Y TALWRN- Tir Mawr V Taeogion
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn rownd cynderfynol o'r Talwrn.
Cwpled caeth ar yr odl 'w'
Yng ngwelltyn dyn er ei dw'
Fe erys trefn ei farw.
Huw Erith 9 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'w'
Mae ein troops gwâr o arw'n
marw'n well na'u meirwon nhw.
Ceri Wyn Jones8 1/2 pwynt
Pennill ymson wrth olau coch
Tu ol i'r ferch dlws o bechadur
Fe welaf yn nwyd Amsterdam
Fod ganddi hi'r union r'un papur
A'r un sydd ar wal yn nhy mam
Gareth Jones9 pwynt
Pennill ymson wrth olau coch
Rwyf i fochyn daear
Shakespearaidd, wyddoch chi,
yn ymson wrth y golau
"Tî bî or not tî bî?"
Ceri Wyn Jones9 pwynt
Cywydd : Dathlu
(Penblwydd'nhad yn naw deg un)
Ennyd i'w gof naw deg un,
Ond mae haul ar gnwd melyn
Hafau haidd a'u rhyfeddod
Wedi'i dal ym mynd a dod
Yr hogyn yrr yr ogau,-
Â'i law hael fe ddeil i hau.
Os yw'n un distaw di-sôn,
Cae o feirch yw'n cyfarchion
Yn gwehyru ein geiriau-
'Yma'n hŷn y mae o'n iau'.
Ac mae'r gwin yn Gymro gwyn
Yn rhaeadrau ei wydryn.
Gareth Williams 9 pwynt
Cywydd : Dathlu
Yn eistedd drws nesa i gefnogwr Celtic mewn gêm bêl-droed rhwng Celtic ac Arsenal. Rhoddir tywarchen o dir Donegal dan smotyn canol y cae yn Park Head).
Yn ei olwg fe welwn
Gynddaredd ddiddiwedd hwn,
Y sgryff o ŵr yn sgarff werdd
Y gang yn rhegi'i angerdd,
A wisgai gynnen Glasgow
Yn y gêm fel dyn o'i go'.
Yr oedd co' ym mhridd y cae
Dan y glaswellt yn gleisiau
A hanes yr hen gynnwr'
Eto fel tae'n gwylltio'r gŵr,
A oedd â'i floedd drwy'r gêm flin
Yn ddifaddau o fyddin.
Emyr Davies8 1/2 pwynt
Englyn Cil Dwrn Beddargraff Bwci
Daliai bod can mil dolar ar Rocket
Yn strôc reit feistrolgar.
Bridge jympar.
Bridge jumper = slang y byd rasio ceffylau, yn America i ddisgrifio bwci sydd fel arfer yn gwegian yn ariannol ac sy'n betio'n anghyfreithlon, swm anarferol ar un ceffyl (a hanes llewyrchus iddo) i ennill ras. Fe'i gelwir felly, oherwydd os cyll y ceffyl, mae'n gyfystyr â neidio oddi ar y bont agosaf. Gan na wn i affliw o ddim am y maes, mi borais y wê am wybodaeth! Daeth hwn i'r fei ymhlith tomen o ffeithiau eraill.
Gareth Williams8 pwynt
Englyn Cil Dwrn Beddargraff Bwci
"Tua'r nef, fe fentra'i'n het, i fyny'r
af i'n odds-on favourite."
"Ti moyn bet?"
Ceri Wyn Jones8 pwynt
Cân - Newyddion pentref
Ar y ffordd i brynu bara cwrddais bapur bro y pentra
"Sut ma'i Nel ?" gofynais inna, "Ti'n o lew?".
A ches glywed, er heb ofyn,fod 'na bry yng nghapel Gwynfryn
A bod hanner plant Llanedwyn yn rhy dew.
Aeth ymlaen i ddweud fod Morfydd "o dan ofal seiciatrydd
Diolch i bâr o ddwylo celfydd Tecwyn Traed
Oedd wrth geisio trin ei gwinedd wedi torri dau o'i bysedd
Roedd hi'n crefu am drugaredd yn y gwaed.
Roedd ei charped di'w ddifetha,ar ol hanner awr o ddiodda
Pwy ti'n feddwl landiodd yna?....Doctor Dan.
Doctor Cwac! Y cythraul yna yrrodd Jên fy chwaer a Tada
At ei holl gamgymeriada'n fynwent Llan.
Mae'r Parchedig 'Satan' Harris wedi ffoi i Langristiolus
A 'di mynd â Chylie Morris yn ei sgil.
Mae 'di creithio ei ddyweddi, ô mae gen i bechod drosti
Hyd y lle 'ma wedi meddwi rownd y rîl.
Wy'sti Tracey, hogan Sioned? Mae hi'n disgwyl. Hwn di'r nawfed
Ar be fywith hi a'i chiwed?....pwrs y wlad.
Dw'i 'di clywed fod parchusion o Lanedwyn am gael profion
Er mwyn gweld pa r'un yn union ydy'r tad".
Gyda hynny fe es o'na.Cefais sioc ond ches i'm bara
Ro'n i'n falch o gyrraedd adra erbyn saith.
Ond a hithau'n dechrae nosi dyma 'nrhwyn i'n dechrae cosi
Ac fe wyddwn fod ei cheg hi n'ol ar waith.
Gareth Jones9 pwynt
Cân - Newyddion pentref
Papur bro y Mabinogi
ddaeth i'r golwg yn 'tŷ ni,
ac roedd gwdihŵ mewn swimsiwt,
sef Blodeuwedd, ar bêj thrî.
Cân- Newyddion Bentref.
Oddi tani roedd 'na benawd:
"Flowerwoman two timed Lleu",
Ochor draw roedd sgandal arall:
"Gwydion says he isn't gay".
'Nôl adroddiad y Sioe Amaeth
"Moch Pryderi got my vote",
tra bod Lleu yn dal i gwyno
"Gronw Pebr stole my goat".
Fe ddarllenais ar y sportspêj
"Bendy Crow Man once played bridge",
ac am saith o wŷr a gariodd
"Bendy Crow Man's head in fridge."
Ond 'rôl sôn am feirch Matholwch
("Evil twin in horseplay fears"),
cafwyd hanes curo Branwen
"Butcher bonks Princess's ears".
Ceri Wyn Jones 9 pwynt
Limrig yn ymwneud â diod
Mae gennyt beils, Delphine
R'un maint a'th ddwy benglin
Dim mwy o lol
Dos ar dy fol
Rhof iti Ofal Tin (Ovaltine)
Gareth Jones9 pwynt
Limrig yn ymwneud â diod
Gofynnodd Deborah i'w gŵr
'Fuest ti'n yfed cwrw neu ddŵr?'
Fe gododd o'r pafin
A'i bans rownd ei gorun
Ac ateb cyn disgyn 'Shai'n shŵr'!
Ceri Wyn Jones9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Nid beirdd sy'n newid y byd
Y dasg ydyw ei ysgwyd
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Nid beirdd sy'n newid y byd
Na'r nef, ond triwn hefyd
1/2 pwynt
Englyn Cywaith- Gwydr
Yr un a roed i'r wyneb yn ffôl iawn
Mewn fflach o gasineb,
Yn ei wawl ddarlunia'r neb
A wna lun o'i ddiawlineb.
Myrddin ap Dafydd8 1/2 pwynt
Englyn Cywaith- Gwydr
(Llun y Geni mewn ffenestr liw yn Eglwys Gadeiriol Chartres yn Ffrainc)
Yno yr af fy hunan hwyr y nos,
a'r un Iesu bychan
a gaf yn ffenest gyfan,
a'r un modd yn ddarnau mân.
Tudur Dylan10 pwynt
Telyneg: Sicrwydd
(yng ngweddillion tyddyn Cae Melyn)
Does dim i'w weld, medd rhai o 'nheulu i,
Dim ond tomen rwbel uwch Nant y Ci,
Clawdd plyg yn rhes o goed, ac olion dwˆr.
Ond roedd yn rhaid cael mynd, i fod yn siwˆr.
Digon gwir eu geiriau: cysgod du
Y dail; y brwyn drwy'r borfa; adfail tyˆ;
Giât heb golyn ynghrog wrth bwt o raff.
Ond roedd yn rhaid dod yma, i fod yn saff.
Yna canodd cog. Y gyntaf un.
Daeth llawer Mai yn ôl yn rhan o'r llun,
Nes gwthiodd brân ei chrawc i haul y p'nawn;
Roedd hon, does bosib, yn dallt ei phethau'n iawn.
Myrddin ap Dafydd9 1/2 pwynt
Telyneg: Sicrwydd
Ar ragolygon Llundain
fe glywodd y byddai'n braf,
cyhoeddwyd y byddai dechrau Mai
yn ddydd o haf.
Felly, â'r dillad wythnos
yn disgwyl bore Llun
fe'i golchodd ac fe'i gwynnodd hwy
â'i llaw ei hun.
Aeth allan, er gweld y cwmwl
yn bygwth y prynhawn
gan fod dyn o Lundain wedi dweud
y byddai'n iawn.
Tudur Dylan Jones9 pwynt
Englyn ar y pryd- Gwybodaeth
(wrth fodio stori Ceridwen a Gwion Bach
Dy ferw'n dew ei emyn, - a'i lanw
Dros linell y tywyn
Yn gorlifo;rho er hyn
Dy for mam tri diferyn
.
9 pwynt
CYFANSWM- 80 1/2 PWYNT.
Englyn ar y pryd- Gwybodaeth
Os mai o'r 'Sun' eto a brynaf,-os eu 'news'
'nhw' o hyd a wyliaf
wel, dyna ni, gweld a wnaf
y newyddion a headdaf
9 1/2 pwynt
CYFANSWM- 81 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

