Y Talwrn - Y Gler V Beirdd Myrddin
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled caeth ar yr odl -os
Y mae nwyd pob marwydos
Yn oeri'n hawdd wedi'r nos.
Hywel Griffiths
8 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl -os
Yn ein byd, er bod sawl bos,
Un arall sy'n eu haros.
Aled Evans
8 1/2 pwynt
Pennill dychan 'perchnogion cŵn'
Mae un yn arwain yn dalog,
Mae'r llall yn dilyn yn fwyn,
Un peth sydd weithiau'n fy nrysu,
Pa un sy'n gwisgo'r ffrwyn?.
Hywel Griffiths
9 pwynt
Pennill dychan 'perchnogion cŵn'
Mae sw wedi agor yn Hermon;
Sdim lot 'na - dim ond un ci,
Un bychan, blewog o Tseina;
Mae'n swnio fel Shih Tzu i fi.
Aled Evans
9 pwynt
Cywydd- Adeilad
Mae ei lino'n melynu,
Ym môn ei bren mae 'na bry'
Ac mae'r drws yn gam, ar dro,
Clamp o wal cul yn pilio.
Hogle golch ac ailgylchu,
Dwy baned wib a bin du,
Chwyrnu hen fàth a chrynfâu
Sŵn y gwres yn y grisiau.
Mae cartref yn gynefin
 thempo rhacs ein rhythm prin,
Ein crud ar lun caer ydyw,
Deunydd ein bod ynddo'n byw.
Eurig Salisbury
8 1/2 pwynt
Cywydd- Adeilad
'Rwy'n gweld y fan lle'm ganwyd,
A chlo hyll ar glos a chlwyd.
Yn y fan hon cofio 'nhad
Yn iro swch yr arad.
Gweld tadcu yn rhannu'r wyn,
Yr aeddfed wrth rai addfwyn.
Rhwdu'n fud mae'r Fforden fach,
Heb allwedd ynddi bellach.
Ond aros 'nhad, Rhos Y Nant
A wêl wyneb dilyniant.
Heddi' nhad mi ddo'i yn ôl,
I iro'th weddi hwyrol.
Heddwyn Jones
8 1/2 pwynt
Englyn yn cynnwys enw papur newydd
(Sef y Morning Star. Gelwir y blaned Fenws yn Seren y Bore. Mae llwythi Aboriginaidd yn credu ei bod yn tynnu rhaff o olau y tu ôl iddi sy'n eu galluogi i gysylltu â'u hanwyliaid sydd wedi marw)
Daw'r wawr ar droad y rhod â'i llinyn
Na all hen fudandod
Diateb angau'i datod -
Mae seren y bore'n bod.
Hywel Griffiths
9 pwynt
Englyn yn cynnwys enw papur newydd
GOTCHA!
Trwy grechwen y llythrennau a hiliaeth
hwyliog ei golofnau
Yn Y Sun mae ôl casáu,
Ôl gwenwyn mewn sloganau.
Aled Evans
9 pwynt
Cân- Y Wers
Tywysog ifanc ydwyf sy'n byw ar Ynys Môn,
er bod gen i balas moethus rhyw bum awr lawr y lôn.
Ymgyfarwyddo'r ydwyf â'r gwair a'r awyr iach
gan y byddaf i ryw ddiwrnod yn dywysog ar Gymru fach.
Ac am yr union reswm hwnnw gwrandewais ar gyngor nain
a mynd i ddysgu'r heniaith gyda Derec o Gefnbryn-brain.
Rwy'n cael fy ngwers wythnosol yn ei gartref ar y ranch,
dim ond Derec a fi a'r defaid, a heddlu'r special branch.
Erbyn hyn mae gen i gryn gariad a pharch at yr iaith Gymraeg
ac rwy wedi ceisio esbonio hynny wrth fy narpar wraig.
Hyd yn hyn nid oes gan fy nyweddi'r un brwdfrydedd ag sydd gen i
ond mi gefais syniad rhagorol er mwyn ei darbwyllo hi.
Yn gynnar iawn bore heddiw, heb iddi wybod, ar fy llw,
es i siop ar stryd gefn yn Llangefni er mwyn i mi gael tatŵ.
Ar noson ein priodas, bydd tatŵ i'w weld yn blaen
mewn man reit wyn a brenhinol lle na fu tywysoges o'r blaen.
Caiff weld fy nhatŵ hirhoedlog a'i ddarllen yn uchel ei chloch
sef "Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch"!
Iwan Rhys
8 1/2 pwynt
Cân- Y Wers
Chwip awel lem yn gryndod yn y brwyn
ar Epynt, a'r milwyr yn chwarae mig
fel brain ar sgerbwd hen aelwydydd mwyn
a mynwent sydd yn llawn o feddau ffug.
Blagurodd saith deg mlynedd ers y dydd
y daeth y milwyr i feddiannu'r tir
a chwynu hen gymuned pobl Ffydd
cyn plannu yn eu lle eu gwersyll dur.
Ni ddaeth o fryniau Epynt fawr o hedd,
dim ond Bluff Cove a gwae Afghanistan,
a Wooton Bassett heddiw'n agor bedd
i obaith tangnefeddwyr ym mhob man.
Mae neges rhwng y blodau ar bob hers
nad yw y byd - hyd hyn - ' di dysgu'r wers.
Beti-Wyn James
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â throseddu
Mi fues i'n dwyn am flynyddoedd,
Mi fachais filiynau o bunnoedd,
Ond nid wyf mewn cell
Nac ar ynys bell,
Oherwydd dwi'n fancwr i'r llysoedd.
Hywel Griffiths
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â throseddu
Mynn rhai droi at dwyll a lladrata,
Gyrru 'rôl yfed neu hela,
Ond yma yn Hermon,
un trosedd sy' ddigon,
sef gadael yn union - heb fwyta!
Beti-Wyn James
8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Ateb llinell ar y pryd
Englyn cywaith 'cariad'
O glai oer y galaru - mae un dyn
O'r dorf yn diflannu,
A rhydd y darn o bridd du
Wres ywen i'w groesawu.
Hywel Griffiths
8 1/2 pwynt
Englyn cywaith 'cariad'
Heno cymer dy seren, un o'r rhai
sy'n frith hyd yr wybren,
ei dal hi mewn dwy law wen,
yn dynn, a'i rhoi i Dwynwen.
Aled Evans
9 pwynt
Telyneg - Cymwynas
Saif yr orsaf yn llonydd a llachar
o dan warchae'r nos loergan;
oglau petrol yn ffroenau'r nos.
Y briffordd yn llafn boeth
a gwreichion anghyson
yn gwibio ar hyd ei hawch
cyn pellhau, pylu a diflannu
gan adael dim ond iard ddisgwrs
ynghanol swildod y meolydd.
Ond tra bo'r lôn yn gwreichioni
fe wyddom fod taith o hyd inni
sy'n arwain i'r unlle,
yr unlle hwn lle cynnull holl
ddafnau'r goleuni anfoddog
yn dywyniad mewn dinas.
Llenwi'r tanc;
chwa fel chwyth megin
yn llosgi'n bochau.
A heno, pan wreichionwn ninnau i'r pair,
bydd llanast y llawr,
y sbwriel, y papurach chwâl,
gwaddod parhaus y tir hwn,
yn ddigon inni gydio nes taflu
un wawl oren tros genedl eirias.
Osian Rhys Jones
9 pwynt
Telyneg - Cymwynas
Yn hafau y gorffennol
Un llafur oedd i'r gwaith,
Un ysgwydd wrth y pynnau,
Un bwriad oedd i'r daith.
Un pladur âi trwy'r gwenith
A'i lafn yn wyn a glân;
Un haul yn cael ei estyn;
Un alaw oedd i'r gân.
Un gordd oedd yno'n atsain
Hyd bryn, a chraig a ffridd.
Un gofal oedd yn cynnal
Y gwreiddyn yn y pridd.
Un hil yn ymgodymu
Â'r drefn rhwng nef a llawr;
Un ffynnon yno'n glasu
Bro'r gymdeithas fawr.
Aled Evans
9 pwynt
Englyn ar y pryd- Dilledyn
Ni sleifi,was, i lwyfan- y catwoc
Eto,cans mae'r cyfan
Yn dy sgil eleni lan
Ar hen hanger yn hongian
Osian Rhys Jones
8 1/2 pwynt
CYFANSWM 78 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Dilledyn
Drwy'r sidan mae ein hanes wedi'i weu
hyd y wisg yn gynnes,
Ein rhuddin mewn leinin lês
A'n lliwiau ar ei llawes
Meirion Jones
9 pwynt
CYFANSWM - 79 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

