Y Talwrn - Y Berwyn vs Tir Mawr
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys enw lle ym Môn
 Moelfre'n stormydd cread?
cewri'r bae yw criw y bâd.
Arwel Emlyn Jones
8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys enw lle ym Môn
Oglau mawr a dreigla 'mhell
Yw mochyn Mynydd Mechell.
Gareth Williams
8 pwynt
Pennill ar gerdyn Dwynwen/Ffolant
Rwyf yn ffoli ers blynyddoedd
rwyf yn ffoli ar dy wên
rwyf yn ffoli ar dy gwmni
er ein bod ni'n mynd yn hen.
Delyth Humphreys
8 1/2 pwynt
Pennill ar gerdyn Dwynwen/Ffolant
Hi fy angor yn y lli,
Hi fy nghraig F'anadliad i,
Hi dy chwaer lle ma'i ni wn
Roi di hwn iddi hi.
Huw Erith
8 pwynt
Cywydd: Hirlwm
Dros y gorwel ni welir
brafiach cwm drwy'r hirlwm hir;
ni wêl neb ynghanol nos
y wawr sydd yn ei aros,
ni all un weld llawenydd,
ni wêl dafn o olau dydd,
ni all weld yr ennyd llon,
ni wêl ond trymder calon,
nid yw gweld yn ddim ond gwyll
nid yw ond noson dywyll,
ni ŵyr, er hirymaros,
ni ŵyr ond duwch y nos.
Arwel Emlyn Jones
8 1/2 pwynt
Cywydd: Hirlwm
( Ddechrau Ionawr bu farw Dewi, gyrrwr bws ysgol ardal Neigwl, yn ddisymwth.)
Hen aeaf â'i fynawyd,
A'i niwl oer hyd Lôn Waun Lwyd;
Ond daw gwefr i blant Pont Go'
Yn hud yr eira'n cydio,
Naws Gŵyl, ond cymysg â hi,
Ias mynwent mewn bws mini.
Ionawr yn nhro'r olwynion
Yw'r Ionawr lusg, straen yw'r lôn,
Os ydyw'n daith'mestyn dydd
Ionawr sy'n dywyll beunydd,
A'r plant fu'n eiddgar i'r plu
I'w wialen yn tawelu.
Gareth Williams
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell - Hiraeth sy'n cyfri'r oriau'
Hiraeth sy'n cyfri'r oriau - ond yna
ond un yw'r munudau,
un eiliad rhwng trawiadau
un atgo' o daro dau.
Arwel Emlyn Jones
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell - Hiraeth sy'n cyfri'r oriau'
O wawr i wawr heb drugarhau, - o hwyr
I fore ei dyddiau
A'i llwydni hi yn dyfnhau,
Hiraeth sy'n cyfri'r oriau.
Myrddin ap Dafydd
8 1/2 pwynt
Cân - Y Gwahoddiad
Mae gen i wahoddiad i'r eglwysi i gyd
I ymuno'n un eglwys fawr ar y cyd.
Y drefn a ddefnyddir fydd y drefn symlaf un
Trefn yr Annibynnwyr a phawb drosto'i hun.
Mae'r Bedyddwyr yn barod â'r un drefn wych
'Di'r Annibynnwyr ddim ond Bedyddwyr sych.
Ac i chi'r Presbyteriaid mae'n gyfle mawr
I gael dianc o orthrwm Caerdydd yn awr.
A chael canfod y wefr o wneud penderfyniad
Heb fod yn atebol i'r un sefydliad.
Os oes yna Wesle yn gwrando ar hyn
'Da chi'n brinach yn wir na'r rheinoseros gwyn.
Ma croeso i'r ffwndamentalwyr i gyd
Sy'n barod i ddweud na dy' nhw'n iawn o hyd.
Di eglwyswyr ddim angen esgobion na'u bath
Ma pawb yn y gawod yn wir yr un fath.
Ac os ydi'r Pabydd angen cyffesu
Mae rhaglen Jeremy Kyle ar y teledu.
A beth am enw i'r Eglwys Undebol?
Pa enw sy'n well na'r Eglwys Annibynnol.
Huw Dylan Jones
9 pwynt
Cân - Y Gwahoddiad
Gwahoddiad: i achlysur
Priodas Sian ag Arthur
(Mae yna gôd oherwydd bod
Y ddau yn noethlymunwyr).
Os ydych chi yn derbyn
Fe ddyliech ddod heb gerpyn
A siwmper dew a chot golew
I'w rhoi amdanoch wedyn
Dim sgidia a dim sanna
Rhown air i'r gall yn fama
Mi fydd hi'n boeth a chithau'n noeth
Glanhewch eich traed a'ch bodia.
Bydd y briodas am ddeg yn y bora
Er mwyn I chi edrych eich gora
Bydd Wilias y barbar wrth ddrws Ebenezer
I shefio o dan eich ceseilia.
Gweinyddir y briodas fawreddog
Gan T. Swildod Huws o Lanbedrog
Ran parch i'r offeiriad fe gaiff ei ddymuniad
I briodi'r ddau gariad mewn ffedog
O fan'no Bys Peredur
I erddi Castell Myfyr
Er mwyn i'r dyn gael tynnu'ch llun
A'i roi o yn y papur
I orffen 'mlaen i'r 'Griffon'
Am gyri poeth a sglodion
(Bydd serviette ar gael gan Bet
Rhag ofn 'chi golli briwsion
Mi fyddai'n rhoi pleser i ni
Gael rhannu'n dydd mawr efo chi
Os ydych chi'n derbyn atebwch ar gerdyn
Ai yrru o A.S.A.P.
Gareth Jones
9 pwynt
Limrig- Torri adduned.
Yr wyf am smygu sigarene',
addewid hawdd iawn medde chithe'
ond daeth Chwefror yn ei thro,
minnau bron amynd o ngho',
yn methu a thanio a dechre!.
Erin Prysor
8 pwynt
Limrig- Torri adduned.
Rwy'n addo o ddifri medd Dyddgu
Roi'r gora i regi a hefru
Ben bora ddydd Merchar
Ei gwallt aeth i'r blendar
A dyna ni ddiwadd ar hynny.
Gareth Jones
8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd- Di wad yw ffolineb dyn.
Er rhoi galar i'r gelyn
Di wad yw ffolineb dyn.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd- Di wad yw ffolineb dyn.
Di wad yw ffolineb dyn
Ei wadu a wna wedyn.
1/2 pwynt
Englyn Cywaith- Dallineb.
Yn ddiamynedd heddiw - y rhedaf
hyd strydoedd dynolryw,
ar ras i siop, brysio yw,
heb geisio cael "Big Issue".
Arwel Emlyn Jones
9 pwynt
Englyn Cywaith- Dallineb.
i'r tenor dall, Andrea Bocelli
Drwy'r gân, daw'r ffenestri gwyn - i'w lygaid,
Golygus pob nodyn,
A gall glywed llygedyn
O wên y dydd o'u cau'n dynn.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt
Telyneg "Perthyn - Mawrth y 3ydd, 2011"
Beichiogaist arnom ganwaith;
ffrwythlonaist linach ir
cyn taflu'r sypiau gwyn o gnawd
dan fantell oer y gwir;
cyn gweld goleuni'r wawrdydd
fe'n teflaist ar y stryd
heb weld, o fewn ein colli ni
dy farw di o hyd.
A thithau'n awr mewn henaint,
mor finiog yw dy gri
pan ddaw y gwrthodedig rai.
Tomos Huw Roberts
9 pwynt
Telyneg: Perthyn.
Naw ar y don i draeth Porthor,
Brodyr mewn storm, ddaeth i'r lan;
Eu lapio yn lliain eu hwyliau eu hunain
A throl yn eu cario i'r llan.
Un bedd dan y jacan i'w dorri,
Un pennill, a phridd pen y daith;
Cyflawni brawdgarwch y môr mewn tawelwch
Heb enwau, heb faen arno chwaith.
Collwyd y bedd dan y tyweirch
A chollwyd y cof cyn bo hir
Am 'hen longwyr Porthor' a fethodd ddal angor
Â'r gwynt wedi troi am y tir.
Mewn canrif, drwy'r lliain a'r esgyrn
Y torrodd y clochydd ei raw
Gan styrbio sgerbydau colledion y tonnau
A'r fro oedd yn nabod y naw.
Myrddin ap Dafydd
10 pwynt
Englyn ar y pryd- Cwmni
Draw i'r fan a grwydraf i - mae'r oriau
mor araf, heb gwmni,
rhyw ddoe hud cymerodd hi
hanner yr amser inni.
8 pwynt.
CYFANSWM- 75 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Cwmni
Hynafiaeth a chynefin - meddai rhai
Sy'n rhoi tras i'r grawnwin;
Does dim o werth ond chwerthin,br>
A chwmni da'n gwella'r gwin.
8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 79 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

