Y Talwrn- Aberhafren V Cwps
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr 3ydd rownd o'r Talwrn.
Cwpled Caeth ar yr odl 'ith'
Daw lladron hud a lledrith
pan ddaw glaw, i ddwyn y gwlith.
Owain Rhys8 1/2 pwynt
Cwpled Caeth ar yr odl 'ith'
Hel â rhaw y glaw a'r gwlith
Yw rheoli athrylith.
Huw Meirion Edwards8 pwynt
Pennill Ymson: Mewn Ffair Sborion
'Faint ydy'r "Pigion Talwrn"
sy'n fan'na?' medde fi,
'Mae hwn yn drysor heb 'run pris,
...ond fe'i cei am 20p!'
Llion Pryderi Roberts 8 1/2 pwynt
Pennill Ymson: Mewn Ffair Sborion
Y hi oedd â'r sanau amddifad,
A'r tea bags ail-law gennyf i.
Mae hosan i hosan yn rhywle
A fi oedd ei chwdyn bach hi.
Arwel Jones - Y Cŵps8 pwynt
Cywydd: Cyfoeth
O'i charu, hi ferch arian,
Ei du mewn fu'n newid mân,
A'i rodd mor dyner iddi
Oedd ei aur - arweiniodd hi
Am dro i wario'n araf
Oriau hir hyd draethau'r haf.
Nawr, diwerth yw eu chwerthin,
A'u caru hwy'n hydref crin,
A'i loes sy'n ei adael o
Yn neiliach ei gynilo
Heb fodd i ail-fuddsoddi
Yn eu haul, na'i harian hi.
Owain Rhys9 1/2 pwynt
Cywydd: Cyfoeth
Flwyddyn ers marw Iwan Llwyd
Ni fu erioed i bladur frau
Angau gawr flingo geiriau,
A gwn nad diwedd y gân
Yw diwedd enbyd Iwan.
Ei sonedau sy'n heidio'n
Chwil o hyd gan lwch y lôn,
A'i gywyddau fel gweddi'n
Suo'n ôl i'n synnu ni.
Mae'r daith, ers ei gymryd o,
Yn dlotach, ond deil eto
Eiriau'r bardd i herio bedd
Sy'n llawn o atsain llynedd.
Huw Meirion Edwards 9 pwynt
Englyn Cildwrn- Hysbyseb
Hei feirdd! Yw englyna'n fwrn? Mae gennym
gannoedd o'n rhai Talwrn
am gil-dwrn!
Aron Prichard
Englyn Cildwrn- Hysbyseb
Delwedd sy'n sibrwd 'Ylwch' - a geiriau
Rhwng gwir a gau. Coeliwch,
A phrynwch!
Huw Meirion Edwards 8 1/2 pwynt
. Cân (heb fod dros 20 llinell): Yfory Ddaw
(proffwydodd y darlledwr efengylaidd, Harold Camping, y deuai diwedd y byd ar 21 Mai 2011)
Rhyw hen Americanwr, yn byw ar draws y dŵr,
ddatganodd yn ddiweddar ei fod o'n berffaith siŵr
a rhywsut wedi clywed rhyw lais yn dod o'r nen
yn rhybudd anwadadwy fod y byd yn dod i ben.
O'r herwydd, doedd dim diben i ni fel tîm gyd-gwrdd -
mi oedd y Talwrn nesa dros fis a mwy i ffwrdd,
a ninnau erbyn hynny wedi rhoi ein holaf lef,
a Gerallt draw yn cyfarch y Llyw Olaf yn y nef.
Ac felly, er cwrteisi, mi ffoniais dîm y Cŵps,
a dweud yn dalog wnes i, "wel rŵan, gwrandewch trŵps,
waeth heb â gwneud eich tasgau - fydd neb o'ch plith yn fyw,
ac ydi, y mae hynny'n dy gynnwys dithau, Huw."
Yn burion, gan anghofio am bob englyn, bob un gân,
aeth holl dîm Aberhafren i ymaros am y tân,
gan dreulio'n horiau olaf ar hyd y tiroedd hyn
yn dychmygu Tudur Dylan yn rhoi chwech i Ceri Wyn.
Ond drwy ryw amryfusedd, rwy'n dal yma er mwyn dyn,
a'r Cŵps yn amlwg hefyd, gwaetha'r modd, sydd ar ddihun.
Mae'u tasgau'n orffenedig, yn wahanol i'n rhai ni.
A glywson nhw ryw neges gudd na chlywsoch chi a fi?.
Rhys Iorwerth8 1/2 pwynt
. Cân (heb fod dros 20 llinell): Yfory Ddaw
Bydd Duw yn dial ddydd a ddaw medd Nain
A minnau'n gog yn strancio ar y Sul,
Hithau a'i bryd ar Grist a'i Goron Ddrain
A gweld ei theulu'n cadw'r llwybyr cul.
Ni fynnwn hynny, ac wrth dyfu'n llanc
Fe droes ei chrefydd imi yn ddi-chwaeth,
Braf iawn oedd ymfalchïo yn ei thranc
A thorri'n rhydd o'i llu rheolau caeth.
Anghofiais rybudd Nain a threulio f'oes
Yn ymbleseru, ac heb falio dim
Am freuder einioes dyn, Bedd Gwag, a Chroes,
Gan ruthro yn ddi-hid trwy mywyd chwim.
Ond erbyn hyn mae f'enaid yn llawn braw
Wrth feddwl beth am herys ddydd a ddaw.
Dafydd Morgan Lewis8 pwynt
Limrig yn ymwneud â cherbyd.
Wrth ddod draw yn rhy chwim ar fy meic i
gyda'r Meuryn mewn seidcar yn deidi
ar fforch, es i i'r dde,
ond i'r chwith yr aeth e,
mae 'na rai wedi'i weld e'n Llanboidy!.
Ifan Pleming8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â cherbyd.
Aiff pobol ar dân mewn i ryfel
Dros sawl achos gwych ac aruchel
Ond sdim a wnaiff ddyn
Mor hynod o flin
A dilyn wrth din lori Mansel.
Geraint Williams 8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
A ninnau'n glyd yn ein gwlau Dyfnos sy'n dod â'u hofnau.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Daw ofnau ym mhob dyfnos
I'n dyrnu ni'n nyfnder nos.
0 pwynt
Englyn Cywaith: Rhwyd.
(gwylio plant yn chwarae pêl-droed yn y parc).
Rhyw hen Sadwrn, yn sydyn, sy'n galw
yn sŵn goliau'r bechgyn
wrth weld hanner amser hŷn
yr haf olaf, hirfelyn.
Rhys Iorwerth9 1/2 pwynt
Englyn Cywaith: Rhwyd.
Ella y caf drwy'r tyllau hyn i gyd
fan gwan, lle mae'r edau
yn for hallt cyfan o frau
yn iaith tu hwnt i'r pwythau
Iwan Bryn James8 1/2 pwynt
Telyneg : Llaw.
Wrth ddianc rhag y bregeth
gwyliaf fy mysedd
llonydd
a stori o gledr
fu mor barod
i gwrdd â chledr arall....
Daw'r awydd eto i ddilyn
llwybrau'r sêt fawr a gerfiwyd
gan geiniogau poeth.
Rhwng stêm ein cinio Sul
ac awyr oer bore Llun,
byddai'r bregeth yn dal i guro
fel nodyn ar ôl nodyn
ar biano blinedig.
Gwario'r casgliad
yn y ffair,
estyn llaw dan drwyn sipsi
a gweld y byd
yn y rhychau llyfn.
Nes gweld
cywilydd yn llwch ar ffenestri lliw
a phob llwybr yn fy arwain yn ôl
i'r fan hyn.
Ond mae'r llyfr emynau
yn dal yn drwm
rhwng bys a bawd,
a phan ddaw'r tawelwch i beswch drwy'r lle
a phawb i blygu pen,
daw un llaw i gyffwrdd â'r llall
a gwasgu'r
weddi'n ddim.
Mari George10 pwynt
Telyneg : Llaw.
Ei dwylo saff fu'n dal y sêr
unwaith, pan oedd amser
ei hun yn iau a lleuadau'n
llawn i gyd. Trwy lygaid cau
gall weld o hyd y nosau, un ac un,
a'u dychmygu'n freuddwydion di-ddychryn
ei dyfodol hi, a hwythau'r bysedd
blysiog, glân yn aros gwledd.
Mae'r llaw hon heno'n dal fy llaw,
a gwelaf hyd-ddi holl brofiadau distaw
byw, a'r croen blêr, hardd dan siwrwd sêr
yn sgleinio peth, dim ond peth o'r amser;
a gwn mai'r cydio tynn yw'r nosau'n siarad
dan ewin, dim ond ewin o leuad.
Dafydd Pritchard
9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd- Sbwriel.
Heno'r sêr ar ddisbenod- ddaw â'n holl
weddillion yn gawod
i wibio a'r anwybod
â'u tanau bach hwnt i'n bod
9 pwynt
CYFANSWM 81 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Sbwriel.
(cynnwys 'body bag' o faes y gad)
Yn y cwdyn caeedig- ma na wast,
Ma 'na wynt dieflig
O waed a darnau o gig
Yn y lludw'n golledig
9 1/2 pwynt
CYFANSWM 77 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

