Y Talwrn - Y Rhelyw vs Glannau Teifi

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

CWPLED CAETH yn cynnwys enw coeden

Parhau'r haf sydd yn y pren
wna gaeaf gwin ysgawen.

Geraint Roberts
8 1/2 pwynt

CWPLED CAETH yn cynnwys enw coeden

Er y pry sy'n llygru pren Hynod hir bywyd derwen

Joan Thurman
8 pwynt

Pennill Ymson- Mewn siop

Pupur, papur, pop
popeth yn y siop,
dw i wedi cael gwerth cannoedd, do,
ond dim byd rydw i isio.

Mari Lisa
8 1/2 pwynt

Pennill Ymson- Mewn siop

Rwy'n diolch o waelod fy nghalon
Am sêls y siopau mawr,
Maent yn fendith ac yn foddion
I un mewn cyni mawr.
Mae gen i ers Ddydd Sadwrn
Sgidiau i'm traed maint saith
Ac er eu bod yn aur a maint pump
- fe wnân nhw'n iawn ambell waith!

Mi gefais gaets newydd i'r bwji
Er iddo farw ers mis,
Ac rwy'n siŵr daw'r kimono'n handi -
Roedd hi'n fargen fawr am y pris.
Mae rhai yn gwario yn wirion,
A mynd yn llwyr off y rêls,
Ond mae nwyddau gwerthfawr gennyf i
Diolch i'r January sêls.

Gwen Jones
8 1/2 pwynt

Cywydd - Geiriau

cofnod byr mewn Beibl teulu o un a gollwyd yn y Rhyfel Mawr

Dyma'r 'ganed' mor gynnil
i arwr rhad Somme yr hil,
a dagrau y blotiau blêr
yw'r enw ar ei hanner.

Y brawd iau trwy'r beiro du
a'i linach yn melynu,
a chyn lleied yw'r dwedyd,
yr alffa ac omega mud.

Un dolur lond tudalen
yw'r lliw inc rhwng cloriau llên,
a llaw un yn tyngu llw
oferedd y 'bu farw'.

Geraint Roberts
9 pwynt

Cywydd - Geiriau

(wedi colli mrawd ifancaf yn sydyn ym Mis Medi)

Anochel yw ffarwelio
A gwewyr cur yn y co'.

"Bendith arnoch" (Rwy'n ochain) -
Y geiriau dry'n bigau'r drain;
"Daw pethau'n well" - ambell waith
A'r wylo yno'r eilwaith.
Amled y cydymdeimlo
A'r cur yn tresmasu'r co'.

Geiriau'n gelwyddau o loes
A rheiny'n para einioes.

Pa werth a geir mewn geiriau
Ac angau'n dorchau rhwng dau?.

Gwen Jones
9 pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "Nid wyf yn mynd i ofyn"

plentyn yn siarad ar noswyl Nadolig

Pam yn ddeddfol daw oedolyn - i'n gŵyl
â'i gelwydd bob blwyddyn,
yn gudd tu ôl i wallt gwyn?
Nid wyf yn mynd i ofyn.

Geraint Roberts
8 1/2 pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "Nid wyf yn mynd i ofyn"

Hongled o dasg yw gwneud englyn; - a ddaw
I mi ddeg i'w ddilyn?
Ai hyder ofer yw hyn?
Nid wyf yn mynd i ofyn!

Terwyn Tomos
8 1/2 pwynt

Cân- Iechyd a Diogelwch

Fe ges i lythyr gan foi bach o'r Cyngor
i ddweud na chai Santa ddod acw ddim rhagor,
a choeliwch chi fyth ei reswm o ydoedd
nad o'n i wedi llnau y simdde ers misoedd:

ac roedd peryg i'r dyn, wrth ddod lawr drwy y gwagle,
i gael huddyg a llwch i fyny ei ffroene.
Atebais yn ôl mod i wedi confertio
i gas ers sawl blwyddyn, ond wnaeth o ddim gwrando...

Doedd y residence parking o flaen y ty
ddim yn "applicable" fyny fry;
ac fe allai y ceirw ddod â ffliw, neu'n wa'th,
ffliw adar, ffliw ieir neu yn wir hen ffliw cath.

A hefyd, os byddai y reindeer yn teilo,
pwy fyddai'n gyfrifol am ei symud o odd'no?
"Dim problem," dywedais, "mae'r demand yn uchel,
mae'n ardderchog i riwbob, yn well na baw camel."

Ond er yr holl drafod, fe ddaeth Santa Clos
ar noswyl Nadolig rhyw dro yn y nos:
fe ddaeth, ac yfed y sieri i gyd,
cyn cael breathaliser ar waelod y stryd.

Harri Williams
8 1/2 pwynt

Cân- Iechyd a Diogelwch

Fe benderfynes lunio cân i'r talwrn yng Nghwm Duad,
Ond rhwystredigaeth ddaeth i'm rhan i chwalu fy nymuniad.
Bu dynion Health and Safety wrthi nos a dydd
I nghadw i'n ddiogel ac o berygl yn rhydd.
Pan gydiais i mewn pensel ffres i ddechrau ar y gwaith,
Fe farnwyd ei fod yn berygl tân ac fe'i taflwyd ar unwaith.
Fe dreiais wedyn feiro glas, ond 'Na!', medd rhain mewn braw,
'Fe allai'r nib bach miniog 'na eich stabo yn eich llaw'.
Doedd dim amdani wedyn ond eistedd wrth y bwrdd
O flaen y cyfrifiadur a theipio'r gwaith i ffwrdd;
Ond cyn im ddechrau arni, roedd golau'r sgrin yn rhy glir -
'Fe allech gael eich dallu, byddwch ofalus, wir!'
Ac wedyn doedd y gadair ddim yn addas, ar fy llw,
'Dyw'r coese ddim yn ddigon hir i deipio', medden nhw.
Doedd dim amdani felly ond recordio'r campwaith gwych,
Ond chawn ni dim rhoi'r tâp ymlaen, roedd y tywydd yn rhy sych!.
Ymdrechais i fy ngorau, ond methu wnes yn lân,
Ac felly rwy'n ymddiheuro am ddod i Gwmduad heb gân.

Terwyn Tomos
8 1/2 pwynt

LIMRIG yn ymwneud ag yfed

Roedd dŵr yn y botel 'di llifo
am fil o flynyddoedd cyn brigo
a thorri drwy'r creigie,
ond rhywun yn rhywle
fu'n rhoi 'best before' ar ei dîn o.

Harri Williams
9 pwynt

LIMRIG yn ymwneud ag yfed

Yn hwyl cyngerdd Bryn ar y 'telly'
Fe gladdais boteled o wisgi
Fe gysgais a chwyrnais
Ac yna dihunais
A gwelais yr ailddarlledu.

Hywel Roderick
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

I'r Alpau ar wyliau yr af ...
A sgio dros y gaeaf..

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

I'r Alpau ar wyliau yr af ...
I sgio dros y gaeaf...

1/2 pwynt

Englyn Cywaith- Deddf

Y dŵr sydd yn ystwyrian - yn y Bae'n
araf bach trwy'r graean,
ond yn mynd yn donnau mân
nes diffodd fflam San Steffan.

Geraint Roberts
9 pwynt

Englyn Cywaith- Deddf

(Deddf Sarah Payne - cafodd ei merch fach ei cham-drin a;i lladd gan bidoffil.)

Heno mae rhai dienaid, - a hwythau
Yn waeth na bwlïaid
Eto yn rheibio, a rhaid
Hela'r holl bidoffiliaid.

Gwen Jones
8 pwynt

Telyneg - Ofn

Fe wyddwn i, yn bum mlwydd oed,
fod bleiddiaid dan fy ngwely,
a sleifiai allan, ddant wrth ddant,
yn syth ar ôl cau'r llenni.

Yn nrws y wardrob, eto fyth,
roedd ellyll yn cyrcydu;
po fwya'r chwys, y mwya'r âi
yn nüwch oer y llenni.

Er bod pob munud megis awr
a dwyawr yn ofnadwy,
fe wyddwn i y deuai'r haul
ryw bryd i ddeffro'r llenni.

Nid blaidd sydd bellach yn fy nos
na'r diafol o ran hynny,
ond cael fy hun, dim ond fy mod,
a neb tu ôl i'r llenni.

Mari Lisa
9 pwynt

Telyneg - Ofn

Mi fûm yn chwarae'n blentyn
Rhwng rhesi'r meini nadd,
Gan ddamsgel rhwng y beddau
Heb ofn, heb barch, na 'ngwa'dd;
Yn hwyl y chwarae, y sylw'n brin
I'r enwau dierth ar gerrig gwyn..

Dychwelais gyda 'mlodau?
I osod torch, er cof,
A throedio'r rhwng y rhesi,
Sy'n hwy bob tro y dof;
A sylwi nawr, heb darfu'r hedd,
Bod wyneb ar bob carreg fedd.

Terwyn Tomos
9 pwynt

Englyn ar y pryd-Gweddi.

Mi wn mai fel y mynno - y gwna dyn
Ac nad yw yn malio,
Nes daw'r hil i ymbilio
O'r gwagle oer, i'w glyw O.

Karen Owen
8 1/2 pwynt.

CYFANSWM - 79 PWYNT

Englyn ar y pryd-Gweddi.

Ein Tad fe drown atat Ti i ofyn
Am D'ofal mewn cyni;
Heb boen, ni wnawn Dy boeni,
Mor simsan yw'n hanian ni.

Gwen Jones
8 1/2 pwynt

CYFANSWM- 77 1/2 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.