Y Talwrn - Ffostrasol V Y Cwps
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled Caeth yn cynnwys unrhyw fis
Mae o hyd ddisgwyl Medi
At ddiben ein hangen ni.
Jim Davies
8 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys unrhyw fis
O dan adduned Ionawr
Mae 'na fom a hwnnw'n fawr.
Huw Meirion Edwards
8 pwynt
Pennill Ymson - Wrth fwrdd
Bwrdd yr Orsedd
Rwy'n nabod Tudur Dylan
Mae gen i Lun o Cynan,
Pam nad gwisg wen yw nghwestiwn i?
Rwy'n joci wedi'r cyfan.
Jim Davies
8 1/2 pwynt
Pennill Ymson - Wrth fwrdd
Ymson cadair
Hyd heddiw mae fy mreichiau'n wag
A'i hanwes ar fy nghlustog,
A'r teulu astud gylch y bwrdd
Yn cadw'r cof yn selog.
Arwel Jones
8 pwynt
Cywydd - Coeden
Yn anwel, rhyw hen elyn
Wnaeth ei hôl drwy'r parthau hyn
A dyfal ddatgymalu
Y llwyfen hen ger fy nhŷ.
Fy llwyfen yn goeden gaeth
Yn nwylo hir farwolaeth,
Yn adfyw ac mewn adfyd
Yn ildio, gwywo i gyd
Daeth blysgar elyn arall
A'i boen i guro'n ddi-ball
Ac o hyd, gwelaf goeden
Mewn tristyd bywyd ar ben.
Dai Rees Davies
8 pwynt
Cywydd - Coeden
Rai blynyddoedd yn ôl fe gafodd ywen Dafydd ap Gwilym yn Ystrad Fflur ei tharo gan fellten.
Cyn daearu'r cnawd eirias
Ger mur Ystrad Fflur a'i phlas,
Cyn bod cywydd Gruffudd Gryg
Na si'r un Brawd Llwyd sarrug,
Mynnai'r hen, hen ywen hon
Nyddu ei chynganeddion.
A phan ddaeth bollt i'w hollti,
Rhuddo wnaeth ei rhuddin hi.
Ond deil o hyd i ddeilio
Yn ir fel ein awen o,
A mynnu byw, am na bydd
Dofi ar ywen Dafydd.
Huw Meirion Edwards
8 1/2 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell 'Yn ôl im cynefin af
Bu erioed atynfa braf- yn hafau
Y pellafoedd eithaf
Ond pan ddaw gwae pob gaeaf
'Yn ôl im cynefin af'.
Dai Rees Davies
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell 'Yn ôl im cynefin af
Yn yr hwyr ar ôl i'r haf - ymadael,
`R ôl medi'r cynhaeaf,
Yn ôl i'm cynefin af
I wylio'r machlud olaf.
Iwan Bryn James
9 pwynt
Cân - Y Pwyllgor
Mae'n ddiwrnod hanesyddol Fis Ebrill nôl y sôn
Mae Cêt yn priodi'n Llundain a Wili o Sir fôn.
Ni gefais i wahoddiad mae pethau braidd yn dynn
Ta waeth'rwyf ar y pwyllgor sy'n dathlu erbyn hyn.
Bu'r pwyllgor yn y festri, a wir uwchben y tân
'Roedd Llun o'r ddau yn gwenu ger LLun o'r ysbryd Glân.
Y Parch oedd yn y gadair fel Gog a Gŵr Di -Lol
Yn falch fo'r pâr priodasol am fyw yn Rhosybol.
Cynnigwyd cynnal parti ac annog Pobol slim
Er mwyn cael arbed costau i beidio bwyta dim.
Ac yna cynnig arall, beth am gael barbiciw
A choesau ffowls ar ddeiet mor fain a choesau dryw.
Fe gafwyd awgrym eto i'r Gwragedd un prynhawn
Gael cwrs yn Festri Hermon sut mae gwneud parti iawn,
Y parch oedd am gael gwledda fel prthi y pum mil,
Trwy wledda medra lanw y Pulpud bob dydd Sul.
Bu wedyn cryn drafodaeth a phan mae llu yn cwrdd
Mewn pwyllgor mae sawl cynnig yn aros ar y bwrdd.
Yn Rhyfedd ni bu eilydd ond tan y cynnig ola'
Pan basiwyd yn unfrydol pryd fydda'i pwyllgor nesa'.
Emyr Davies
9 pwynt
Cân - Y Pwyllgor
Nid oes agenda na chofnodion chwaith
Dim ond rhyw frawddeg fer ar femrwn brau
I dystio am y cynllwyn roed ar waith
Yng Nghlochdy Bangor, Rhagfyr, wyth deg dau.
Pa wŷr Eglwysig? Pa uchelwyr bras?
Oedd yno'n llond eu crwyn o dwyll a brad?
Pob un, mae'n siŵr yn falch o'i lwyth a'i dras,
Pob un a chariad ingol at ei wlad.
Am 'chydig ddarnau arian a pheth tir
Ildio ein rhyddid i rhyw deyrn o Sais
A'n troi yn gaethion am saith canrif hir
Heb awydd yn y byd i godi llais.
Ac eto, er byw'n daeog am gyhyd
Daeth awgrym ddechrau Mawrth o newid byd.
Dafydd Morgan Lewis
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â ffasiwn
Y ffasiwn yn awr yw tatŵ
Fy mwriad oedd cael Gwdiŵ
Ond 'roedd prinder inc
A chefais Jibinc
Heb goesau mewn lliw nefi blŵ.
Emyr Davies
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â ffasiwn
I Ffasiwn arbennig D M-L (Dafydd Morgan Lewis)
Mae rhai sydd yn gwisgo Channelle
I'w gweld rhwng cloriau fel Elle
Ond i'r gwr ac i'r wraig
Gwerinwr neu sglaig
Yn Nhafod y Ddraig cewch M-L!.
Arwel Jones 8 1/2 pwynt
Ateb Llinell ar y pryd
1/2 pwynt
Ateb Llinell ar y pryd
1/2 pwynt
Englyn Cywaith - Ffôs
Un o ffosydd rhyfel mawr
O hon yr aeth miliynau-yn un twr
'Dros y top' dieisiau,
A rhy hwyr yw eu mawrhau
Heno mewn rhes o enwau.
Dai Rees Davies
8 pwynt
Englyn Cywaith - Ffôs
Mud aros i'r storm dorri, - y weddi'n
Troi'n waedd, llanciau'n codi
O chwys oer ei lloches hi
Yn eu rhengoedd i drengi.
Huw Meirion Edwards
9 pwynt
Telyneg: Gofal
Agorais glwyd y buarth
Ar ôl rhyddhau y tshaen,
A cherdded tua'r storws
Fel gwnes bob tro o'r blaen
Ond Bet yr ast groesawgar
Oedd heddiw'n feistres gas,-
Ni wyddwn am y dorraid
Yng nghornel y tai mas.
Emyr Davies
8 1/2 pwynt
Telyneg: Gofal
(Gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i.)
Cyrraedd Belmont, a chyfarfod y dyn
bychan bach yn ei wisg laes, ddu. Y fo
a'i groeso, a'i wên, a'i gariad at Lŷn
a Maelor Saesneg, sy'n agor pob clo,
a'i sgwrs barod drwy'r coridorau i gyd
yn groeso di-amod. Cyflwyno'r lle
gan ddangos pob twll a chornel o'i fyd
bach, mawr ei hun. Dyma'i benyd a'i ne'.
Bob bore'n blygeiniol af at fy sedd
yn ymyl y côr, mae'r cyfan yn dwt
a pharod: salmau, emynau, yn hedd
y bore bach. Rhof rhyw nòd fach ffwrbwt.
O roi i'r geiriau eu mudandod hwy
rywsut fe ddwedwyd y cyfan, a mwy.
Ar ymweliad wythnos ag Abaty Benedictaidd Belmont yn ddiweddar, y Tad Cadfan Williams fu'n gofalu amdana i.
Dafydd John Pritchard
9 pwynt
Englyn ar y pryd- Newid
Dilewyrch fu'r 'Red Lion'- heno'n siŵr,
Es yn syth i'r 'Dragon'
Ar y 'Brains'am deirawr bron,-
A nawr rwyf yn 'Y Goron'.
Jim James
8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 77 PWYNT
Englyn ar y pryd- Newid
Er cwyno lawer canwaith- a dannod
Dy eni, er artaith
Dy gasau yn naw deg saith,
Anwylach wyt yr eilwaith.
Huw M Edwards
9 pwynt
CYFANSWM- 78 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

