Y Talwrn - Criw'r Ship V Tir Mawr
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'glo'
Ynni glân nid pyllau glo
Yn fynych sy'n difwyno
Nici Beech8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'glo'
Er ei glais, dyfnder y glo
Yw'r fflam ym mhyllau'r fflemio.
Huw Erith8 pwynt
Pennill Ymson- Wrth brynu llyfr
Annwyl geidwad y siop lyfrau.
Mae 'na lyfr dwi wir ei eisiau.
Peidwiwch sbio arnai'n od,
Ond ga'i ddau gant o gyfrol Pod?
Arwel Roberts 8 pwynt
Pennill Ymson- Wrth brynu llyfr
Dw'i di cychwyn ers ben bora
Bum yn Rhewl ac Abergela
Bum yn Ninbych via Nantglyn
Abergela ddwy-waith wedyn
Capel Garmon, Capel Curig
Rownd a rownd a rownd Llyn Brenig
Es hyd ffyrdd a âi am byth
A dyma fi. Yn Rhyl. Yn 'Smiths'
Os na lwyddaf i gael atlas
Ffendia'i fyth mo' Bentrefoelas.
Gareth Jones
Cywydd- Aelwyd
Yn niwl moroedd technoleg
awn ar drywydd tywydd teg.
Nid oes hoe nid oes awydd,
na dawn i drafod y dydd.
Rhodiwn ar wifrau 'trydar',
rasio byw heb amser sbar.
Byd y sgrin fach a'i thrachwant
droes yn ofal oes i'n plant.
Hen garreg ein magwraeth,
o'n geni ni, hon a'n gwnaeth.
Carreg angor cynghorion,
Ynom oll mae cwlwm hon.
Gari Wyn8 1/2 pwynt
Cywydd- Aelwyd
(Batin, Llwyndyrys)
Heb dân nac wyneb dynol,
aeth yn wyllt a noeth yn ôl;
mae nythod chwilod a chwyn
yn reiat drwy grud rhywun;
helygen yw'r fam heno
a'i breichiau tenau yw'r to.
Ac yna'n nrws y gwanwyn,
mae ôl llaw mewn fflamau llwyn
briallu. Drwy'r ty a'r tir,
â gwe iasoer o gaswir
tan y coed o bobtu'n cau,
mae gwên oedd yma gynnau.
Gareth Williams9 pwynt
Englyn yn cynnwys dwy Goeden
Crewyd alaw ac awen - o urddas
Ac harddwch yr ywen.
Ond mae gwres ein hanes hen
Yn y dur sy'n mêr derwen.
Gari Wyn8 1/2 pwynt
Englyn yn cynnwys dwy Goeden
(Colli Les Morrison)
Os ydyw'n daw ar awen - ein maboed
Ym mhibau'r helygen,
Y mae drwm ein mydrau hen
Yn dwrw colli derwen.
Huw Erith9 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Arallgyfeirio
Mi sylwais fod y Meuryn yn cyffrôi
Bob tro mae o'n cael Sioned mewn rhyw dasg.
Tro yma, dyna dwi 'di'i baratoi,
Ar ôl bod yn ymchwilio ers cyn Pasg.
Mi ddysgais ffeithiau lawer, wir i chi.
Roedd Parry Bach yn giamstar ar y rhein.
Soned 'di'r enw cywir, heb yr 'i'
Ac mae gan bob un un deg pedwar lein.
Y mae'r tri chwlped ola', yn y bôn,
Yn rhan o'r gerdd, ond eto ar wahân.
Hwn ydi'ch cyfle dwaetha' chi i sôn
Am unrhyw beth testunol yn eich cân.
Mae Gari Wyn yn mynd i fridio'i gangarŵ,
Gwerthu ei fusnes ceir ac agor sŵ.
Arwel Roberts8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Arallgyfeirio
A'r deyrnas yng ngafael dirwasgiad a wasgai o'r gogledd i'r de
Roedd miloedd o gathod amddifad yn berwi fel chwain hyd y lle
Fe ddaethant at Huw fesul llwythi, roedd fania'r R.S.P.C.A.
Yn eu cludo at byrth 'Hafan Grwndi', a'r lloches heb arian na'r lle
Roedd dwy wedi sleifio i'r pobty ac wedi'w coginio i'r dim
Roedd gâs gan Huw Hafan wastraffu.R'ol s'nwyro, meddyliodd "Pam ddim?"
Fe blesiodd y swper yn arw, a dyna hi'n gwawrio ar Huw
Y tala hi'n well iddo'i lladd nhw na cheisio eu cadw nhw'n fyw.
Wel dranoeth buddsoddodd mewn minsar a Huw fwrodd iddi ar hast
I'w troi yn borc-peis a bîffbyrgars heb adael i ddim fynd yn wast
Eu blewiach oedd 'nawr yn garpedi. Eu hesgyrn yn 'Flyd, Ffish and Bôn'
A'u llygaid gan Gyngor Llanelli rhwng double white lines ar y lôn
Fe weithiodd y fenter yn tshampion, ond rhyw folgi ar draeth Abersoch
A lowciodd bei 'Nionyn ac Eidion' a thagu ar goler a chloch
Archwilwyd y bei a'i chynhwysion, aeth yr holl opyreshon yn ffliwt
Roedd Huw, pen y mis, yng Nghaernarfon o flaen yr ynadon, mewn siwt
Mewn cell wedi'w arall-gyfeirio fydd Huw am y ddegawd sy'i ddod
Ond troi Hafan Grwndi yn fistro sy'n gwerthu cŵn poeth yw ei nôd
Gareth Jones9 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell-
'Doedd Ifan Ty hen ddim yn wirion...'
Er chwarae'r ffon ddwybig yn gyson,
Doedd Ifan Tŷ Hen ddim yn wirion.
Mi lwyddodd y ci
I dawelu pob si
Drwy naw deg tri superinjunction.
Arwel Roberts8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell-
Y diwrnod yr aeth o yn Formon
Doedd Ifan Tŷ Hen ddim yn wirion
Cyn hir daeth yn hysbus
Fod gwraig arall, Glenys
A mab iddo'n byw yng Nghaernarfon
Gareth Jones9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Ai dyn mawr ydyw'n Meuryn?
Pwy wyr sut i ateb hyn
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Yn ddiobaith ar ddibyn
Pwy wyr sut mae ateb hyn?
0 pwynt
Englyn Cywaith- Llongyfarchiadau.
(I David Cameron am groesawu Obama).
Hogodd arfau ein gwrogaeth yn rhwydd
Dros rwysg imperialaeth.
Iddo ef ei ran a ddaeth.
Cynnal Americaniaeth.
Gari Wyn8 1/2 pwynt
Englyn Cywaith- Llongyfarchiadau.
( i enillydd ifanc).
Mae'n awen hen, mi wn i, - arafu
Yr wyf er ei mwyn-hi;
Er hyn, mae'n dal mor heini
Nes denu dawns d'awen di.
Gareth Williams8 1/2 pwynt
Telyneg : Cyfarfod.
Yn ein cyffwrdd cyntaf ni theimlais i
y diwedd yn ei choflaid hi.
Nac yng ngwres ei chwerthin ei chrechwen brwnt,
nac yn nhân ei llygaid y trai a'r swnt.
Ar lyfnder ei chroen
oerni parod.
Melyster gwefus,
brath ei thafod.
Yng nghylch y fodrwy ni welais i
guwch y dyfodol yn ei sglein hi.
Ei haddewidion yn watwar pur
a'n holl orffennol yn atgof sur.
Wrth dorri'n henwau i dorri'n huniad
ein plant sy'n cylchdroi yn ddigyfeiriad.
A'n llygaid pwl yma'n cwrdd
wrth rannu'n chwalfa gylch y bwrdd.
Nia Môn8 1/2 pwynt
Telyneg : Cyfarfod.
Lle'r oeddwn i pan laddwyd Kennedy?
(Mi ro'n i'n hogyn wythmlwydd ar y pryd.)
Does gen i gof, a bu'n fy mhoeni i
Nes taro ar ddyddiadur pan oedd byd
Fy nhad yn gwrs di-gwsg rhwng llafn yn llaw
Y gobaith olaf i fy nhaid, a nerth
Anadliad cynta'i fab. Doedd dim heblaw
Gollwng ei hun i'w eiriau'n fawr o werth.
Y groth a'r bedd a rannai'i wely, cusan
Ei orfoledd olaf, brathiad byw
Ei golled gyntaf, a chan gadw'r cyfan
O glyw ei blant, bu'n chwarae'r diawl â'i dduw.
Siôl wen y magu, tynnu'r llenni du -
A hynny oedd yn dwyn penawdau'r ty.
Gareth Williams9 pwynt
Englyn ar y pryd -Gwobr .
I Sophie Bagott a'r holl blant ddaw o gartrefi uniaith i ddysgu'r Gymraeg trwy'r hysgolion).
Cefaist, er nad wyt yn cofio- eiriau
fel aur wrth ir grwydro
ar ffin dy gynefin
at yr iaith fesul 'un tro'.
9 pwynt
CYFANSWM- 77 PWYNT
Englyn ar y pryd -Gwobr .
Y dydd 'roedd Brendan yng nghanol heidiau
Y stadiwm chwedlonol
Hanes roes dro gwahanol
A'r cae i Dave yw'r ciw dol.
8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 79 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

