gweithio cerdd i ti.

Ceri Wyn Jones9 1/2 pwynt

Pennill ymson: Mewn maes carafannau.

Mae'n Sadwrn ola'r steddfod,
rwy' moyn gwneud nymbar tŵ,
ond och, mae Tudur Dylan
wedi blocio'r portaloo!

Owain Rhys9 1/2 pwynt

CYFANSWM - 86 1/2 PWYNT.

Pennill ymson: Mewn maes carafannau.

Ar hewl oedd gyda'r waelaf, o Ebwy
fe wibiais yn araf
heibio i haid twristiaid haf,
heibio i'r Sais at Bers Isaf.

Ceri Wyn Jones9 1/2 pwynt

CYFANSWM - 86 PWYNT.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.