Y Talwrn - Beca V Taeogion
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys 'Brynberian'
Rho dan glo dy ferched glân,
Rwy'n beryg ym Mrynberian.
Eifion Daniels
8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys 'Brynberian'
Clywsoch ambell linell wan
Yn barod ym Mrynberian.
Emyr Davies.
8 pwynt
Pennill Ymson- Ar Glawdd Offa
Os y gorwel unwaith
Fu terfynnau'r plwy,
Ffens gardd digon bregus
Yw'n Clawdd Offa mwy.
Terry Reynolds
8 1/2 pwynt
Pennill Ymson- Ar Glawdd Offa
Rhof glod i'r clawdd sy'n gwneud ei waith-
mae'n gwneud ei orau glas
i gadw'r Cymry ifanc mewn
a chadw'r Saeson mas.
Emyr Davies
8 1/2 pwynt
Cywydd- Cyfarch Baban
(Y brawd mawr i'w ddarpar chwaer neu frawd.)
Hen un ciwt, 'rwyt ti'n cwato
Am sbel yn bol mami sbo;
Rwyt ti fel pili pala'n
Jocos yn aros i'r ha'.
A minne ar binne bach
I gael e o na'n gloiach,
I alw ac i sylwi
A chware, falle da fi:
Gei di'r tryc, gadwai'r tren
Un ai'n grwt neu yn groten
Ti yw'r seren eleni
I Mam a Dadi a mi.
Rachel James
9 1/2 pwynt
Cywydd- Cyfarch Baban
(wrth ddal Gwilym am y tro cyntaf
Hen ŵr doeth yn dy noethni,
er taw dim ond awr wyt ti,
wedi bod eriôd yr wyt,
achau'r taid a chrwt ydwyt
mewn lliain wen sy'n llenwi
heno grud ein hollfyd ni.
Gwilym, fe'th ddiogelwn,
ond, fel y gwyddost, fe wn,
er dy ddal, a dal yn dynn
o hoffus, i'th amddiffyn,
ni allwn rwystro popeth:
dyma yw baich dim o beth.
Ceri Wyn Jones
10 pwynt
Englyn yn cynwys y llinell - "Nid yw'r wasg yn mynd ar ôl"
Newyddion cas negyddol - garia'r dydd
I greu'r darn ysgytwol,
Nid yw'r wasg yn mynd ar ôl
Y manion bach dymunol.
Cerwyn Davies
8 1/2 pwynt
Englyn yn cynwys y llinell - "Nid yw'r wasg yn mynd ar ôl"
Papurau newydd a phapurau broNid gwaith yr hacs rhyddieithol yw ymhél
 phrint mân y bobol;
Nid yw'r wasg yn mynd ar ôl
Y gwirionedd gwerinol.
Emyr Davies
8 pwynt
Cân- Cadw Dyddiadur
Heddiw, ces i frysneges fod isie bildo llong
Gan fod yr holl drigolion yn gwneud y pethe rong.
Heddiw, mi holais Jona, beth ydoedd ei farn e
Achos ar rhyw long tebyg aeth heibio i Ninife.
Heddiw gofynais i Moses i gynllunio yr holl waith.
Heddiw, aethom fel teulu i ddechrau ar y gwaith.
Heddiw, ces goed o Eden a rheini yn rhai mawr,
Nid oes ei hanen bellach ar Adda ac Efa'n awr.
Heddiw, cynhaliwyd pwyllgor, a bod yn weddol 'firm'
I wahardd dau hen bryfyn a elwid yn 'wood worm'.
Heddiw, aeth un o'r meibion i gasglu popeth byw
Cyn i'r gawod ddechrau disgyn yn ôl addewid Duw.
Heddiw oedd diwrnod carthu, fe gymrodd hwn drwy'r dydd
Gan fod yr efiffantod yn diodde o'r dolur rydd.
Heddiw, pen tost da'r hipo, jiraff â gwddwg tost
A'r crocodeil â'r ddannodd a'i yrrodd yn ddwl bost.
Heddiw, roedd Mrs Noa yn hapus, heb un dig
Pan welodd hi golomen â deilen yn i phig.
Heddiw, ca'dd pawb i shiglo nes cwmpo lawr yn fflat
Pan aeth y llong yn ddeilchion ar fynydd Ararat.
Hywel Mudd
8 1/2 pwynt
Cân- Cadw Dyddiadur
Ddydd Gwener, gwnes fy nhasgau;
rhaid parchu'r dyddiad cau
(a diolch nad yw hwnnw
yn disgyn ar ddydd Iau).
Ddydd Sadwrn, fe bendronais
dros un atalnod llawn:
ei roi i mewn 'n y bore
a'i dynnu mas yn 'pnawn.
Ddydd Sul, ces hoe o'r tasgau,
o barch at Sabath Duw,
wa'th ar y bocs roedd Lerpwl
a Chelsea'n chwarae'n fyw.
Ddydd Mawrth, fe gawsom destun
yr englyn ar y pryd,
ond, diawch, fe gymrodd hwnnw
y diwrnod ar ei hyd.
Ddydd Mercher, fe orffennais
fy nhasgau fel y gwynt
i'r talwrn ym Mrynberian
a fu y noson gynt.
Ceri Wyn Jones
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â darllen
Wedd broga yn byw bwys ni 'co
'Di darllen y cyfan sy', clo
Ac er im ei gymell
 llyfrau o'r llyfrgell
Ei ateb oedd 'redit' bob tro.
Eifion Daniels
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â darllen
Dwi'n darllen 'Y Cymro' a'r 'Tyst',
dwi'n darllen llawlyfrau ar whist;
dwi'n darllen nos Sadwrn
lyfr Pigion y Talwrn −
on'd odw i'n fachan bach trist?.
Ceri Wyn Jones
8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd-
Mae Nora men awyren
Yn iach ei byd fry uwchben.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd-
Mae Nora men awyren
A'i Ryanair lawr o'r nen.
0 pwynt
Englyn Cywaith: Offeryn
O ris i ris yng Nglyn Rhosyn - Dewi
Yn dawel sy'n esgyn
A'i bader yn offeryn
I hoelio Duw'n meddwl dyn.
Cerwyn Davies
8 1/2 pwynt
Englyn Cywaith: Offeryn
Ddoe yr oedd yn ffidil ddrud, yn dôn hardd,
ond 'nawr mae'n ddisymud,
yn dyheu am weld o hyd
y bwa yn ei bywyd.
Tudur Dylan Jones
10 pwynt
Telyneg - Bwlch
Oedaf ym Mwlch Hyddgen; yno'n rhith
rhwng y creigiau a'r cernydd mae Owain
yn gwylio'r gelyn ar war Carn Biga;
ac ar fawndir, plu'r gweunydd
yn ysgwyd gan drwst y carnau estron
yn sarn y frwydr;
ac ym merw'r Gwarin, y llif
yn goch o wae yn stormydd machlud
dros grib y Drosgol.
Oedaf ym Mwlch Hyddgen,
a thaerni cri'r gylfinir yn y bwlch
yn oeri'r hin.
Rachel James
9 pwynt
Telyneg - Bwlch
Ni phrofais innau ergyd
Na chleisiau ffawd un waith,
Na hiraeth y llenorion
Yn cnoi fy nghalon 'chwaith;
Ni wnaiff magwraeth saff y swydd
O gorddi'r inc yn gerddi rhwydd.
Ond weithiau heb ei ofyn
Wrth dwtsh â seld neu stôl
Daw'r cof â'i gnoiad tawel
Am un na ddaw yn ôl;
Ac er i'r geiriau glatsho rownd
Ni ddaw un sill; mae'r gerdd yn sownd.
Emyr Davies.
9 pwynt
Englyn ar y pryd-Plentyndod
Trwy'i febyd bu'n dymuno- bod yn ddoeth
Bod yn ddyn, ond heno
Yn Hydref cartref y co'
Hen ddyn s'n grwtyn eto.
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU- 79 PWYNT
Englyn ar y pryd- Plentyndod
Dod yno i'r mân donnaua wnei di
ar dywod yr oesau
a dod o hyd i'r dristau
na chei aros i chwarae
10 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU - 81 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

