Cwpled Caeth yn cynnwys enw peldroediwr.
Rhannu gôl 'da Ryan Giggs
yw anterth Wayne a'i antics.
Moi Parry
8 1/2 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys enw peldroediwr
 thrydan yn ei anel
gwerth y byd yw Gareth Bale.
Berwyn Roberts8 pwynt
Pennill Ymson- Mewn Ward
Gwthiwch," meddai nyrs awdurdodol,
Dwi'n gwthio nes mae ngwyneb yn llwyd,
Ond y wraig a ddylai fod yma.
Yn Adran Mamolaeth Glan Clwyd.
Pedr Wyn8 1/2 pwynt
Pennill Ymson- Mewn Ward
Ynysoedd o lawenydd
o amgylch pedwar crud:
cofleidio a gwirioni
am un sy'n llanw'u byd;
ond yn y gell fach fud gerllaw,
nid oes na chrud na llond ei llaw.
Eifion Lloyd Jones9 pwynt
Cywydd - Dyletswydd
(I Mam)
Am beth y chwiliwch Mam bach?
(A ellir dwedyd bellach?
A pha ffordd aeth cof di-ffael
yn gof sy'n colli gafael?
Rhof gariad dod-i'r-adwy
gofal Mam yw'm gofal mwy).
Gydol ein braf ddegawdau,
fi a chwi'n hapusach, iau,
yn anterth cyffro plentyn
anrheg im fu'r oriau gwyn
a chwi, fy mam gyfrifol
'leni wyf yn talu'n ôl.
Dafydd Morris8 pwynt
Cywydd - Dyletswydd
(wedi gweld hen gapel yn Glwb Nos yng Nghaer Wysg gyda cherrig beddi yn rhes yn erbyn wal yr adeilad)
Duw ymhell, a dim o'i ôl,
a'r gwirod yn lle'r garol.
Gorwedd y cerrig beddi'n
un rhes hir i'n hysgwyd ni
o'n hirgwsg ac mae argoel
i'n tristhau'n y muriau moel.
A'r neges trwy'r ffenestri -
A'i hwn yw ein capel ni?
Y byd na wybu ei werth
a wna rwbel o'r aberth
a wnaed a'i drosglwyddo i ni:
Mynnwn warchod y meini.
John Glyn Jones8 pwynt
Englyn ar yr odl 'af'
Yn y gler mi ddisgleiriaf, - ar dalent
Rhyw Dalwrn rhagoraf.
Ym mhob Steddfod mi godaf;
Ond yn wir breuddwydio wnaf.
Moi Parry 8 pwynt
Englyn ar yr odl 'af'
Daw bore'r diwrnod byrraf - â rhyw wefr
o weld newid araf;
Yn y gweld minnau a gaf
addewid o'r dydd hwyaf.
Berwyn Roberts9 pwynt
Cân - Cyfle Arall
Ches i'm cyfle i weld y briodas,
Rhwng William a'i briodferch hardd,
Roedd tasgau Y Talwrn yn galw,
Heb son am waith yn yr ardd.
Rhaid cofio pa beth sydd yn bwysig,
Mewn dyddiau gwael a di-waith
Ac mi welwn ni'r cyfan eto
O leiaf tua ugain gwaith.
Mi ges fy ngalw'n wrth Brydeinig
Gan rhywun i lawr y stryd,
Wrth i mi fod wrthi yn brysur
Yn gwneud y tasgau i gyd.
Os yw Wil yn debyg i'w deulu,
Yn dilyn llwybr ei dad,
Pwy wyr na chawn ni briodas eto
A diwrnod o wyliau rhad.
Moi Parry8 1/2 pwynt
Cân - Cyfle Arall
Priododd gŵr o Bandy â lodes lân werth chweil
A'r ddau yn dyfod adre, i'w ffermdy bach mewn steil,
Yn cael eu cludo yno, mewn trol oedd ffit i'r crach,
A honno'n cael ei thynnu gan ferlen fynydd, fach.
Wrth drotian tuag adref, clip-clop-clip-clop-clip-clop,
Y gaseg fach flinedig, heb rybudd, ddaeth i stop.
"Wel, dyma'th rybudd cyntaf," medd Bob, y gŵr yn flin
"Mi gei di gyfle arall, tyrd, giddi-yp, wir ddyn."
Ymlaen â'r ferlen fechan, clop-clip-clop-clip-clop-clip,
A'r ffarmwr yn ei bygwth o'r cart 'fo clamp o chwip.
Mewn sbel, y gaseg druan, ga'th eto fyth lond bol
"Hwn yw dy gyfle olaf" medd o, "Dim mwy o'th lol!"
Clip-clop-clip-clip-clop-clip-clop, cyn gwrthod symud cam,
Ar ffarmwr yn gynddeiriog, yn methu deall pam.
"Mi gefaist ti dri chyfle gen i," medd mewn cryn strach
A saethodd o yn gelain y ferlen fynydd, fach.
Ei briod newydd gododd, a gweiddi arno'n syn,
"Sut fedret fod mor greulon? Sut fedret ti wneud hyn?"
"Bydd ddistaw ddynes wnei di?" Medd yntau wrthi hi,
Cyn ychwanegu'n gyflym "- Dy rybudd cyntaf di."
Gwenno Davies8 1/2 pwynt
Limrig- Un noson gerllaw Pandy Tudur
Un noswaith gerllaw Pandy Tudur
Gwnes limrig a hwnnw yn glasur.
Ac mi wn yn iawn
Y cawn farciau llawn
Pe bawn i heb golli y papur.
Pedr Wyn8 1/2 pwynt
Limrig- Un noson gerllaw Pandy Tudur
Un noson gerllaw Pandy Tudur
Mi welis i'r ddau yng nghefn modur;
"Sut mai?" medda fi
"Bygyr off" medda hi
Welis i ddim dau mor annifyr.
Berwyn Roberts8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
1 pwynt
- Englyn Cywaith- Breuddwyd
Er mor llwyd yw'r marwydos, rhyw atgof
o writgoch fflam cefn-nos,
cyn oeri, a fyn aros
a rhoi'n awr syniad o'r nos.
Dafydd Morris8 1/2 pwynt
Englyn Cywaith- Breuddwyd
Wrth borth y nefoedd bloeddiais - "Agorwch !
Mae gŵr, blaenor cwrtais,
Yn dod i'ch gŵydd", ond oedais
"Hen Gorff? Rwyn gwrthod dy gais.".
John Glyn Jones8 pwynt
Telyneg - DWYLO
Fe bylodd sglein y fodrwy,
A chyffro mab a merch,
Arferiad oer oedd cusan,
A mud oedd geiriau serch.
A dau fu gynt yn ddiwahan
Yn ddim ond alaw, lle bu can.
Ond ddoe a gwanwyn arall
Yn glasu brigau'r coed,
Roedd gobaith yn y cydio,
A thri yn cadw'r oed.
Eiddilwch brau eu plentyn gwyn
Yn cydio dwylo'r ddau yn dynn.
John G Jones9 pwynt
Telyneg - DWYLO
Rwy'n cofio teimlo'i llaw fach am fy mys
yn cydio'n dyner y tro cynta' erioed,
ac yna'n tynnu ynddo yn ei brys
i weld y byd trwy lygaid teirblwydd oed,
cyn gollwng gafael ynom ni ein dau
yn hogan fawr wrth smalio cadw draw...
nes chwilio am rywun arall dipyn iau
i rannu cyfrinachau gwasgu llaw.
Daeth dau ddwrn bychan arall yn eu tro
i gydio'n swil ym mysedd balch ei mam
cyn mentro gollwng er mwyn mynd am dro
i chwilio be' a lle a phwy a pham.
Fel i bob tad a mam fu'n cydio'n dyn,
daw awr llonyddwch mawr y dwylo hyn.
Eifion Lloyd Jones9 pwynt
Englyn ar y pryd- Osama Bin Laden
Er sawl ymdrech i'w drechu a dial
O'r diwedd ceir dathlu.
Ond rhai di-wyro o dry
Ei farw'n fom yfory.
8 1/2 pwynt .
CYFANSWM- 76 PWYNT
Englyn ar y pryd- Osama Bin Laden
O alar dyddiau'r wylo-hwy aethant
â'u craith i'w gondemnio
yn eu miloedd a bloeddio'n
enw Duw am ei waed o.
9 1/2 pwynt .
CYFANSWM- 78 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

