Cwpled i'w osod ar gownter
Diolch am wario, bobol,
Ewch yn iach a brysiwch 'nôl.
Huw Meirion Edwards8 pwynt
Cwpled i'w osod ar gownter
(Ar gownter y Carreg Môn Hotel)
Rhag llosg rhaid diosg dy iaith
I weini yma'n uniaith.
Aled Evans8 pwynt
Pennill ymson wrth weld arwydd
Yr Arwydd (Papur Bro ardal fy mebyd)
Hwn oedd map fy ardal i
yn fanwl fân ei raddfa
Craffaf nawr o bellter byd
i ganfod enw'r pentra.
Arwel Jones (Y Cŵps)8 1/2 pwynt
Pennill ymson wrth weld arwydd
Y mae rhai yn dal i ofyn
Pam taw'r nos yw awr y gwyfyn,
Eraill ŵyr ac fe wn inne
Bod angen nos i weld y gole.
Aled Evans 8 1/2 pwynt
Cywydd: Elusen
O ganol ein digonedd
Rhown i'r wlad ryw ran o'r wledd.
Bwriwn, bawb, ryw ronyn bach
O waddod y gyfeddach
I enau'r dorf anghenus
Sy'n llyfu'r baw gerllaw'r llys.
Gyrru wnawn, cyn cysgu'r nos,
Galennig i'w gwlâu unnos,
A'i suddo yn fuddsoddiad
Yn nyth ddofn ein hesmwythâd.
Lluchiwn o'n byrddau llachar
Gardod y gydwybod wâr.
Huw Meirion Edwards10 pwynt
Cywydd: Elusen
Siani Lwyd a'i sioe yn les
O wead cain gwellt cynnes;
Yn geingio a thwtio'i thŷ,
Yn forwyn heb yfory.
Yna'n dwr yno un dydd
Fowlenaid noeth aflonydd.
Yn eu mysg, a'i enau mawr,
Un cegog barus cywgawr.
Nid oedd i'r fam ei amau;
Ei dawn rad fu dwyn yr iau,
A rhoi ei byd i'r cawr bach
Yn llenwi nyth ei llinach.
Gwynant Hughes8 pwynt
Englyn hysbysebu rhaglen
Y Briodas Fawr, 29 Ebrill, S4C
Dewch! Mae gwahoddiad ichi - o'r Tŷ Glas
I'r Briodas! Ydi,
Brydeinwyr, mae'n bryd inni
Blygu glin i'n Wili ni.
Huw Meirion Edwards8 pwynt
Englyn hysbysebu rhaglen
Cefn Gwlad
Gweld heulwen, a thomen a thas, gweld crud,
gweld croth ein cymdeithas.
Gweld olwyn sawl cymwynas,
Ac ôl her ar gaeau glas.
Heddwyn Jones 9 pwynt
Cân: Stori Arswyd
Dial Diderfyn y Gwylliaid
Mae'n Hydref* yn y Dugoed a'r nos yn oedi'n hir
Heb enaid byw i'w weled yn crwydro dros y tir.
A llwm yw Bwlch y Fedwen, dan olau gwan y lloer
A'i weundir anghyfannedd yn un diffeithwch oer.
Dialgar yw'r tawelwch, mae arswyd yn y gwynt,
Pan ddaw o'u his-fyd tywyll ellyllon ar eu hynt.
O Fynwent gêl y Gwylliaid, ymrithiant yn eu tro
Gan lechu yn ddisgwylgar yng nghysgod coed y fro.
Clustfeinio wnant yn astud, pob un a'i fwa'n dynn,
Bydd gosgordd Lewis Owen yn cyrraedd gyda hyn.
Cwyd cri. Daw'r gawod saethau, a gwelir dyn ar lawr,
Gŵr clwyfus yno'n gorwedd, un sydd a'i boenau'n fawr.
Ac yna'r anfri eithaf, â'r gelyn o dan draed,
Mae'r Gwylliaid wrthi'n trochi eu dwylo yn ei waed.
Yn awr a'r ddefod trosodd, try pawb yn ôl i'w fedd,
I orwedd yno flwyddyn gron mewn rhyw anesmwyth hedd.
Ond pan ddaw'r Hydref eto, fe ddychwel yr ysfa gas
I ddial ar y Barwn balch neu unrhyw un o'i dras.
*Ar Hydref 12 1555 lladdwyd y Barwn Owen gan y Gwylliaid Cochion.
Dafydd Morgan Lewis8 1/2 pwynt
Cân: Stori Arswyd
Bachgen bach yn Affganistan
Ni allaf ddeall beth sy'n gyrru rhai
i ddilyn pob rhyw estron ffilm a ddaw
a thyrru'n griw i'r pictiwrs, fel petai
gwir angen t'wyllwch i gofleidio braw.
Ond gwelaf, yn fy nghartref cynnes clyd
dy stori yn fy nychryn ar y sgrîn,
tra bod y camera arnat ti o hyd
yn nwfn dy lygaid gwelaf ddyddiau blin.
Ni fyddi'n ennill Oscar am dy ran
yn rhyngu byw yn sŵn ffrwydriadau'r bom,
a'r ddrama hyll o'th gwmpas ym mhob man,
yn portreadu colled, poen a siom.
Ni ellir fyth gyfleu drwy'n ffilmiau ni
yr arswyd deimlais yn dy stori di.
Beti-Wyn James9 pwynt
Limrig yn ymwneud a pharcio
Fe brynodd hen wraig o Bontantwn
Ddau Challenger Tank mewn rhyw ocsiwn:
Yn ddi-ffael, mae'n cael lle
Yn y pê and displê
Wrth alw i'r dre am ei phensiwn.
Geraint Williams8 1/2 pwynt Geraint Williams (Y Cŵps)
Limrig yn ymwneud a pharcio
A minnau yn hwyr i'r cwrdd gweddi,
mi lyncodd y peiriant fy mhres i,
mi deimlais reit flin
a rhoi cic i'r mashîn
a mynd ar fy nglin i ddweud sori.
Beti-Wyn James 8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Eithaf annoeth yw honni
nad oes gwell na'm llinell1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Eitha annoeth yw honni
mai hawdd ydyw hyn i mi1/2 pwynt
Englyn Cywaith Gelyn.
Na, nid blawd ond bwledi oedd ein rhodd,
a'n rhoi'n llawn haelioni;
ond o'r rwbel dychweli
yn ddi-ddweud i fy lladd i.
Dafydd John Pritchard10 pwynt
Englyn Cywaith Gelyn.
Fe ofnaf fod ei hafan a'i wenwyn
Ar gynnydd ymhobman,
A'i haint sydd yn ddiwahân
O fewn i mi fy hunan.
Meirion Jones 8 pwynt
Telyneg- Cyfaill.
Cyfaill (I Erwyd Howells, bugail)
Pan gipia'r gwynt dy chwibanau taer,
dim ond y cŵn all ddeall dy ramadeg
rhwng cromfachau'r mynyddoedd;
dim ond y nhw all gynnig clust
mewn corlannau uchel, a chlywed
cawod law dy lais; mae'r brwyn yn ddyfynodau
i gyd, a sigl eu hansicrwydd o dan gwmwl du.
A dim ond y nhw sy'n driw hyd ddiferion
a chanmoliaeth llaw dy atalnod llawn.
Pan gipia'r gwynt dy chwibanau taer,
mae pawennau'n gadael rhai brawddegau blêr
ar femrwn oer a gwlyb dy fynydd di.
Dafydd John Pritchard 9 1/2 pwynt
Telyneg- Cyfaill.
A glyw di'r eos rhwng nos a nant
Yn faled o gyfeiliant,
Yn ein galw ni'n dau i'r dre'
Ac ôl taith ar ein gwadne?
A glyw di'r gân sy'n arwain dau
Nôl at gychwyn ein llwybrau?
Ein sgwrs yn heintio'r haf
Fel chwa'r awel dyneraf.
A phan ddaw tro i ganu'n iach
Yn derfyn i'r gyfeillach,
Gwn bydd hyd y llwybrau hyn
Cân yr eos i'n canlyn.
Aled Evans9 pwynt
Englyn ar y pryd- Rhaff.
A'r haul yn ddi-orwelion, ni welaist
ond cymylau.Heno'n
dy lygaid diolygon
ffin 'nos da' yw'r ffenest hon
9 1/2 pwynt
CYFANSWM- 81 pwynt
Englyn ar y pryd- Rhaff.
I Tracy Hinton (merch ddall fu'n rhedeg yn y gemau paralympaidd gyda Steffan Hughes o Gaerfyrddin).
Daw heno it adenydd a hyder
i redeg dy drywydd
ofn asio â thywysydd
â rhaff i'n ollwng yn rhydd
9 1/2 pwynt
CYFANSWM- 77 1/2 pwynt
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

