Y Talwrn - Aberhafren V Tannau Tawe

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'anodd'

Hawdd yw i bawb lenydda,
anodd iawn barddoni'n dda.

Owain Rhys
8 1/2 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'anodd'

Er datod ein tafodiaith,
Anodd diffodd enaid iaith.

Ann Rosser
8 1/2 pwynt

Pennill ymson - mewn stiwdio deledu

Roedd o'n swnio mor dda ar y papur
ond ma'r peilot 'ma'n ffôl, peidiwch sôn
beth wnaeth i mi feddwl y basai'n beth call
gwneud 'Big Brother 'fo cyngor Sir Fôn!.

Llion Pryderi Roberts
8 1/2 pwynt

Pennill ymson - mewn stiwdio deledu

(Ymson mewn stiwdio S4C 2014)

Fel iâ mae'r llawr dan fy ffolennau i
A'r carped wedi mynd ar Ebay, sbo;
Wrth aros sioe, un gadair sydd rhwng tri
A des â'm te fy hun o'r gegin'co.
Go gyfyng yw, a'r staff o gylch un ddesg
Er nad oes ond rhyw ddau o'r bois ar ôl,
Tra uwch ein pen un bwlb a hongia'n llesg
A sialciau'r cwdyn colur yn fy nghôl.
Nid byw gyflwynydd sydd i holi hynt
Pob un, ond llais ar dâp o'r wal fan hyn;
Fe aeth yr adran gyllid gyda'r gwynt
Heb arian mwy i'w gyfrif, nid wy'n syn.
Ond na ddiflaser os na fedrwch weld fy rhaglen nawr-
Fe'i hailddarlledir beunos nes cân yr ytgorn mawr.

Robat Powell
9 pwynt

Cywydd: Bro

(sef arfordir ardal Miyagi, Japan, lle golchwyd 2,000 o gyrff i'r lan rai dyddiau ar ôl y tswnami)

Glaw oer ac oglau hiraeth
y tir hallt sy'n croesi'r traeth,
heb ddim ond hedd diwedd dydd
ar y gwylltir a'r gelltydd
a sŵn y nos heno'n hel
ar gyrion pella'r gorwel.

Ond o'r môr, yn ddwndwr mud,
mi wn mewn dim o ennyd
y daw yn cario'r stori
arlliw o waed ar y lli,
efo'r broc yn ail-fyw'r braw'n
ddiystyr ar lan ddistaw.

Rhys Iorwerth
9 pwynt

Cywydd: Bro

(Abertawe, Chwefror 1941)

Gaea'hil. Nos y gelyn.
Wybren goch uwch bryniau gwyn.
O'n cylch, y fflamau'n ein cau
Yn ing y goelcerth angau.
Ein tras a'n dinas ar dân,
Ei hen hanes yw f'anian.

Yn awr, cynorthwya ni,
Tre' annwyl mewn trueni.
Rho i ni ein tre' yn ôl,
Hoff wyneb ein gorffennol.
A'i gwaedd ryw dydd yn hen go',
Yn ei hedd caf heneiddio.

Iorwerth Mort.
9 pwynt

Englyn yn enwi dau aderyn

Â'i fyd heb alaw lawen - fe ysa
am fiwsig mwyalchen,
ond y baich sy'n gwawdio'i ben
yw nodau'r un bioden.

Aron Prichard
8 1/2 pwynt

Englyn yn enwi dau aderyn

O'r galon cân y fronfraith- i'n synnu
A'n swyno â'i hafiaith;
Daw cri'r gylfinir yn faith
O'i niwl oer fel galariaith.

John Evans
8 1/2 pwynt

Cân: Enwogion Cymru

(yn sgil y rhaglen deledu 'Wyneb Glyndŵr' a'r dadlau dilynol ar Taro'r Post ynghylch gwir leoliad ei ddafaden)

Am nad oes 'run enaid drwy Gymru yn siŵr
ymhle roedd dafaden 'rhen Owain Glyndŵr,
meddyliais i'n sydyn (ni wn i ddim pam),
wel beth tasai meindrwyn Llywelyn yn gam?

A beth tasai Dewi (y sant, hynny yw)
yn meddu ar goesau bach tenau fel dryw?
Ac yna gwaredais, a'm llais aeth yn gryg,
beth tasai mwstas Dei Lloyd George yn un ffug?

Yn waeth byth, be tasai Bendigeidfran y cawr,
a wir, nid gwamalu yr ydw i nawr,
yn ddyn go fursennaidd, yn fyrrach na llath?
Ni fyddai holl hanes y wlad 'ma run fath.

Mae'r meuryn yn gochyn, mi wyddom i gyd,
ond beth mewn canrifoedd petasai'r holl fyd
yn honni ei fod o yn horwth mawr blond?
Rwy'n sicr y safai yr oesau yn stond.

Na, wn i ddim lle'r oedd dafaden Glyndŵr,
ond heno o un peth rwy bendant yn siŵr -
mi allen ni'r Cymry i gyd fyw yn gytûn
petasai rhyw dwmffat 'di tynnu ei lun!.

Rhys Iorwerth9 pwynt

Cân: Enwogion Cymru

Aeth Alex "One show" Jones ar hast 'da'r dorf i'r sêls,
'mond fflwcs ar gael ym mhobman 'blaw llun o'r Prins o Wêls.
'Sdim dowt taw fe yw'r arwr trawiadol hyd ei hoes,
A'i sics pac yn disgleirio, tra rhywiol ar ddwy goes.

Ac wedi bachu'r fargen 'rol haglo nes yn ddu
A glas ei hwyneb stwbwrn i'r bws yn glou aeth hi.
Bu'n meddwl ac yn meddwl o'i chopa lawr i'w thraed
Am le ar wal sy'n deilwng o'i statws- glas ei waed.

Pendronodd a meddyliodd, pendronodd eto chwap
gan droi a throsi'n rhwyfus fel 'nifail blin mewn trap.
Ei meddwl ebryn diwedd oedd megis sbwnj y môr
Yn bla o dwlle niwlog, a thaer ei phlêd-"No more".

O!!ble yn wir oedd ateb i'r pysl dryslyd hwn,
Oedd diwedd ar yr artaith a'r crafu pen- ni wn?
Mewn fflach daeth ateb hwylus o du yr Ysgol Sul
A'u jônt i Lwynywermod am brofiad tytsh & ffîl.

Aeth Alex da'r glasgarwyr ar dŵer rowndabowt,
Dim llun o'i sleb yn unman, tu fiwn na'r bildins owt.
Yn sydyn daeth yr ateb wrth bipo i'r cwts dan star
A gweld yn lluwch y pydew du hoff wep ei harwr gwâr.

Geraint Morgan.8 1/2 pwynt

Limrig yn ymwneud â chysgu

Ma' 'ngwraig i yn gwisgo bikini
a minna' yn dreifio Ferrari,
ond dyma fi'n deffro
o ganol y cyffro
wrth lyw'r Mini Metro - 'na biti!

Ifan Pleming8 pwynt

Limrig yn ymwneud â chysgu

Fe dreies bob pilsen a moddion,
Ffiloreg a thomen cynghorion.
Er chwilio yn bell
Ches ddim byd yn well
Na phadell yn glec ar fy nghoron.

Keri Morgan 8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Ar Dalwrn yn nhre Dylan
cafwyd ambell linell wan0 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Ar Dalwrn yn nhre Dylan
Nid hawdd yw ail gynnau'r tân1 pwynt

Englyn cywaith: Heliwr

Ymrolia'r môr o olau amdanom,
a denu eneidiau
llawn hiraeth at ei saethau,
a'i gynllwyn yn y brwyn brau.

Owain Rhys
8 1/2 pwynt

Englyn cywaith: Heliwr

Meudwyol uwch y dolydd- yn hofran
Yn ei efryd llonydd,
Oedi awr- cyn rhwygo'r dydd
 dinistr ei adenydd.

Angharad Puw Davies
9 pwynt

Telyneg- Aros

Heddiw
fe ddes i adre
i eistedd yn yr haul
mewn gardd o ddrain
a'r tŷ yn wag.

Bûm yn un erioed oedd yn cyfri'r dyddie,
rhwygo'r blynyddoedd o'r ffordd
ar ras drwy goedwigoedd ieuenctid
a'r dail yn dal yn fy nillad...

Mynd,
heb weld y tymhorau'n fy ngwylio'n
brysio heibio.

A heddiw
fe ddes i adre
a gofid
yn fy maglu.
Crwydro'n ofalus
fel dyn yn mwyara'i orffennol
a deall
nad oedd raid ond aros yn yr unfan
i gael y cwbwl

Gweld yn glir drwy ardd o ddrain
a drws 'di'i gloi
a'r dail yn troi'n bowdrach
o dan fy nhraed.

Mari George
9 1/2 pwynt

Telyneg- Aros

Nid aros ar hap yw'r aros yma,
nid oes yma golli amynedd na ffromi,
Dim ond dieithriaid yn cydnabod diethryn
Wrth i'r prosesiwn ymlusgo'n syber
ar y siwrne gyfarwydd ola', ddefodol.
Rhai'n plygu pen, eraill yn wylo
neu'n sibrwd yn ddwys a bytheirio'n ddirgel.
Dyrnaid yn tynnu cap ar frys i weddio,
ambell un yn holi'n ddidwyll;
ond pawb yn aros, aros unwaith eto.
Rhywsut, mae'r aros yn wahanol yma,
yn arferiad unol, dirdynnol bob tro,
aros am ddychwelyd y byw bob dydd
Heb yr orymdaith a'r hiraeth cyson.
Ond am y tro, tre'n aros i alaru,
arhosfan yr ing, lle twt, sidêt.
Lle felly yw Wootton Bassett.

Geraint Morgan.
8 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd- Gêm

Nid twrw'r brecs trwy eu braw, nid rhegi
Taer yr hogiau deunaw
a glywn, dim ond wylo'r glaw
hyd ddwst yn gawod ddistaw

9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU 78 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd- Gêm

A nhw'n llawn medd eu cyfeddach-dywed
Aeth y duwiau'n ewnach,
Herio ei gilydd hwyrach
A chreu'r byd ar chwarae bach?

8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU 78 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.