Y Talwrn - Criw'r Ship vs Llanrug
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled caeth ar yr odl -ach
Ai cerddor yntau corrach
Oedd Johann Sebastian Bach?
Arwel Roberts
8 1/2 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl -ach
Rhywsut rhyw ddiawl o gawlach
welaf i ar sianel fach.?
Dafydd Williams
8 pwynt
Pennill ymson- Cyn cysgu
Mae rhai'n cyfri defaid cyn cysgu
Ond fel bugail, mae'n yng ngwneud i yn flin.
Mae cysgu cyn cyfri'r ddiadell i gyd
Yn dipn o boen yn y... (chwyrnu).
Arwel Roberts
8 1/2 pwynt
Pennill ymson- Cyn cysgu
Dwi wedi dweud fy mhadar
Roedd y gwin na'n gry' oedd wir.
Argol, dwi eisio cysgu
Fedrai'm cadw'n effro'n hir.
Dwi wedi dechrau hepian
Rhyw dair neu bedair gwaith,
Gobeithio y caf i heno
Rhyw bregath ddistaw, faith.
Dafydd Williams
8 pwynt
CYWYDD: IONAWR
[50 mlynedd er dyfodiad J.F.K. fel Arlywydd America.]
Rhodiodd yng ngwawr delfrydau
yr oes. Ei nod oedd parhau
i wella byd. Lleihau bai
yn wylaidd. Ni ragwelai
anrhaith ein hanner canrif
o drais rhyfeloedd di rif.
Ei Ionawr fu'n ddau wyneb
i'n harwain ni i dir neb.
Ei dduw fu'n agor dorau
bore oes moderniaeth brau.
Duw chwit chwat democratiaeth
a duw chwant ein byw di chwaeth
Gari Wyn
9 pwynt
CYWYDD: IONAWR
Hwn yw'r ffin â'r flwydd ar ffo,
Hwn esgus sythu'n osgo.
Hwn dynged addunedau,
Hwn a'i bris i lwydd barhau.
Hwn yw cist cyfrinach cof,
Hwn hanes newydd ynof.
Hwn ar dân i gynnau'r daith,
Hwn wybu fy anobaith.
Hwn heb air yn y barrug,
Hwn yw'r un ffals a'r wên ffug.
Hwn wêl oen celain ar lawr,
Hwn a'i boen yw pob Ionawr.
Richard Lloyd Jones
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell "Heno yr ydwyf innau"
Arferwn gyfrif oriau'n wahanol,
a'u trin fel munudau.
Heno yr ydwyf innau'n
mynd yn hyn,nid mynd yn iau.
Gari Wyn
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell "Heno yr ydwyf innau"
Heno yr ydwyf innau - ar y clwt,
rhoir clo ar fy sgiliau.
Dwed nodyn mewn pecyn pau,
' rhy hen i'r oes peiriannau'.
Richard Lloyd Jones
9 pwynt
Cân: Y Gyfrinach
Os yw'th ganeuon di fel arfer
Yn cael llai na naw a hanner,
Gwranda di ar fardd gwybodus
A chei dithau'r deg hudolus.
Rhaid osgoi ypsetio'r Meuryn -
Un crintachlyd ydi'r cochyn.
Paid â sgwennu mewn iaith lafar,
Na sarhau trueiniaid jinjar.
Mi dynnith farciau yn ddidostur
Os na gadwi at y mesur,
Ac os yw dy farddoniaeth braidd yn sych,
Mae soned bob tro'n myned lawr yn wych.
Cadwa at linellau byrion - nid oes lle'i linellau hirion
Sydd weithiau yr un hyd â thrigain, er mwyn parchu'r rheol ugain.
Be bynnag wnei di, paid ag odli
"i" a "u" - mae'n casáu hynny.
Tria gynnwys gwers neu ddameg,
Ac osgoi hen eiriau Saesneg.
Bydda'n gywrain efo'r odl
Ac mae marciau llawn yn dodl.
Arwel Roberts
9 pwynt
Cân: Y Gyfrinach
Bedwar diwrnod yn ôl roedd fy nosbarth Wlpan
Yn trafod idiomau, a chael hwyl ar y clebran;
Roedd cyfieithu llythrennol yn dipyn o sbri
Ond camddallt a wnaeth un, mae'n rhaid, dybiwn i.
Roedd ' laugh on your head' a 'lifting a hare'
Yn ddiniwad ddigon - neu 'saethu sêr',
Ond aeth petha'n 'pigs feet' efo un o'r idioma
A dyna pam dwi ar 'y nghefn yn fan'ma.
Tair llathan o Sais a thyrti tŵ stôn
Rhyw greadur go ffeind, ddylis i, yn y bôn;
Erbyn meddwl, mae'n siŵr ei fod yn beth ffôl
I ddweud wrtho fo am " swallow your ass whole".
Dafydd Whiteside Jones
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud ag adduned
Dim ond am ychydig dros ddeuddydd
Y parodd adduned Meredydd
I stopio hel merched
A smocio ac yfed.
Bu farw ar fore y trydydd.
Arwel Roberts
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud ag adduned
Eleni, fy nôd oedd creu soned,
Y llynedd bodlonais ar faled,
Pan ddaw'r flwyddyn newydd
Mi setla'i am gywydd;
Dowch 'nôl ym mhen blwyddyn i'w glywed.
D. W.Thomas
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Rwan a hithau'n rhewi
poen ydy mynd i bi-pi.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
rwan a hithau'n rhewi
mi drof i'r gwely am dri.
1/2 pwynt
Englyn Cywaith - Pram
Yn hawlio ei gofalon y mae her
fwy na'r meuryn tirion
Heno mae ein Nia Mon
yn nhelyneg d'olwynion.
Gari Wyn
8 1/2 pwynt
Englyn Cywaith - Pram
Fy maban clyd symudol - a wthiaf,
a'r teithiwr breuddwydiol
yn saff ym mhlygiad y siol,
fo ydy'r holl ddyfodol
Dafydd Williams
8 1/2 pwynt
Telyneg- Fflam
Un noson ddigwsg felys
a ninnau'n llawn gwenau,
daeth y wawr
i sbecian rhwng llenni.
Ein tynnu lawr grisiau
i ddianc yn dawel
hyd palmentydd cwsg,
law yn llaw
at lannau'r Fenai.
Ac yno,
croesi cae
dan hud
a gosod ein hanes
yn llwybr perffaith
hyd y glaswellt.
Nia Môn
8 1/2 pwynt
Telyneg- Fflam
(Stadiwm y Mileniwm, Tachwedd 27, 2010)
O'm blaen
heb weld yr awyr,
drwy'r fflamau ffug
mentra'r coch a'r du
i wres y ffâs â bôn braich
i geisio ceibio'u lle
yn oriel yr anfawrolion.
Wrth fy ochr
yn unsyth
drwy funud urddasol o dawelwch
saif yr henwr o'r Amman.
Tu ôl i'w lygaid caedig
mae'r uniaethu
sy'n ail-danio'r fflam
sy'n fythol fud-losgi.
Y fflam na ddiffoddwyd gan
Churchill, Robens na Thatcher.
Y fflam eirias o ddeall
sy'n uno gwewyr
Senghenydd, Gresford,
Six Bells a Pine Valley.
Richard Lloyd Jones
9 pwynt
Englyn ar y pryd
Gwahoddiad arbennig i Abaty Westminster
' Dwi angen wyneb enwog, o anian
Gwerinwr mawreddog.
Pleser eich gwadd, ger'rhen gog
Yn 'was' i mi'ch tywysog.
Gari Wyn
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78
Englyn ar y pryd
Gwahoddiad
Er i oleuad yr heulwen-ein hudo
i rodio'rbro glaerwen
Gwell na'r oer darth, yw carthen.
o fewn tŷ i ysgyfaint hen.
Dafydd Williams
9 1/2 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

