Y Talwrn - Tegeingl V Dyffryn Conwy

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Cwpled caeth ar yr odl 'if'

Wyf wr ewn po fwya'r rhif;
Rwy'n llwfr yn y lleiafrif.

Moi Parry
9 pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'if'

Milwr

Yn y rheng nid yw ond rhif
Yn anrhefn pob rhyw ganrif.

Andrea Parry
8 1/2 pwynt

Pennill Ymson - Mewn Protest.

Rwy'n cofio'r lladd a fu'n Phnom Penh
Budapest a Thiananmen,
ond er mwyn fy mhlant a'u tir
yma rwyf yn Sgwar Tachrir.

Dafydd Morris
8 1/2 pwynt

Pennill Ymson - Mewn Protest.

Cwyno ydwyf unwaith eto, 'rwyn gwybod 'mod i'n boen,
Yn crafu ac yn chwysu, a methu byw'n fy nghroen.
Y tablets ges i gan y doctor, sy' 'di rhoi fi yn y cawl,
Pan welai'r penci heno mi fyddai'n chwara'r diawl!.

Gwyn Hughes Roberts
8 pwynt

Cywydd- Gwrthod.

Rhy hawdd y llithraist trwy rwyd
Dy deulu a dy aelwyd;
I fyd gang, am fywyd gwell,
Dy golli i fyd y gyllell.
Mewn arch does neb i'th warchod;
Dy hunan barch - nid yw'n bod!
Unig wyt, a'th draed yn gaeth
Yn hualau'r frawdoliaeth.
Heria hwy! Dianc fydd raid
O anhrefn dianghenraid.
O'r gang, fe gei ddihangfa
A dod `nôl wedi dweud "Na!".

Marc Lloyd Jones
9 pwynt

Cywydd- Gwrthod.

Mynodd y seiri meini
Na da i ddim ydoedd hi,
rhy sal i godi'r seiliau
rhy wael i gario'r iau.
Craig o ddyn
Fel carreg ddaeth a'r gwyr
Heb weld rhagoriaeth.
Yn ddameg o garreg
Oedd ar ofyn y canrifoedd,
Un a roes sail i'r oesau
Un a'i ras fydd yn parhau;
Cennad fu'r garreg honno
A duw o ddyn ydoedd o.

Andrea Parry
9 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys y linell- 'Na nid af i dŷ Ifan'.

Hen afiaith fferm Maenefa nid yw mwy,
mae'n dy mud, heb ydlan;
hiraeth mawr gaf wrth y man -
- na, nid af i dy Ifan.

Dafydd Morris
9 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys y linell- 'Na nid af i dŷ Ifan'.

Na, nid af i dy Ifan,- oni bai y
Bydd yno'i hunan
Echdoe ces flew mewn brechdan
A rhegais ei wraig Sian.

Rhodri Sion
9 pwynt

Cân- Syniad da.

Gwn fod llawer cynulleidfa
'Di rhyfeddu, chwarae teg,
Ac yn methu'n lan a deall
Pam na chaf i, bob tro, ddeg!
Ond wedyn dim ond cr'adur dynol
Yw y Meuryn fel pob un.
Meidrol ydyw, fel r'ym ninnau,
Tueddu i fethu fel pob dyn.
Felly beth am wella'r system
A chreu robot at y gwaith?
Un a'r cyfrifiadur cryfa'
Rywle yn ei berfedd maith.
Byddai hwnnw'n gallu pwyso
A mesur pob un llinell, pob un gan.
A chawn i gyfiawnder wedyn
- Deg bob tro yn ddiwahan.
Ond ai dyna'n wir ddymunwn
Gyda sicrwydd deg bob tro?
Onid mwy o wefr o lawer
Yw cael naw prin ganddo Fo.

Moi Parry
8 1/2 pwynt

Cân- Syniad da.

Tra'n meddwl am y teitl ges i "bren wef",
Oedd yn edrych ar y pryd yn "syniad da".
Os medrai falu awyr am bum munud
Bydd y Meuryn siwr o feddwl 'mod i'n dda!
'Dwi bron at ugain eiliad hyd at 'rwan,
A deud y gwir, mae petha'n mynd yn dda,
Mae trafferth hefo'r odl bob 'nail linell,
Be gythral ga'i sy'n odli hefo da?
'Rwyn stryglo braidd i sgwennu'r llinell yma,
Er, deud y gwir, mae'n bwrw 'mlaen reit dda.
Mae hyd y leins yn peri poendod imi,
Ond diawl, dim, ots, mi fydd o'n ddigon da!
Mae'n dechra swnio'n ddiflas ail adroddus,
Mae'r Beibl felna braidd, so, mae'n beth da,
'Rwy'n siwr fy mod i fyny at funud bellach?
'Roedd hyd y lein 'na'n iawn, mae hynny'n dda!
Daw problem fach , rhyw bicil mewn ychydig,
Mae deunaw lein di mynd - di ddim yn dda!
Rhyw air neu ddau i lenwi tua'r diwedd,
A dyna ni, 'di gorffan - syniad da!.

Gwyn Hughes Roberts
8 1/2 pwynt

Limrig -Pan oeddwn yn mynd drwy Dreffynnon.

Pan oeddwn yn mynd drwy Dreffynnon,
A mhledran i'n llawn i'r ymylon,
Mi stopiais am wi
Wrth gapel M.C.
Ond dydwi'n Fedyddiwr bach ffyddlon.

John Gruffydd Jones
9 pwynt

Limrig -Pan oeddwn yn mynd drwy Dreffynnon.

Pan oeddwn yn mynd drwy Dreffynnon
Ty haf oedd yn llosgi yn yfflon,
Roedd 'phonebox' gerllaw
A rhedais i draw,
Lle hylaw i fochel rhag gwreichion.

Gwenno Edwards
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Er iasau merch Ffostrasol
Nid yw Ned am fynd yn ol.

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

(Simon Cowell sy'n siarad).

O udo ar Pop Idol
Nid yw Ned am ddod yn ol.

1/2 pwynt

Englyn Cywaith- Botwm.

Ar fy nghot mae un botwm o fyddin
Fu iddi ers talwm.
Er yn drech bu'r brwydro'n drwm
I'w cadw rhag eu codwm.

Pedr Wyn
10 pwynt

Englyn Cywaith- Botwm.

Botwm ambell flows.

Pan fo'r frest yn ymestyn - a herio
Trugaredd dilledyn,
Y mae o hyd siom o un
Yn dal fel tant y delyn!

Rhodri Sion
10 pwynt

Telyneg Tân.

Mae tan y machlud heno
Yn gochliw dros y Swnt,
A llepian tonnau rhythmig
Yn mwytho'r creigiau brwnt.
Mae'r brain yng nghoed Nanhoron
Yn siglo'r dydd i'w hynt,
A thrwst eu hwiangerddi
Yn glebran ar y gwynt.

Ar aelwyd fy nghynefin
Does ond marwydos llwyd,
Tawelwch lle bu dadwrdd,
Llonyddwch lle bu nwyd.
Diffoddwyd fflam hen eiriau,
Diflannodd tinc fy iaith,
A choch yw machlud Enlli
Fel gwaed o dan y graith.

John Gruffydd Jones
10 pwynt

Telyneg Tân.

Mae'na gynhesrwydd ym mrath y rhew,
A charthen y nos yn lapio'n
Warchodol o'n hamgylch.
Tân glo o ddiddosrwydd cwpwl
A'i wreichion yn tasgu i oleuo'r gwyll
Fflam yn llosgi'n llachar
A'r grât yn gochni o embaras
Yn Nhanbeidrwydd dau

Ond rhywbryd,
Rhwng dawns bysedd y cloc,
Rhygnodd amser.
Sleifiodd yr awr dduaf honno, ar ei gwarthaf,
A heb broc i'r tân sy'n farwor, mud
Syllaf yn unig i ddyfnder y nos.

Yng ngonestrwydd y bore bach,
Mae ias oer yn dy gyffyrddiad
Ofer yw chwilio yng ngweddillion
Y llwch a'r lludw,
Ac ym mhellafoedd ein bod
Mae brath y rhew yn dy gynhesrwydd di.

Andrea Parry
9 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd- Celwydd Golau

Gwr onest, a gwr heini - un doniol
A deunydd priodi,
Ar y we'n ei charu hi
A'i fryd ar ei difrodi.

9 pwynt

CYFANSWM 83 PWYNT.

Englyn ar y pryd- Celwydd Golau

I rywun dim ond unwaith - a'r llafur
Yn llifo daw campwaith,
Herio'r ffawd, a dyna'r ffaith
A damiwn, chwythodd ymaith.

8 1/2 pwynt

CYFANSWM- 81 PWYNT.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.