Y TALWRN ABERHAFREN V MANION O'R MYNYDD

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn rownd cynderfynol o'r Talwrn.

Cwpled caeth ar yr odl 'ai'

Wyf uniaith ger y Fenai,
wyf ail iaith yn Nhaf-Elái.

Llion Pryderi Roberts9 pwynt

Cwpled caeth ar yr odl 'ai'

A yw lladd yn bechod llai
i lofrudd yn ei lifrai?

Tudur Puw10 pwynt

Pennill mawl / dychan 'Trafnidiaeth gyhoeddus'

Mi deithiais y byd ar drên moethus, drud,
cyn dal hen fws Crossville, yn ffôl.
Doedd gen i ddim stress ar yr Orient Express,
ond rwan does gen i'm pen-ôl.

Ifan Pleming8 1/2 pwynt

Pennill mawl / dychan 'Trafnidiaeth gyhoeddus'

Dwi'n dallt, dwi'n meddwl, y pregethu 'gwyrdd'
I ostwng 'rholl draffig sydd ar ein ffyrdd,
Ond a'i dyma'r rheswm tu ôl i'r ffaith
Na fu bws drwy'r pentra ers amser maith?.

Tudur Puw8 1/2 pwynt

. Cywydd: yn dechrau â'r geiriau 'yr wyf'

Angel

(Cofgolofn ryfel Aberystwyth)

Yr wyf fyth uwch y dref hon
yn waedd o hen newyddion,
yn gyrru rhwyg, bob yn gri,
drwy awelon du'r heli.

Lledu'r wyf, dros wyll o draeth,
i'r gorwel reg o hiraeth,
a galargan gwylanod
ar gleisiau o donnau'n dod
yn ôl o hyd yn niwl haf
neu'n un ag ewyn gaeaf
ar y lli, lle bwria'r lloer
olau oesol o iasoer.

Aron Prichard10 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cyfhwyn gyda'r geiriau 'Yr wyf'

Yr wyf yn un o'r ifanc
 hir oes cyn dyfod tranc,
Â'r haul o hyd ar y lôn
Byw ras o gamau breision,
A wnaf, heb edrych yn ôl
Na phoeni am orffennol
I'm cau tan raffau ei rwyd,
Byw rhydd yw byw mewn breuddwyd,
Ond braidd yn uwch ydyw bryn
Nag ydoedd ddoe ac wedyn
'Nos Sadwrn' sy'n fwrn na fu:
Wyf, yr wyf yn arafu.

Nia Powell10 pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'cyn bo hir'

BODELWYDDAN (a'r bwriad i godi 1,700 o dai)

Acenion o bell, cyn bo hir, a ddaw
bob yn ddarn o filltir
i droi'r iaith yn dre rithwir
trwy roi taw ar eiriau'r tir.

Rhys Iorwerth9 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys y geiriau 'cyn bo hir'

Yn awch y glaw anochel, awn yn bâr
Cyn bo hir i fochel,
Bwrw oes dan ymbarel
Tywydd dy wenau tawel.

Tudur Puw9 pwynt

Cân: 'Yr Ymarfer

Nid penyd ydoedd C'warfod Plant bob Llun
lle'r oedd direidi'n crafu parch o'r farnish,
er gwaetha'r cloc a'n dwrdiem bob yn un
â'i salmau llym dan sglein rhyw nefol bolish,
nes clywais innau sibrwd gwynt drwy'r pîn
mewn pasiant poeth, pob nodyn ar y papur
mor drwm â'r Beibl mawr, neu oglau gwin,
a blas y triog ar linellau'r 'Sgrythur.
Ond er gwneud stumiau ar eiliadau ffydd
a bygwth tynnu'n groes, fe wyddai'r cloc
yn iawn na chawn i ffoi na thorri'n rhydd
rhag barn y pendil mawr o flaen y doc,
a'i siant sy'n dal i dician ynof i:
Rhys Lewis, nid Wil Bryan, ydwyt ti.

Llion Pryderi Roberts9 pwynt

Cân: 'Yr Ymarfer

Practisio y mae y meddygon
'Dwi'n poeni ac yn dweud a dweud,
Os mai 'marfer mewn 'practice' y mae nhw
Pa bryd dônt i weld be i'w wneud?

Mi fûm i'n ymarfer ffwtbol
Ac yn dallt bod un cae a dwy gôl,
Ond â'r doctor yn dal i bractisio
Ydio'n dallt bod pen blaen a phen ôl?

Mi fûm i'n ymarfer cerddoriaeth
'Sincupation' sy'n handi bob tro,
Ond pan ddaw hi yn 'amputation'
Ai'r goes dde ynteu'r chwith wnaiff y tro?

Mi fûm i'n ymarfer Shakespeare
A chymysgu 'to be' a 'not to be',
Ond â'r meddyg yn practisio'n ddyddiol
Mae'r 'to be' yn reit bwysig i mi.

Ar ôl chwe mlynedd o goleg
Cânt hawl i ymarfer yn graff
Onid gwell fyddai cwrs deugain mlynedd
Na chwe mlynedd i'm bodio i'n saff?

Edgar Parry Williams8 pwynt

Limrig yn ymwneud â throseddu.

I lawr o'r hofrennydd daeth Wili
i'm winsho o'r eira'n Eryri,
ond pan o'n i'n saff
mi dorrais ei raff
a gadael y crinc yno i rewi.

Llion Pryderi RobertsIfan Pleming8 1/2 pwynt

Limrig yn ymwneud â throseddu.

Pe bawn i yn digwydd troseddu
Mewn Talwrn, mi hoffwn i gredu
Y cawn ganddo fo
Ddeg marc am y tro
A beiro am ddal i gystadlu.

Edgar Parry Willaims8 1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Pwy a wyr pa synnwyr sydd
yn y Manion o'r mynydd

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Ai oes yng ngwaed y meysydd
Pwy a wyr pa synnwyr sydd

1/2 pwynt

. Englyn cywaith: 'Twyll'.

(John Cooper, llofrudd Sir Benfro).

Y gwaed ar rwyg o edau a dyfai'n
edefyn, a hwythau'r
anochel gyfrinachau
yn gweu cylch, a'r cylch yn cau.

Rhys Iorwerth
9 pwynt

. Englyn cywaith: 'Twyll'.

Mae'r croen oer, ac yno
Hi a glyw o'i arogl o
Wanwyn ei hail-egino

Tudur Puw8 1/2 pwynt

Telyneg: 'Gallu'

hyd yr un hen hewl bob nos
a gweld
yr un dadleuon
yn sleifio drwy ddrysau,
a difaterwch yn cyfarth mewn stafelloedd cefn.

a'n sgwrs
yn gysurus
fel cardigan dros ysgwyddau.

ac mi gofiaf
am yr un hen hewl
yn ifanc,
a ni'n dau
yn y gwair newydd ei dorri,
dy eiriau yn wead o addewidion
fel gwybed y nos.

roedd yr hewl
yn gymaint llyfnach
yn arwain
dau gysgod
i'r un lle.

fe gerddwn
sha thre
heibio i'r gerddi
sy'n grop crin
o berffeithrwydd...
at henaint
sy'n sownd mewn llenni poeth
fel stêm sosbenni....

a'r cyfle a gollwyd
yn hongian
o'n blaenau
yn we pry copyn
yn y glaw.

Mari George9 1/2 pwynt

Telyneg: 'Gallu'

yn annisgwyl
trwy'r drws.

i osod ei reilffordd bren
ddarn wrth ddarn
yn llwybr newydd
i'w drên bach o.

Dyflwydd ydi'o,
dyflwydd diwyd,

ar ei fol,
ar ei ffordd,
dros y carped cynnes,

tua'r drws.... ,

Cynan Jones9 pwynt

Englyn ar y pryd- Aderyn

Roedd y rhaglen 'Ar lafar' yn dangos sut y gall cynfryngau newydd fel ' twitter' roi gobaith i'r iaith

Hyd wifren lle clywir' wennol erydu
ei thrydar clasurol,
daw'deryn iau, di droi'n ôl
yn adenydd trydanol.

9 pwynt

CYFANSWM - 82 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd- Aderyn

o'r duwch waur newydd
yn awen i'w adenyad
i grwydro eto yn rhydd.

9 pwynt

CYFANSWM-81 PWYNT.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.