Cwpled Caeth ar yr odl ar yr odl 'ol'
Ddaw'na â ddoe yn ôl,
Nawr yw ffin ein gorffennol.
Tudur Puw
8 1/2 pwynt
Cwpled Caeth ar yr odl ar yr odl 'ol'
Cynnau mae'r Dwyrain Canol
Y tân i waedgwn Whitehall.
Robin Huws
8 pwynt
Pennill Ymson - Mewn Brwydr.
O flaen y cawr a'r procar
Rhaid peidio colli amser,
Mi allaf guddio yn ddi fai
Tu ôl i Dai Llanilar.
Edgar Parry Williams
8 1/2 pwynt
Pennill Ymson - Mewn Brwydr.
Dyma fi dan ofal dwys
Yn cwffio'i fyw ers tridiau
Yn ofni heno bod fy nghwys
Bron cyraedd talar weithiau;
A thros y ffordd llanc ugain oed
Dan ofal rhyw ddau blisman
Yn gwrthod dyfod at ei goed
Gan fyw i gwffio'r cyfan;
Ond er im fyw i ddod yn ôl
Drwy'r frwydr o brofiadau
Nid hawdd anghofio'r ieuanc ffôl
Fu yno mewn gefynnau.
Machraeth
8 pwynt
Cywydd- Maddeuant.
Fel carthion rhyw gynrhonyn
Y mae bai ynom bob un
Bai ym mhob cam o'n bywyd,
Beiau'n hualau o hyd
Ar y daith trwy dywod oes.
Heb lanw tros helbul einioes
I sgwrio'n troedio o'r traeth,
I waelod y ddyniolaeth
Yr awn. A'r gollgyndod rhwydd
Rhag dagrauu gwaed euogrwydd?
Yr wyf tu draw i ofyn
Ai Duw biau'r llanw ai Dyn.
Nia Powell
8 1/2 pwynt
Cywydd- Maddeuant.
Fy nhad 'rwyf yn bechadur
Yn ffiaidd dan giaidd gur,
Ac 'rwy'n ôl. Fu dim holi
Llawenydd o ddydd oedd hi,
Ail wisgo'r mab a'i nabod
Yn bur fel tae' dim 'di bod;
Yna gwledd a phawb yn glyd
A rannai falchder ennyd.
Ei frawd hŷn ni chytunai
Ni ddoi'i fewn faddau'i fai,
Yna'r tad a ddaeth o'r tŷ
I'w fynwes a'i gyfannau.
Machraeth
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y linell- 'Nid wyf yn mynd i ofyn'.
De Affrica
A fydd gorwel dau elyn yn wynfyd
O enfys, â darlun
Ddoe i gyd yn ddu a gwyn?
Nid wyf yn mynd i ofyn.
Tudur Puw
8 1/2 pwynt
Englyn yn cynnwys y linell- 'Nid wyf yn mynd i ofyn'.
 hirgraith pob daeargryn - yn y byd
Inni'n boen a dychryn,
Nid wyf yn mynd i ofyn
Os bu'n hawdd esbonio hyn.
Robin Huws
8 1/2 pwynt
Cân- Y Gystadleuaeth.
Er mai dim ond dau oedd yn y ras
Roedd yn gystadleuaeth â thipyn o flas
Dau brofiadol, yn fawr eu dawn,
Dau wedi'u siwtio i'r sialens yn iawn
A'r gystadleuaeth i ennill y bri
Oedd dweud celwyddau- yn wir i chi
Wil'Rhafod ddaeth gyntaf yn edrych yn flin
A'r llall, wel mi guddiodd tu ôl i'r sgrin.
Medd Wil, 'Prynais Sbinglais, un mawr a chry',
Gwelais g'nebrwn yn Werddon o ben craig Uwch Rhyd Ddu
A phan roddwyd'rhen Wyddel i orwedd mewn hedd
Dew!'roedd canu rhyfeddol ar lan y bedd.
Doeddem ni'r plant byth yn cysgu'n hwyr,
Er ein bod bob amser wedi blino'n llwyr
A nhad gyda'i watch a'i ysbryd di ildio
Yn ein codi o'n gwlâu ddwy awr cyn mynd iddo.
Cafodd Wil sgôr dda, ond y llall aeth â hi
Roedd y boi-tu-ol-sgrin yn gelwyddgi o fri,
Daeth i'r amlwg or diwedd, 'doedd hi ddim yn ffêr,
A dweud "I was right- my name's Tony Blair".
Cynan Jones
8 1/2 pwynt
Cân - Cystadleuaeth.
Un noswaith cyn Nadolig ar Sianel Pedwar C
Daeth i mi chwant cystadlu enillais gyda chlec.
Y glec oedd Cracer Dolig, ar raglen Wedi Saith,
A ddaeth a'r wobr imi 'rol ceisio lawer gwaith.
A dyma sut 'renillais, John Hardy'n mofyn rhif,
Dewisiais innau ddeunaw, i mi hwn oedd y prif.
Ac meddai John wrth edrych y papur yn ei law,
"Rych wedi ennill I Pad", roedd hynny imi'n fraw.
I mi nid oedd gwahaniaeth rhwng I Pad , Neu I Pod,
Efallai fod gwerinwr 'roes yma braidd yn od;
Ond na, 'roedd holl wybodaeth bydysawd yn fy llaw,
A'r cwbwl mewn modfeddi o ddim ond saith wrth naw.
Ac O! y fath gystadlu a ddaeth i mi drwy'r post,
Yn cynnig pris cysylltu, a phwy oedd leia'i gost.
Rwy'n awr ar Fand Byd eang sy'n cynnig i bob un,
Y melys fel y chwerw, brwydr pegynau dyn.
Bu hon yn gystadleuaeth a barodd i mi fraw,
Gweld rhai'n tra arglwyddiaethu ar bopeth sy'n ei llaw.
Ond weithiau gwegia'r cread, ac ni all deall dyn,
Wneud synnwyr o'r dirgelwch sy'n rhan o angau hun.
Eurfon Griffiths
8 pwynt
Limrig- 'Mi glywais fod Ifan yr Hafod'.
Mi glywais fod Ifan yr Hafod
A Meri, ei wraig ' o yn gwbod
Mor braf fyddai morio
'Rhen afon heb suddo,
Mae'r ddau'n dysgu nofio yn barod.
Edgar Parry Williams
8 1/2 pwynt
Limrig- 'Mi glywais fod Ifan yr Hafod'.
Mi glywais fod Ifan yr Hafod
Mewn lle yn y Nefoedd yn barod
Roedd o'n ŵr o gryn fedr
Ond ffraeodd a Phedr
A chadd giwrat Llanbedr i'w ddarfod.
Audrey Jones
8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Pa raid i neb briodi
A dau o Fôn gyda fi.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Pa raid i neb briodi
Yn y sŵ fel chimpansi
0 pwynt
Englyn Cywaith - Drws.
Rhoes i rwbel y ffarwel eiriau
cariad i egino
yn dawel nes blodeuo'n
oriad gwlad i ddrws dan glo.
Tudur Puw
8 1/2 pwynt
Englyn Cywaith - Drws.
Sut mae mesur cysuron- a gollwyd
O aelwyd y galon,
A dôr ein du bryderon?
Yn fwy na briw o fewn bron.
Machraeth
8 1/2 pwynt
Telyneg : Dial
Rhedant yn siriol, gam wrth gam
Heb unwaith edrych yn ôl at Mam,
Rhedeg mae'r ddwy,law yn llaw-
Dydd Sul hefo Dad, ac mae'n bwrw glaw.
Gobeithia'r genod am dywydd gwell
Ond syllodd o ar rhyw orwel pell
A gyrru trwy'r wlad heb weld y tir
Ar siwrnai faith, ond fydd hi ddim yn hir.
Parcio mewn llecyn glân a gwyrdd
Ymhell o swn a phrysurdeb y ffyrdd,
O fewn dim mae'n nofio yn y niwloedd glas
"Dyma be gei di am be wnest ti'r AST.".
Cynan Jones
8 1/2 pwynt
Telyneg : Dial
Y dial gwir urddasol
Yw ein maddeuant llawn,
Fel Crist mewn poen arteithiol
Rhwng lladron un prynhawn,
Yn maddau i un ei feiau
Tra'r llall â geiriau gwawd
Er gweld y gwaed o'i greithiau.
Yn methu â'i weld yn frawd;
Ond gwelodd hen ganwriad
Am dri o'r gloch ei hun,
O'r duwch mawr ddylanwad
Ar Groes un mwy na dyn;
A lladdwyd pob dialled
Pan fwriodd hwn ei ddis
Tros ddilyn anfeidroledd
Yr Un fu'n talu'r pris.
Eurfon Griffiths
Englyn ar y pryd- Coedwigoedd Glaw
Ai un ddeilen fydd fy henaint- yn grin
Ar graith fy nioddefaid,
A hen drais cysgod yr haint
Yn gafael yn f'ysgyfaint.
Cynan Jones
8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 78 PWYNT
Englyn ar y pryd- Coedwigoedd Glaw
Cynllun solat gan Natur- anadledd
I'n cenhedloedd fesur
A ddaliodd nes i ddolur
o ddoe'n gwarth droi heddi'w'n gur.
Bryner Jones
8 pwynt
CYFANSWM- 74 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

