Cwpled Caeth ar yr odl 'och'.

Heb os, mae'n anodd troi boch
 dyrnau'n gawod arnoch.

Nia Powell9 pwynt

Cwpled Caeth ar yr odl 'och'.

Mae mwy ym mhenglogau moch
Na'r hyn fedd rhai ohonoch ! .

Iwan Bryn Williams8 1/2 pwynt

Pennill ymson - Mewn Ciw.

Diolch am alw'n llinell frys.
I ddewis iaith, defnyddiwch eich bys.
Pwyswch un am Saesneg
Neu ddau i gael Ffrangeg.
Tri am neges gan Chaini
A phedwar i gael Zwahili.
Pwyswch bump am Hebraeg
Ac, o ia, chwech i'r Gymraeg.
I glywed eto'r dewis iaith
Yna pwyswch y rhif saith.
Mewn argyfwng, ac am sylw chwim
Yna pwyswch y botwm dim.

Tudur Puw8 pwynt

Pennill ymson - Mewn Ciw.

'Dw i yma o reidrwydd
A dyma paham-
Trafeiliwrs mor wallgo
Yw achos y jam.
I yrrwr diniwed
Oes gobaith y gwêl
Ynghanol y jamio
Ychydig o fêl ?.

William Jones Williams8 1/2 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Mai.

Eleni, ar 16 Mai, bydd Elen fy merch yn bump ar hugain oed.

Nid awel wawn, na dol werdd,
Na changen dan ei chyngerdd
Adar yn diasbedain,
Nid yr ŵyn na'r llwyni drain
Yn feddal o betalau,
Yw holl nef fy llawenhau,
Na chân y fronfraith na chog,
Ond y wennol adeiniog
A wnaeth Fai yn wyrth i fi,
A dwyn, trwy wefr dy eni,
Anrheg o chwarter canrif
A braint pob fory heb rif.

Nia Powell9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Mai.

Ar y 12ed o Fai mae Cyngor Gwynedd yn mynd i benderfynu cau Ysgol y Parc .

Er i'r eirlaw a'r hirlwm
Ymbellhau o'r llethrau llwm;
Mai, nid yw'n gyfnod mwyach
O dwf i gymuned iach
A gardd egin ei llinach
Ond cofeb i bentre bach .

Mae eraill yn ymyrryd
A chwlwm bwrlwm ein byd
Mor frau traddodiadau tras,
Mud yw iaith heb gymdeithas
A'r plwyf o weld colli'r plant
Yn chwalu, ni ddychwelant.

Dylan Davies.

8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys 'Nid âf yn ôl'.

Agorodd ei llafn geirau i'm rhegi
a'm rhwygo i'n ddarnau.
Wylo yr wyf o'r clwyfau,
nid âf yn ôl i'w dyfnhau.

Tudur Puw9 pwynt

Englyn yn cynnwys 'Nid âf yn ôl'.

Nid af yn ol, newidiaf nyth - a mynd
Dros y mor yn ddilyth;
Dychwel at hen wehelyth
A byw yn eu mysg am byth.

William Jones Williams8 1/2 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Ffyliaid.

Mae'r Anglesonians 'di priodi
Dau glên, ac yn gwenu mor swil
- Na, nid gwenu y maent ond chwerthin
Monwysion sy'n talu y bil.

'Da ni gyd yn 'run cwch', medd gwleidyddion,
'Mi gymrith y werin y slap',
Ond tydi cychod pawb ddim yn cychwyn
O Eton yn nacdyn , 'old Chap'.

Mae prisiau y petrol yn warthus
A dwybunt y litar mor ddrud,
Ond i bawb 'tydi cost y bomiau
Am filiwn yr un yn ddim byd.

Mae'r werin yn synnu at ddrygau
Y bancwyr, gwleidyddion a'r crach -
Dim ond synnu 'rwyf i'u bod nhw'n synnu
- Dyna mae NHW'n neud - bobol bach.

Cynan Jones8 1/2 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Ffyliaid.

Pan raeadrai'r papur fel eira brith
Trwy lesni'r bore o'r tyrrau yn drwch,
Roedd hi'n anodd dirnad ai faith ai rhith
A welem o'n blaenau fel codai'r llwch.
Pa ffyliaid dideimlad a fentrodd ryfygu
A chreu y fath ddioddef a distryw ? Pwy?
Fe gafwyd atebion, ac yn 'sgyrnygu
Bytheid yr Arlywydd, addewid am fwy
O erlid a dial a thywallt gwaed.
Ni fyddent yn gorffwys nes rhwygo eu prae,
A dyna a welwyd, a dyna a gaed
Pan ruthrodd yr helgwn ato i'w ffae.
Yfory, wrth ystyried eu dialedd ffôl,
Tybed a ddymunant gael eu ddoe yn ôl ?

Beryl Griffiths8 pwynt

Limrig yn ymwneud â chymeriad Beiblaidd

Dyn cryf a chyhyrog oedd Samson,
Fe laddodd â'i ddwylo lew creulon,
Ond gwan iawn fu ynta'
Yn nwylo Deleila
A mynd, 'fath â finna'n ddyn gwirion.

Edgar Parry Williams8 1/2 pwynt

Limrig yn ymwneud â chymeriad Beiblaidd

Yng Nghobeithlu Park Road, daw i'm co
Gael Cwis gan Weinidog y fro,
"Pwy", holai'n chwareus
Oedd Tad plant Sebedeus ?
Ces ei geiniog yn breis lawer tro.

Iwan Bryn Williams8 1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

1/2 pwynt

Englyn cywaith: Dathlu

Ar y 4ydd o Fai 1982 ymddangosodd y pennawd 'Gotcha' ar flaen papur newydd y 'Sun' yn dilyn yr ymosodiad ar y Belgrano sef llong fyddin yr Ariannin

Mor anwar o gyfarwydd eu gwenwyn,
yn gân o haerllugrwydd,
a'i dywallt mor hallt a rhwydd
i wydryn diniweidrwydd.

Tudur Puw8 1/2 pwynt

Englyn cywaith: Dathlu

DATHLU 90 OED

Deg a phedwar ugain, a heini - wyt
Ond fe â eleni
I'w doe, eto 'mlaen ei di
Heb rwgnach tra bo'r egni

Dylan Davies8 pwynt

Telyneg: Ofn

Nid ofnaf ffwndamentaliaeth oer
pregethwyr siwtiog
slic
America,

Nac ychwaith
eu cefndryd barfog,
bratiog
yn nhyrau Islam.

Nid ofnaf orthrymder Tsieinia
yr India
ac Arabia

Oherwydd fod,
yn eu
mantra'
a'u siantia',
rhyw lun o gred ...

Ofnaf
y gair'
gwag
ar wefusau plant ein Gorllewin gwar

"wha'rever"

Cynan Jones9 pwynt

Telyneg: Ofn

(Bermo dydd Gwener y Groglith 2011)

Daeth haul y Groglith
i gynhesu'th war,
a staen yr eithin hyd dy grwb o gefn -
a dyma ti'n hen hoeden gegog flêr a godre'th wisg yn rhibyns hyd y traeth. Dy wên yng ngolau llachar yr arced a'r peiriant prês yn llenwi dy bocedi brau. Daw'r colomenod tewion hyd y prom i bigo yn y llwch o gylch dy draed. Pam na fynni heno i'r llanw ddod i sgwrio'th wyneb eto'n glaerwyn lân, a'th adel fel y buost ti un tro, yn eneth dalsyth ,hardd ar fin y traeth. Ond pan ddaw'r wawr fe'th welaf fel yr wyt, hen wraig yn hepian yn ei charpiau rhad, a'i chôf yn ddim ond mymryn blodau'r drain, neu ddafnau bach o ewyn ar y gwynt.

Haf Llelwyn9 pwynt

Englyn ar y pryd- Llwyddiant

Mewn gwaed oer a menyg du - y deuent
A'u dial yn tasgu,
Dod a wlad y Duwiol lu
I ladd a gorfoleddu .

9 pwynt

CYFANSWM-79 PWYNT.

Englyn ar y pryd- Llwyddiant

(Lowri Morgan)

Acw yn nhalaith Yukon-un noson hir
'D oedd ras wyllt a'i troeon
Nac iâ'r Arctig yn ddigon
Oer ei las i lorio hon.

8 pwynt

CYFANSWM-76 PWYNT.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.