Y Talwrn - Tanygroes V Talybont
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled Caeth yn cynnwys unrhyw salwch
Er caethiwed cwpled caeth,
Fe ryddhawn ei farddoniaeth.
Phillipa Gibson
9 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys unrhyw salwch
Un ar ras yw'r dolur rhydd,
Ar wib fe ddaw'n ddi-rybudd.
Gwyn Jenkins
8 pwynt
Pennill Dychan: "Twymo byd eang"
Mae'n twenty below zero
A'r car yn gwrthod tanio;
Mae'r lonydd bach ar gau i gyd
Am fod y byd yn twymo !.
Emyr Jones
8 1/2 pwynt
Pennill Dychan: "Twymo byd eang"
Sai'n becso'r dam fod ynys dlawd
Yn suddo dan y tonnau, frawd,
A gwerin daear oll i gyd,
Yn gweld fod hafau'n dod cyn pryd.
Sai'n becso am afonydd sych,
Rwy'n ddedwydd yma yn fy rhych.
Ond i mi gael fy moethau drud,
Pa ots am dlodion pen draw'r byd.
Ni thawdd ymenyn yn fy ngheg,
Wrth fwyta'm siocled Fasnach Deg.
Phil Davies
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Cantre'r Gwaelod"
Cantre'r Gwaelod (gan gofio New Orleans, Brisbane a Brazil...)
Awn i'w hedd a cheisiwn ni'n
Defod yn Aberdyfi:
Clustfeinio ar go' a gân
I hafau cyn cyflafan.
A erys tinc cyfaredd
Dyddiau eu moethau a'u medd -
A thonnau'r ffŵl Seithenyn
Yn blasu ofn y bobl syn ?
Na, ni ddaw rheg eu neges
I'n hedd; na, ni chlywn hi - nes
I ryw ru hallt ar ei hynt
Ein cyrraedd fesul corwynt.
Phillipa Gibson
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Cantre'r Gwaelod"
Ai llaw o wynt ar foch lli
a gwên yr hen glogwyni
yn cyfarch môr sy'n cofio
y bore hwn fydd ein bro?
Neu yn y wawr, ai gŵn wen
rhyw wyliwr fydd yr heulwen,
yn wylofain dros glwyfau
hen goel a drws heb ei gau?
Yn holl hanes y llanw,
Wyneb yn wyneb â nhw,
fynnwn ni'r Cantrefi nôl
i'n holyniaeth chwedlonol?
Gwenallt Llwyd Ifan
9 pwynt
Englyn ar thema dihareb
Pan fo'r pres dan fatresi - nid ydyw
Yn dodwy na'n colli,
Ond prinhau wna'n hwyau ni
O'u gadael mewn basgedi.
Arwel Jones
8 1/2 pwynt
Englyn ar thema dihareb
Man gwyn, man draw
Oedd angen i ti ddiengyd? Aeth unnos
â'th einioes mewn ergyd
nodwydd fain. Ein dedwydd fyd
chwalaist yn ddiddychwelyd.
Anwen Pierce
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): "Y Diwygiad"?
I'r Iôr yn awr rhaid diolch: ail gynnig i mi roes:
Mewn pryd daeth ail ddiwygiad i ardal Tanygroes.
Oes gobaith i bechadur fel finne, pwy a ŵyr ?
I'r capel es un noson i oedfa efo'r hwyr;
Trwy gul y drws edrychais, ar ôl bod ar y bŵs,
Pan glywais lais o'r pulpud, 'Mae'r Diafol wrth y drws!'
Ymlaen fe ges fy ngwthio, ymlaen at y sêt fawr -
Nawr sôn am ddŵr y Diafol a'i holl bechodau mawr.
'A welsoch chi y golau?' medd un â golwg gas.
'Do, lawer gwaith', ddywedais, 'ar ben cerbydau glas'.
'A wnes di rhyw ddaioni i gyfiawnhau dy hun?'
'Rwy'n canu weithiau', ddwedes, 'God save our gracious Queen'.
'A weli nawr y golau', medd un, 'fel golau'r houl'.
'Do, sawl gwaith,' fe atebais, 'ar ben rhyw Brifardd moel.'
'Y golau, y mae yma, bechadur wir, rho bip'.
Mewn panic fe atebais, 'Co fe, ond mae ar dip'.
Daeth llais: 'Mae wedi ei achub, ailgydia yn y ffydd;
Dewch, canwn Halelwia a Gollwng ef yn rhydd'.
Ffarwel mwy i'r Red Lion a'r Black forever more:
Y llwybr cul y rhodiaf - mae lle i fi a'r Iôr.
Arwel Jones
9 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): "Y Diwygiad"?
Fe gofiwch y llynedd i mi ganu cân
Am ymdrech o'm heiddo i dyfu blew mân
Ar dop fy mhen sgleiniog, er mwyn bod yn ffash.
Eleni, beth brynais, i fatsho'm mwstach,
Ond tŵpe brown gole, a phartyn bach del,
Un hynod o rywiol yn ôl y wraig, wel,
Er glynu y tŵpe yn sownd ar fy mhen,
A gosod styffylau i'w ddal yn y cefn,
Daeth storom wynt heibio a honno'n ffôrs ten
Gan gipio fy malchder o gopa fy mhen.
Fe ddaeth y di-wigiad cyn i mi droi rownd,
A'r tŵpe sydd bellach ar goeden yn sownd.
A phan ddaw rhyw dderyn i godi ei nyth
Yng nghanol fy nhŵpe cawn glywed yn syth,
Bêr nodau fyd natur yn dyfod am dro,
A chôr y wig eto yn atsain drwy'r fro.
Phil Davies
9 1/2 pwynt
Limrig ar ôl colli mewn Talwrn
Wel, Gerallt, rwyf am ymddiheuro:
Nid oes gennym limrig 'ma heno.
Nid oedd angen inni
Wneud limrig am golli:
I dîm Talybont mae'r dasg honno.
Wynford Jones
8 pwynt
Limrig ar ôl colli mewn Talwrn
Aeth Shakespeare a Marlow yn wallgo,
yn bwdlyd fe aethant i glwydo.
Ac achos eu loes,
oedd tim Tanygroes
roedd y bois 'di curo nhw eto.
Phil Thomas
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Bum enwog am bum munud
Yn y Bae am wneud dim byd
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Bum enwog am bum munud
Ddoe y boi greodd y byd
Englyn Cywaith: "Camgymeriad"
Er i hud y cariadon - ailafael
O ofid anffyddlon,
Er iddo ailhawlio hon,
Ni ddychwelodd i'w chalon.
Ken Griffiths
9 pwynt
Englyn Cywaith: "Camgymeriad"
Cafodd Phil yng Nglangwili - druenus
Lawdriniaeth at foelni.
Bu hap mewn chwap wir i chi,
Mae'n waelach namyn.
Anwen Pierce
8 pwynt
Telyneg: "Gorchest"
Gydag arian hael y Loteri ni lwyddwyd cludo carreg las i Stonehenge.
Mewn oes pan nad oedd ffiniau
Na grym y swyddi bras,
Nid oedd Stonehenge o Benfro
Rhy bell i'r garreg las.
Yn oes peiriannau grymus
A nerth adnoddau dyn,
Mae carreg las Sir Benfro
Yn gwrthod croesi'r ffin.
Ken Griffiths
8 1/2 pwynt
Telyneg: "Gorchest"
Fe wyliais hi yn cychwyn ar ei thaith
a'i beic yn ddigon simsan ar y clòs;
Ei thraed yn fach a'r siwrnai fer yn faith
a'm llais yn ofnus annog yr un dlos.
Er ymfalchïo yn ei hyder braf
a'i phenderfyniad ewn i fynd ar ras,
fe deimlais i hen naws yng ngwres yr haf
er gweld sglein dewrder yn ei llygaid glas.
Rhyw brofiad chwerw-felys gefais i
o'i gwylio'n mynd; ni wyddai hithau pam
mai gwylio campau dewr ei theirblwydd hy
trwy lygaid hanner cau a wnai ei mam.
Fy nghamp oedd brwydro greddf i'w chadw'n glud
Ac estyn iddi ryddid yr yn pryd .
Anwen Pierce
9 pwynt
Englyn ar y pryd- Ffolineb
Rydym ar ben ein tenyn- yn y diciau
ydyw cur pob deigryn
y mae achub y mochyn
Yn warth hir drwy'r parthau hyn.
8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 79 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Ffolineb
A'r werin ar wawrio- yn yr Aifft
ac ar y stryd y clwyfo,
Anwar yw dulliau'r Pharo;
un ddi-hid yw ei ordd o.
8 1/2 pwynt
CYFANSWM-78 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

