Cwpled caeth ar yr odl 'od'
Yn Sir Fôn, yn siŵr o fod,
cynghorydd oedd King Herod.
Rhys Iorwerth8 1/2 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'od'
Nid yw neb yn fy adnabod
Yn y baw; ond rydwi'n bod.
Gruffudd Owen8 1/2 pwynt
Pennill mawl / dychan 'Prifeirdd'
Er ymroi'n drwm i'r awen, a ydynt,
wedi'r clod, yn darllen
yr un llyfr yn enw llên
ar wahân i'w rhai'u hunen?.
Rhys Iorwerth8 1/2 pwynt
Pennill mawl / dychan 'Prifeirdd'
Tu ôl i bob Prifardd hybarch
Mae wastad un fenyw o fri
Awen maen nhw yn ei galw
Ac mae hi ar fy ochr i!
Gwennan Evans8 pwynt
Cywydd: 'Gwagle'
Ystrydeb o wyneb wyt,
un stryd o stori ydwyt
yn nwyster y posteri
sy'n dweud dy hanesyn di.
O'r lôn sy'n bader o lwyd,
o'r waliau sy'n cau'r aelwyd,
yn ddau, awn â'r weddi hon,
yn weddi i'r newyddion.
A datgan a wnawn ganwaith
ar dir moel ein pryder maith
y daw'n wawr pan ddoi di'n ôl
i wenu yn ein canol.
Aron Prichard10 pwynt
Cywydd: 'Gwagle'
Wedi darllen cyfrol Iwan, ar Daith
Nid o'wn yn ei nabod o.
Minnau, ni chofiwn mono
ond fel rebel lefel A;
un o'r genhedlaeth yna.
'Mond graddol sylweddoli
ryw flwyddyn wedyn ydw i:
naid ei gân o'r du a gwyn
yn lliw hudol y Llwydyn,
gwin ei lais. Ac yn ei le,
y rhwyg eglur, y gwagle'n
gân na ddaw, sŵn cystrawen
yn dal 'nôl, a dalen wen.
Llyr Gwyn Lewis9 1/2 pwynt
Englyn cildwrn - Beddargraff Heddwas
Gŵr â sens, saff o'i bensiwn - a stripiwyd
o'i streipiau a'i drynsiwn
yn Annwn.
Llion Pryderi Roberts8 pwynt
Englyn cildwrn - Beddargraff Heddwas
Rigol oer y garreg las - dwed i fi
sut dy fod yn heddwas
a dynas?.
Llŷr Gwyn Lewis8 1/2 pwynt
Cân: 'Yr Ymddiheuriad'
(i Dre'r Dryw, y fferm fu'n gartref teuluol am 35 mlynedd, sydd bellach ar y ffordd i gartref newydd fy nhad)
Wrth basio pen y lôn fe deimlaf frath
fel pe bai Meg o hyd yn hel pob teiar,
ond cadw ar y ffordd a wnaf yr un fath
a bwrw heibio i'r cilcyn hwn o ddaear,
ymlaen i'r tŷ heb ddagrau yn ei arffed
na chreithiau'r awyr las yn llechi'r to,
lle mae 'na straeon newydd dan y carped
a sglein o gysur ar hen gelfi'r co';
ond wrth droi'r gornel, lle mae'r ffordd yn hŷn,
fe'th welaf di pan oedd dy waliau'n wynnach
ac antur mêts yn dal i liwio'r llun,
yn rhannu gwên a chadw pob cyfrinach,
nes clywed edliw'r lôn yn sŵn y gro
am na wnes stopio'r car, a dweud helo.
Llion Pryderi Roberts9 1/2 pwynt
Cân: 'Yr Ymddiheuriad'
(rhywun sy'n dioddef o Dementia)
Petawn i'n medru 'mestyn llaw
ymhell i niwl f'ymennydd
gan afael yn y geiriau cloff
a'u gwisgo ag adenydd,
Pe gallwn sgubo mymryn bach
o'r gwe sydd yn fy rhwystro
gafaelwn yn y geiriau hyn
er mwyn cael ymddiheuro.
Am roi'r swper a wnest i mi
yn dawel daclus yn nesgil y ci.
Am orfod gofyn fesul un
pwy ydi'r bobl yn y llun.
Am adael i'r enw a roddais i ti
suddo'n atgof dan donnau'r lli.
Am dy wneud di'n fam i mi
fy annwyl blentyn,
sori.
Casia Wiliam9 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â gofyn cwestiwn.
Pam fod pecinîs Timbactŵ,
a'u gwragedd, a sawl gwdihŵ,
a deuddeg gorila'n
cyd-fyw ym Manila?
Beth ddiawch sydd o'i le ar y sŵ?.
Ifan Pleming9 pwynt
Limrig yn ymwneud â gofyn cwestiwn.
Chwiorydd busneslyd Cwmsgwt
Sy'n gofyn pwy, beth, pryd a shwt
Yw Hollie a Pam,
A holi ma'u Mam
O pam yn y byd ches i'm crwt?
Gwennan Evans9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Ar fin y dwr ofna dwyn
Yn y mor, nofia'r meuryn.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Amneidio i meun wedyn
Ar fin y dwr ofna dyn.
1/2 pwynt
Englyn cywaith: 'Traed oer'.
Un gair penysgafn am gariad - un gair,
dyna i gyd fu mwriad,
un gair cyn myned i'r gad...
... i rywle, aeth yr eiliad.
Owain Rhys9 pwynt
Englyn cywaith: 'Traed oer'.
Hwyrach i'r gaeaf oeri - yr angerdd
fu rhyngom, a'i rewi.
Ond oerach mwyach i mi,
Yw paned ddi-gwmpeini.
Gruffydd Owen8 1/2 pwynt
Telyneg- Cariad Cyntaf.
Heddiw
mae gwên rhywun arall
yn cyffwrdd gwallt
a symud sgert.
Yn y glaw
y daethom ni yn agos.
Er cofio
am wres arall
ar war.
Eisteddwn weithiau
ar fainc yr haul
yn chwerthin ar gyplau'n dwyn yr haf,
yn rhedeg mewn a mas o'r môr
fel cartŵns pensil
ar gorneli tudalennau.
Mari George10 pwynt
Telyneg- Cariad Cyntaf.
Yn nunlle, yn dri-deg-un, ar drên.
Yn aros i'r ddinas flin ddod i gynnig
paned i gynhesu rhywfaint ar y tywyllwch,
a daeth yr atgof ohonot drwy dwrw'r cledrau.
Y tro cyntaf i ti afael yn fy llaw
a gosod sws yn daclus ar fy nhalcen.
Mor sydyn â'r golau sy'n dallu
ar derfyn twnel.
Ac yna daeth y troli a'i grynu
a'i grenshan metal i darfu ar y darlun
a diflanaist, unwaith eto, am dipyn.
Casia Wiliam10 pwynt
Englyn ar y pryd- Ateb
A hin rhy driw i'w briwiau, mae eto'n
ymatal rhag geiriau,
yn closio at y cleisiau,
yn rhy ddof i ymryddhau
9 1/2 pwynt
CYFANSWM- 82 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Ateb
Cofrestr Ysgol Pant-Glas, Aberfan
Hen friw y gri foreol- a dreiddio
Drwy'r huddug pentrefol
Yn ddi-eiriau fyddawl
Nid oes neb yn ateb nol
10 pwynt
CYFANSWM- 82 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

