Y Talwrn- Caernarfon V Tir Mawr
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled Caeth ar yr odl 'OT'
Rêl gwalch, amryliw ei gôt
A'i araith ydy parot.
Robin Evans8 pwynt
Cwpled Caeth ar yr odl 'OT'
Di-fudd defnyddio dy fôt
A bwled yn troi'r ballot.
Huw Erith8 1/2 pwynt
Pennill Ymson -Baban
Cyrhaeddaist, a ffarweliais innau'n llon
Ag anghyfrifoldebaeth pybyr llanc:
Fy ffydd ddielw gleddais ger dy fron -
Croesewais dy sgrechfeydd i seinio'i thranc.
Yn awr, wrth afael yn d'eiddilwch noeth
Mi deimlaf einioes ddibendraw yn hŷn;
Yn syber gyfiawn, ac yn nerthol ddoeth -
Yn Solomon - fe droes y llanc yn ddyn.
Ond er ymddifrifoli er dy fwyn
Un wên ddiniwed dyrr y mur yn deilchion,
Wrth beri imi ffoli yn dy swyn
A dychwel i fabandod ar fy union:
Ac er pob cyfrifoldeb, gwn yn syth
Mai diniweityn fyddaf tra bo chwyth.
Emlyn Gomer9 pwynt
Pennill Ymson -Baban
Mi dwi`n nghanol llwyth o famau
Sun rhoi mwytha, a thynnu stumiau,
Finnau yn y goitsh yn gwenu,
(Ma nhw`n deud na gwynt di hynny)
Ond fy hun mi ydwy`n ama
Fod na fwy na gwynt yn fama.
Huw Erith
8 1/2 pwynt
Cywydd- Bro
Enwyd pob rhan ohoni
Unwaith; rhoi'n hiaith arni hi
Yn nod; enwi pob nodwedd;
Rhoi gair i bob cwr o'i gwedd,
Yn afon, ffynnon a phant,
Enwau i ffridd a cheunant,
Enwau i hen dyddynnod,
Enw i bob erw'n bod.
Ein hunaniaeth yw'n henwau,
Yn hwyrddydd ein bröydd brau
Mae synau i'n henwau ni,
Synau sy'n hanes inni.
Ifan Prys
10 pwynt
Cywydd- Bro
Fis yn ôl roedd cystadlaethau celf a chrefft yr Urdd ar y thema 'Bro' yn cael eu harddangos yn Neuadd Nefyn
Mae hanes Rhys a Meinir,
gwyn ar ddu'n tyfu o'r tir,
ac mor addas i lasoed
wanwyn y gweu i'r Lôn Goed.
Gwaed ddoe, gydag edau ddu,
yw teiliwr hen gloc teulu;
enwau'r ardal mewn calon;
mynwent inc mewn ewyn ton.
Myrddin ap Dafydd
10 pwynt
Englyn Cil-dwrn- Bedargraff Bwji
Wedi oes rhwng y barrau dur - yn gaeth
Yn ei gell ddigysur,
Rhyddid pur.
Robin Evans8 1/2 pwynt
Englyn Cil-dwrn- Bedargraff Bwji
Aeth i fol y gath felen; - ni lwyddwyd
i gladdu dan lechen
Ond dwy bluen.
Myrddin ap Dafydd
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Cael Cam
Dwi'n gwybod ers plentyndod ac arholiad y Rhodd Mam
fod rhai yn cael y lwc i gyd ac eraill yn cael cam;
mae rhai yn byw ar friwsion sych, a rhai yn byw ar jam;
mae rhai'n gefnogwyr Barça tra bod rhai yn ffans West Ham;
mae rhai'n cael cerdyn gan eu nain, a rhai'n cael kissogram;
mae poenau'r byd ar sgwyddau rhai, a rhai'm yn becso dam;
mae rhai yn sêr byd-enwog er bod neb yn gwybod pam
a rhai fel Andrew Ridgeley (aelod anghofiedig Wham);.
mae rhai yn casglu llwyau pren a byth yn cael Grand Slam;
mae rhai'n cael e-byst difyr, ac eraill yn cael sbam;
mae rhai yn gontact-lensiog, rhai yn gwisgo sbecs pot jam;
mae rhai yn byw ar lan y môr a rhai yn Birmingham;
ac mae rhai yn mynd drwy fywyd heb fyth orfod gofyn pam
mae rhai yn byw mewn braw dan gawod bomiau Uncle Sam.
Geraint Lovgreen8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Cael Cam
I 'nghyfarfod daeth, y llynadd, beth a dybiais i oedd angladd
Wrthi'n dod o Benrhosgarnadd ar hyd lôn
A rhai oriau ar ôl hynny dois yn ôl a'i ddal o'i fyny
Hanner ffordd ar draws y weilgi i Sir Fôn.
Ar du blaen y ciw llafurus roedd y llusgwr adnabyddus
Y parchedig Raymond Harris, Hendre Gul.
Roedd y bont yn cael ei thrwsio neu mi fyddwn wedi'w basio
Hyd yn oed petawn i'n bagio. neu ar ful.
Roedd ei fam o, Musus Harris, yn sêt gefn 'di gwlychu'i throwsus
Ar ôl gadael Llangristiolus ers tua saith
Er mwyn mynd i Fetws Garmon yn y moto efo Raymond
Wnaeth o'm newid gêr o second drwy'r holl daith.
Roedd hi felly'n ergyd greulon pan dderbynio' nhw'r newyddion
Fod o wedi gyrru'n wirion dros y lli.
Dengys camra cudd yr heddlu 'fod o'n gyrru drwy Borthaethwy
Ar gyflymder angrhedadwy - Tri deg tri !
I osgoi cael ffein anghynes aeth am sesiwn 'speed awareness'
Rhaid oedd gyrru drwy Fiwmares 'hyd stryd fawr
Ar ôl degllath roedd yr heddlu oll yn ymbil ac yn crefu
Ar y creadur bach i roi ei droed i lawr.
Trefnwyd ymgyrch 'mhen dim amser i ddad-wneud yr anghyfiawnder
Ac fe gasglwyd enwau lawer gan ei fam
Rydw i a'r hanner miliwn wnaeth arwyddo ei phetisiwn
Oll yn tystio fod y llwdwn 'di cael cam.
Gareth Jones8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â gyrru'n gyflym
Bob tro pan dwi'n gyrru dwi'n sbidio
ond yn wir ichi, fedra'i ddim p'idio,
Ond nid fy llun i
sydd yn eich llun chi:
mae'n edrych fel fi, ond ddim fi 'dio.
Geraint Lovgreen8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â gyrru'n gyflym
Roedd Tex mewn Ferrari bach dryd
A nain heb ddim brys yn y byd
Fel 'tasai mewn angladd
Ond dyma nhw'n cyrradd
Y nefoedd ar union r'un pryd.
Gareth Jones9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Mi am adref o Nefyn
a rhwyfo nol o'r fan hyn.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Mi am adref o Nefyn
ond eto, rwyf yn lle Llŷn.
1/2 pwynt
Englyn Cywaith -Terfyn
O dan garped o redyn - pob curiad,
Pob carreg sy'n perthyn,
Mae urddas yn y murddun
A hir oes i'r muriau hyn.
Ifan Prys9 pwynt
Englyn Cywaith -Terfyn
Yng nghwm yr hirlwm, mae hyn yn arwydd;
Dyma war y flwyddyn;
Yno ar glawdd genau'r glyn
Mae haul yn argae melyn.
Myrddin ap Dafydd9 pwynt
Telyneg -Siom
Neithiwr yn Aberystwyth
codais ffenest y gwesty
er mwyn rhannu'r noson
â hen rwnan y môr y tu draw i'r prom,
yn sugno cerrig drwy ddannedd ei donnau,
y llanw yn troi a'r lleuad yn ei lywio.
Agorais yr amlen a gawswn gan dy weddw,
anwylo'r papur a dechrau darllen dy waith
sy'n fyw-farw, fel cudyn o wallt rhwng cloriau llyfr,
a chlywn dy lais drachefn, yn gymysg â'r môr;
geiriau'r mynydd wedi'u hwsmona'n ofalus;
profiadau'r ddinas yng nghorlannau dy gerddi.
A rhannwn breifatrwydd y creu,
dy lawysgrifen yn cyrlio cywiriadau brwd
o gwmpas y teipysgrif, ail fyw dy syniadau,
cyn deffro dan olau trydan yr oriau mân
yn nofio'n syfrdan mewn cerddi,
yn boddi mewn absenoldeb
a'r môr wedi cilio ar hyd y traeth.
Ifor ap Glyn
10 pwynt
Telyneg -Siom
Rhwng dwyffordd mae fy newis - y ffordd wyllt
Dros fynydd yr ehedydd, ffordd heb ffens
Lle bydd y machlud, mawn a chreigiau'r myllt
Ac enwau'r hen hafotai yn gwneud sens;
Neu ffordd y glannau: ffordd sy'n glynu'n ddof
Wrth fastiau ffôn; mor ddiflas yn fy mhen
Yw llyfnder ffrwd darmác ddi-dwll, ddi-gof
Dan oleuadau oren uwch lein wen.
Drwy 'Sbyty, dros y Migneint, 'aiff y fan
A swn y tynnu i fyny, ambell glec
Drwy olion rhew, sydd fel cymêrs y llan
A'u chwerthin; nes bu'n rhaid cael stop, cael sbec
Ar olwyn fflat mewn lle heb ddim ond bref
Druenus dafad sydd ymhell o dref.
Myrddin ap Dafydd10 pwynt
Englyn ar y pryd- Buddugoliaeth (S4C)
Ac wedi'r holl ddegawdau-o'r diwedd
Mae'r dial yn dechrau
A Magi Thatcher hithau
A'i holl nerth yn llawenhau.
Ifan Prys 8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 80 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Buddugoliaeth
Fe ddaw trem drwy naws emyn-o'i neges
Gorchfygir hen elyn;
Ond Duw'n ei foment ei hun
Ry nodau ar ddrain wedyn
Huw Erith9 pwynt
CYFANSWM- 81 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

