Cwpled caeth - Ar unrhyw ddrws

ar ddrws yr atig:

Sbwriel fu'n hel yn fy nhŷ
na fynnaf ei roi fyny.

Llyr Gwyn Lewis
8 pwynt

Cwpled caeth - Ar unrhyw ddrws

Ystyriol ar ôl cael row-

"Rheol i'r ddau oedolyn,
'Calliwch chi i'ch cell eich hun!'.

Dafydd Emyr
8 pwynt

Pennill mawl/dychan - pêl-droedwyr

Mario Balotelli (Bu raid iddo adael y cae ar ôl chwarae un hanner o gêm i Ddinas Manceinion gan fod ganddo alergedd i'r math o wair a ddefnyddiwyd)

Boi del ydi'r hen Falotelli
yn chwarae â'i bêl ar y teli,
ond af ar fy ngair, os defnyddiwch chi'r gwair
anghywir, fydd o'n ddim gwell na jeli.

Llŷr Gwyn Lewis
8 pwynt

Pennill mawl/dychan - pêl-droedwyr

Enwogrwydd yn floesg drwyddynt, - a'u 'penio'
sy'n hawlio eu helynt.
Galluog am gicio gwynt
a'u dawn yn drist amdanynt.

Aneirin Karadog
8 pwynt

.Cywydd- Afon

Fe fu'r haf ar Daf, a'i des
yn Nhreganna'n rhy gynnes;
dan haul ein Cymreictod ni,
mor hawdd fu ymroi iddi,
bwrw rhwyf, a byw ar ias
o donnau cynnwrf dinas.

Rhaid i'r dŵr dyrru o du
arall i lifo 'fory -
edau brau yw angor bro;
gaeafu'r wyf, heb gofio
fod yn sgwrs, yng nghwrs, yng nghof
y Fenai fwy ohonof.

Llŷr Gwyn Lewis
9 pwynt

.Cywydd- Afon

AFON CADNANT

Trwy'r nant stampîdiai'r plantos,
Gyrr o fref, ein nef cyn nos.
Ein hindda mewn chwerthinddwr,
Bom pawb ffrwydrai'n stomp a stŵr,
Gwefr a gwaedd gêm 'baedd a bwch'
Yn ddiferol ddifyrrwch.
I mi Cadnant oedd f'antur,
Nant sanctaidd, baganaidd bur
A'i gemau - ias o gymun,
Oriau'n wyllt; ond nawr yn hŷn
Nofiaf yn ei hatgofion,
Ddylif iach, addolaf hon.

Dafydd Emyr

Englyn yn enwi dwy wlad dramor

Dau frawd

Aeth dau frawd fy nhaid i ymladd yn yr ail ryfel byd - daeth un yn ôl.

Daw nosau Indonesia'n ôl, o raid,
i glyw'r un ddaeth adra;
i'w frawd, o raid, fe hwyrha
nos o aros yn Syria.

Llyr Gwyn Lewis
9 pwynt

Englyn yn enwi dwy wlad dramor

Mi wn fod sawl Almaenwr - a'u dwylo
dros Dilys, ond neithiwr
yn Y Goat, 'roedd hi a'r gŵr
a'u dwylo dros Eidalwr.

Ynyr Williams
8 pwynt

Cân- Y Briodas berffaith

Dan law amser daw priodferch
lawr i'r Nant dan orchudd gwyn,
gwyliaf hi â hen genfigen -
melltith ddoe'n fy nghlymu'n dynn.

Gad im dynnu'm ffrog o risgl
gad im ddiosg pwythau'r dail
am un heno llacia'r gwreiddiau
agor ddrws y gawell wiail.

Gwna im gnawd yn bur o gariad,
Pletha' ngwallt o sêr y nen,
rho im Rys am un tro olaf,
rho i Feinir briodas wen.

Casia Wiliam
8 pwynt

Cân- Y Briodas berffaith

Bûm yn briod saith o weithie
ac wir i chi, shgwlwch ar y creithie.

Roedd y gynta'n anodd i'w deall â hithau'n gog,
a rhannu gwely gyda hi a'r cyfieithydd yn dipyn o slog.

Roedd yr ail yn hwntw, ond bu rhaid iddi fynd,
gan ei bod hi'n byta dynon ac wedi byta fy ffrind!

Daeth y drydedd drwy'r post, wedi 'i hordro dros y we,
Fe landodd wedi 'i sgwosio, rhwng y llysie a'r te.

 finne mor hyll a hithe mor ddall,
gyda'r bedwaredd dewisais yn gall,

Ond fel gyda'r bumed, pharws hi ddim,
mae'n rhaid fod fy mojo wedi colli ei rym.
Gyda rhif chwech, yn llefnyn ifanc o ddyn,
newidiais y dacteg a phriodi menyw hŷn,

Ond gwa'th na dioddef 'i henaint a'i sag
oedd gorfod newid ei cholostomy bag!,

Alla i ddim sôn am briodas rhif saith,
'mond gweud ei bod hi wedi gadael ei chraith.

Amherffaith fu pob ymgais, wy nawr yn hen lanc
a bellach fy unig bleser yw weithie mynd am wac*,

Aneirin Karadog
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â physgota .

Dw i wastad yn mynnu pysgota
Y madarch bach mân o Lasagne
Y cyrens o gacen
O gawl, pob un taten
Mae'n syndod fy mod i'n dal yma .

Gwennan Evans
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â physgota .

Mi gollais un nos fy mhry genwair,
pan o'n i yng nghanol fy llesmair,
wrth roddi fy mhlwc
a'th o'n stwc mewn hen grwc.
Mae fy anlwc yn dal i gyniwair.

Dafydd Emyr
8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Wrth y sinc yn ymbincio
Diniwed iawn ydyw o.

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Mi roes ormod o groeso
Diniwed iawn ydyw o.

1/2 pwynt

Englyn cywaith - Llofrudd.

Ci Defaid.

Hel yn dawel a diwyd - wna'r cyfaill,
ond mae'r cyfarth hefyd
yn adlais o'r reddf waedlyd
i ladd oen; mae'n flaidd o hyd.

Gruffydd Eifion
9 pwynt

Englyn cywaith - Llofrudd.

Ni wyr roi'i oriau'r hiraeth, a ni wel
fy wylo, fy ngalaeth.
Heddiw mae'i etifeddiaeth
yn dwyn o hyd hon a aeth.

Ynyr Williams
8 pwynt

Telyneg-Amser.

Mae ein henwau yn ddiarth
erbyn hyn. A hwythau wedi hen
arfer rhannu lle, gafael llaw
mewn brawddega',straeon,
gwahoddiada. Mae ein henwau
mor ddiarth â ti a fi. Tybed
ydyn nhw yn hiraethu.

Llusgo mae'r dyddiau
sydd wedi dy golli;
sy'n wag ohonot ti.
Eiliadau swnllyd yn syllu.
Oedden nhw'n aros i glywed
sŵn fy nghalon yn torri
cyn dechra' tician?.

Wrth afael yn dy law
dim ond oriawr
oedd ar fy ngarddwrn
ond bellach, mae'r wyneb
crwn yn dangos amser
di-bendraw, a minnau
bob awr, yn waglaw.

Casia Wiliam
9 1/2 pwynt

Telyneg-Amser.

(ysbrydolwyd gan y negeseuon Twitter o Sendai...).

Milwr yn ei gwrcwd
mewn baw
a'i lawysgrifen yn grynedig
fel y weiren bigog
uwchben.

Ei lythyr mor syber â'i siwt -
a'r ofn yn tawel gripian
rhwng y geiriau
fel damp cynnes
rhwng coesau oer.
Yr inc mor ddu â'r brain
ar y tir neb
rhwng gorchymyn a galar.

Gŵr busnes ar awyren,
â'i ffenest fach yn derfysg o fwg,
yn bodio bwled o neges
at ei fam -
a'r fflach yn ffrwydro i'w ffôn,
cyn i'w byd ddisgyn o'i blaen.
Wrth i'r geiriau syrthio i'w lle
fel cyrff yn plymio -
yn drwm dan anobaith -
at y llawr.

Mam arall
â'i swnami o bryder
yn boddi Twitter.
Bob pwt fel llaw plentyn yn estyn
wrth i ewin ar ôl ewin
lapio am ei thraed bach.
Ei geiriau'n crafangu'n ofer
ar dywod oer lle nad oes trai,
ar draeth eang yr aros rhwng
swn seiran
a mudandod mawr y môr.

* * * Cyn hir bydd hyn eto'n
ddim ond dyddiad,
yn ddim ond cyfeiriad bras wrth drafod
trychineb waeth i ddod.

Ond heno
daw'ch geiriau brau,
i'm hatgoffa eto
fod rhifau'n enwau, dyfyniadau'n lleisiau -
a miloedd o wynebau
yng nghudd
dan don hanes.

Mari Stevens
9 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd.

Cyfarchiad Priodas.

Daw geiriau 'dwi'n dy garu' yn eu hôl
o'i hylion'cusanu
Dy wyneb.Gadim dynnu
Rhyw hen fêl ar hyn a fu.

9 pwynt.

CYFANSWM- 78 PWYNT

Englyn ar y pryd.

Cyfarchiad Priodas.

Trwy obaith Westminster Abbey-unwn
Dan faner ein meistr;
Ein parhad fydd eich priodi
Cyffrown, "i'r crown" fydd ein cri .

8 pwynt.

CYFANSWM- 75 1/2 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.