Cwpled Caeth ar yr odl 'ad'
Troi'n fwy byddar i'n siarad
O glos i glos wna cefn gwlad.
Hywel Rees
8 pwynt
Cwpled Caeth ar yr odl 'ad'
Os gwario ar ysgariad
Wnaf ryw ddydd - a gaf ryddhad?.
Emyr Jones
8 pwynt
Pennill Mawl neu Ddychan 'CYFLWYNWYR TELEDU '.
Mae'n bwysig yn y ddinas
Cael merch mor fain â styllen,
Ond i gyflwyno yng Nghefen Gwlad
Mae eisiau dyn fel casgen.
Dai Jones
9 pwynt
Pennill Mawl neu Ddychan 'CYFLWYNWYR TELEDU '.
Arwyddair cyntaf ein sianel oedd 'Dewch ar Ddec S4C'.).
Lansiwyd eu llong yn ddi-embargo,
Sidan ei hwyl, a phres ei chargo.
Bonllefai'r criw oedd ar ei dec
Eu Bon Voyage, Es Pedwar Siec!
Ond daeth i ben yr hinon ha,
A theimlwyd heth y mynydd ia.
Neidiodd y Capten heb 'So long,'
Doedd neb nawr fedrai lywio'r llong.
A beth ddaeth o'r cyflwynwyr ffôl?
Mae sawl un bellach ar y dôl.
Beth am y llong? Wel, ar fy llw,
Ail-enwyd hi'n 'Titanic Two'.
Lyn Ebenezer
9 pwynt
Cywydd - Trosedd.
Liw nos, cyflawnwyd trosedd,
Un â'i frwsh fu'n tarfu'r hedd.
Peintiwyd, anharddwyd murddun
 deuair hallt, ond er hyn
Nid oedd prawf, prawf ar y pryd,
I'w arestio'n Llanrhystud.
Cofier am bob Tryweryn
O dan orchudd llonydd llyn
Oer a mud, cans di-rym oedd
Y lleisiau yn y llysoedd
Am fod gan hil ddig'wilydd
Hawl i'w dwyn yng ngolau dydd.
Idris Reynolds
9 pwynt
Cywydd - Trosedd.
Mae 'na si a mae 'na sôn
Ar hwyliau yr awelon
Yn mynnu siglo am enyd
Dyrau hen bwerau'r byd.
Ond i sawl, nid yw Sulian
A'i lol yn chwarae yn lân,
A chreu'r dellt o grychu'r dŵr
Wna clecian Wiciliciwr.
Euog yw o ddweud y gwir,
A fandal pob cyfandir;
Mesurlath pob cath o'r cwd
Yw sobrwydd yr holl sibrwd.
Raymond Osbourne Jones
8 1/2 pwynt
Englyn cynnwys dwy dalaith yn America.
Yn nyddiau'r globaleiddio - mae acen
Y Big Mac yn ffreio
O Dubai hyd Ohio,
O Gdansk i Idaho.
Hywel Rees
8 1/2
Englyn cynnwys dwy dalaith yn America.
Esgus mai yn Alasga - yr oeddem
Yn rhwydd y mis dwetha';
Ai ffwrnais Califfornia
Fydd ein byd ar hyd yr ha'?.
Emyr Jones
8 1/2 pwynt
Cân- Y Briodas.
Ma' pob priodas jest 'r un fath,
(er bod 'na un neu ddwy yn teimlo'n wa'th),
Stag y priodfab rhyw fis o flaellaw,
Plismones o stripyr a rownds di-ben-draw,
Penwythnos heger, swnllyd
A neb yn cyfri'r gost,-
Ond dyw'r parti ddim yn llwyddiant
Os nad yw pawb yn dost.
Ac iddi 'HI' ceir noson 'HEN'
Y briodferch druan mas o'i phen
Sgert mini, boob tiwb a balŵn,
Hi'n llawn o gin, Red Bull a sŵn.
Ac yna'r diwrnod mawr ei hun
Perthnase dierth ac Antis blin,
Tro cynta'n y capel i ran fwyaf o'r criw
( Tro nesa mewn bocs yn mynd at eu Duw)
Llygaid pawb ar y 'bride' yn syn.
'Ma' cheek 'da hon i wisgo gwyn!'
Hi'n 'forwynol' a fe fel Chav
Yn dweud 'We do' ond yn gwybod 'We have!'
Na, 'ma priodas i mi
Yn syrcas ddifeddwl.
Mae'n well 'da fi angladd -
Mae'n lot llai o drwbwl.
Dewi Pws Morris
9 1/2 pwynt
Cân- Y Briodas.
( Y briodas gynta erioed ).
Flynyddoedd yn ôl yng ngardd Eden,
Ble cychwynodd y cyfan i gyd,
Penderfynodd 'rhen Adda fynd ati
I gynyddu poblogeth y byd.
Felly tynnodd y ddeilen fawr riwbob
A ddisgynodd i'r llawr wrth ei draed,
Tynnodd Efa y ddeilen llwyn rasberis,
Llifodd rhamant yn gry drwy eu gwaed.
Gorweddasant o dan goeden 'fale,
A dyma yr hyn sydd yn drist,
O'r brig syrthiodd 'golden delicious'
Gan daro Efa yn ochr ei chlust.
Felly y hi oedd y cyntaf a ddwedodd
Pan disgynodd yr afal o'r pren,
Y geirie anfarwol, 'O na, dim heno,
Mae gen i gythgam o boen yn fy mhen.'.
Alun Jenkins
9 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud ag anlwc.
Roedd Dafydd yn byw yng Nghydweli
Da pymtheg o blant a'i wraig Neli
Odd fawr ddim i'w wenud
a dim byd i'w ddweud
A dyna pam bryno'n nhw deli.
Owen James
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud ag anlwc.
(ANLWCUS: MOSES MEWN WELINGTONS).
Un dydd ar y lôn heibio'i Saron
Yn wlyb at ei groen roedd brawd Aaron;
Medde fe gydag och,
'Ddes i'n sych drwy'r Môr Coch,
Ond fe wnes i draed moch o Gors Caron.'
(Mae Saron, fy nghartref, ar ymylon Cors Caron.)
.Lyn Ebenezer
8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Rhai od iawn yw rhai dynion
Yn Nhalysarn' nol y son
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Rhai od yw rhai dynion
Rhai yn lleddf a rhai yn llon
1/2 pwynt
Englyn Cywaith -Aderyn.
( Un o'r rhai sydd yn trydar ar y we)
Y mae'r llefain mor llafar - ar rwydwe
Yr adain gyfeillgar;
Dwyn hen wae y ddrudwen wâr
A wna'r haid sydd yn trydar.
Dai Jones
8 1/2 pwynt
Englyn Cywaith -Aderyn.
(Peiriant rhyfel - "Drone")
I warchod rhag anarchiaeth yn y byd -
At bob aflywodraeth,
Fwltur o ddur 'nawr a ddaeth
I reoli marwolaeth.
Raymond Osborne Jones
9 pwynt
Telyneg - Colled.
Yn ôl Adroddiad diweddar gan Fwrdd yr Iaith mae'r Gymraeg yn diflannu fel iaith bob dydd yng nghymoedd Aman a Thawe )
Da'th awel fain o'r Mynydd Du,
Troi'n G. C. G. wna'th Gwaun Cae Gurwen,
Mae'r dant y llew fel estron hy
Yn bwrw gwraidd yng ngardd mam-gu,
Mae'r wilia'n tewi fesul tŷ
A 'sdim Cwmrâg ar Heol Coelbren,
Da'th awel fain o'r Mynydd Du,
Troi'n G. C. G. wna'th Gwaun Cae Gurwen.
A meinach ydyw iaith y stryd
Nag o'dd yn nyddie Gramps a Nanny,
Pan o'dd y sgwrs yn gân i gyd,
Yn clymu'r holl bentrefi 'nghyd
Yn rhan o'n hetifeddiaeth ddrud,
Cymdogaeth o'dd y Waun bryd hynny;
A meinach ydyw iaith y stryd
Nag o'dd yn nyddie Gramps a Nanny.
Dewi Morris
9 1/2 pwynt
Telyneg - Colled.
Gwelais, flynyddoedd maith yn ôl
Rhyw filwr tal ar Weun Blaenddol,
Ac yn ei law fe ddaliai lun
O fachgen bach fel fi fy hun.
Roedd llygaid gwag y dyn yn goch,
A llifai dagrau lawr ei foch.
Ceisiodd fy nenu ato i'w gôl,
Y milwr tal ar Weun Blaenddol.
Roedd milwyr eraill llawn cybôl
Yn fawr eu trwst ar Weun Blaenddol,
Ond sefyll yno wrtho'i hun
Wnai'r milwr tal a ddaliai'r llun.
Cynigiodd i mi degan pren
A losin cnoi a ffownten pen,
Er hynny, awn i ddim i gôl
Y milwr tal ar Weun Blaenddol.
Diflannu wnaeth ar antur ffôl
Un dydd gan adael Weun Blaenddol,
Efe a'r lleill ar ddydd o ha
I draeth a enwyd Omaha,
Eu gwaedd ddiflannodd yn y gwynt
Fel rhai a aeth i Gatraeth gynt.
Ni ddaeth yr un fyth eto'n ôl
O'r milwyr tal i Weun Blaenddol.
Mae'n dawel nawr ar Weun Blaenddol,
Ond daw hen atgof di-droi'n-ôl
Weithiau; ar chwyslyd nos ddi-hun,
Gwelaf y plentyn yn y llun,
Hwnnw â'r wên a'r cyrliog wallt,
Yn awr yn wylo dagrau hallt
Wrth ofer ddisgwyl cysur côl
Ei dad, fu gynt ar Weun Blaenddol.
Lyn Ebenezer
9/12 pwynt
Englyn ar y pryd- Buddsoddiad.
(Mae 400 o bobl lleol wedi cyfrannu i brynu darn o dir, Pwll Hai, yn Abertwifi ar gyfer datblygu siopau lleol yng nghanol y dre.)
Hen waddol yn eu meddiant - o gyfran
I gyfran a fentrant;
Heddiw'n hael buddsoddi wnant
Afon Teifi'n y tyfiant.
Idris Reynolds
9 pwynt
CYFANSWM- 80 PWYNT
Englyn ar y pryd- Buddsoddiad.
Bo i rhai son am barhan - ein hen hil
Sy'n awst ei dirywiad;
I'r werin rhaid yw'r arad
I hau am egin a had.
Lyn Ebenezer
8 pwynt
CYFANSWM- 79 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

